Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

GWEINIDOG OFF A.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEINIDOG OFF A. YSTORI BYWYD CYMREIG GAN HUGH PIERCE ROBERTS, B.A. PENNOD V. Tlodi Gweinido,g. Ymhen pythefnos dechreuai Owen deimlo yn trefol yn Llanybryn. Yr oedd yn dyfod i adnabj aelodau ei eglwys, yn enwedig y rhai a arferciÍ fynychu eyfarfodydd yr wythnos. Er fod dau gant a hanner o aelodau, rhyw hanner cant neu d.riuga'n ddeuai yn gyson i'r seiat a'r cyfarfod gweddi. \.1 nechreu Hydref, cychwynwyd Cymdeithas Lenydi- ol a Dos.arthi.adau Beiblaidd, gyda'r canlyniad fed gan y gweinidog newydd lond ei ddwylaw o wai1 ar gyfer y gaeaf. Taflodd ei hun enaid a chalon i'r gwaith, cyfansoddodd a thraddododd bre.gethau oedd yn gynyrch llawer o astudio a meddwl, ac er ofni .0 hono weithiau nad oedd llawer o'i wrandawyr yn eu deall yn drwyadl, eto llonwyd ef wrth ddeall fod y cynulleidfaoedd wedi cynyddu ,erei ymsefydliad yn Offa. Yng nghyfarfodydd yr wythnos rhoddai ei oreu i'w braidd, a chan gadw mewn cof gyngor Thomas Davies, ymweJai yn gydwybodol a'r bobl, gyda'r canlyniad i'r blaenoriaid deimlo yn fuan fod y gwaith yn llwyddo, a'u bod wedi cael. yr iawn ddyn i fugeilio yr eglwys. Ni ddygymodai Jonah Lewis yn wastad a'r darnau o feirniadaeth ddiweddar a daflai Owen amhell dro at y gynulleidfa,' ond gor- fodid ef i,gydsynio iddynt lwydclo yn eu dewisiad o weinidog. Un noson, aeth Owen adref gyda Jonah Lewis ar ol y seiat. Trig.ai Jonah mewn ty a elwid gan ei gymydogion yn dy mawr, ac yn wir yr oedd yn fwy na'r bythynod gwael oedd ü'i amgylch. Gwr gweddw ydoedd, yn byw gyda'i ddwy ferch. Yr oedd Kate, yr hynaf, yn ddynes ieuanc lied blaen, tua deg ar hugain oed, a theimlai ei bod ym myned yn hen ferch yn gyflym. Yr oedd yn ddeallgar a gwybodus, ac edrychid arni fel un o ferch-ed .mwyaf blaenllaw Capel Offa. Hi fedrai lywyddu cyfarfod chwiorydd gyda 'sang froi,d perffaith ymwelai bron yn feunyddiol a'r claf a'r tlawd; darllenai b,apurau yn y Gymdeithas Lenyddol ac o holl chwi- orydd Offa, hyhi ddewisid fynychaf i gyflawni un- rhyw orchwyl arbennig ynglyn a'r achos. Yn herwydd y pethau hyn, yr oedd er's tro byd wedi dod i'r casgliad y gwnelsai wraig gweinidog ragor- ol. Ymgynghorodd Owen gyda hi ar un neu ddau o achlysuron parthed ei waith ymysg y bobl ieuainc, a darfu i'r gydnabyddiaeth hon o weIth ei barn ei boddhau yn ddirfawr. Pan y daeth Owen i'r ty ,gyda'i thad, croesawodd ef yn siriol, a decfrreuodd baratoi swper. Yn y cyfamser, ymgomiai Jonah ILewis a,c Owen am bethau yn gyffredinol. Yda'chi wedi dod i nabod eich brodyr yn y weini- dogaeth?" gofynai Jonah. 'Rydw'i wedi eu cyfarfod nhw i gyd, ond yn nhy Mr. Martin Roberts yn unig y bum i." Yr oedd Kate yn gosod y llian ar y bwrdd, ac am ryw res-win neu gilydd, gwridodd, edrychodd yn gyn- hyrfus, a phrysurodd allan o'r ystafell. Gadeweh weled," eb.e ei thad, 'dydi hi ddim yn hawdd cofio faint o weinidogion sydd yn Llany- Ihryn. Mae'na ddau F-ethod;sthe;b,aw c,iich hunen, dau Fedyddiwr, dau Annibynwr, ac un Wesle: wyih 0 weinidogion Ymneilltuol 'chrefn, dyna'r Person a'r Curate-deg o weinidogion yr efengyl—go lew i le fel Llanybryn mi ddylem fod yn dda." Mae'na lawer o yfed yma, allwn i feddwl," ebe Owen. "Fedrwn i ddim peidio cofio geiriau'r bar,dd "Wherever God erects, a house of prayer, The Devil is sure to build a chapel there And .'twill be found upon examination, The devil has 'the larger congregation.' Daniel Defoe ydi awdwr y llinellau ene, ynte?" ebe Kate, yr hon a ddaethai i mewn drachefn, ac oedd yn awyddus i wneud argraff ar Owen. Wir, 'rydw'i'n meddwl eich bod yn iawn," atebai ef, beth bynnag, mae nhw'n wir." Mae gen i ofn eu bod nhw ynglyn a Llanybryn," ebe Kate; yr ydw'i'n ysgrifenyddes Undeb Dir- westol y Merched, ac 'rydw'i wedi synu fod cyinin o fercbed yn chware efo'r ddiod. Mae'na lawer o yfed yn y pentre, fel yr yda'chi'n deyd, Mr. Owen, ac y mae hyd yn o,ed aelodau crefyddol ym mynd i'r tafarndai os meddylie nhw nad oes neb yn eu gweled nhw." 'Rydw'i'n dal y dyle pob aelod fod yn llwyr- ymwrthodwr," ebe Jonah; "mi fase yn well i'w pocedi nhw heb son am eu heneidie." Fe ddywedir fod y gweithiwr Prydeinig yn gwar- io o bump i saith swllt yr wythnos am ddiod fedd- wol," ebe Owen 'dydi hi ddim yn rhyfedd fod yna ,dlodi yn y tir. Y fasnach feddwol ydi prif elyn yr eglwys' Gristionogol heddyw 'does diiii wedi dinyst- io gwaith y Diwygiad yn fwy. 'Dydw'i ddim yn sicr y dyl-em wneud llwyE-ymwrthodiad yn amod aelodaeth, ond fe ddylai'r eglwysi daflu eu holl ddylanwad ar ochr Dirwest. a gwneud yfed cymedrol bron yn amhosibl i'w haelodau." Gobeithio y dowch chi allan yn gryf 0 blaid Dirwest, Mr. Owen," ebe Kate, gan edrych yn ddengar ar y gweinidog newydd, mi fase'n beth da i gychwyn Cyfrinfa y Temlwyr Da. Ychydig iawn o waith dirwestol wneir yn y lie. Mi dreiodd Mr. Martin Roberts wneud tipyn ychydig o flynyddoedd yn ol, ond chafodd o fawr o lwyddiant. Sut oeddechi'n lecio fo, Mr. Owen? Ddaru chi ddim deyd eich bod wedi galw yno?" Mae o'n ymddangos yn ddyn rhadlon a dymun- ol." Oh, ydi, mae o," ebe Kate, yn wawdlyd, 'does neb yn fwlv felly. Ddaru chi gyfarfod Mrs. Rob- erts?" Gwyddai Kate fod Grace Wynne yn aros yn Bryn Awel-a phan y clywodd Owen yn dweyd ei fod wedi galw yn nhy Mr. Martin Roberts, dywedodd rhyw ymwybyddiaeth wrthi iddo gyfarfod Grace a chael ei swyno ganddi. Yr o,edd Kate. wedi gweled Grace lawer gwaith, oblegid treuliai hi a'i mam rai wythnosau yn flynyddol yn Bryn Awel, ac, fel holl diigolion Llanybryn, edmygai ei phrydferthwch. Ond tybiai Kate fod Grace, yr hon a wisgai yn ffas- lynol yn wastad, ym meddwl mwy o ymdangosiad na dim arall. Gwisgai Kate yn syml a di-addurn, ac ofnai yn fawr rhag' fod ymddango.siad deniadol (irace wedi gwneud argraff ar Owen, ac ymha le bydd ai ei rhagOlygon hi wed'yn ? Awyddai yn angerddol i wybod a oedd sail i'w hofnau, ac hyderai y byddai i Owen gyfeirio at Grace ar ol siarad am ei hewythr. Ond ni wnaeth Owen ddim o'r fath. Pe y digwydd- ,as,ai i Grace fod yn ferch ieuanc arall, gallasai yehwanegu yn ddi dam ei fod wedi ei gweled, ond yn gymaint a bod ei deimladau tuag at Grace o'r fath oeddynt, gwyddai na aliai yiigan ei henw heb fradychu ei hun, felly atebodd yn gwta. Do, mi gyfarfyddais Mrs. Roberts." ",Mae ei chwaer, Mrs. Wynne, yn aros yno 'rwan, ',rydw'i'n meddwl," ebe Kate, yn ddi-niwed ddigon. Ond nid atebodd Owen air. Mae Biyn Awel yn dy neis, yn tydio?" ychwan- egai Kate. Mae pobl Ebenezer yn falch o hono. I'r hwn sydd ganddo. y rhoddir.' Mae Mr. a Mrs. Roberts yn gyfoethog, ac yn eael ty ardderchog am ddim, neu y nesa' peth i ddim, tra mae gweinidog- ion ereill sy'n dlawd, ac yn strug.glo, efo teuluoedd mawrion, yn gostio ffeindio tai iddyn' eu hunain. Dyna IMr. Esmor Pugh, .gweinidog Gilead, capel y Bedyddwyr ym mhen arall y pentre eglwys fechan ydi Gilead yn rhifo rhyw gant o aelode alia 'nhw ddim rhoi xhagor na phump swilt ar hugain yr wythnos i Mr. Pugh. Mae ganddo fo wraig wan- edd, a phump o blant bychin, ac mae nhw'n byw mewn ty llai na hwn. Sut mae o'n cael y ddau ben ynghyd, 'dwn i ddim. M.ae'n biti ei weld o; mae ei ddillad yn shabby,' a'i goler bob amser yn fudr, heblaw ar y Sul, ac y mae'n amheus ydi o'n cael digon o fwyd. Mae o'n warth i Gristionogaeth fod gweinidogion yn cael bod mor dlawd," a dechreuodd Kate fyned yn hyawdl, canys yr ydoedd yn ferch garedig, a gwnai gryn lawer yn ei chylch bach i leddfu tlodi. Mi fyddai'n synu'n ami fod cymin o ddynion ifinc yn mynd i'r weinidogaeth c genteel poverty ydi o i naw o bob deg." Y drwg ydi fod cynifer o eglwysi bychain gyda rhyw bed war ugain o aelodau, neu lai," ebe Owen "dyna sy'n cyfrif am lawer o dlodi gweinidogion. Mae o'n gywilydd o beth fod gan yr un enwad ddau gapel o fewn hanner, neu hyd yn oed, ch.warter milltir i'w gilydd, a gweinidog ar bob un, ond ma'e o'n beth cyffredin yng Nghymru. Yn fy marn i, mae gormod o gapelau yn Llanybryn yda'chi ddim yn meddwl?" Ydw', wir," ebe Kate yr unig gapeli C respect- able ydi Offa, Ebenezer a Soar. Mae'r lleill yn achosion gweiniaid, bob amser dan y don." Ond rhaid i chi ,g.ael achosion bychin," ebe Jonah Lewis; "yr yda'ni fel Cyfundeb, wedi colli gafel ar barsel o lefydd yn y sir yma am fod yr hen dade yn wrthwynebol i gychwyn achosion newydd. 'Rydw'- i'n cofio Huw Roberts, hen flaenor yn Offa, pan oedd cychwyn achos yn Hebron ar get flynyddoedd lawer yn ol, yn codi yn y set fawr un nos Sul, ac yn bloeddio: Be sydd arnoch chi bobl? Cychwyn achos. o fewn hanner milltir i'r capel yma! 'Roedd John Jones, Llidiart Iago, yn byw dair milltir oddi yma, a,c yn dod yma ddwy waith, ac weithie dair gwaith, bob Sul. Be' ydi'ch meddwl chi, deudweh? Mi fyddwch yn codi capel wrth ddrws pawb yn f uan Ond mae dyddie Huw Roberts a John Jones, iLlidiart Iago, wedi mynd heibio, 'ddyliwn cherddith pobl ddim ymhell i gapel heddyw, rhaid iddy'nhw gael capel yn ymyl." Wrth gwrs, 'rydwi'n credu mewn nifer rhesymol o addoldai," ebe Owen, ac y mae'n iawn cychwyn achos newydd mewn. ardal newydd, gynyddol; ond 'rydw'i yn argyhoeddedig fod gormod o ryw fan achosion tila, sydd bob amser rhwng byw a marw. Mae crefydd yn colli ei hurddas o'u plegid nhw. 'Does 'na ddim synwyr i eglwys o. bedwar ugain neu gant o aelodau ,g,ael gweinidog iddi ei hun, a hanner ei I-ewygu! Mae pethe'n well efo ni na'r enwade erill," ebe Jonah. Wel," ebe Kate, sut mae Ebenezer gyn dy gweinidog, ac Offa heb yr un?" Wei, fy ngeneth i," atebai Jonah, o b'le daw'r arian i g'od un? Miae gyno'ni gymin a.g a fedrwn ni neud i gynnal yr achos. Mae 'na ddyled o ^600 ,ar y capel." Enillai Jonah arian da o dan y ddaear (.gymaint arall- a Mr. Esmor Pugh), ond yr oedd yn hynod o gynil; punt yn unig a gyfrannai at y weinidogaeth mewn blwyddyn. Yr oedd yn falch o'i swydd fel trysorydd, ond nid oedd yn esiampl o haelioni i'r eglwys. ct Mi ddylem fynd. i mewn am dy gweinidog," ebe Kate, yn bendant, gan weled ei hunan mewn dychymygvn feistres sefydliad o'r fath. Teimlai Owen braidd yn anghysurus wrth glywed y materion hyn yn cael 'eu trafod, ac ymadawodd yn lied fuan. Gwahoddai Kate ef i alw yn fynych, gan ei sicrhau y byddai croesaw iddo bob amser. Gan nad ydoedd ond hanner awr wedi naw teimlai Owen awydd cryf i alw yn Bryn Dedwydd. ty Mr. Esmor Pugh, yr hwn oedd ar ei ffordd adretf, i weled drosto ei hun beth oedd tlodi gweinidog. Gurodd y drws ddwy waith neu dair cyn iddo. gael ei agor gan Pugh ei hun, yr hwn a ddaliai yn ei freichiau faban dri mis oed, wylofain pa un a foddodd swn curiadau Owen. Oh Mr. Owen, dowch i fewn," ebe Pugh, "mae'n dda iawn gen i'ch gweled 'rydw'i wedi bod ym meddwl galw, ond 'roedd rhywbeth yn fy rhwysitro bob dydd." I. Arweiniodd Owen i'r gegin^ ac amneidiodd arno i eistedd mewn cadair siglo s £ gled%. ",Mae 'a ddrwg gen i fod ytn wedi mynd allan yn y study,' meddai; "chwi welwch mai dyn a theulu ganddo ydw'i, a rhaid i mi edrych ar ol y plant. 'Does gyno'ni ddim morwyn ar hyn o bryd." Dyn tal, eiddil gyda wyneb llwyd, oedd Pugh, tua phymtheg ar nugain edrychai yn garedig ond yn brudd. Yr oedd ei ddillad wedi gweled dyddi.au gwell; ar un penlin yr oedd clwt yn amlwg; a braidd na ddisgwyliech weled adlewyrchiad o'ch wyneb yn ei got ddu. Yr oedd ei ymddangosiad yn afler a thlodaidd, ond serch yr ,anfantais hyn, curai calon. gynnes a mawrfrydig ym mynwes Pugh, a meddai ar natur dda a thyner. Eglurodd i Owen fod ei wraig wedi myned i orffwys nid oedd yn gref, gan na wellasai yn hollol ar ol genedigaeth y baban. 'Roeddwn wedi meddwl cael awr neu ddwy i ddarllen. ebe Pugh. ond fe ddeffrodd yr eneth bach yma, ac fe ofynodd Mary i mi ei nursio hi am ychydig. Ah! mae hi'n eysgu; mi gymeraf hi i fyny i'r llofft. Esgusodwch fi Mr. Owen." Diflanodd,. Edrychodd Owen o'i amgylch, a gwel- odd ymhob man arwyddion tlodi: y cadeiriau dryll- iedig, y IliaYl carpiog, y drych toredig—dywedasant oil eu stori. Daeth Pugh i lawr y grisiau yn fuan. 'Rwan am ymgom," ebe fe. yn siriol, mae na ohaith am dipyn o ddistawrwydd. mae'r plant i gyd yn eu igw'lau. Yda'chi'n smocio? Mae'n ddrwg gen i—'does gen i ddim 'bacoi—fydda'i ddim yn smocio fy hun—fedra'i mo'i fforddio fo." "Triwch gatiad," ebe Owen, gan gynnyg ei bouch iddo. Diolch," ebe Pugh, 'rydw'i'n credu fod yna hen getyn yn rhywle." Ar ol chwilota, daeth o hyd i'r bibell, a dangosodd ar fyrder nad oedd yn amddifad o alluoedd ysmyg- yddol. Yr oedd yn ddyn rhydd, hoff iawn o sgwrs. Chwi welwch nid iBryn Awel ydi'r fan yma," ebe fe dipyn yn chwerw. Yr oedd yn ymwybodol o'i dlodi, ac er nad oedd ganddo gywilydd o hono, eto teimlai yn ddwys o'i herwvdd. Yr oedd Mr. Martin Roberts yn deyd wrtha'i eich bod wedi galw yno. Un o'r ibrodyr lwcus ydi o; mae ganddo eg- lwys fawr, lewyrchus, ac y mae o wedi priodi gwraig gyfoethog. 'Rydw'i yn fugail ar eglwys fechan, dlawd, a chefais i ddim ffortiwn tgyda'm gwraifg heb- law ei phrydferthweh a'i chymeriad. Ond rhaid i mi beidio cwyno: mae gyno'ni ymborth o ddillad, a tho uwchben." Debyg gen i eich bod chi sy'n weinidogion priod yn ei itheimlo yn anodd byw f,el y dymunech," ebe Owen, Fvda thipyn o betrusdod; fe ddisgwylir i chi igadw I fyny ymddangosiad ar giyflog bychan." 'Ryda'chi'n i,awn mae c'n fychan. 'Dydi llawer o hono'ni ddim yn cael digon i sicrhau angenrheid- iau bywyd, heb son am ddanteithon; ond fe ddis- gwylir i ni gyfrannu tuag at bob achos, a phrynu tocynau pob oyngherdd a darlith trwy'r cylch mae hi'n galed iawn Mr. Owen." Gofidiai Owen drosto. Amlwg ydoedd fod Pugh yn cael ei lethu gan bwysau tlodi dygn ac y mae canoedd o weinidogion yn Ne a Gogledd Cymru sydd ym methu gwneud eu gwaith fel y dylid ei wneud, ac fel y carent ei wneud, am y rheswm fod yn rhaid iddynt ymladd yn feunyddiol a'r Sblaidd wrth y drws. Nid yw y dogn bychan a roddir iddynt gan eu heg- Iwysi ac a elwir yn gyflog yn gyfartal i'r gofynion a wneir arnynt. Y canllyniad ydyw eu bod yn gorfod gwisgo dillad sydd yn ymylu ar fod yn garpiog; coll- ant eu hunanfbarch, ac ymollygant' i aflerwch; nis gallant brynu llyfrau, ac felly methant gadw jfyny a'r meddwl diweddar, ac eto, er eu clod y dywedwn, ant o gwmpas eu dyledswyddau gyda sirioldeb can- moladwy, igan (gynnal Gair y Bywyd yn ein pentrefi gweithfaol a'n hardaloedd amaethyddol. Meddyliai Pugh yn uchel o Mr. Martin Roberts, fel yn wir v g-wnai holl weinidogion ieuainc y Bed- yddwyr yn y rhan honno o'r wlad, canys croesewid hwy bob amser ym Mryn Awel, a derbyniasai rai gymorth ariannol ganddo. Mi fyddwn ym mynd i dy Mr. Roberts i de fel teulu bron bob wythnos," ebe Pugh. Mae o'n chap da. Mi gefais bapur pum' punt yn ddi-enw Nadolig diweddaf; mi gym'ra fy 11 w mai Martin Roberts yrrodd o." Rhagorol iawn." Awyddai Owen wybod batn Pugh am Grace Wynne, ond ni wyddai yn iawn pa fodd i lunio y cwestiwn. Modd bynnag, metrodd sylwi. Mae 'na nith iddo'n aros yno." = Oes,' ebe Pugh, gan- gil-wenu, onid ydi hi yn eneth neis? Gwelsoch hi 'ddyliwn.. Wyddo'chi be, mi wnaethai wraig iawn i chi. Mae hi'n eneth naturiol, alluog, brydferth, ac mor dda ag ydi hi o brydferth. Ond hwyrach mod i'n cymryd gormod yn ganiataol, ac na ddyl'swn siarad." 'Dydw'i ddim yn engaged,' os dyna yda'chi'n feddwl. ^yclwi'n casglu oddiwrthi yr hyn 'ryda' chi'n ddeud nad ydi Miss Wynne ddim, chwaith." Nag ydi, er syndod. Ond rhaid i chi frysio. Chaiff blodeuyn mor bropor ddim llonydd yn hir. Wrth gwrs, 'dydi hi ddim yn iperthyn i'ch enwad chi. Ha! haT Ni wvddai Owen pa fodd i gymeryd sylwadau Pugh. "Darllenodd Pugh ei feddyliau, a dywedodd: Peidiwch a meddwl mod i yn rhy hy' arnoch chi, Mr. Owen, ond brod'yr yda'ni. ac mi allwn drafod materion fel hyn heb gam-ddeall ein gilydd. Cym. erwch gyngor gen i: treiwch ennill Grace Wynne. Woo and win Grace Wynne.' Peidiwch ag aros yn ddi briod. Hwyrach eich bod yn tosturio wrtha'i gyda gwraig wanaidd a phump o blant,. ond faswn i dim ym mynd yn ol i wynfydedigrwydd hen- lancyddol. Nid da bod dyn ei Tiunan mae arno angen ymgeledd cy mwys-yn enwedig yng ngwaith y weinidogaeth. Fe fydd angen cyngor a chydyrn- deimlad arnoch yn fynych, ac all neb ond gwraig e1 ,yn roi i chi. 4 Yes, woo iind. win Gtacc vV'ynti'C, Ewch i mewn am dani, ac enillwch hi." (I'w barhau).