Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

------_-------. NODION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYMREIG. Gwnaeth cyfeillion Bangor elw o £ 10 17s. ,ar ymweliad y Canghellor y Saboth cyntaf o Fawrth, ar ol talu pob costau. -+- Y mae gweinidog yr eglwys Annibynol Seis- neg, Treorci, y Parch. Eric Davies, wedi ei alw .0 i fugeilio yr Eglwys Undodaidd ym Mhonty- pridd. -+- -+- -+- Cyf.arfu cyngor sirol Mynwy am hanner awr b wedi un, ac yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn ugain munud i ddau. Pa Ie yr oedd y siaradwyr ? -+- -+- -+- Mae Syr John Gibson, Aberystwyth, wedi torri i lawr yn hollol, ac nid yw yn gallu gweith- io er's amser. Daeth yr anrhydedd yn rhy hwyr i fod yn gymaint a thegan iddo. ,-+- -+- Bwriedir gofyn am ymchwiliad seneddol i'r" holl benodiadau a wnaed yn,g N ghymru yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Byddai darllen y gohebiaethau' yn waith difyr anghyffredin. Dywed Mr. O. M. Edwards fod dyns yil, gystal Cymraeg ag yw dunce o air Saesneg. Dyma fel yr ychwanegir at- gyfoeth yr iaith. Mae prinder geiriau a'u llond o feddwl yn y cyfeiriad yna. -+- -+- -+- Gwelaf nad: yw y De yn ol o brotestio yn er- byn Mesur Oedi Datgysylltiad. Gwelais ben- derfyniad cryf a dynwyd allan gan y Parch. R. J. Rees, M.A., ac a basiwyd gan Gyngor Eg- lwysi Rhydd Aberystwyth. -+- -+- -+- Bydd Beibl y Deillion a gyhoeddir gan Gym- deithas y Beiblau yn cynnwys 39 o rannau, ac yn costio i'r Gymdeithas—ar ol gwneud y plates,—0 2s. i 3s. y rhan. Gwerthir hwy i'r cyhoedd am swllt y rhan. Clywais fod yr awdurdodau yn Llundain yn galw ar i foneddwr sydd wedi treulio ei oes yng ligwasanaeth addysg yng Nghymru, i roi ei swydd i fyny yng Nghorffennaf. Gwell gennyf beid'io adrodd penodau blaenorol yr hanes prudd yma. -+- -+- Ar y 5ed o Fai disgwylir Canghellor y Trys- orlys i giniawa gydag aelodau y Newspaper .Press Fund vn yr Hotel Metropole, a bydd Syr Charles Henry, A.S., General Syr Ivor Herbert, Syr Guy Granet a Syr Vincent Evans yn gwas- anaethu fel stiwardiaid. -+- -+- -+- Darllenais yn y 'County Herald' hanes llys ynadol yr Wyddgrug", lie yr erlynwyd ac y dir- wywyd dau ddyn am fod mewn tafarndy ar y Saboth heb fod ganddynt hawl. Yha aed ymlaen yn erbyn y tafarnwr, Mr. F. Llewelyn Jones yn erlyn a Mr. Marston yn amddiffyn. Yn y di- wedd dywedodd y cadeirydd fod yr ynadon yn awyddus am edrych ar yr achos mor dyner ag yr oedd modd, a thaflwyd ef allan. Er nad oedd Lady Ty Ddewi yn Gymraes, hi gymerai ran gyda llawer mudiad Cymreig, a bydd hMieth ar ei hoi. Bu farw wedi bod dan driniaeth lawfeddygol yn Llundain, cyn cyr- raedd dros ffin canol oed. I ychydig iawn y rhoed y ddawn siarad yn fwy perffaith nag i'r foneddiges hon. Mae'n amheus gennyf a gly- wyd erioed foneddiges fedrai swyno-cynulleidfa i'r fath raddau ag y medrai Lady St. Davids, a hynny heb y drafferth na'r ymg-ais leiaf. Mae ei dau fab yn y fyddin, ac un o honynt wedi ei ddewis yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn Ne Mor- gannwg. Ychydig o eglwysi sydd yng Nghymru erbyn hyn heb fod ynddynt offerynnau cerdd. Y mae ambell eglwys heb un am ei bod yn rhy dlawd i brynu; arall sydd hebddo am eu bod yn rhy gybyddlyd. Anaml y mae ardal yn dioddef am nad oes neb ym medru chwarae. -+- -+- -+- Dywed y Parch. James Evans, B.A., Caer- dydd, mai manteisiol yw cadw'r Gymraeg a'r Saesneg allan o gyfeillach eu gilydd yn ein cyn- hadleddau, a bod hen Gyngor yr Eglwysi Rhydd wedi gwneud drwg wrth gymysgu ieithoedd, ac wedi Seisnegeiddio yr eglwysi. Yr oedd rhai 0 ddynion blaenaf Cymru dan anfantais yn y Cynhadleddau Seisnig. A yw g-raddau Prifysgol Cymru yn colli eu gwerth ? Dyma fater y bydd ymchwiliad iddo yn ystod y misoedd nesaf gan yr awdurdodau sydd yn gofalu am yr arian sydd yn cynnal y Colegau Cymreig. Y duedd yw gorfoli neu ymosod yn ddiarbed. Mae'r hyn ddigwydd- odd gydag url arholiad Ffrancaeg yn gyfrifol am lawer o'r ffwlbri siaredir ar y mater. Syr Owen Philipps ydyw'r cyntaf o'r Rhydd- frydwyr Cymreig i groesi i rengoedd y Tori- aid yn gyhoeddus. Efe gynt yn aelód Rhydd- frydol dros fwrdesdrefi Penfro, yn awr efe yw dewisddyn yr ochr arall yng Nghaerlleon at yr etholiad nesaf. Mr. Yerburgh, yntau'n hen Ryddfrydwr, yw'r aelod presennol, ond am nad yw ei iechyd yn atebol i'r gwaith cilia o'r ffordd i wneud lie i Syr Owen,—neu i Mr. Edward Paul, y masnachydd o Lerpwl sydd wedi ei ddewis gan y Rhyddfrydwyr d ymladd am y sedd. -+- -+- -+- Ymledu yn gyflym meddir wna yr iaith Gym- raeg yn Sir Fynwy. Llawenydd digymysg yw y newydd hwn i holl garedigion yr iaith, a sib- rydir gyda llaw mai Casnewydd yw'r unig ddinas yn y sir ymffrostia mewn bod yn wrth- Gymreig. Y mae yn anhawdd credu hyn hefyd am y ddinas hon, yn enwedig pan y cofir iddi daflu drysau eu Hysgolion yn llawn agored i ddysgu yr iaith i'r plant. Onidi yn y ddinas hon y cartrefa yr Henadur hyglod a gwladgar S. N. Jones ? Dyddorol fyddai gwybod ei fam ef am gyhuddiad fel hwn. -+- -+- Un o'r pethau dyddoraf yn llenyddiaeth Cymru heddyw ydyw hunangofiant Robert Rob- erts yn y 'Welsh Outlook.' Yn y rhifyn di- weddaf cawn ei hanes ym Mon, yn treulio Sab- oth yn Llanerchymedd, gyda sylwadau cyffred- inol fel ffrwyth ei arhosiad yn yr Ynys. Mae dros hanner can' mlynedd wedi pasio er pan ysgrifenwyd y sylwadau, ond rhyfedd mor 'up- to-date ydynt! Maent fel pe wedi eu hysgrif- ennu heddyw! Y gwahaniaeth yw hyn y godd- efir beirniadaeth lem gwr wedi marw, tra yr- erlidir y byw am ddweyd yn union yr un peth! -+- -+- Dywedir fod yr enw Ebrill yn gyfansoddedig o eb a rhill, ac arwydda fod yr had yn anfon allan eu hegin yn rhychau y meusydd, a blagur y coed yn ymagor yn ddail. "Diwrnod ffwl Ebrill" y gelwir y dydd cynaf o'r mis, oblegid y ddefod ynfyd o dtfanfon yr ehud a'r gwirion ar negeseuau siomedig. Ceisia rhai fynegi fod yr arfer hon o ddechreuad Cymreig, ond1 dy- wedir nad oes un sail i'r dybiaeth yng ngwaith yr hynafiaid a'r beirdd. Gymaint o wir yn fynych sydd yn yr hen ddiarhebion Cymraeg, "Mawrth a ladd, Ebrill a fling." "Ebrill ,garw, porchell.marw," gan arwyddo nas gall yr ieuanc tyner fel rheol ddal yn wyneb gerwin- dery tywydd. Gan fod' yr hin yn gyfnewidiol dywedir "Mor anwadal a'r tywydd," "Mor gyf- iiewidiol ar gwyiit." Onid oes perygl i holl helynt Mesur Datgys- ylltiad fyned yn 'game' ddiystyr? Mae aw- grymu mai amcan cynhadledd y Rhyl oedd cyf- nerthu'r Canghellor yn erbyn y Cabinet ag yntau wedi ysgrifennu'r Hythyr hwnnw at Mr. Evan Jones yn athrod ar gymeriad gwleidyddol urhyw ddyn, -+- -+- --+- Digwyddodd peth tarawiadol Ie yn un o gapeli Sir Drefaldwyn yn ddiweddar. Yr oedd gweinidog Wesleyaidd yn ei bregeth yn son am y cyflogau sal delir gan lawer o amaeth- wyr crefyddol i'w gweision. Cododd gwr yn y gynulleidfa i brotestio gan ddywedyd mai dod yno a wnaeth efe i "wrando'r efengyl" ac nid pregeth fel yna Yr hyn sydd yn gwneud pethau yn ddigrifol ydyw y ffaith taw y 'relieving officer' oedd yn achwyn ar y bregeth Mwyaf tebyg yw na buasai gwaith i 'relieving officers' yng Nghymru onibae am gyflogau sal. Mawr edimygwn ddewrder y gweinidog, a chredwn pe talasai y pulpud fwy o sylw i gyfiawnder gweith- redol (ac nid cyfiawnder yn yr 'abstract') bu- asai llai o gwyno fod yr eglwys yn fethiant a llai o Ie gan ddynion i ddifrio crefydd. Buasai yn ddyddorol i glywed pa gyflogau delir gan am aethwyr Cymru i'w gweithwyr. Y mae ambell amaethwr yn talu i'w was fwy nag y tal ambell eglwys i'w gweinidog! Ac nid oes byd bras ar yr un o'r ddau. -+- -+- -+- Yr wyf newydd orffen darllen cofiant Dr. Fairbairn, gan Dr. Selbie. Mac ynddo lawer o bethau blasus iawn i Gymro, megis hanes cysylltiad Dr. Fairbairn a Phrifysgol Cymru a'r rhan a gymerodd i ffurfio yr adran ddiwin- yddol ynddi. Gwyr y cyfarwydd am feirn- iadaeth y Dr. ar rai o Goleigau Cymru. Nid gwr cynnil ei eiriau oedd efe pan y'i cyn- hyrfid, a diau y bydd rhywrai mewn oesoedd a ddaw yn darllen yr hyn a ddywedodd,— braint a waherddir i'r oes yma. Mae yma warogaeth uchel i Dr. Charles Edwards gan Dr. Sanday, a chyfeiriadau ereill at Gymry. Ysgrifenna Principal Rees goffad byr, ac yn ei gynffon adrodda ystori. Traethai Princi- pal Rees ar grefydd naturiol wrth ddosbarth o fec'hgyn oedd yn fwy cyfarwydd a'r Beibl Cymraeg nag a'r Beibl Saesneg. I gadarnhau ei ymresymiad, adroddodd yr Athro adnod o un o, Epistolau Paul, a gwel- odd ei bod yn ei rgwisg Saesneg yn taro yn ddieithr i'r dosbarth. Wyddoch chwi pwy ddywedodd hyna? gofynnai Principal Rees. Wel, y m.ae o'n debyg iawn i waith Fair- bairn," ebai un o'r disgyblion. Gan ein bod ar drothwy adeg cynhaliad y Cymanfaoedd Canu yn y rhan fwyaf o'r eglwysi nid annyddorol hwyrach fydd y dyfyniad a gan- lyn o eiddo Christmas Evans am ddull yr hen Gymry fel y galwai hwy o ganu mawl:—"Yng t, Z, Nghymru pan yr enillwyd corff poblogaeth y wlad i wrando yr oedd y capelau yn ddiaddurn. Rhocldid allan bennill o waith Edmund Prys neu Williams, Pantycelyn, heb un llyfr emynau yn cael ei agor. Tueddai y dull syml hwn y dynion gwylltion digrefydd ymlaen at y pre- gethwr. Dysgai y gwyr a'r gwragedd, y meib- 6 ZD ion a'r merched yr emyn a'r don yn rhwydd, a chanent wrth fynd adref ac ar hyd yr wythnos. Yn yr addoliad teuluaidd byddai y plant, y gweision a'r morwynion yn torri allan i ganu y pennill lynodd yn eu meddwl yn oedfa y Sab- oth nes myned yn ddiamdlawd fel gwen Ne- hemiah, sef yn llawenydd anhraethadwy a gogoneddus. Pan y byddai mewn oedfa ddwsin o feibion a merched* yn canu a gorfoleddu mewn rhyw hwyl nefol byddai effaith anweledig fel hedlif (electricity) yn taro dwsin arall y rhai a ddaethant i'r oedfa mor ddifeddwl ag y daeth Saul at g6r y proffwydi gyilt.