Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
NODION O'R BYD CREFYDDOL-
NODION O'R BYD CREFYDDOL- Mewn chwareudy yng Nghaerdydd, nos Sadwrn diweddaf, cwynai un o'r chwareuwyr fod gwr yn y seti-blaenaf" yn darllea new- yddiadur drwy'r amser yn lie gwrando ar y bobl oedd ar y Uwyfan. Fe ballodd y gwr, fodd bynag, a rhoddi y newyddiadur o'r neilidu, a bu raid i'r chwareuwyr fyned ymlaen a'u gwaith fel cynt. Gwelsom, cyn hyn, ddarHen newyddiadur mewn lleoedd o addoliad ond fealtai nid mor gyhoeddus a'r dyn hwn, eto 'roedd y pregethwr yn abl i ddarllen ei bregeth yn rhwydd. Dyna'r rheswm, feallai, na fuasid yn gofyn i'r addolwr roddi heibio ei bapyr ef. o: Cofus genym am dro cyffelyb mewn cym- anfa ar y maes, mewn ardal yng Ngheredig- ion. 'Rofedd y diwrnod yn hynod o wlyb, a phawb â'u "humberellos" uwch eu penau, a'r pregethwr, druan, yn gorfod siarad uwch- ben nifer o wlawleni, heb weled gwynebau neb. Yn y ffrynt, 'roedd meddyg Ileol —hynod ei ffyrdd; a gwaeddai ypregethwr, "Fob )t! nid i gyhoeddi efengyl i lot o umberellos y'm hanfonwyd yma "0, wid" ebe'r hen ddoctor ffraeth, "dewch a thipyn o'r tan nefol ynte, i sychu tipyn o'r gwlaw yma." A bu raid i'r hen weinidog fyned yn y blaen i geisio tynu mwy o sylw'r bobl nag oedd y gwlaw yn ei wneyd. o Dywed Barry O'Brien, yn ei gofiant o Parnell, mai'r gwr a laddodd ei yrfa gy- hoeddus oedd y Parch. Hugh Price Hughes, Cofus i Mr. Hughes siarad yn gryf a chroyw yn erbyn i ddynion pechadurus o'r fath fod yn arweinwyr y bobl, a chafodd yr noil iyd Ymneillduol" o'i blaid, fd nis meiddiai Parnell godi ei ben yn uaman. Gwnaeth Mr. Stead yr un fath i raddiu a Dilke, ond dyn gwamal yw Stead, ac mae Dilke yn awr yn un o wyr blaenaf y deyrnas mewn liawer o bethau. o: Nid yw Mr. John Kensit yn bwriadu lleihau dim ar ei ymdrechion yn erbyn defodaeth. Nid yn unig y bydd iddo ymweled a nifer o eglwysi uchel o bryd i bryd, ond it ddy- wedir fod yn ei fryd ar fyned yn aelod i Dy y Cyffredin. Dywed fod un o'i gefnogwyr arianog wedi addaw talu ei holl gostau os bydd iddo sefyll dros ryw etholaeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf. -:0:- Da genym weled fod yna eto rai pobl yn cyfranu at grefydd er mwyn crefydd, ac nid er mwyn cyhoeddi eu henwau eu hunain. Ceir dwy engraifft o hyn yr wythnos ddi- weddaf, pryd y rhoddwyd 300p. at gapel Methodistaidd Ynysybwl a 300p. at gapel Saesneg Blaengarw, sir Forganwg. Ni ddy- wedir pwy a gyfranodd y naill na'r Hall. Z5 o:—— Mae y Canon Silvan Evans wedi ei benodi yn gaplan i esgob newydd Bangor. Dyna'r anrhydedd uwchaf all yr Eglwys roddi i feibion athrylithgar Cymru, yw eu penodi yn gaplaniaid i ryw haner-Cymry o esgobion I 0, yr Hen Fam, fel yr wyt erioed wedi nychu liawer o'th wyr glewaf, ac yn anwybyddu a diraddio y rhai a fuasent yn dy anrhyd- eddu, ac yn dwyn clod i'th enw I 0:- Mewn ardal wledig yng Nghymru, arferid cynhal pwasanaeth yn Eglwys y plwyf, yn y boreu a'r prydnawn; ac yna, elai y clochydd i gapel Anibyriol yn yr hwyr. Yn ddiweddar, daeth oSeiriad newydd i'r He, a dechreuodd newid tipyn o'r drefn. Cyhoeddodd y buasai yn cynhal gwasanaeth hwyrol yn ychwanegol at y ddwy arall. Beth ?" meddai'r clochydd pan glywodd hyn, "ni cha i ddim cyfle i fyn'd i un lie o addoliad gan y 'ffeirad newydd ma! fiu 'tt\ ■ •• 16 t'i Y mae y Bedyddwyr Cymreig wedi pen- derfynu neullduo o Gynhadledd yr Eglwysi Rhydd Cymreig. Ymlynant wrth gymundeb i drochwyr yn unig, a chredant os symudir eu nodweddion gwahaniaethol y bydd eu bodol- aeth mewn perygl. Trueni fod enwad mor barchus a'i ffydd mor wan. Y mae fel pebae i ddafad gredu ond iddi golli ei nod o byg y gwnai drengu. o Dywed y Northern Echo fod Eglwys Union Street, Sunderland, wedi anrhegu ei gweinidog (y Parch. G. H. R. Garcia) a £ 50 fel anrheg Nadolig, ac hefyd benderfynu codi ei gyflog gan' punt y flwyddyn. Pan glywodd Mr. Garcia hyn, hysbysodd i'r eglwys ei fod yn ddiolchgar iawn iddynt am eu caredigrwydd, ond ras gallai yn gydwybodol eu derbyn am y credai ei fod yn cael digon yn barod, ond gwyddai am weinidog mewn rhan arall o'r dref oedd yn llafurio o dan anfanteision mawr, ac os gallent ei gynorthwyo mewn unrhyw fodd, byddai yn liawer gwell ganddo. Un- dodwr, mae'n debyg, ydyw Mr. Garcia, ac yn gwneyd, yn ogystal a chredu, mewn gweith- redoedd da. o Dywed Capten Burrows, yn ei lyfr newydd-gy- hoeddedig, ar Gorachod CanoIbarth Affrica," eubod yn hollol amddifado unrhyw syniad am Fod goruwchnaturiol, am fywyd dyfodol, ac am natur ysprydol dyn Gan fod yna duedd- iad ymhlith rhai pobl i ddadleu nad oes un llwyth o ddynion heb ryw fath o syniad ar y cwestiynau hyn, y mae y ffaith yn ddyddorol. o Mewn erthygl yn y Westminster Review yn ddiweddar, dangoswyd fel y mae ymchwil- iadau i hen hanes a chrefydd yr Aifftiaid yn taflu goleuni ar frawddegau ddefnyddir yn ami ynglyn a'r grefydd Gristionogol. Pasawl un a ddefnyddia y frawddeg glywir mor ami am gyfnewid y galon gareg a rhoddi calon o gig yn ei lie, svdd yn gwybod ei gwir ystyr a'i tharddiad ? Nis gallai yr hen Aifftiaid, mae'n debyg, feddwl am fodolaeth heb galon; ac am y credent mewn anfarwaldeb yr enaid, pan gladdent y corff, yr oedd yn arferiad i roddi calon o gareg neu o "porcelain," wedi ys- grifenu arni ynddo, fel diogelwch rhag di- ddymiant. Ar ol y farn, os byddai y trancedig i gael ei gyfrif yn gadwedig, yr oedd ei galon naturiol yn cael ei rhoddi iddo yn lie y gaion gareg. Felly, gweddlent am gyfnewid y galon gareg am y galon o gig. 0:- Dywed boneddiges ynglyn a'r Gymdeithas Genhadol, mor ddigalon ydyw gweithfo ymhlith Mahometaniaid. Ar ot chwe' blynedd o waith mewn ardal yn Palestina, ni adnabu un wedi teimlo dim oddiwrth ofid na phechod. Dywedant "mae fy nghalon yn wyn." Ac os gofynir iddynt: ie, ond yr ydych yn dyweyd liawer o anwireddau ? Atebant," 0, wrth gwrs, digon o honynt." Hapus Fahometan heb bechod i'w ofidio. -0:- Un o ddigwyddiadau yr wythnos a aeth heibio ydyw ymddangosiad Catechism yr Eglwysi Rhydd. Y mae yn arwydd gobeithiol fod y gwahanol sectau yn gallu cyduno ar brif bynciau y grefydd y maent oil yn broffesu, a'u bod yn dechreu y wers y mae yr Eglwys Babaidd wedi ddysgu er's canrifoedd. o Y mae hefyd yn un o arwyddion yr amser- oedd. Y mae unigoliaeth (individualism) mewn masnach yn gyflym roddi lie i gwmniau, syndicates a trusts, ac y mae y dyheadau am undeb crefyddol a chydwelediad ar athraw- iaethau sylfaenol Cristionogaeth yn fynegiad o'r un ysbryd-mai creadur cymdeithasol ydyw dyn, ac fod yn well ganddo ar y cyfan, os caiff lonydd, gyduno na ffraeo.
Y BYD A'R BETTWS.
Aeth dros ugain- mil o fobl i Abertawe dydd Sadwrn diweddaf i weled yr ymdrech t el-droed rhwng Cymru a Lloegr. Mae Major Wyndham Quin, A.S., yn myn'd i Khartoum. Fe wyr y gwr bon- eddig hwn fwy lawer am y wlad hono nag a wyr am gyflwr ei etholaeth, ac ardaloedd ereill yn Neheudir Cymru. Mewn cyfarfod o blwyfolion Hope, ger Gwrecsam, nos Wener diweddaf, pasiwyd penderfyniad yn galw ar aelodau y Bwrdd Ysgol i ymddiswyddo ar unwaith, oherwydd eu bod yn esgeuluso eu gwaith, ac yn cynhenna yn y cyfarfodydd yn lie gwneyd eu dyled- swyddau. Ni welwyd erioed y fath olygfa ac a gaed yn Abertawe dydd Sadwrn diweddaf, pan oedd LIoegr a Chymru yn ymgodymu am oruchaf- iaeth ar faes y bel-ddu. Fel y gwyddis, bu'r hen Gymry yn hoff iawn o gicio'r bel, a gwnaent hyny ar Sul a gwyl," a chicwyr ardderqjiog oeddynt hefyd. Yn y dyddiau diweddaf hyn, beth bynag, edrychir i lawr ar chwareuon o'r fath, a siaredir liawer yn eu herbyn ond galiesid meddwl wrth weled y dorf fawr yn Abertawe dydd Sadwrn nad oedd gobaith y difodir y chwareu yn hir, ac yn sicr mae'r fuddugoliaeth ardderchog a gafodd "gwyr gwlad y cenin" yn debyg o roddi ad- fywiad i ganlynwyr y bêl yn y De. Canlyniad yr ornest oedd i'r Cymry gael 4 coel a 2 gynyg (26 o farciau), yn erbyn un cynyg (3 o farciau) i'r Saeson. Aeth y SaF sneg yn rhy brin i fobl Caerdydd dydd Sadwrn diweddaf, yn eu brwdfrydedd ar ol y fuddugoliaeth ar gae y bel droed. 'Roedd gwel'd y Cymry wedi curo'r Sais yn ormod i waed tawel Idriswyn," a rhoddodd golofn yn Gymraeg yn y Westernr Mail i ddesgrià/r ymdrech. Dyma ddywed :—" Ni ddychmyg- odd y mwyaf ffyddiog am fuddugoliaeth debyg i hon; yn wir, yr oedd liawer sydd yn cyfrif eu hunain yn oraclau ac yn cael eu hystyried yn feirniaid craffus, braidd yn amheus o barth y modd y troai y fantol, a dywedent, os cariai Cymru'r dydd, mai megis a chroen ei danedd y gwnai hyny. Codai o ofn fod y Blaenwyr yn rhy weiniaid i gyfarfod a'r bechgyn cryfion a thalion ac esgyrnog oedd gan Loegr yn yr un safle. Credid nas gellid cael gwell na Bancroft yn geidwad y goel, ac ni siomwyd neb ynddo; yr oedd pawb yn argyhoeddedig nad oedd modd cael gwell pedwar yn drichwarter cefnwyr, a daethant, yn neillduol Llewelyn o Lwynpia, i fyny a disgwyliadau pawb; ac am y ddau frawd-David ac Evan James o Abertawe— yr oeddid yn siwr y byddai iddynt sefyll eu tir yn erbyn unrhyw allu a ddygid yn eu her- • byn, a hwy oedd arwyr y dydd. Yr oedd y pryder i gyd yn erbyn y Blaenwyr, ac, ar y dechreu, ymddangosai bechgyn gwisgi a chryf- ion Lloegr fel yn llawn alluog i ddal eu tir, os nid i gael peth mantais ar y Cymry. Diau fod chwareu o flaen y fath dorf-tua deng mil ar hugain—a bod y ffaith fod cymeriad eu gwlad yn ymddibynu ar eu gwaith hwy y diwrnod hwnw, ac y byddai holl newydd- iaduron y deyrnas yn croniclo'r hanes-yr oedd hyn, yn sicr, o fod yn effeithio ar ein bechgyn, ond wedi bod ar y maes am ryw chwarter awr, anghofiasant y cyfan ond chwareu i orchfygu, a phrofodd y Blaenwyr eu bod mor gymwys i'w gwaith a'r un o'r chwareuwyr ereill; ac os yn fyrach o gyrff, profasant eu hunain yn well peldroedwyr na'r Saeson, ac fe chwareuodd hen ddwylaw fel Daniell Llanelli, Alexander Llwynpia, a Dob- son Caerdydd yn well nag erioed. 0 hyny hyd y diwedd, fe gafodd y Cymry bron eu ffordd eu hunain; yr oedd yn eithaf amlwg eu bod yn gryfach ymhob safle ar y maes ac er iddynt wneyd amryw gamgymeriadau, yn ol barn y rhai manylaf a llymaf eu beirniadaeth, y mae pawb yn barod i faddeu iddynt yn y fuddugoliaeth fawr y maent wedi enill Er nad oedd ond chwareu, nis gallaf lai na theimlo'n falchach heddyw o Gymru oedd yn anwyl i mi o'r blaen a chredaf, ond i ni gael tegwch a'r cyfleusderau, nad oes gened! dan haul a a o'n blaen mewn dim."