Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
YR YMGYROH HEDDWCH.
YR YMGYROH HEDDWCH. Y mae cyhoeddiad atebiad Arglwydd Salis- bury i Genadwri Heddwch Ymherawdwr Rwsia wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol. Nid oes amheuaeth na wna yn hyn iawn-gyfleu teimlad cyffredinol y deyrnas. Nis gall car- edigion heddwch lai na theimlo yu ddiolchgar iddo am ei wasanaeth gwerthfawr. Cefnogir Ymherawdwr Rwsia yn galonog gan Bryd3in yn ei ymgais ardderchog o blaid heddwch Ewrop. Mae y piratoadau ar gyfer cynal cyfres o gyfarfodydd o blaid y mudiad yn Llundain a'r wlad yn barod. Yn ngwyneb yr ysbryd rhyfelgar gwyd ei ben yn y dyddiau hyn, iechyd i ysbryd yw gweled y gefnogaeth roddir mor gyffredinoi i gyuygion gogoneddus Ymherawdwr Rwsia,
YNYSOEDD Y PHILIPPINIAID.
YNYSOEDD Y PHILIPPINIAID. Ni cheir fod Ynysoedd y Philippiniaid yn 1 ymostwng yn dawel i Lywodraeth yr Unol Dalaethan Ychydig oriau wedi cyhoeddiad y Prochmasiwn Amaricanaidd, gosodwyd i 11)ny bysbysleni o don wrthryfelgar ar hyd muriau dinas Manila, yn gwrthdystio yn enw yr Arlywydd Aguinaldo, yn erbyn Llyw- odraeth yr Unol Dalaethau, ac yn hawlio annibyniaeth yr Ynysoedi. Dywedir na wna y Maeslywydd Otis gysylltu fawr bwysig- rwydd & chynwysiad yr hysbysleni, a myn efe y daw pob peth i drefn yn y man. Swn anesmwyth ;!Ivwir o Onba hefyd.
ABERGAFEXNY.!
ABERGAFEXNY. Bore dydd Iau diwedd J cynaliwyd treng- holiad ar gorff Mrs Anu Williams, priod Mr I Wm Williams, Drappr, Merthyr Tydfil, yr hon gafwyd wedi marw yr, eu gwely, yn nhy ei chwaer, Mrs David Oweo, Abergavenny, (gynt o'r dref hon), gyda yr hon yr oedd yn treulio ychydig ddyddiau. Dangosai tystiol- aeth feddygol iddi farw o ddiffyg treuliad, a deuwyd a dedfryd i'r perwy 1 hwn. Cydya;- deimlir yn fawr a'r teniu yn eu trallod.
lARMENIA.
l ARMENIA. Ceir fod trigolion Armenia mewn sefyllfa resynus i'r eithaf. Nid yn unig ceir hwy yn dyoldef oddiwrth erledigaethan y Tyrciaid a'r Kurdiaid, ond y mae eisieu bara yn llyg- ad-rythru arnynt-newyn yn eu haros, a'r gauaf wrth y drws. Y mae y cnydau di- weddar yn brin, a'r trysorfeydd cynorthwyol wedi eu dibysbyddu.
KHaRTOUM.e
KHaRTOUM. e I Ynawelodd Arglwydd Cromer a, Khart9nna? Tiaddododd arabth o QWYS i benaethiad y Soudan. Dywedodd wrthynt fod y Sirdar yn ben ar y wlad, ac iV liywodraethu yn enVif Brenhines Prydiin a Khedive yr Aifft. Ni I dderbynia gyfarwyddiadau o un cyfeiriad. Ymddaogosai ypenaethiad yn dra boddhaus ar y breintiau ddysgynant i'w rhan dan yr am- gylchiadau newyddion. Bu Arglwydd Cromer wedi hyny yn gosod i lawr C- gareg sylfaen Coleg- Coffadwriaethol Gordon. Dywedodd eiriau i bwrpas ar yr achlysur. Derbyniodd longyfarchiadaa y 'Frenhines am ei waith. Nid yw cyfanswm y casgliadau at y coleg wedi ei wneyd yn hysbys eto. Er hyny gwyddys ei fod yn mheli uwchlaw y can' mil ofynwyd am danynt gan y Sirdar. Gwedir i gan yr olaf y cyhuddiadau o greulonderan y swyddogion Prydeinig yn yr ymgyrch diweddaf tuag at y Derfisiaid. Cadarnheir y gwadiad gan y gohebwyr rhyfel i gyd o'r bron oeddynt yn llygad-dystion o'r oil.
IDRISWyN.
IDRISWyN. Rhoddwyu hanes y Football Match a chvrareuwyd yu Abertawe dydd Sadwrn, cyd- rhwng y Cymry a'r Saeson, gan Mr Edward Thomas (Idriswyti), gynt o'r dref hon, yn Gymraeg yn y Western Mail. Am ei hyfdra yn cyhoeddi hanes y bel droed yn yr iaith Gymiaeg, canodd un bardd iddo fel y can- lyn:— n j 0 Idris Wyn, y diras wr,-aethosG j Weithian yn reportiwr, I Yn was diawl, croniclydd stwr, A direidus bel droediwr. Yn iaith nef, iaith crefydd-awen a dysg, Y gwnaed iaith Cymreigydd; mi Gwrida, ow, it roi, Gaerdydd, I ddiawliaid iaith addolydd. Rowlands yn chwerw wyla—o weled Cyssegr-speilio Gwalia; Howel Harris ddoluria, 1 Hwylio nef i ddial wna. Nid ydym yn cydweled a'r bardd yn ei holl I syniadau, ond gwelsom salach englynion lawer tro.
COFEB GENEDLAETHOL GLADSTONE.
COFEB GENEDLAETHOL GLADSTONE. Symudir o ddifrif bellach er cael cofeb deilwng i wiadweinydd penaf y ganrif. Ceis- iod Syr Edward Clarke daflu dwr oer ar y mudiad, ond ni lwyddodd. Ni dheir neb yn fwy aiddgar o'i biaid na rhai o lirif wrth- wynebwyr yr hen wron yn ei lywod ddysg, yn neillduol felly ei lywod-ddysg yn mlynyddoedd olaf ei fywyd. Iarll Morley oedd y prif siaradwr o'i blaid mewn cyfar od trefol yn Plymouth. Nid oes auwybyddu i fod ar wasanaeth arddercbog,
-.-MR. THOMAS E. ELLIS, A.S.
MR. THOMAS E. ELLIS, A.S. Pe byddai Mr Thomas Ellis, A.S., yn Frenin Cymry, ni fyddai yr hyn ddywedir am ei iechyd yn fwy amlochrog. Dywed rhai adroddiadau nad yw ei fordaith i'r Aifft wedi profi mor fendithiol ag y dysgwylid, ac na fydd yn alluog i ddychwelyd erbyn dechreu y Senedd-dymhor nesaf. Nis gall Whip wasan- aethu dan Arglwydd, ac os na fydd yr hwn a etholir yn Arweinydd y Rhyddfrydwyr yn unol a barn Mr Ellis, bydd mewn sefyllfa pur annymunol. Dywed adroddiadau eraill fod iechyd Mr Ellis yn gwella, a gobeithio mai felly y mae, gan y bydd yn rhaid iddo wrth I ei holl nerth pan ddychwela i Westminster.
MANION.
MANION. Y mae Oyaghor Trefol Rhy] wedi pender- fynu goleuo y promenade gyda goleuni trydanol. Y mae yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi tymt y ddedfryd o farwolaeth oddiar Lieut. Wark, yr hwn a draddodwyd yn Lerpwl yn ddiweddar, am gyflawni operation annghyf- reithlawn ar eneth ieuanc, ac wedi gostvvng y ddedfryd i 3 blynedd o benyd wasanaeth. Nos Fercher, yr oedd Cor y Rhondda yn CiOn o flcen y Duca'rDduces o Westminster, yn Eaton Hall.
CYHOEDDIADAU SABBATHOL, !
<;¡¡; t Ymddangosai Mr Woosman, Newtown I tt]yn, ac amddiffynwyd gan Mr R Guthrie Jones, Dolgellau. I Ellis Jones, Ceidwad afonydd, a dystiai ei fod ar y 16eg o Ragfyr wrth ysgol Llany- I mawddwy oddeutu 12 o'r gloch gyda Allcroft ceidwad afonydd arall, iddynt weled o fewn rhyw ugain Ilatb iddynt, Thomas Lewis, yn lluchio caryg i'r afon, Lewis Lewis mab i T Lewis, gydabachyn barod i fachu pysgod. a John Jones ar ben coeden oedd yn tyfii ychydig droR yr afon. Pan welsom hwy aethom ffordd arall, a chyfarfyddais y tri, a phan o fewn ugain Hath iddynt aeth y tri tiros setin, llwyddasom i ddal Thomas Lewis, ar ol gryn drafferth cawsom ganddo i roddi ei enw i ni. Aeth y ddau arall i feudy oedd yn uwch i fyny yn y cae. Codasom y bach (yr hwn a ddangoswyd) yn y cae, taflodd Wm Lewis ef pan yn rhedeg. Croesholwyd gan Mr Jones,-Dywedodd na welodd yr un pysgodyn wedi iddynt ddal, ei fod yn sicr nad oedd 5 wrth yr afon pan welsant hwy gyntaf. Dywedodd ei fod yn sicr nad oedd 200 o latheni o'r lie y gwel- -sant hwy yn gyntaf at y lie y safas- -ant. Ategwyd hyn gan Edward Allcroft. Ar hyn gwrthwynebai Mr. Jones i'r summons, gan fod y geiriau "for the purpose" (i, r diben) wedi cael eu rhoddi ynddi, y rhai nad oeddynt yn yr adran o'r ddeddf o dan ba un yr oeddynt yn gwysio. ond eu bod wedi eu rhoddi i meaner cynorthwyo yr erlynwyr; daliai nad oedd ganddynt hawl i uysio o dan yr adran yma o'r ddeddf, heb eu bod wedi dal rhywhetb, ac nid oedd y tystiolaethau hynyn dangos fod y tri yma wedi dal dim, ac o herwydd hyny, gofynai iddynt dafiu y mater allan. Daeth y faicc i'r penderfyniad o wrthod y cais, ac i fyned yn mla,en gyda yr achos. Oyn galw y diffynyddion, gofynai Mr C. E. Munro Edwards, a oeddyut yu gwybod y cyfrifoldeb yr oeddynt yn myned dano wrth gymeryd 11 w. Gwrthwynebai Mr Jones yn erbyn yr yma- drodd, gan y credai fod ei dystion ef yn haeddu cael eu coelio gystal a'r rhai dros yr erlynwyr. Dywedai y tri diffynydd nad oeddynt allan y diwrnod hwnw gyda y bwriad o herwhela, ond i'r diben o gael golwg ar y cwn hela, gan ,ei bod yn ddiwrnod yr hela llwynogod yn yr ardal y diwrnod hwnw, ac na ddarfu iddynt ddefnyddio y bach, yr hwn oedd gan Thomas Lewis ac nid Williaai Lewis fel y dywedid, o gwbl. Yr rbeswm roddai Thomas Lewis dros iddo wrthod roddi ei enw i'r Ceidwad ar y dechreu, oedd ei fod yn credu nad oedd gan- ddynt hawl i ofyn iddo, gan ei fod ar ei dir ei hunan. John Jones, Coedcae, a ddywedal ei fodef a'i frawd gyda y tri diffynydd ar y diwrnod hwn, ac na ddarfu iddynt geisio dal eogiaid o gwbl. Ymneilldnodd y fainc, a daethant i'r pen- derfyniad en bod yn euog, a dirwywyd hwy i 10s yr un aTr costau. Gofynai Mr R. Guthrie Jones am iddynt ganiatau iddo ei ddwyn i Lys uwch i'w brofi yr hyn a ganiatawyd ar ol dadleu am dipyn' Y NURSE. Cyneiir cyfarfod cyhoeddus y 'Dolgelley and District Nursing Association,' dydd Mawrth nesaf, sm 3 o'r gloch, yn y Neaadd Sirol. Y WESLEY"AID. Nos Fercher cynaliwyd gwyl de yn ysgoldy y Wesley aid, ar ol mwynhau y danteitbion eafwyd cyngherdd da a bywiog. Yr oedd yr elw yn myned tuar at fund Oyfarfodydd Dosbarthol Blynyddol Wesleyaid Gogledd Cymrn, y rhai a gynelir yn y dref hon yn Mai nesaf. YSTORM. Bore heddyw (Ian) gwnaeth ystorm enbyd o feUt a tharanau yn y dref hon, ni chafwyd ei chyffelyb ei's cryn amser bellach.