Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
CONWY A'R CYLCHOEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CONWY A'R CYLCHOEDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Dywedodd tgwyddel am aelod seneddol par- ablus unwaith Whenever he opens his mouth he is sure to put his foot in it." Ysgrifennais innau yn fy ngwiriondeb i hysbysu nad oedd Seion yn ail i'r unrhyw gynulleidia yn ei -sel dros achos sobr- wydd. Dylaswn ddeall mai cyfeirio wnelai eich go- hebydd medrus at ddifrawder crefyddwyr yn gyff- redinol yn y frwydr fawr dros ddirwest. Yr un ystyr sydd i'w gwyn a geariau yr hen emyn adna- byddus Paham y mae Scion, yn hiapian a huno A'r tgelyn mawr cyfrwys. mor eofn ac effro," &c. Yr un pryd nid oes neb ond crefyddwyr yn gofalu o gWibl am achos .sobrwydd a rhinwedd yng "Nghonwy a'r cylchoedd." Nid wyf fi yn arfer ag ysgrifennu i'r newyddiadur y blynyddoedd hyn, ac felly yr wyf yn agored yn fy anwybodiaeth i dorri y rheolau. Nid ymosodais ar neb erioed mewn newyddiadur, a phe buaswn yn tueddu at waith felly yn awr fe fuasai o leiaf ugain yn dyfod o dan fy ffrewyll fach o flaen eich gohebydd yng "Nghonwy a'r cylch," os, ydyw ify nychymyg i pwy ydyw yn gywir, canys yr wyf yn ei gyfrif yn frawd mor gar- edllg ag ydyw o ddawnus. Hoffwn fel ynitau weled mwy o ymdrech i sobri'r wlad, lac y mae y fasnach mewn diod gadarn wedi cael gormod o'i rhwysg o Lawer yng Nghonwy ar hyd yr holl flynyddoedd. Gosodir bri arni yn y gorfforaeth feL y prawf pres- enoldeb amryw o dafarnwyr yn v Cyngor Trefol. Nid wyf fi yn perthyn i'r un o'r ddau le a enwyd, ond y mae igweithwyr dewr dros Ddirwest yn y ruaill a'r Hall ohonynt. Mae y Pwyllgor Dixwestol hefyd eto yn 'fyw iawn' ac ar adegau yn frwdfrydig. Troer y gwres yn waith dros sobrwydd yn y gorfforaeth ac ymysg y milwyr. Nid oedd dim ymhellach o fy meddwl na rhoi itramgwydd i'r gohebydd lleol. Yr wyf yn falch ei fod yn gwneuthur hyn o wasanaeth trwy y Oymro yn enwedig gan ei fod yn gallu dweyd y gwir heb ofni neb. No offence, remem- ber," ebe Will Bryan. Yn wir pe gwybuasai y jgo. hebydd pwy anfonodd yr epistol bach hwnnw i'r # Cymro fe chwarddai yn iach. Yr wyf yn awydd- us i'w gefnogi yn ei ymdrech i ddeffro dirwestwyr at eu gwir waith. Cynhaliwyd cyfres o gyrddau ddechreu y flwyddyn gan yr areithiwr adnabyddus Tennyson Smith. Diau i'r pwyllgor wneuthur ei oreu wrth drefnu y cyfar.fodydd hynny i gynhyrfulr cyhoedd difraw. Parch a diolch iddynt am hynny— yr wyf yn rhydd i ddweyd hyn gan nad oedd i mi unrhyw Law yn y gorchwyl. Ond nid wyf yn tybied mai dyma'r math o waith sydd yn angenrheidiol, a phrin y gallaf gredu fod unrhyw ffiwyth arhosol i ryw demonstration felly. Gwyliadwriaeth gyson a chydweithrediad aalonnog yr holl arweinwyr a'r eg- lwysi ymneilltuol raid gael i sicrhau llwyddiant. Mae gennyf ddefnydd 6 neu 120 ysgriiau cryfion i'r "Cymro," neu xyw giyhoeddiad ar faterion pwysig ac amserol i'r cylch yma, megis Dirwest Conwy yn ei berthynas a'r ymneilltuwyr ac a'r fainc ynadol," Cyngor yr Eglwysi Rhyddion-ei waiith yn y gorff- ennol, a'i ddyledswydd yn y dyfodol," &c. Er ie- alLai ,fy mod yn fwiy o fardd nag o lenor hyderaf na fernir yn amhriodol i mi fel awdwr yr ysgrifau hynny pan gaf hamdden i'w rhoi wrth eu gilydd i alw fy hun Siluriad II." Rhan o'm braint yw bod yn unknown,' ond byddaf bob amser yn hollol deg a difalais. Diolch i chwi am y Cymro Mawrth 24ain—rhagorol,—y rhiiyn. goneu eto o'r brawd gwas- anaethgar. Yr eiddoch yn gywir, DIRWEST. ♦
'LLYTHYR ODDIWRTH Y PARCH.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'LLYTHYR ODDIWRTH Y PARCH. E. MOSES EVANS. AT OLYGYDD Y CYMXO. Annwyl -Syr,Derbyniais y llythyr canlynol oddi- wrth un o blant Abermeurig, y Parch. Evan Moses Evans, Blaengarw. Ac yr wyf yn meddwl y ibydd yn dda gan lawex gael ei weled yn "amseroedd enbyd Armagedon Yr eiddoch, Abermeurig. JOHN EVANS, Station Temperance Hotel, Aldershot. Mawrth 18, 1915. Annwyl Mr. Evans,—Fel y gwelwch wrth fy ad), dress yr wyf fi yma yn gwiasanaethu ar y milwyr. Anfonodd Cyfarfod Misol Gorllewin Morgannwg y Parch. B. T. Jones, Casellnedd, a minnau, ar ymi- weliad a phrif wersyllfaoedd milwrol Lloegr, er ca,el gweled, sut fanteision crefyddol oedd pobl ieuainc Cymru yn gael i addoli yn eu hiaith eu hun.ain. Yr ydym wedi bod yn 'Swindon., Ludgershall, An. dover, Salisbury, Tidworth, Perham Down, Lark- hill, Bulford, Sling Camp, Basinjgstoke, Bourne. mouth, Winton, Branksome, Poole, Potest own, Southampton, ac amryw o leoedd ereill. Yr ydym wedi dod i gyffiyrddiad a miloedd lawer o Gymry. Bron i bob man yr awn, dywedant mai ni yw y ddau weinidog Cymxaeg cyntaf y maent wedi weled oddi- ar yr wythnos gyntaf yn Awst diweddaf. Yr ydym yn cynnal cyfarfodydd yn Gymxaeg iddynt, a chyfar- fodydd gogoneddus ydynt. 'Canant ymhob man hen emynau y diwygiiad -gyda bias. Buasai yn dda gennyt pe gallech gael golwg arnynt yn canu gyda hwyl ymhell o dre a'u perthynasan, ond yn ffydd- Ion i Arglwydd Dduw eu tadau. Arhosodd 23 ar ol nos Sul diweddaf. Codent ar eu traed y naill ar ol y Hall, ac arosasant olil i fyny hyd nes i'r olaf godi. Yr oedd o leiaf 2,000 o igynulleidia. Ond ba waeth faint fyddo yn bresennol, ond i ddyn gael ei argyhoeddi yn iawn nid oes ofn dynion yn bod wed'yn. Y mae eglwysi Gorllewin Morgannwg wedi rhydd- hau y gweinidogion canlynol am fis er myned i wa- hanol fanau at y milwyr: y Parchn. T. E. Davies, Cruiglas, Teifi Davies, Mynyddcynflig, Mr. Thomas, gweinidog Bethania, Treforis, D. Picton Evans, M.A., Philadelphia, Treforris., a Mr. Morgan, gweini- dog Garth, Maesteg. Y mae Cyfarfod Misol y Dwyitain hefyd yn ymuno a ni i anfon nifer allan i'r gwahanol wersyllfaoedd. Y mae dros 300,000 mewn un camp yno yn unig, ac y mae tua 18 o camps. Dygix y gwaith o recruitio ymlaen ar scale an- ferthol fawr. Y miae y traffic yma yn fwy nag yn Llundain, motor cars, motor cycles, miloedd lawer o geffylau a mulod. Y maent yn debyg iawn i gan' mil o gycHau gwenyn, a'r thai hynny yn. ceisio codi am Ie arall i gyd yr un boreu. Y miae bachgen yn un o'r camps yma o'r enw Evans ifu yn was gyda'r diweddar Mr. John Jones,Trefran.. Mae ei gartref yn Bethania. Y mae ein gwiaith yma yn amrywiol iawn gyda chadw cyfarfodydd. Y mae hi yn llawn mor fendithiol i siarad a'r bechgyn yn bersonol a dim ellir wneud. Gofyn iddynt a ydynt yn ysgrif- ennu i'w cartrefi, a ydynt yn darlilen eu Beiblau yn eu horiau lhamddenol gwasgu ar eu meddyliau y pwysigrwydd o fyned i'r front o dan y tAn, heb fod yng Nghrist. Yr wyf wedi cael y gorchwyl hapus o ysgrifennu at weinidogion rhai o honynt, i ddweyd am y oyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie yn eu hanes. Ond dyna rhaid i mi dewi, neu fe fyddwch wedi Mino darllen ond gwn y bydd yn dda gennych gael gair o hanes bechgyn Cymru ymhell o'u gwlad. Cofion goreu atoch ac at Mrs. Davies a'r teulu oil. Henffych well. E. M. EVANS.
DLANIDLOES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DLANIDLOES. Cynhaliwyd leisteddfod lewyrchus yn ys,gol y cyng- or, Oakley Park, ger Llanidloes, nos Wener y igfed cyfisol. Yr amcan mewn golwg ydoedd cael 'piano' i'r ysgal. Trwy i rai o aelodau pwyllgor y gym- deitha,s lenyddol ac ereill gyfrannu'r arian angen- rheidiol ym mlaenllaw, cafwyd y berdoneg erbyn noson yr eisteddfod. Dirwy haelioni Edward Jones, Ysw., Y.iH., Maesmiawr Hall, Caersws, rhoddwyd offeryn gwell nag a arferir roi i'r ysgolion yn y sir. Y cadeirydd ydoedd Gwilym Edlmunds, Ysw., Y.H., Llanidloes. Yn ei araith llongyfarchai y pwyllgor ar ragoroldeb y gwaith a wnaed, a rhoddodd gyng- horion buddiol ar y ffordd i gynnal cyfarfodydd blynyddol er sicrhau eu llwyddiant. Cyn ymadael gadawodd swtm sylweddol gyda'r trysorydd tuag at y berdoneg. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch. Edward Evans, Llangurig. Cloriannai Mr. D. Thomas, Trefeglwys y canu, a gwruaeth hynny yn fedrus. Beirniadai Mr. Ganbett Edwards, Llan- dinam, yr adroddiadau a llenyddiaeth mewn modd effeithlol a chanmoladwy. Yn nwylaw Mr. E. R. Horsfall Turner, B.A., Llanidloes, y rhoddwyd gwaith coed a chelf, a Mrs. Evans, Tyddyn, Oak- ley Park, feirniadai waith edau a nodwydd. Drwg gennym nad aillai y ddau feirniaid olaf fod yn bres- ennol. Anfonasant eu beirniadaethau i'r ysgrifen- yddion a darllenwyd hwy yn y cyfarfod. Dygent dystiolaeth aruohel i ra,goroldeb y gwaith a dderbyn- ia.sant. Cyfeiliwyd yn iedrus gan Miss A. M. Meredith Bronderwen, iLlandiniam. Rhoddodd y beirniaid' a'r gyfeilyddes eu gwasanaeth yn rhad. Yr oedd ymddygiad y gynulllidfa yn hynod o dda. Ar y diwedd ar gynhygiad 'Mr. F. Beibb, cadeirydd pwyllgor y gymdeithas lenyddol, yn cael ei gefnogi gan Mr. G. Thomas, Ysgol y Cyngor, ysgnfennydd y gymdeithas, ipasiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd, y llywydd, y ibeirniaid a'r gyfeilyddes, a iphawib arall a roddiasiant eu .gwasanaeth er hyrwyddo'r mudiad. Da gennym allu dweyd i'r eisteddfod dalu yn ar- dderchog.
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLLWYR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLLWYR wedi dod a meddyginiaethau cyfansawdd hynod i'r maes, ond nid yw Lloegr ar ol. Ymhlith meddyg- iniaethau nid oes dim gwel na PHELENI LLYSIEUOL KERNICK. Ni honir iddvnt allu gwyrthiol, end ca'r rhai sy'n dioddef oddiwTth ddiffyg traul, afu drwg, croen drwg &c., eu bod yn anmhrisiadwy. Gofynwch am belen'i llysieuol Kernick, a gofalwch eich bod yn eu cael. Gwerthir hwy mewn blychau am ric., i^c. gan unrhyw Fferyllydd, &c.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
The County School, DOLGELLEY. (The Dolgelley Grammar School). Dr. Ellis, Endowment, A.D. 1665. BOARDING & DAYISCHOOL FOR BOYS. EXCELLENT general education and training pro. vided, with special preparations for the Universities, the Civil Service and Commerce. BOARDERS received at the HEADMASTER'S HOUSE. For Prospectus, Fees, &c., apply to the Headmaster. I Old College School, CARMARTHEN. Principals: Rev. J. B. THOMAS, Rev. D. GLYNDWR RICHARDS, B.A., Hons., B.D., Wales. Science and 'Mathematical Master Mr. M. M. DAS B.Sc. Late Headmaster of Park-y-Velvet Acad. Under- grad. of Lon. University, lOpe'll Exhibitioner of Cardiff University. 1st in English, & Distinction in Chemistry, 1st Prizeman in Classics & Mathe- matics at Trevecca College. Welsh Matric. complete 7 Welsh iMatric. 5 subjects 2 College Preceptors, Classes 1, 2 & 3 49 Banks, Civil Service etc 11 Aberys. Theol. Coll. Pts. i & II 8 PTesbyt. College, C'fhen 7 Prelim. Theological Exams 3 RESULTS of 1913 64 Brecon 'Memorial Coll. 2 Bangor Independent C,oll.I 2 Cardiff (Baptist Coll. 2 Bangor ,Baptist Coll. I Bradford Coll. I Richmond Coll. I Glasgow Institute I Grand TOTAL for 1914 97 BOARDERS RECEIVED. TERMS MODERATF. Apply to Principals. Cfmdelffeas Ysvvirfol f Methodiatlald Cp-lfinaidd. Yn unol a phenderfyniad y Gymanfa Gyffredinol yn Nhrefnewydd, Mehefin 10—13, 1912, ffurfiwyd y Gymdeithas yn ddioed, a chymeradwywyd hi gan y Dirprwywyr Iechyd Cenedlaethol Cymru ar y 27 o Fehefin, 1912. Aelodaeth Gwirfoddol. Bydd yn dda gan yr Ysgrifenyddion ddanfon rhestr o'r cyfraniadau wythnosol sydd mewn grym oddiar y isfed o <Ionawr. Prif Swyddfa— 34, QUEEN STREET, CAERDYDD. Ysgrifenyddion— I'r De: THOS. THOMAS, o'r Brif Swyddfa. I'r Gogledd Parch W. W. LLOYD, Hawthorne House, Llianbeblig Road, Carnarvon. Trysryddion— I'r De: Mr. EDWARD JENKINS, J.P., 154, Cathedral Road, Caerdydd. I'r Gogledd: Mr. JOHN DAVIES, Caernarfon. ir- II A Parry, A J.il, A.U.6.W. neirniady Arwoin&tf? ae Organ &&* • Parotoir disgyblion gogyfer a'r arholiadau ynglyn a phrif golegau yn unig mewn chwareu y berdoneg, yr organ, a diwylliant lleisiol. Hefyd, dymunir tynu sylw y Pwyllgorau Eisteddfodol, a Chymanfaol at dri o ddarnau newydd allan o'r wasg. Rhangan, "Bydd yn ffyddlawn" i leisiau T.T.B.B.. Canig, Brenin y Bore,' i leisiau S.S.A. Anthem Gyman- faol, Dy holl weithredoedd," S.A.T.B. Cyfeiriad: SCHOOL OF MUSIC, DLANRWST, N.W. O.Y.—Hefyd argraffiad newydd Perlau Seion." Pence Envelopes At GaSolisda" G&iwysig 19'511 OP ANFONWCH YN GYNAR YN LLE COLLI AMSER. SAMPLES A PHRISIAU ODDIWRTH E. W, EV.:N. swyddf.v Pr i gSymre?99 DOLBELLA If*
TREHARRIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREHARRIS. Cymdeithas Ddiwylliadol Bethania, Treharris.— Dygwyd y gyrndl-itbas hon i derfyniad gyda golwg ar waith y tymor presennol ar Ddydd Gwyl Dewi. Tnefnwyd i'r cyfarfod dathliad Dygwyl Dewi i fod yn orffeniad i w,aith y gaeaf. Mae y gymdeithas hon wedi parhau bellach am dymorau lawer, ac yn gwneud gwaith rhagorol mewn diwyllio meddyliau, a dyrchafu chwaeth pobl ieuainc yr eglwys. Teim- Iwyd peth anihawster ar ddechreu y tymor, oherwydd fod amryw o'r bobl ieuainc wedi ymrestru yn y fyddin, y rhan fwyaf o honynt yn aelodau ffyddlon o'r gymdeithas. Penderfynwyd beth hynnag i wyn,- ebu ar y gwaith, er fod y rheng'au wedi eu bylchu. Cafwyd tymor llwyddiannus i'r eithaf, a chofir gyda boddhad am lawer o'r cyfarfodydd a igafwyd yn ystod y gaeaf. Yng. nghyfartfod Dygwyl Dewi ar- weiniwyd gan y Parch. J. Pumsaint Jones, llywydd y gymdeithas. Cymerodd y cyfarfod ffurf gystadleu- 01 mewn canu ac adrodd. Yr oedd yn bresennol amryw o gyfeillion o'r lie tuallan i'r eiglwys, a chaf- wyd un o'r cyfarfodydd mwyaf adeiladol. Mwyn- haodd pawb ar y dechreu araith y iJlywydd ar Ddewi Sant, a chadwyd i- fyny yr ysbryd Cymreig drwy y cwrdd. Nid yn unig yr oedd yn orffeniad teilwng i waith y tymor," ond hefyd yn ddeffroad hapus i'r ysbryd eenedlaethol yn yr holl aelodau.