Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
-----_----_._------.-Y MILWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MILWYR CYMREIG. GYDA'R MILWYR YN BOURNEMOUTH. GAN Y PARCH. D. CYNDDELW WILLIAMS, B.A. Rhyw deimlad o hyfrydwch trannoeth wedi diwrnod y Groglith a'n cymhellodd i anfon gair am y gwaith yma. Cawsom ddiwrnod a rhywbeth gwir- ioneddol yn nodweddu y gwasanaeth. Yn y bore, caed y Parade Service nid ydym yn cofio mwy o astudrwydd yn y gwrandawiad na'r tro hwn. Gan fod Crist ein Pasc ni wedi ei aberthu trosom, mae yn anogaetK naturiol i ni gadw gwyl, nid gwyl am un diwrnod, ond gwyl barhaus. Ymddengys yn rhyfedd medru annog i beth fel yma a ninnau yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt, ond mae yr Efengyl yn caniatau hyn, ac mae gan un sydd yn credu Ef- engyl ein Pasc dir cadarn dan ei draed pan yn annog y milwyr i wledda. Yng nghysgod hyn ceir cyfle i nodi rhai o amodau yr wyl: rhaid bwrw yr hen lefain allan; rhaid osgoi maLais a drygioni, rhaid wrth burdeb a gwirionedd digymysg. 'Does dim rhaid gostwng y safon, a diolch na fyn y bechgyn i ni feddwl gwneud hynny. Yn yr hwyr bwriadem gael gwasanaeth Cymreig drachefn, ond yr oedd Cor y rofed Fataliwn Royal Welch Fusiliers wedi addaw eu gwasanaeth. Peidiwch priodoli diffyg yn ein sillebiaeth pan yn rhoddi c yn lie s yn y gair Welch." Dyna o leiaf fel y myn awdurdodau y iofed Fataliwn ei sillebu, ac mae hyn yn wir hefyd am y 6ed. Mae y cor yma wedi ennill llawer o bobl. ogrwydd iddo ei hun. Gan nad oedd y trefniant yn gyflawn y Saboth blaenorol, rhoddwyd hysbysiad byr am gyfarfod yr hwyr yn y newyddiadur lleol. Daeth rhagor na llon'd yr adeilad ynghyd, a chafwyd cyfar. fod a gredwn rydd argraff dda i Saeson Bourne- mouth am Gymry Cymru. Oddigerth am rai o'r darnau ganwyd, bu raid i'r gwasanaeth gan fwyaf fod yn yr iaith fain. Yr oedd ymddygiad y dorf yn dystiolaeth fod y dydd a'r cyfarfod yn cario cenhad- wri all fod yn fendithiol i ami un. Bydd yna ber. arogl i rai o honom o gwmpas yr atgof am y Dydd ■ Gwener Groglith yma. Daeth un boneddwr o Gymro ar ymweliad a'r lie, ymlaen ar y diwedd, ac estynodd rodd haelionus at yr achos. Wyddom ni mo feddwl yr awdurdodau milwrol am ein dyfodol: sibrydion o ryw symudiad cyn bo hir glywir yn barhaus. Bydd rhaid wrth beth ymar- feriad pellach mewn saethu cyn byddis yn barod i faes y gad ond mae y bechgyn yn barod o ran eu hysbryd i gyflawni yr hyn yr ymrestront i w wneuthur. Bydd yma hiraeth ar lawer aelwyd yn Bournemouth ar ol y bechgyn: gair uchel iawn sydd gan fwyafrif y lletywyr i'r Cymry. Hefyd mae rhai Cymry sydd a"u coelbren wedi disgyn i drigiannu yn Bournemouth wedi teimlo fel pe bai ambell awel o'r hen fryniau wedi bod yn chwythu drostynt, ac wedi ei chael yn adfywiol iddynt. Deallwch mai nid diwedd ein can yw y geiniog: welwn ni ddim fod arnom ni, fel mae pethau, eisiau eich arian, ond mae arnom ni eisiau un peth mae arnom angen am eich gweddiau.
DYDD SUL GYDA'R MILWYR CYMREIG…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYDD SUL GYDA'R MILWYR CYMREIG YNG NGHAERGRAWNT. Nid annyddorol fuasai edrych i mewn i weithred- iadau'r milwyr ar y dydd cyntaf o'r wythnos mewn tref warchodol. Y mae nifer fawr o wahanol ag. weddau i'r cwestiwn: y mae iddo ochr oleu ac ochr dywell; cyflwyna in sylw lawer o bethau y dylem fod yn ddiolchgar am danynt, a llawer o bethau bery syndod a phoen hefyd; y mae'n gwest- iwn annhraethol fwy delicate' nag y carem gyf. addef. Tebyg iawn ydyw ymhob tref lie mae nifer fawr o filwyr wedi eu casglu ynghyd, ac y mae tro. bwll temtasiwn yn chwyrn-gryf ofnadwy ar y Saboth hyd yn oed. Nid' yw Caergrawnt, mwy nag un dref arall, yn rhydd oddiwrth y peryglon hyn ychwaith, ac os y dilyna'r darllenydd ceisiaf roddi cipolwg iddb ar the light and shade' o'u bodolaeth yng nghanol milwyr a phethau milwrol yma. Caii yr utgorn cyntaf am 7 o'r gloch bore Sul, awr yn hwyrach na dyddiau ereill yr wythnos. Nid oes llawer o brysuro i godi'r bore hwn gan nad oes parade dan naw dr gloch. Tua deng munud i wyth, neu hwyrach na hynny yn fynych, tyn un bywiocach na'r gweddill ei ben yn glir o'r blancedi a bloeddia nerth ei ben, Hogia' ma' hi yn wyth o'r gloch." Ac ar amrantiad mae'r gwersyll yn ym- agor i fywyd fel pe bai anadliad y pedwar gwynt yn disgyn arno. Annhrefn welir yn y bore nodwedda ddigwyddiadau'r munudau nesaf. Y mae chwilio mawr am wahanol daclau! Atgofir ni o hanes twr Babel a'i gymysgedd. Yma mae un yn gwaeddi am hosan sydd ar goll, a bygythia daro ymaith ben un arall sy'n fwy na thebyg wedi ei chuddio. Acw mae arall yn bloeddio yn hyawdl mewn iaith nad yw yn parliamentary,' a dweyd y lleiaf. Methu canfod ei glos mae hwn. Ac ynghanol yr holl firi dyna dwrf fel swn corwynt mawr yn disgyn ar y glust, a dwsin neu ychwaneg yn rhuthro i lawr y grisiau ar draws eu gilydd am yr ystafell ymolchi. Y cyntaf i'r felin gaiff falu, ebe'r gair; a rhaid i ninnau gymryd ein lie yn ol amser ein dyfodiad at y ffynnon i ym- olchi. Cyn bod y gweithrediadau hanner drosodd swnia cloch boreubryd, ac am yr ail waith y bore dyma ruthro mawr i lawr y grisiau. T'uag ugain munud cyn yr awr sylweddola pawb fod parade am naw o'r gloch, ac o'r pwynt yma ymlaen arddang- osir arwyddion o ddiwydrwydd a phrysurdeb eithr- iadol. Can y corn cyntaf bum munud cyn amser penodedig y troad allan, ac am naw o'r gloch pan swnia'r 'fall in.' gwelir yr holl gwmni yn ffurfiOl colofn drefnus a rheolaidd tuallan i'r "billet.' Rhaid i bob enaid byw 0 honom fod yn bresen- nol ar church parade' bore Sul, a da hynny, oherwydd mae'n ddiameu na welid y' mwyafrif o fewn muriau na chapel nac eglwys onibai am yr or. fodaeth hon. Dosranir ni yn dri cwmni—Eglwys Loegr, Catholics, a Wesleyaid. Gadewir i ni ddilyn y cwmni y dymunwn wrth gwrs. Bu'r ysgrifennydd yn y tri gwersyll o dro i dro, ond ar yr un pryd carwn ddweyd na ddymunwn wadu fy Methodistiaeth er y cyfan. Ac yma nid allan o Ie fuasai atgofio'r mil- oedd bechgyn o Ogledd Cymru sydd yng Nghaer- grawnt o'u dyled i grefydd. Fechgyn, cofiwch urddas yr ardaloedd y deuwch o honynt Mae yng Nghaergrawnt wasanaeth Cymraeg drwy'r dydd y Sul ar eich cyfer; gweinidogion Cymreig yn gwasan- aethu, caplan Cymreig, Ysgol Sul Gymreig, yn wir popeth i'n dwyn yn nes at ein gilydd fel Cymry er mor bell o dre'. Pery absenoldeb bechgyn Mon, Arfon, a Meirion, o'r moddion syndod a gofid nid bychan i'r gwvr da sydd yma yn un pwrpas i was. anaethu i anghenion ysbrydol y milwyr Cymreig. Un Saboth yn ddiweddar sylwais ar ddigwyddiad sydd yn brawf i mi nad yw dylanwadau'r hen ardal. oedd a'r hen draddodiadau wedi eu llwyr ddiffodd. Cerddwn yn hamddenol tua'r billet wedi oedfa Gym. reig nos Sul yng nghapel St .Andrews, a phan- ddeuais i ben un o'r prif heolydd, clywn swn canu. Fel y dyneswn at waelod yr heol, yr oedd yn llawer mwy eglur, ac yn sydyn arafais gan wrandaw yn astud. Emyn Cymreig" meddwn wrthyf fy hun. Dechreuais redeg, ac wedi troi congl yr heol yr oedd. wn yng nghanol tyrfa fawr o filwyr. Duw mawr y rhyfeddodau maith oeddynt yn ei ganu ar yr hen don fawreddog Huddersfield.' Yr oedd un yn y canol yn arwam a'i holl egni, a dau gant o fechgyn hen frvniau Cymru yn canu'r geiriau cysegredig yma gyda than ac arddeliad,— Pa Dduw sy'n maddeu fel Tydi, Yn rhaid ein holl bechodau ni? Dyblid a threblid y ddwy linell olaf nes yr oedd adeiladau henafol tref Caergrawnt yn adsemo r geir. iau. Mater bychan oedd ddarfod i'r cwmni gael ei symud gan y Military Police yn y diwedd oher- wydd yr oedd pob calon yn orlawn o ysbryd yr emyn ac yn grwgnach dim. Dyna'r ochr oleu. Dylwn ddweyd fod y tafarndai yma yn agored ar y Sul. Gwna'r rhai"n niwed ofnadwy! Holais fy hun yn ami i ble y gallasai bechgyn yr hen ardal fod yn myned ar y Sul, ac o'r diwedd penderfynais fyned i chwilio am danynt. Wedi cerdded heolydd ac is. heolydd dirifedi, cyrhaeddais y rhan o'r dref y gwyddwn fod rhai o'm cydnabod yn aros. Holais y cyntaf gyfarfyddais ble'r oedd hwn a hwn yn aros. Cynhygiai ddod i ddangos y tj7' i mi, a gyda n gilydd yr aethom. Mentrais ofyn 0 ble 'rydach ch'i dwad;" ac atebai yntau mewn Cymraeg glan gloew "0 gan enwi fy nhref enedigol. Yng ngoleuni'r lamp yn yr heol adnabuasom ein gilydd, a mawr oedd y rhyfeddu o'r ddwy ochr. Gofynais iddo a oedd yn dod i'r gwasanaeth Cymraeg, ond 'evasive' ond ei ateb. "Rhaid i mi fynd; ddo'i ryw dro eto," ebai. Dilynais fy hen gyd-ysgolor mewn mwy 0 gywreinrwydd na dim arall. Ac wedi troi congl yr heol ac edrych o'i amgylch yn ofalus aeth i mewn i dafarn gerllaw.. Yr oedd yn un o fechgyn ffyddlonaf yr Ysgol Sul a'r Gobeithlu gartref, ond 'nawr Dyna i chwi un o tragedies y bywyd milwrol Digwyddais fyned i dv i chwilio am gyfaill imi y Sul diweddaf. Wedi cyrraedd pen y grisiau cymer., ais droad croes i'r sawl ddyl'swn gymryd, ac aethum i mewn i ystafell dieilbr-tai. gweigion y mae llawer ohonom ynddynt yma. Yr oedd wyth neu naw yn eistedd yng nghanol yr ystafell, a phan agorais y drws trodd yr oil yn euog i'm hwynebu. Gwelwn un yn Ilechwraidd iawn yn cuddio rhywbeth o dan ei gesail, a chlywn swn arian yn syrthio. "What do you want," meddai un gyda llw. "Shut up," medd. ai un arall, gydag edrychiad am ryw nod neilltuol ar fy mraich, can't you see he's one of the military police." Hap-chwarae oedd yn myned ymlaen yr oedd yn amlwg, ac yr oedd y gydwybod yn siarad. Diolchwn mai nid Cymry oeddynt. Nodais y rhai'n er mwyn dangos peryglon tref He mae cymaint o filwyr gyda'u gilydd, ac nid er mwyn pwyntio bys at bechodau'm brodyr. Mae ochr oleu hefyd. Mae capel Saesneg (Bed- yddwyr), St. Andrews, yn orlawn o filwyr bob nos Sul, ac yn ddieithriad erys cannoedd ar ol yn yr ail wasanaeth yn yr ysgoldy. Drachefn mae eglwys St. Columbus, lie y cynhelir parade bore Sul y Parch. Ceitho Davies yn cael cynulleidfa fawr bob Saboth. Dyna sy'n rhyfedd-y Cymry ar ol! Mae parade bore Sul yng ngha.pel Immanuel yn lliosog mae'n wir, ond y mae cannoedd ar ol. Felly gyda'r Ysgol Sul a gwas-anaeth nos Sul, Dylai y ffaith fod cymaint o honom o'r hen wlad wedi'n casglu at ein gilydd ein dwyn yn nes at ein gilydd, a'n symbylu i gadw'r faner i chwifio. Ymrown ati UN 0 FEIBION MEIRIONYDD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ARTIFICIAL Legs, bands, crutches, deformity boots, trusses, Steel-less Easifit' truss. List free. Ladies' belt corsets, elastic stockings, etc.-Allen Pearce, 23, Charles Street, Cardiff. Tel. 128a. Hours 10—6 daily, Wednesdaym 10-1 Saturdays 10"-S, When I say soap I mean-Fairy soap. The best and goes furthest. THOMA* HHOLKY H CO, LTI)., NKWCASTLK-ON-TYNB. 1." _nh l Tablets of Approved Remedies. POST FREE. Ammoniated Quinine. EACH TABLET EQUAL TO HALF A TEASPOONFLL OF THE LIQUID 24 Tablets, 6d. Bismuth, Pepsin, and Charcoal for Indigestion. 24 Tablets, 6d. Quinine and Iron FOR Anaemia & Weakness, Tablets, 6d. Ulaekache and Kidney Tablets. 25 for Sixpence. Acetyl Salicylic Acid Tablets for Rheumatism 25 for Sixpence. A Free Sample of any of the above Tablets will be sent on receipt of a Penny Stamp. Old English Lavender Water Bottles Is. (Post Free). ennin e Ean de Cologne, Bottles Is. & Is. 6d. (Post free) Mr. EDWARDS, Pharmacist, 3, Priter Road, L ON I ON, S.E, MLIIJIMUMWLLMIMW'.WWI—IIIBWWII* I1'11FM* 'HI' 'I'LL W "TIIT' ~1 "m.e; '— 'r"