Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM.

[No title]

CYNWYS Y FASGED.

HANES MORGANWG.

LLYTHYR 0 PATAGONIA.

Y WLADFA GYMREIG PATAGONIA,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(CYFIEITHIAD. ) Y WLADFA GYMREIG PATAGONIA, NADOLIG, 1872. Anwyl Syr,-Oddeutu y 10fed o fis Tach- wedd 1871, aeth y llong yr oeddym yn perthyn iddi, sef y Montrenegro, yn ddryll- iau ar lan mor y Wladfa. Yr oeddym ar y pryd yn mordwyo o Montevideo, ac yn rhwym i ynysoedd y guano; ond yn lie hyny, dyna ni yn awr yn y Wladfa Gymreig, a'n llong yn ddrylliau wrth afon Chupat. Dangosodd y Gwladfawyr bob trugaredd tuag atom. Rhoddasant fenthyg eu ceffylau i'm cludo i fyny i dref y Wladfa, a chawsom bob cynorthwy a fedrent roddi i ni. Yn wir, pobl groesawus iawn ydynt, tuhwnt i'r cyffredin. Yr oeddwn wedi ffurfio barn mai rhyw wlad oer, wlyb, fynyddog, oedd Chupat, gwlad nad oedd yn gymwys i ddyn- ion gwynion fyw ynddi; ond erbyn heddyw, yr ydwyf wedi fy llwyr argyhoeddi, ac yn lie gwlad oer, dyma y lie mwyaf hyfryd dan haul. Er fy mod yma y mis poethaf o'r haf, nid yw y gwres yn werth son am dano. Awyr clir, iach, tymherus sydd yma. Tyn- wyd fy sylw yn neillduol at olwg iach y trigolion, maent oil yn wridgoch yr olwg, a'r plant hefyd. Mae rhywbeth yn rhyfedd mewn perthynas a'r hin. Maent oil yn iach a chryf, dros ben felly feddyliwn, a chredaf y bydd hil y Cymry yn Mhatagonia yn gewri fel Indiaid Patagonia. Oddiwrth yr hyn a welais ac a glywais, barnaf fod y lie hwn yn un o'r manau iachaf a mwyaf dymunol i fyw ar y ddaear. Am y tir nis gwn fawr, am mai morwr ydwyf. Y mae golwg hardd ar ddyffryn y Chupat, beth bynag. Gwelais gnydau da iawn o bytatws. Byddaf allan yn hela agos bob dydd, a mawr yw y sport. Mae yma faint a fynir o helwriaeth. Gwartheg sydd yn talu yn dda yn y lie hwn. Yn y ty yr wyf fi yn rhoddi i fyny, y mae ganddynt wyth o wartheg godro, ac y maent yn gwneud deuddeg pwys o gaws bob dydd. Maent yn cael yn awr 8c. y pwys am y caws, a 14c. i 18c. am ymenyn. Y mae llong o ddeuddeg tynell yn cario caws ac ymenyn oddiyma i Patagones, ac arian parod i'w gael yn wastad am dano; felly, y mae y Gwladfawyr yn gwneud arian yn gyflym gyda'r gwartheg. Yn wir, mae llawer o honynt yma yn gyfoeth- og. Y merched sydd yn gweithio fwyaf. Nid yw y dynion yn gwneud fawr o ddim, ant ar eu ceffylau i hely gwartheg adref, ond y merched sydd yn godro. Yn wir, yr wyf yn credu mai pur ddiogywy dynion. Gallasai amaethwyr bach Cymru gael tir yma am ddim, a gwneud bywioliaeth gysurus iawn. Dydd Nadolig 1871, ydyw hi yn awr yn y Wladfa. Yn y boreu, bu rhedegau ceffylau, yr oedd deg ar hugain yn ymryson am y gamp, cafwyd sport iawn. Yn y prydnawn, cafwyd gwledd, ac yn yr hwyr cyngherdd yn y dref. Cor y Wladfa a ganasant yn ardderchog o dda. Nid oes yma foddion crefyddol er's misoedd. Mae y gweinidog wedi myned yn ffarmwr cyfoethog. Yr ydym ni, morwyr y llong a aeth yn ddrylliau, yn myned i ffwrdd i Montevideo yn llong y Wladfa. Mae gan y Wladfa long dda at ei gwasanaeth, a llwyddiant meddaf o'm calon, i'r Gwladfawyr croesawgar hyn. Yr eiddoch yn gywir. JOHN SMITH.

[No title]

YSGOL FRYTANAIDD GLYN NEDD.

EANGDER A CHYNYRCHION YR Utf'…