Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFNEWID. YNTE GWRTH-RYFELA?

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFNEWID. YNTE GWRTH- RYFELA? MAE'N amlwg erbyn hyn fod dau bolisi gwa- hanol yn cael eu cymell i sylw Cymru gyda g-olwg ar y dull goreu i wynebu peryglon new- ydd Deddf Datg-ysylltiad. Nid oes, hyd y gwelsom, ond un farn ymhlith Ymneilltuwyr Cymru am Fesur Oedi Dadwaddoliad a'r cyf- addawd a wnaed a'r Toriaid. Peth newydd yw hyn yn hanes Ymneilltuaeth, a pheth dieithr yw gweled1 Ymneilltuwyr Cymru ar un ochr, a Mr. Lloyd George ar yr ochr arall. Hwyrach y dylem fod yn ofalus wrth ddweyd hyn, oblegid ar ddiwedd Cynhadledd y Rhyl d'ywedodd y Parch. John Williams, y cadeirydd, air sydd wedi synnu1 llawer, ac wedi peri dyryswch i er- eill. Daliodd Mr. Williams y papur oedd yn ei law i fyny, a dywedodd fod yn dd'a ganddo hysbysu y gynhadledd fod y penderfyniad mor ddiogel a phe buasai wedi ei osod ar Deddf- lyfr Prydain. A'r argraff naturiol a adawodd y sylw gyda'r hwn y clowyd y Gynhadledd i fyny, ydoedd, fod Mr. Williams a'r Canghellor yn deall eu gilydd, ac y byddai penderfyniad- au ag y gofynwyd i'r Gynhadledd eu pasio yn foddhaol i'r Canghellor. Felly polisi y Gyn- hadledd oedd cryfhau breichiau y Canghellor yn y Cabinet, a sicrbau cyfnewidiadau yn y Mesur fyddai yn diogelu Deddf Datgysylltiad. Os dyna'r eglurhad, mae'r diogelwch wedi ei wneud yn fwy dyrys fyth. Polisi arall yw un yr aelodau Cymreig. Saf- ant hwy ar y ddealltwriaeth sydd yn bod rhwng y pleidiau gwleidyddol, nad oes materion dadl- euol i'w codi yn y senedd. Ystyriant hwy fod y Mesur Oediad yn doriad ar y ddealltwriaeth honno, a golchant eu dwylaw oddiwrth bob cyfrifoldeb ynglyn ag ef. Canlyniad naturiol y datganiad' hwn ydyw, y bydd yr aelodau Cym- reig pan y daw y Mesur o flaen Ty y Cyffredin yn siarad ac yn pleidleisio yn ei erbyn, ac, os gallant ei daflu allan. Dyma ddatganiad clir o wrthryfel. Os methant dafluallany Mesur, yna ymosodir yn y pwyllgor, gan geisio dwyn i mewn gyfnewidiadau fydd yn diogelu hawllau Cymru ynglyn a Dadwaddoliad. Dyma, fe ddywedir, yw y polisi teg o dan yr amgylch- iadau, a'r unig un lag y gall yr aelodau Cym- reig ei ddilyn a gweithredu yn gyson a-hwy eu hunain, ac a'r ddealltwriaeth y cyfeiriwyd ati rhwng y pleidiau. Deallwn fod yr aelodau Cymreig, gydag un eithriad, yn cytuno ar y polisi hwn. Pa un o'r ddau bolisi syda- debycaf o lwyddo ? Amser a ddengys. Mae cynifer o bethau o'r golwg fel nad yw yn ddiogel mentro proffwydo. Dywedir fod v ddealltwriaeth rhwng arweinwyr y ddwy blaid feI deddf y Mediaid a'r Persiaid. Ac yr oedd Mr. Lloyd George yn y cyfaddawd. Y cyntaf i'n hatgofio nas gallai y Llywodraeth- alw yn ol oddiwrth y cyfaddawd oedd Mr. Bonar Law, a rhaid e'i fod ef yn credu fod yr Eglwys yn cael mantais drwyddo. Ar y Haw arall, mae'n ddigon hysbys erbyn hyn nad oedd Mr. Lloyd George wedi chwilio i mewn i ag- wedd ariannol y cyfaddawd, ac os gellir dangos i'r Canghellor fod mantais annheg yn deilliaw i'r Eglwys drwyddo, onid oes modd ail-agor y mate-r ? Gwnaed ymgais i geisio profi fod y ffigyrau a gyhoeddwyd gennym bythefnos yn 01 yn anghywir; ond aflwyddiannus fu hynny. Wedi methu siglo ein ffigyrau, ceisir dangos fod heddwch yn bwysicach nag arian, ac y dylasai y cynrychiolwyr i Gynhadledd y Rhyl ddiolch am nad oeddynt oil yn Louvain! Ofer siarad fel yna. Mae Cymru yn sefyll yn gadarn fel un gwr dros gyfiawnder a thegweh, ac yn bender- fynol o beidio derbyn unrhyw gyfaddawd fydd yn siglo diogelwch Datgysylltiad. Teimlir mai ofer gwneud cytundeb ag unrhyw arweinydd sydd yn sicrhau na ddiddymir y ddeddf, tra y mae corff o blaid yr un pryd yn casglu arian er cario ymlaen y rhyfelgyrch o blaid diddymu y Ddeddf. Tra y mae Mr. Bonar Law ac Arg- lwydd Lansdowne yn arwyddo cytundeb hedd- wch, apelia'r 'Globe' am arian i gario'r rhyfel ymlaen, a dywed y 'Guardian,-y prif organ eglwysig,-mai bwriad y blaid yw diddymu Datgysylltiad y diwrnod cyntaf wedi y., daiv, chwe' mis y gohiriad i ben! Mae y ffeithiau hyn yn galw am i Ryddfrydwyr ac Ymneilltuwyr Cymru fod yn effro a phenderfynol.

-'"-_____--OFN MARWOLAETH.

Advertising