Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MEIRION A'R GLANNAU.

. MANCEINION.

NODION 0 GAERDYDD AR DEHEUDIR.

NODION 0 BENLLYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 BENLLYN. Cwyn C-oll.- Cafwvd awr ogofio biraethus a melus yn y Coleg fore Mawrth, pryd y cynullodd y myfyr- wyr a'r at'hrawon i sisial dipyn o'u hadigofion a'u igialar am eu diweddar Brifathro. Gwrandawyd ar gwyncoll y Proff. J. 0. Thomas, M.A., Proff. J. 0. Jones, B.A., a'r Parch. Alun Jones, ac amlygwyd gan bob un o honynt y sawr gogoneddus oedd yn ei am- gylchynu, a'.r plygion dilychwi.n oedd yn gwneud ei bersonoliaeth mor fythgofiadwy, mor gariadus a phoblogaidd. Ac dbe R. R. Thomas, o Amlwch, wrth geisio plethu tipyn coroniaueuraidd ar ei ben :— Anodd gwybod yn iawn beth i'w ddweyd yma 'heddyw wrth geisio da'.igan ein galar a'n hiraeth o golli ein diweddar Brifathro. 'Gwnaeth le mor fawr iddo ei hunan ym mywyd v Coleg fel y gwelir y He hwnnw'n wag a phrudd am yn rhawg ar ei ol. 'Roedd ei ddoniau mor amloohrog, ei gymeriad mor gyfoeth- og, a'i bresenoldeb mor siriol a dylanwadol. Pe c'eisiwn ddeffinio ei gymeriad mewn dau air, dyma fuasai'r ddeuiair hynny-' cymer,iad angerddol.' 'Roedd yn bregethwr angeiddol, yn athro angerddol, ac yn Gri.stion angerddol. Bu fyw yn angerddol, a gadaw,ai lyw gyfaredd esmwyth, l'hyw ysbrydiaeth gyfrin a threiddgar iar ei ol yn y cylchoedd y troai ynddynt, ysJbrydilath oedd yn-byw ac yn gynorthwy 1 eraill i wynebu anhawsterau by wyd. Mae'n debyg mai'r hyn a barai ei lwyddiant, yr hyn a gyfrifai iam ei boblogrwydd a'i ddyl-anwad yd. y 19, oedd urddas ei bersonoliaeth. Hawdd oedd gwybod wrth edrych ar Dr. Edwards ei fod yn rhywun neill- tuol, a phesonoliaeth gadarn, urddasol, fel yr eiddo ef wedi ei chynysgaeddu, a gras Duw ydyw'r gallu cryfiaf o iblaid y pur a'r da yn y byd. Yr oeddym yn gorfod teirrilo fod rhywbeth yn y dyn ei hunan. ar wahan i'w amgylchiadau a'i safle gyhoeddus, oedd yn hawlio iddo le IblaenTJa w ac anrhydeddus ymhob cylch. Roedd yn rhaid sylwi arno a gwrando ei genadwri ac nid trwy drais na thlWY unr'hyw ffordd anghyfreithlon yr eniHai'r sylw hwn. Mae rhai siaradwyr yn prynu sylw'r cyhoedd, ac ysywaeth yn talu pris llawer rhy ddrud am dano, ond nid fellv Dr. Edwards, na, medrai efe drwy ei naturioldeb a'i foneddigeiddrwydd hawlio sylw. Pan lefarai'n gy- hoeddus byddai pob l'lygadi yn syllu arno, a phob clust yn gwriandoei eiriau. Pan yn athrawiaethu yn ei ddosibarth. yn annerch ar y lhvyfan, yn y -seiat, neu yn y pulpud, yr oedd urddas ei bersonoliaeth yn cerdded fel trydan drwy'r lie. Nodwedd arall amlwg iawn yn ei gymeriad yd, oedd ei ledneisrwvdd a',i ddidwylledd. Nid ydyw nob dyn mawr yn ddyn llednais a boneddigaidd. fel y mae 'mwvaf gresyn. 'Gwelodd Cymru lawer o 'feibion y daran" o dro, i* dro, ond prin y gellir dweyd iddi weled yr oli o honynt yn datblygu'n ddisivblioii annwyl ac yn apostoli'on cariad,' ond v oedd rhyw hynawsedd yng nghymeriad Dr. Edwards oedd yn denu po.bl ato, nid oedd rbodres na bombast yn perthyn iddo, yn hytrach, 'addfwyn ydoedd a gost- yngedig o g-alo.n.' Yr oedd mor svml a phlentyn. ac mor wylaidd a'r lili, a dyna nodweddion etifeddion teyrnas Dduw, onite? Medrai chwerthin gyda'r llawen, ac wylo gydia'r trallodus. Medrai gydym. deimlo a dynion ereill, ac fe gododd lawer o allorau ar lwyibr ei fywyd gan aberthu aberthau cymeradwy arnynt yn angerdd ei gydymdeimliad a dynolryw. — Hawdd ydoedd agoshau ato, er .fod. ei iyddardod yn ei amddifadu o lu o gysuron ibywyd, eto '.roedd ei gymdeithas yn ddiddan. yn i.ach a buddiol bob amser. Ai o i ffordd er mwyn siar.ad gyda VhobI. Byddai ganddo rhywbeth i'w ddweyd wrth bawb. Siaradai gyda'r plant a'r hynafgwyr, y tlawd a'r cyfoethog, a phan gyfarfyddai fyfyriwr ibyddai ganddo ryw air sir. iol a chalonog .i'w ddweyd wrtho. Mi gredaf fod ganddo bersonoliaeth ddi.gon grymus i fod yn .frenin ymysg dynion, ac ysbryd digon gost. yngedig i fod yn was i bawb. Llanwai bob cylch yn anrhydeddus, bu fyw mor gvflawn ac ysbrydol fel nad o'edd ryfedd iddo farw dan wenu. Nid oedd arno ofn marw am ei fod wedi dysgu byw, ac wedi deal] ystyr a. chyfr.inach ibywyd. H Didwyll gymeri.ad ydoedd. A gwr ,i Dduw o'r gwraidd oedd." Gweithiodd yn galed dros ei Gyfundeb, ei genedl, a'i Dduw, a bu farw yn ei ddillad gwaith, megis. 'Roedd rhywbeth yn ddyddorol ac eto'n brudd yn y genadwri ddiweddaf a anfonodd i'r Coleg, sef ei fod yn gobeithio y medrai ddychwel at ei ddyledswydd- au ymhen ychydig ddyddiau, a chlywai.s iddo arch- ebu llyfrau newydd dridi.au neu bedwar cyn marw. Cafodd gadw noswyl ar hanner dydd, ac yr oedd gwai'th y 'Coleg. yn mynd ymlaen v munudau hynny. Bydd ei hun yn felus am mai hun Iv gweithiwr yw. Y mae ei waith yn amhrisiadwy ac niB gellir mesur na phwyso ei ddyLanwad yn n,a,blygiad Cymru. Mae'r Bala wedi ei anfarwoli drwy gael. ei gysiylltu ag enwau arweinyddiün, y Cyfundeb eMethodistaidd. Y mae enwau Thos. Charles, Lewis Edwards, T. C. Edwards a Hugh Williams yn enwau teuluaidd, ar wefusau'r werin yng Nghymru, ac o yn allan fe gyfoethiogir y rhestr drwy ychwanegu ati enw Dr. Ellis Edwards. I ni'r mytyrwyr, yr oedd yn gyfaill a.c yn athraw, ac erys coffadwriaeth gwr mor gyfiawn yn fendigedi. byth. Y mae gan Elfed gan i hauwr a hauodd ei feusydd yn brydlon yn y gwanwyn, ond pan oedd y gwenith yn aeddfed .i'r criyman yr oedd angladd yr hauwr yn pasio heibio'r meusydd tor- eithiog i fynwent y plwy, ond er hynny. ni hauodd yn ofer, 'r oedd y cynhaeaf yn gogoneddu ei lafur. Gellir yn briodol iawn gymwyso egwyddor y gan honno at ein diweddar Brifathro. Llafuriodd yntau yn galed, a hauodd yn brydlon, eithr y dyfodol a gaiff fedi'r cynhaeaf. Bydd ei fywyd yn fendith i genedlaeth.au'r dyfodol yng Nghymru newydd; nid Angau ond Bywyd ydyw perchen cynhaeaf einioes dyn. 1 Erys er i'r gweithiwr farw Ei lafurwaith ef Son amdano mae pob enw Wrth y Nef." o.s yw'r Itaw fu'n hau y gwenith Yn yr aimdo'n gaeth D'wed y d'wysen diwy ei bendith Beth a wnaeth." Tri.st yw meddwl na .chawn weled ei wyneb mwy, naühlywed ei lais 'byth etc. Mae'n galar yn chwerw a hiraeth yn ddwys oherwydd ei golli 10'n pJith, eithr fe erys ei goffiadwriaeth yn berarogl i Grist ym myw- yd ei ddisgyblion a'i gydnabod. Ei enw'n perarogli sydd, A'i hun mor dawel yw." Y FeibIIGymde:ith.as.-Bu y Parch. Ward Williams, Gwersyllt, yn anneich cyfarfodydd o dan nawdd y Feibl Gymdeithas. vn Llandderfel, iLlan- d,rillo ia,Ch-ynw..yd. yr wythnos ddiweddaf. Y mae Mr. Wiliams yn u,n o'r siaradwyr mwyaf gwresog fedd y Gymdeithas. Adref eto.—Y mae dau neu dri o hogiau Bala wedi dod adref oddiwrth eu cyd-filwyr yn Cambridge. Edrychent yn gampus. Methodist i'r earn.—Dangosodd Mr. R. Jones, Castle St., a Miss Davies, County School, sut mae pob Methodus yn Fethodus i'r earn drwiy gyfrwng eu paipurau yn nghymdeithas pobl ieuainc Capel Tegid nos Fawrth. Paham yr wyf yn Fethodus." oedd eu testun. Codiad yn y fyddin.—Y mae Mr. Jack Williams, Post Office, wedi e.i ddyrchafu yn 1St Lieut. gyda'r yddin. Fel 'Vet.' y mae ef wedi ymuno. Y mae Mr. D. E. Joneswo'r N. & P. Bank, wedi ei ddyrch- afu yn 2nd Lieut. Hefyd, y mae Mr. Charlie Wood, Tegid St., wedi ei wneud yn Sergeant gyda'r Terri-- torials. Salwch.—Fu erioed y fath salwoh ag sy'n amdoi Penllyn yn awr. Y mae yn ffeindio cryd ymhob ty. Influenza, dyna'r enw medda nbw. Llys Trwyddedol.—Caniatawyd Ipob trwydded gel'- bron yr IJstusiaid dydd Sadwrn M.arw gyda'i merch. — Nid oes ond rihyw fiser's pan ymneilltuodd Mrs. Evans, Tremaran House, oddiwrth ei masnach, ac yr aeth i dreulio ei noswiyl gyda'i merch yn Saltney. Ond dyna newydd fore Iau ei bod wedi marw, yn 76 mlwydd oed, a hi yn Gristion cywir, ac yn aelod ffiyddlon yn Ei winllan. Bu llawer o lyfvrwyr dan ei chronglwyd gysurus. Claddwyd hi dydd Llun yn LLangower gyda llu yn ei dilyn. Bydd.in Cvmry.-Y mae cynrychiolaeth dda o Fyddin Clymr,u (Cymru'r Plant) ar hyd heolydd y Bala. Gwelir enwau llu enfawr o hopynt y mis hwn. Da iawn. Pregeth .angladdol.—Daeth tynfa fawr i Gapel Tegid nos Sul i wmndaw ar y Parch. John Owen, Anfield, yn traddodi pregeth angladdol i'r diweddar Dr. Edwards. Dyma ei destun 2 Bren. ii. 11, "Ac fel vr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ym- ddiddan, wele gerbyd tanlliyd, a meirch tanllyd, a hwy a'u gwahanasant hwy ill dau. Ac Elias a ddyrchafodd mew.n corwynt i'r nefoedd."

Advertising