Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

EFAIL Y GOF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

y seiri, y gofiaid, y cryddlon, y chwarelwyr, a'r glowyr. Dywed y casglwyr trethi nad oes modd cael yr arian i mewn. Y mae symiau mawrion yn aros heb eu talu hyd yn awr. Ac er i'r casglwyr dalu ymweliad a'r un personau dwy a thair gwalth, yr esgus a roddir yw, 1 Nad oea dim arian i'w cael.' Pan bo yr arian yn brin, mae pob peth yn brin. Money makes the mare to go. Hynod mor wasanaethgar ydyw arian Drwy arian gellir prynu etifeddiaethau, codi palasau, adeiladu Ilongau, prynu anifeiliaid gyru mewn cerbydau, byw ar foethau, ymweled a gwlodydd tramor, a chael ein cylchynu a llu o gyfeillion. Druan a'r dyn tlawd! nid oes ganddo berthynas yn y byd. Nid yw hyd yn nod ei frawd yn ei adnabod, ac nid yw ei gefn- der wedi clywed son am dano erioed Salach ydyw, ac lslaw sylw.' Oad am y cyfoethogioD, hwynthwy yw duwiau y byd hwn. Nid oes wahanbeth yn y byd pa mor wag fyddo'r pen os bydd y boced yn liawn. Mae anrhaethol mwy o bwys yn cael ei osod ar y boced nag ar yr ymenydd. Mae'r dyn sydd a llogell lawn ag ymenydd;'gwag yn athronydd, ond y mae'r hwn sydd ag ymenydd llawn a llogell wag yn ffwl. Mae pawb yn berthynasau i'r dyn cyf- oethog-maent oil naill ai yn frodyr, yn gefn- deroedd, yn neiaint, yn wyrion, neu ynte yn orwyrion iddo. Ond pe digwyddai iddo golli ei arian, darfyddat ei berthynasau fel pelen o eira mewn ffwrn Gwyr yr arian a'i piau hi yn y byd yma. Nid oes neb yn foneddwr ond y dyn cyfoethog. Nid oes neb yn anrhydeddus ond y dyn ariangar. Oad y gwyn breseuol ydyw priader arian. Dywedir fod yr arian bron myned allan o'r wlad. Dywedai Henry Davies y draper pa ddydd yma fod ganddo ef fil o bunnau allan, a'i fod yn methu yn ei fyw a chael dimai i mewn Gwaeth na hyny dywedai Biown y grocer fod deunaw cant o'i arian ef allan, ac mai gobalth gwael oedd iddo gael eu chwaiter i mewn Prinder arian sydd yn mhob man. Dyma ydyw cwyn eglwysi y gwa- hanol enwadau, dyma ydyw cwyn v cymdeith- asau dyngarol, dyma ydyw cwyn y Feibl Gym- deithas Frytanailid a Thramor, dyma ydyw cwyn y gwahaaol Golegau, dyma ydyw cwyn yr yspytai yn Nghymru a Lloegr, dyma ydyw cwyn y Cymdeithas-Au Cenadol yn mhob parth o'r byd, ie, dyma ydyw cwyn mloadd o dlodion a gwynebau gwelw, a chypyrddau gweigion ac aelwydydd didan-i yr arian yn brin.' Ond gadewch i ni gael gwneyd ymchwlliad, er cael gweled a ylyw'r dywediad yn ffaith. Yr wyf yn galw ar John Barleycorn i ddadgan ei farn. John Barleycorn.—Yr arian yn br:n! cel- wydd bob gair. Mor bell ag y mae a fynwyf fi a hwynt, yr vtji yn cael cyflawnder. Nos Sad- wrn diweddaf yr oedd tafarndai Cwm Khondda, Merthyr, Caerdydd, Abardar, Llanelli, a'r holl gylchoedd yn orlawn. A gwyddoch cadces neb yn anturio myned i dafarn heb adan yn ei logell. Ac nid yn unig ar nos Sadwrn bydd y tafarndai yn llawn, ond braidd bob nos drwy r wythnos. Mae syched dynion mor angerddol fel ag y mae yn ihail" cael cwrw. Dywedai rhyw hen lane fod 1 bara yn ffon bywyd, ond fod ewrw yafywyd ei hun.' Mae genyf fi fi1- iynau fwy o gwsmeriaid nag sydd gan Dywysog heddweb. Mae ymerawdwyr, breninoedd, tywysogion, duciaid, aiglwyddi, barnwyr, tir- feddlanwyr, esgoblon, offeirlaW, siopwyr a holl grefftwyr y byd yn gefnogwyr I mt. Ydyw, y mae miloedd o'r rhyw deg, o'r foneddiges lan- deg yn ei sidanau hyd at yr hen wrach yn el chadachau yn gwsmeriaid fiyddlon i mi. Myfi yw duw Prydain Fawr. Gelwir hi yn Brydain feddw,' ac yr wyf yn ymfalcluo yn yr enw. Mae fy nylanwad yn anorchfygol, a m teym- wlalan yn cael ei hysgwyd dros bedwat ban y byd. Yr wyf wedi llorio aelodau Saneddol, atbronwyr, duwinyddion, ynadoD, pregethwyr¡ a diaconiaid. Nid oes yr un pendefig mor boblogaldd a 'Syr John Heiddyn. Mae fy Hywodraeth i o fôr hyd for. Ac yn sicr I chwi ni welais brinder arian erioed. Nid yw fy llog- ellau byth yn weigion. Mae genyf fi gyflawn- der o gyfoeth. Os na fydd gan ddynion gem- loeau i gael cwrw, gwerthant eu dillad, eu celh, en hesgidtau, a hyd ya aod eu Belblau, Dyna i chwi blwc Myn y bobl gwrw pe baeen plant yn marw o newyn, a hwythau eu hunam heb yr un crys am eu csfa Dyna Ifan Jones Gwmgarw-hona ei fod yn ryw fath. o aelod refyddol rhydd dair ceiniog y mis at y wein- dogaeth, swllt at y colegau, a deunaw ceiniog .t y Genadaeth Dramor, tra nad oes dydd yn myned heiblo na fydd yn y Farmers Arms yn yfed cymmaint, fel y bydd yn rhy ddall i weled y ffordd adref. Dyma beth ydyw dweyd y gwir, ac y mae yn llawn bryd i'r gwir i gael ei ddweyd. Pan yr A i'r ffeiriau a'r marchnad- oedd, gwaria arian heb eu cyfrif, Disgybl i mi ydyw Ifan Jones. Y mae yn fy ngwasan- aethu mor ffyddlon fel nas gall wasanaethu neb arall. Capel Ifan Jones yw'r Farmers Arms, ac ni fu selod mwy selog erioed. Prinder arian yn wlr dywedwch hyny wrth y gwynt, ac nid wrthyf fi. Na, na, llogellau llawnion sydd gan Syr John Barleycorn.' Edrychwch ar y mor- wyr jn anturio eu bywydau i drugaredd yr eigion garw: yn cael eu tiflu yn ol ac yn mlaen gan filoedd o donau cynhyrfus, ac yn agored i gael eu llyncu bob eiliad i grombil y llifeiriant, ond unwaith y deuant i dir myfi fydd yn cael eu hennillion. Prinder arian yn wir dywed- wch hyny wrth y c\v Edrychwch ar y colliers yn myned i waered i goluddion y ddaear, yn treiddio odditan draed y bryniau, yn treulfo eu hamser with geseiiiau y mynyddoedd, gan fyw yn y psryglon mwyaf—gan welthio yn galed, a chwysu allan fer eu hesgyrn; ond gadewch i nos Sadwrn ddyfod, a myfi gaiff y rhan fwyaf o'u hennillion. Prinder arian yn wir! dywedwch hyny wrth y twrch daear a'r ffwlbert. Prinder arian yn wir Ni wyr Harries y Dragon am y fath beth, nac ych- walth Humphreys y Lion, Jones y Stag and Pheasant, Bowen y Jolly Sailors, Bevan y Plough and Harrow, Lewis y Salutation, Her- bert y Three Crowns, Mitchell y Square and Compass, Edmunds yr Angel, Howells y Red Cow, nac ychwaith Morris y Boar's Head. Ni wyr y dynion hyn pa beth ydyw bod yn fyr o arian. Yr wyf fi yn cadw fy agents yn fonedd- fgIon (?). Mae gan ddynion ddigon o arian i gael cwrw bob amser. Mae yn ffortiwn i un- rhyw ddyn I gael tafarndy yn Nghwm Rhondda neu ynte yn un o'r trefydd mawr: ar ol deng mlynedd o wasanaetb, gall ymneillduo wedi eniil digon o arfan i'w gadw ef a'i deulu yn gys- urus am y gweddill o'u hoes. Prinder arian yn wir! nonsense. Y mae y Dirprwywyr Eglwysfg yn derbyn deng mil o bunnau yn flynyddol oddiwrth dafarndal Llundain. Fel yna y bydd- af fi yn cynnorthwyo yr efengyl Edrycher ar y datliawyr mawrion, maent fynychaf yn marw yn werth cannoedd o filoedd o bunnau. Prinder arian! dywedwch hyny wrth y brain. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf casglwyd yn Mhrydain Fawr tuag at y Cenadaethau Tramor gan y gwahanol enwadau tua dwy filiwn o bun- nau. Tuag at addysg deuddeg miliwn. Tal- wyd am lo un filiwn ar bumtheg. Am d6, coffi, a cocoa, dwy filiwn ar hugain. Am slwgr, saith miliwn ar hugain. Am laeth, deuddeg miliwn ar hugain. Am ymenyn a chaws, deunaw mil- iwn ar hugain. Am fara, pumthag miliwn a thriugain. Ond am wirodydd meddwcl talwyd y swm anferth o un cant a deuddeg ar hugain o filiynau Dyna ei gwneyd hi yn iawn, fech- gyn. Prinder arian ya wir! dywedwch hyny wrth y dyn a'r baich drain. Walter.—Yr wyf fi yn cynnyg ein diolch gwresog i Syr John Heiddyii' am fod mor onest a dweyd y gwlr. Sam.—Yr wyf fi yn eilio hyny. Ond nid yw wedi dweyd y gw'r i gyd. Un ochr o'r ddalen gawsom ganddo ef, Y mae ochr arall, a hono yn atswydus o ddu. Y mae yn rhy ddu hyd yn nod i I John Barleycorn' i edrych arni. Gwirionedd pwysig ddywedodd nad oes prinder byth ar ddynion am gael arian i gael cwrw. Mynant gwrw pe yn trengu o newyn. Pa bryd y daw dynion i'w hiawn bwyll, ac y ffieiddhnt yr hyn sydd yn ddinystriol i'w cyrff, ac yn ddamniol i'w heneidiau 1 Huw.—Wele i fbellach yn galw ar y I B61 Droed' i ddweyd ei phrofiad gyda golwg ar brinder atian. Y Bel Droed. Y r wyf yn ei theimlo yn anrhydedd i gael dweyd gair o'm hanea. Bum mewn anrhydedd mawr er's can mlynedd yn ol yn Nghymru. Cefnogwyd fi braidd yn ddi- eithriad gan yr offeiriaid. Yr oeddynt hwy yn edmygwyr mawr o houof. A pha anrhydedd fwy allwn gael na chael fy nghefnogi gan Olyn- wyr yr Apostolion ? Wadi i'r offairiad fod yn yr eglwys yn darllen y Ilithiau, deuai allan i'r cae cyfagos, ymgymmysgai a'r dorf, a chym- merai ran selog yn y chwareu. Ond cododd rhyw hen bregethwyr ffol i'm herbyn, gan ddweyd el bod yn beehadurus I gicio'r b61 droed ar y Sabboth neu ynte rhyw ddiwrnod arall. Gwrandawodd y bobl arnynt, a chladdwyd fi o'r golwg. Ond er's ychydig flynyddoedd yn ol cefais adgyfodiad gogoneddus. Yr wyf fi me im mwy o anrhydedd heddyw nag y bum erioed. Nid oes bregethwr ar y ddaear mor boblogaidd. Nid cwrdd misol y byddaf fi yn ei gadw, nae ychwaith cwrdd chwarter, ond CYMMANFA Ac y mae fy nghymmanfaoedd I y rhai mwyaf lluosog a welodd unrhyw wlad erioed. Mae dynion yn csel myned i'r gwa- hanol gymmanfaoedd erelll heb dalu, ond y mae yn rhaid talu i ddyfod i'm cymmanfa i. Pa beth feddyliai Christmas Evans, John Ellas, neu Williams o'r Warn am y gymmanfa gyn- naliwyd genyf fi pa ddydd yma yn Abertawe ? Ni phregethodd C. H. Spurgeon yn el fywyd i'r fath dorf aruthrol. Chwi welwch fy mod i yn fwy poblogaidd na'r pregethwr mwyaf enwog welodd y byd erioed. Daeth pumtheg mil gyda'r Great Western. Railway yn unig i dalu eu gwarogaeth i mi, a llawe: o honynt o bellder mawr. Prinder arian yn wir na, ni welais i brinder arian erioed, Peidier a dweyd fod dynion yn dlawd, canys nid ydynt. Yr oedd cannoadd lawer ar y grand stage, ac yn eu myeg Aelodau Saneddol, maerod, ofleiriaid, landlordiaid, cyfreithwyr, henuriald, ynadori, meddygon, yn nghyd S, hufen cymdeithas. Dywedir fod yn agos i ddeng mil ar hugain yn edrych ar fy ngweithrediadau, a derbyniwyd pumtheg cant o bunnau with y clwydl!! Prin- der arian yn wir! na, welais i brinder arian erioed.' Walter.- Wel fechgyn, i ba Ie yr, ydym yn myned ? Afthur.—I ddistryw a cholledigaath, a hyny mor gyflym ag y gall adenydd amser ein cario, ys dywed yr hen bregethwyr. Mae golwg ddifrifol ar ein gwlad. Sicr yw fod ein dynion ieuainc yn myned yn laffideliaid yn brysur. Mae y chwareu yn greulon a bwystfilaidd, ond beth am y canlyniadau ? tyngu, rhegi, meddwi, ac ymladd-dyma y canlynIadau ar ol pob ym- drechfa. Pa faint sydd wedi cael eu hanafu a'u lladd ? Gellid meddwl wrth bapyr Ceid- wadol mai y Bel Droed ydyw un o'r bendithion mwyaf ddaeth i'n gwlad, ac y dylai pob new- yddiadur Ymnelllduol gofnodi hanes ei gwelth- rediadau, a phob pregethwr gyfeirio ati o'r pwlpud Wel, wel, dyma ydyw eithafion rhyf- yg Pa lea a wnaeth erioed ? Pa galwyddwr wnaeth yn eirwir 1 Pa odinebwr wnaeth yn ddiwair ? Pa gablwr wnaeth yn folianwr ? Pa leidr wnaeth yn onest 1 Pa feddwvn wnaeth yn sobr ? Pa ddaioni wnaeth i gymdeithas ? A oes rhywun all ateb 1 Os nad yw wedi gwneyd datoni, sier yw ei fod wedi gwneyd drygioni. Mae yn dd gon hysbys i bawb mai rhegfeydd, meddwdod, ac ymladdfeydd sydd yn dilyn ei chamrau. A phe bae genyf fi ddwsin o fechgyn buasai yn ddrwg iawn genyf weled un o honynt yn nghymdeithas yr hen filaaes. Gellir pender- fynu fod y Bel Droed yn un o felldithion penaf yr oes, a neb llai na'r diafol roddodd adgyfod- iad iddi. Buasai yn fendiih o'r mwyaf pe bae yn cael ei chiclo o fodolaeth. Gwnaeth rhyw un a gyfenwa ei hun yn Idrisyn gofnodi y fudd- ugoliaeth ogoneddus (?) gafodd y Cymry ar y Saeson yn y Western Mail yn yr iaith Gym- raeg. Am hyny cyfansoddodd rhjw hen frawd yr englynion canlynol iddo « 0 Idrfs Wyn y diras wr-aethost Weithian yn reportiwr; Yn was diawl, croniclydd stwr, A direidus bel-droediwr. Yn iaith nef, iaith crefydcl-awen a dysg, Y gwnaed iaith Cymreigydd Gwricla. Ow, it roi Gaerdydd I ddiawliaid faith addolydd.