Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

"Y Gelyn mwyaf Marwol,"

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Y Gelyn mwyaf Marwol," Dyma eiriau Mr. Lloyd George wrth y Ddir- prwyaeth fawr aeth ato o gynrychiohvyr y Shipbuilding Employers Federation ddydd Llun yr wvthnos ddiweddaf. Ac am y ddiod feddwol v siaradai. Apel y ddirprwyaeth at y Llyw- odraeth oedd ar iddi hyyr atalgwerthiant y ddiod feddwol dros adeg, y rhyfel. Sid pen- boethiaid dirwestol ocdd y rhai ofynent am hyn. Vil wir cymerasant ofal i ddweyd nad oedd yn eu plith un lhvyrymwrthodwr, yr hyn a wnai eu hapel yn ganmll grymusach. Y mae'r gwyr hyn, sy'n cyflogi baich gweithwyr y llongau, wedi eu hargvhoeddi n drwyadl nad oes dim yn ddigonol i gyfarfod a'r angen cenedlaethol yn vr argyfwng presennol, ond gwahardduid cyf- lawn a chyffredinol. Nid digon byrhau'r oriau, ac nid dig-on chwaith rhoi gwaharddiad cyflawn ar waith mewn cylchoedd neilltuol; rhaid cau'r clybiau a phob math o leoedd trwyddedig trwy'r wlad. Gosodwyd y rhesymau dros y farn ben- dant hon gerbron y Canghellor yn eglur ac ar- gvhoeddiadol iawn. Mewn rhai achosion gweithiai'r dynlon lai o oriau nag a wnaent cyn y rhyfel; ac er gwaethaf y gweithio presennol ar y Sul a thros yr oriau, yr oedd yr amser weithid vm mron yr oil o'r ierdydd yn llai bob wvthnos na'r oriau gwaith arferol a rheolaidd. A'r prif achos yw'r Ddiod; yr oedd 80 y cant o'r coll amser anochel i'w briodoli i'r ddiod. Profid hyn gan gynnydd y deribyniadau* yn y tafarndai cyfagos i'r gweithdai—er gwaethaf byrhad or:au gwerthu. Vr arferiad o yfed yn fwy na meddwdod, oedd i'w wynebu. Rhoi- sant enghraifft o ryfel-long anfonwyd i'w thrws- io yn ddiymdroi, a gadwyd am dd'wrnod cyfan heb ei chyffwrdd am fod dosbarth o'r gweith- wyr wedi penderfynu cymeryd diwrnod i fwyn- hau eu hunain mewn cyfeddach. Nid oedd hwn, meddent, ond un achos allan 0gannoedd.

Atebiad y Canghellor.

Esiampl y Brenin.

Ffrainc yn hyderus. ,

Bulgaria a Serbia.

Ymddygiad barbaraidd.

* * * Go,rchestion nwsia.

Cyfte i So,bri'r Wlad.

.* * * Prinder Newyddion.