Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PYNCIAU'R DYDD.

[No title]

Cyfarchiad y Nadolig.I

[No title]

Llanwrtyd.

Glyn Nedd.

- Gornest y Bel Droed.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gornest y Bel Droed. BUDBUGOLIAETH Y CYMRY. V Dyrfa Twyaf. [GAN 'Ap IDANERYN, • Clywais son am dyrfa fwy nag a allai neb ei rhifo. Gwelais hi heddyw vn N ghaer- dydd, prif ddinas Cymru, ac nid oes chwant arnaf wel'd ei thebyg byth eto. Tyrfa llawo asbri ydoedd, o bob cenedl dan y itief, yn ddu a gwyn a melyn—y Cymro glan gwlad- aidd, y Sais hunan-hyderus, y negro croen- ddu, a'r Jap a'r Chinead melynddu, a'r oU weai cydymgynull i wylied deg-ar-hugain o fechgyn cryf ac ysgythrog yn chwareu pel droed. 'Roedd boys yr lien Wlad droiaa wedi rhoddi curfa i Loegr, Ysgotland. a'r Werddon, a heddyw dyma hwynt yn gwyn- ebu mewn gornest, fydd byw mewn hanes, bymtheg o chwareuwyr penigamp o New Zealand, chwareuwyr sydd a'u clod ar lafar mewn pob gwlad dan haul. Ysgubasant y Saeson fel man us o flaeri y gwynt rhodd- asant gurfa i r Ysgotiad nad anghofia Sandy mo ni yn dragywydd; a bu raid i'r Gwydd- eiod cadarn hefyd lyfu'r llawr gan ryrxi ymosodiad y cewri hyn. A, heddyw dyma dro Cymru wedi d'od—i ddioddef gorthrech neu i gyrhaedd uiVch dod tiag a syrthiodd erioed i w rban yn mvd y beldroed. Ojmrtl fechan dyma hi yn sefyll yn syth, heb ofa na chryndod, fel Dafydd bach y bugail gynt, yn barod i lorio Goliath hyd y llawr. Ac yn wir, wrth wylied holl genhedloedd y byd fel hyn yn ymgynulledig i'r ornest, a chan- oedd a miloedd o honynt yn seilio'u gobaith ar y chwareuwyr Cymreig, yn datgan yn groew eu ffydd diffuant fod Cymru yn deil- wng o'r anrhydedd, nis gallai calonau y Cymry twymn yn eu plith lai na llamu o lawenydd gwladgarol. 'Rwyn deall eisteddfod a chymanfa a ffair, ond y mae rhyw fusrik-s fel hyn tu hwnt l'in atngyffrediad i. Nid byd y meddwl YtV hwa; dyma, feddyliwn, eisteddfod fawr cig-gwaed, a gewynau. Eisteddfod y meddwl a dyn a miloedd, ond hon a dyn ei milyniatr. Pwy dd'wedodd fod y Diwygiad wedi lladd ysfa y bel droed ? Bychan yr arwydd o hyny heddyw, ond gadewch i ni gyfaoeddef, mae y dyrfa aneirif hon mor ddeallgar, mor barchus el golvg, mor weddaidd ei phryd ag un a welwyd ar faes erioed. Ni chlywais air anweddaidd ac ni welais arwydd y ddiod yn ystod y ddwy awr y buom ar y maes. Ond wele y cnwareuwyr ar y maes, a'r banllefau o groesaw yn rhwygo yr awyr. Wedi aros yn ddiddan yn yr oerni er's oriau, mae y crowd yn awr yn cael ei gwobr. Mae yr ornest ar ddechreu. Du yw gwisg gWYI y wlad bell; a'r Cymry sydd mewn siacedi coch, a phluen wen Tywysog Cymru ar bob mynwes. Faint o bobi sydd yma ? Haner can mil medda nhw. Wele yn awr pob gwddf ya estynedig, pob safn yr agored, a phob llais yn groev yn llefain a lief uchel oriau calon- did Cymry pybyr. 'Play up, Wales,' dyna yw'r cri, ac y mae y brwdfrydded fel trydaa yn enyn y dorf enfawr drwyddi draw. Mae yu berwi ac yn ysu. Dyma'r dechreu! Cymru syjd yn rhoi'r gic- gyntaf, a dyma'r bel fel saeth i tyny'r awyr, a'i chyfeiriad tua'r gol. Wele'r Cymry fel helgwn ar ei hoI; ond cyn pen eiliad dyma'r dyeithriaid yn eu cyfarfod, a bellach mae y frwydr ar ei heithaf. Yn ol a blaen, i lawr ac i fyny y cae wele'r ymrysonwyr yn rhedeg. Bechgyn mawr a nerthol, grymus- der yn mhob gewin, yw bechgyn New Zealand, ond cura y Cymry hwynt mewn chwimder a sgil. Yn groes i'r dysgwyliad mae y chwareuwyr Cymreig yn rhwystro gwyr New Zealand i gael eu ffordd eu hunaio yn y scrum. Yno y mac nin bechgyn yn gallu gwneuthur ychydig mwy na dal eu tir. Am yr ugain munud cyntaf, yn wir, y Cymry os rhywbeth sydd yn cael y goreu o'r ornest. Hwy sydd yn ymosod, a'r dieithriaid sydd yn amddiffyn. Mynych, mynych mewn perygl yr oedd gol New Zealand, a'r ornest yn gwbl gyfyngedig bron i'r darn tir yn y pen hwnw i'r maes. Symuda y dyrfa ol a blaen fel coedwig ar adeg corwynt, gan faint ei phryder. Dyma waedd angherddol. Hwre Mae Cymry yn croesai y llinell. Dacw y try' gyntaf wedi ei chofrestru. Yr arwr yw Teddy Morgan, o Lundain. Methiant fu y cais i saethu'r bel rhwng y polion. Ond, o lawenydd Pwy all ddesgrifio yr olygfa ? Haner can mil o feidrolion weii colli eu penau mewn ton o orfoledd. A dyma'r tra cyntaf, medde nhw, i'r New Zealandwyr, er pan yn y wlad hon, fethu ag enill y pwynt cyntaf mewn unrhyw ornest. Clywch y chwibanogl. Beth sy'n bod ? Half time, a'r Cymry ar y blaen Gwaeddwch—Hwre Ond nid ydyw gwaeddi yn ddigon—mae miloedd yn y dorf, a'u calonau yn llamu gan lawenydd, yn canu a lleisiau o fawl- 'Hen lad fy Nhadau.' Rhywbeth yn debyg oedd oil ran yr ornest, ond fod y dyeithriaid, gan ragweled methiant, yn chwareu gyda mwy o yni a phenderfynol- rwydd nag erioed. Unwaith neu ddwy yn wir buont o fewn dim a chroesi llinell y Cymry. Ond m lwyddodd yr un o'r ddwy- blaid i newid dim pellach ar y sgor, a phaa ddaeth y terfyn i'r Cymry yr oedd y llawryf. Clywch y llawenfloeddio. Mae Cymry wedi enill Yr hyn a fethodd cenhedloedd ereill yr ynysoedd hyn ei gyflawni, hyny a wnaeth hil yr hen Frythoniaid. Bellach dyma'r newydd yn cael ei danio a'i bellebru trwy'r bydysawd i gyd. Goliath a orchfyg- wyd, ei ben a dorwyd, a'r gorchfygwr yw y lleiaf o deulu y brenin. Mae y banllefau, yn fyddarol. Dyma noson fel noson byth- gofiadwy Mafeking. Canwch y clychau f L'uchiwch yr hetiau Cil/lifiwchybancraul Cymru anwyl a orfu Cenir ei chlod trwy wledydd cred. Hwre Hwre II W-R-E

[No title]