Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0 BENLLYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 BENLLYN Yn y Gynhadledd.—Bu y Parch. R. R. Williams. M.A., yn y Gynhadledd fawreddog gynhaliwyd yn y Rhyl dydd Llun diweddiaf. Marw.-—>Nid yn am], os erioed, y cludwyd gymaint i'r fynwent ag y gludwyd y gaeaf hwn ym Mhenllyn. Claddwyd gweddillion priod Mr. Humphrey Evans, Golygydd yr Eryr, i fynwent y dref dydd Iau. Y hi yn chwaer i Mrs. Maethlon James, Towyn, ac yn gymeriad unplyg, tawel, a didwyll. Yr un diwrnod hefydi aeth torf enfawr i hebrwng Mr. D. John Morris. Arenig Street, i Lanycil. Efe yng nghanol ei flodau, dim ond ychydig flwyddi dros yr ugain, gan adael priod ieuanc o dau o blant man mewn hiraeth ar ei ol. Dydd Sadwrn, hefyd, cludwyd corff Mrs. Mary Hughes, Tai Bricks, i Lanycil. Cafodd hi weled dyddiau da, pump a phedwar ugain o flwyddi. Gwib y Groglith-Damwain Erchyll.-Cychwyn am Hereford, i weled rhai o'i deulu, ydoedd Mr. Crump, y Ship Hotel, ynghyda George a Gordon, ei feibion, -yr olaf wedi dod adref o Lundain i dreulio ei wyliau,—fore Gwener y Groglith mewn modur newydd. Yr oedd brawd yng nghyfraith Mr. Crump, Mr. Griffith Jones, gyda hwy, ynghyda hogyn ieuanc, Gordon WTheeler, yn gyrru y modur. Ond oddeutu un o'r gloch, dyna y newydd yn dod eu bod wedi cyfarfod a damwain, rhyw naw milltir y tuhwnt i Groesoswallt. Buwyd am oriau yn disgwyl canlyn- iad y ddamwain, a thua phedwar o'r gloch daeth y newydd fod y gyriedydd Wheeler wedi marw. Yn hwyr yn y nos aeth y newydd drachefn fod Mr. Crump wedi marw, hefyd fod y mab hynaf. George, yn gorwedd yn beryglus wael yn yr Infirmary, a phan yn ysgrifennu dal felly yr ydoedd. Cafodd Mr. Griffith Jones darawiad yn ei wyneb, ond nid yn ddifrifol, a phasiodd y mab Gordon yn hollol ddi- anaf. Yr oedd Mr. Crump yn gymeriad nodedig o hoffus i'r rhai oedd yn ei adnabod. Ni anwyd dyn ffeindiach erioed. Methai a bod yn ddigon cym. wynasgar, a mawr yw cydymdeimlad y dref a Mrs. (jump. Hogyn leuaric, dwy ar bymtheg oed, ydoedd Wheeler, yn cartrefu yn y Bala gyda'i ewythr. Mr. T. J. Roberts, Butcher, ond newydd fyned at Mr. Crump i ddysgu gyrru y modiir, Claddwyd Mr. Crump yn Llanycil dydd Llun, a'r brawd ieuanc arall yn ei gartref yn y Wyddgrug, yr un diwrnod. Y Cyfarfodydd.—Cafwyd golwg lewyrchus iawn ar y cyfarfodydd y Groglith yn Llandderfel a Talybont. Aeth llawer o bobl yno, a bu ymgripio caled am amryw o wobrwyon.
NODION 0 LEYN.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 LEYN. Mr. E. Jones Griffith, prifathraw ysgol Troedyrallt, ddewiswyd yn lie y diweddar Henadur W. Anthony fel rheolwr yr Ysgol Ganolraddol. Cynhaliodd eglwys South Beach ei chyfarfodydd pregethu blynyddol y Groglith, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parchn. S. G. Evans., B.A., a Thomas Williams, Caergybi. Nos Lun bu Plenydd yn darlithio i gynulleidfa fawr yn Llithfaen ar "Y Llyfr." Y Parch. H. Williams, y rheithor, a lywyddai, ac elai yr elw i'r tlawd a'r adfydus. Ni raid dewyd i'r ddarlith gael ei mwynhau yn fawr. Mae'n debyg nad oes odid i ardal yn y wlad ag y gwneir mwy o ymdrech o'r nodwedd yma i gysuro a chynorthwyo y rhai sydd yn dioddef ag a wneir yn Llithfaen. Mr. W. Evans, Victoria House, ddewiswyd yn ar- olygwr Ysgol Sul Penmount am y flwyddyn ddyfodol, a Mr. W. Jones, Arosfa, yn Sand Street, ynghyda Mr. Hugh Williams, Shop Goch, yn Tarsis. Da gennyf ddeall fod Mrs. Roberts, priod y Parch. David Roberts, Abererch, erbyn hyn yn gwella yn dda, wedi iafiechyd maith. Y pregethwyr oedd yn cymryd rhan yng nghyfar. fodydd pregethu blynyddol y Pasc yn Llithfaen oedd. ynt y Parchn. J. Henry Williams, Porthmadog, R. J. Jones, Twrgwyn, Bangor, a Thomas Lloyd, Llechryd. Dydd Llun y Pasc cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Cilan, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Mordaf Pierce, Dolgellau, a D. Foulkes Roberts, Rhydbach. Nos Iau diweddaf rhoddwyd cyngerdd rhagorol gan Gor Plant Rhydbach, pryd y rhoddwyd perfformiad o Gantawd yr Adar. Cadeiriwyd gan W. W. Griffith, Ysw., Castellmarch, ac arweiniwyd gan y Parch. D. Foulkes Roberts. Y Misses Griffith, Trewan, oedd yn trefnu y cyngerdd.
MEIRION A'R GLANNAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MEIRION A'R GLANNAU. Mae eglwys Saesneg Dolgellau yn gosod pibellau dwfr poeth i gynhesu ac adgyweirio y capel. C'lywir o bob cyfeiriad am afiechyd a gwaeledd. 'Yr hynafgwr Rowland Williams, blaenor hynaf Salem, Dolgellau, yn gorwedd er ys dyddiau, ac er ei fod yn ei 95 mlwydd, disgwyliwn fod iddo adfer- iad. Mr. O. D. Roberts, Y.H., yntau dros y pedwar ugain, yn llechu nes ery barug heibio. Da gennym glywed fod tri arall o henafgwyr Dolgellau,—Mri. Edward Griffith, Y.H., John Edwards, a Richard Mills, yn myned i mewn ac allan mor sionc ag erioed. Son sydd fod llawer o filwyr yn dyfod i babellu ar lannau Meirion y misoedd nesaf wedi i orchymyn y Swyddfa Ryfel ddyfod i rym ar y laf o Fai. Mae yma ddolydd gwastad a sych, lie y gellir gosod pebyll i ddeng mil heb drafferth. Mae un o'r boneddigesau Belgiaidd a noddir gan Ymneilltuwyr Dolgellau, Madam Verhaighe, yn wael. Bu dan driniaeth yn Liverpool, ond. nid yw yn well. Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod siriol a'r plant talentog. Mae Mr. John Parry, mab Mr. Parry Jones, yr ar- werthwr adnabyddus o Benrhyndeudraeth, wedi derbyn galwad oddiwrth un o eglwysi lliosocaf y Cymry yn America, ac wedi hwylio drosodd. Preg. ethwr da a hachgen rhagorol yw y cyfaill ieuanc hwn. Ymhlith swyddogion gwarchodlu Cymreig y Brenin da gennym weled enw Second-Lieut. Osmond T. D. Osmond Williams, D.S.O. (mab Syr Osmond Wil- liams), yr hwn sydd wedi ei benodi yn gapten. Cynhaliwyd Eisteddfod y Plant yn Salem, Dolgell- au, nos Wener y Groglith, dan lywyddiaeth y Parch. T. Mordaf Pierce, ac arweiniad Llew Meirion. Tafolwyd y cantorion gan Mr. John Griffith, B.Sc., yr Ysgol Sir; y farddoniaeth gan y Parch. W. Pari Huws, B.D., yr adran lenyddol gan y Parch. J. Rad. cliffe, B.A., B.D., a'r adrodd &c. gan Mr. Radcliffe a Glan Wnion. Cafwyd cyfarfod dyddorol, a dang- hosai amryw o'r cystadleuon ol llafur a pharatoad. Hyderwn y gwna'r Eisteddfod hon i'r plant le iddi ei hun ymysg gwyliau blynyddiol y dref, ac y tyn allan fwy-fwy o lafur gyda'r plant yn yr holl gylch.
NODION 0 ARFON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 ARFON Fore Gwener y Groglith hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Mrs. Pritchard (priod yr Henadur J. R. Pritchard) i fynwent Llanbeblig, Caernarfon, yng nghanol arwyddion o alar. Anfonwyd nifer fawr o blethdorchau. Gwasanaethwyd gan y Parch. D. Stanley Jones, gweinidog Salem (A.). Nos Wener y Groglith, cynhaliwyd cyfarfod cys- tadleuol blynyddol M.C. Bontnewydd. Caed cyfar. fodydd campus. Dydd M'ercher bydd y Pals yn ymadael o'r dref i Manceinion ac ereill i Grantham. Bydd colled ar eu hot, nid yn unig mewn ystyr ariannol, ond! mewn ystyr gymdeithasol hefyd. Y mae dau, os nad tri, o'r swyddogion yn aelodau gyda'r Bedyddwyr, ac y mae yr oil wedi ymddwyn yn rhagorol yn ystod eu harosiad yma. Nos Sadwrn, yn y Pavilion, rhoes y "Pals" gyngerdd i bobl y dref, fel arddangosiad bychan o'u diolchgarwch iddynt am eu caredigrwydd tuag atynt yn ystod eu harosiad yn y dref. Nos Sul rhoes y Cor Mawr (dan arweiniad Mr. John Williams) gyngerdd er dyddori y Pals." Canwyd rhanau o'r "Messiah." Duw fo'n gefn i'r bechgyn dewr. Nos Iau cynhaliwyd cyfarfQd terfynol Gobeithlu Capel Cenhadol Siloh Bach. Llywyddwyd gan y Cynghorydd E. Abbott, ac arweiniwyd gan Mr. John Roberts (Rhosbodrual). Cymerwyd rhan gan amryw o dalentau ereill lleol, a chaed dwy gystadleuaeth ddyddorol i'r plant, y naill mewn canu a'r Hall mewn adrodd. Y beirniaid oeddynt: Adrodd, Mr. E. Lloyd Williams (Bangor St.); canu, Mr. G. J. Pritchard. Cyfeiliwydi gan Miss S. Evans (Clarke Terrace). Ar gynhygiad Mr. John Roberts, yn cael ei eilio gan Mr. J. Wynne Parry, diolchwyd i bawb gymerasant ran. Caed tymor hynod o lewyrchus. Yr ysgrifennydd llafurus ydoedd Mr. T. J. Roberts (Hill St.), a'r trysorydd, Mr. John Owen, 36, Bangor Street. Y dydd o'r blaen yr oeddis yn claddu Mrs. Ellis, Glangwna Terrace, Caeathraw, ym mynwent Ym- neilltuol Caeathraw. Yr oedd hi yn un o aelodau hynaf eglwys M.C. Cae,athraw.-J. fV.],.
CAERLLEON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERLLEON. Wedi gwaeledd blin o rai misoedd, er galar dwys i bawb ddaethant i gysylltiad teg ag ef, bu farw, Mawrth i8fed, iMr. Thomas Williams, Grocer, 35, Foregate Street. Oherwydd ei gysylltiadau mas- nachol, a'i ddawn gymdeithasgar, yr oedd yn dra adnabyddus yn y ddinas a'r wlad gylchynol, a thros rannau o Sir Fflint; tra y mae cannoedd fuont yma o dro i dro yn byw yn sicr o'i gofio gan fod iddo ei nodweddion ei hun a'i cadwai rhag ymgolli yn nghyffredinoledd y lliaws. Yr oedd hefyd, ar gyfrif ei letygarwch, yn adnabyddus i lawer o bregethwyr Cymru. Ganwyd ef Tach. 5, 1859, yn ffermdy y Berthen, yn ardal y Berthen ond symudodd y teulu yn fuan wedyn i Lanarmon yn lal. Wedi gorffen ei ysgol yng Ngwrecsam, daeth i Gaer yn 17 oed i ddysgu ei alwedigaeth ym maelfa 'Mr. William Williams (Llewesog) yn 35, Foregate St. sef cangen o'r fasnach sydd a'i boncyff yn Button St., Lerpwl. Wedi bwrw ei brentisiaeth, nid hir y bu cyn cael arolygiaeth y lie, a pharhaodd yn y swydd hyd y diwedd. Ei dad ydoedd Robt. Williams, yr hwn a wnaed yn flaenor yn Llanarmon yn 1867, lie hefyd y mae dau o'i ewyrthod, brodyr ei fam, yn flaenoriaid—Mri. Thomas Jones a John Jones. Ei fam ydoedd Ann, merch Hugh Jones, a'i briod Mary Jones, o fferm a melin Creigiog, Llanarmon. Bu Hugh Jones farw yr wythnos y ganwyd ei wyr. Yr oedd Mary Jones yn nodedig am ei duwioldeb, a ch'yda hi y treuliodd Thomas Williams lawer o'i blentyndod oherwydd marwolaeth ei fam ac efe yn ieuanc, a cheid llawer o 61 ei nain arno. Er enghraifft, yr oedd 61 llyfr ei nain yn drwm arno. Adroddai brawd yn y seiat wedi ei gladdii fel y rhoddasai fenthyg llyfr iddo, ac fel y ipethodd, er gobeithio, gael fawr o ganmoliaeth i'r llyfr. Ei feirniadaeth ydoedd, Nid yw gystal a'r Beibl." Ceid ynddo yr elfen fasnachol yn dra amlwg, a llwyddodd yn y byd. Yr oedd ynddo y synwyr hwnnw i weled llinell derfyn cylch ei ddefnyddioldeb a'i wasanaeth goreu, a chadwai yn dyn tufewn iddi, er mai y tuallan iddi y safai y dyrfa, a'i chefn ato; ond cael ei wel'd neu beidio, ni hudid ef gan swyn poblogrwydd i ymaflyd ond yn yr hyn allai wneud gyda boddhad iddo ei hun ac er budd eraill, a'r can. lyniad fu cyflawniad gwaith mewn model nas gellid ei well. Bu yn arolygwr yr vsgol, ac yr oedd er ys blyn- yddau yn athraw ar ddosbarth o wyr ieuainc yn dechreu ar ddifrfwch bywyd. Efe, hefyd, ydoedd trysorydd yr ysgol a chronfeydd mudiadau eraill dor. asant allan o fywyd iach yr Ysgol Sul, ac yr oedd pob cronfa ar ei hennill o gel lie yn ei logell ef ar ei ffordd i'r banc. b Weithian y mae trip yr ysgol mor anhebgorol a'r cyfarfod athrawon, er nas ceir can amled a mawr fu ymdrech ein cyfaill ynglvn a'r bleserdaith flyn- yddol, yn casglu ac yn trefnu a daeth y salmon braf o'r Ddyfrdwy ag y gofalai ei gael a'i goginio ar gyfer yr arlwy yn rhywbeth i edrych ymlaen ato ac wed'yn i son .am dano. Llawer gwaith, hefyd, y bu y plant ddyledus iddo- am ei haelioni a'i ddar- pariadau danteithiol ar gyfer eu cyfarfodydd terfyn. ol. Gwaith arall ag yr oedd ganddo galon ac athrylith i'w gyffawni ydoedd gosod seti. Yr oedd ei wylio gyda'r gorchwyl yma ar nos 'Saboth yn ddeunydd llyfr. Danojosai y lleoedd tra dymunol oedd ganddo mewn stoc yn deby'g iawn fel y dengys siopwr ei wahanol nwyddau, ac anaml y colla,i gwsmer. Swynai bawb i'r seddau, a dofai a'i wen "fwgan y seti ei hun. Fore ei 4ngladd, Mawrth 22, cafwyd gwasanaeth yn addoldy St. John St., a phriodol ydoedd dod ag ef i'r fangre hoffasai gyhyd. Daeth dolen ei arch yn rhan o'r gadwen a'i cydiai wrth y ty." Daethai cyn- hulliad teilwng ynghyd i'r gwasaaneth prydferth a gaed, rhan yn Gymraeg a rhan yn Saesneg, dan ar- weiniad y Parchn. W. Sylvanus Jones, M.A., a John Roberts, Bolton (brawd yn nghyfraith yr ymadaw- edig). Canwyd I' Lead, Kindly Light ac "0 Fryn. iau Caersalem, a chaed darnau addas ar yr Organ gan Mr. H. D. Williams. Yna aeth yr angladd ar draws y wlad i gapel Rhiw lal, a dodwyd y gweddill- ion i orwedd gyda'r tadau yno, lie hefyd y gorwedd John Parry a Garmonydd. Gadawodd frawd, ynghyda thair chwaer—Miss M. A. Williams (ei house-keeper), Mrs. Darbishire, a Mrs. Gale. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth yn Llanarmon gan y Parchn. W. S. Jones, a John Roberts, ei ewythr Mr. Jones, a Mr. Thomas Hughes, Caer. Gwnaed sylwadau coffadwr. iaethol iddo yn yr ysgol yn St. John Street gan Mr. Robert Owen, ei hen gyfaill, ac eraill, ac yn yr eglwys nos Saboth, gan Mr. Owen Griffith, a threul- iwyd seiat gyfan nos Fawrth i dynnu gwersi oddi- wrth ei fywyd defnydcfiol. Heddwch i'w lwch.- M.P.
"YR AR--\IACE,D,ON-AC WED'YN."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"YR AR-IACE,D,ON-AC WED'YN." (Dywedir mewn hen Fynegair er nad mewn geir- iaduron 'ereill—mai ystyr y gair Armagedon yw "Bryn yr Afalau," neu Bryn y Ffrwythau," neu Biyn yr Efengyl "). GeHir canuoar y don Palestina," &c. Er cymaint lled: y byd, A chyfoeth teg pob gwlad, Cenfig,en du a fyn,ai'n hy Gael myn'd i'r Gad. Ond uwch-reola Duw Bob peth sydd dan v sler, Ac Armagedon erch wna'n Fryn Y Ffrwythau Per." Rhag colli Rhyddid dlrud Pob gwron dynodd gledd, Ac yn yr Armagedon fawr Caed ami fedd Gollyngwn ddeigryn cuddi, Er llavv-enhaus mewn hedd, Wrth gofio'r sawl a aethant lawr I ,gynnar fedd. Cyfrifer ninnau oil Yn deilwng megis hwy. I gariocro,es er lleddfu loes Rhai mawr c.u clwy'; Ac os. mai marw raid, Tyf ffrwythau per o'n bedd, A bendith aberth ninnau gawn, :Mewn Nefol Wiedd. Goddefa'r tirion Dduw, Yn ei ddoethineb cuddi. I fwrw'r Drwg a'r Da 'run fath, I'r Pair 'run dydd Yr oruchwyliaeth lem Wna'r Dia o'i bla yn rhydd Y Drwg ynglyn a'i bechod a I'r Farn a fydd. Diolchwn yn y Prawf Fod gennym dyner Dad, Sy'n poeni, ie'n fwy na ni, Wrthi wel'd ein stad A phan ymwared, gawn— Adduned gwnawn yn awr— Os dial raid. gad-awn y gwaith I'r Barnwr Mawr. 'Nol aberth Dewrion Byd Lawr at Anifail tlawd, (x) Rho'ir terfyn byth ar Ryf,el blin— Try Cas yn Frawd- Bydd melus wel'd y dydd Gwneir tirion sivch o'r cledd, A phawb-heb gofio dial mwy, Mewn (Bythol Hedd! (x) Da fyddai cofio Mudiad y 'Groes Las syd-d a'i amcan i sefydlu ysbytty, &c., ar gyfer meirch rhyfel claf ac anafus. Criccieth. R. LLOYD OWEN, M.D. Ionawr 13, 1915. -P-
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
MR. PERCY RANDELL, Consulting Optician, Queen Street Arcade, Cardiff, has received a large number of Testimonials from all members of society as to the excellence of his Spectacles. Consult him.