Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADOLYGIAD.

NODION 0 BENLLYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 BENLLYN. Claddedigaeth Mrs. D. E. Jones.—Cymerodd cladd- edigaeth IMrs. D. E. Jones, High St., le dydd Mercher diweddaf ym mynwent Llanfor, yr hwn oedd yn private. Gwasanaethwyd -gan y Parch. R. R. Wil- liams, M.A., a H. Harris Hughes, B.A., B.D., Ler- pwl. Mawr yw ein cydymdeimlad a Mr. Jones yn ei drallod. IHen Filwr.Bu Mr. Jim Jackson farw yn y tloty dydd Llun diweddaf yn 92 oed. Bu drwy yr Indian Mutiny, ac yr oedd ar y ffordd i faes y 'Crimea, pan y cyhoeddwyd heddwch. Peth eitha dyddorol fydd- ai gwybod ymha le y bu swyddogion ei gatrawd yn chwythu eu hanadl olaf. Ai yn y tloty tybed? Cynnyg eu hunain,-Y mae yna rhyw wyth neu ddeg o ferched ieuain!c wedi cynnvo- eu hunain i'r Red Cross. 'Galwyd ar Miss Mair Roberts, Bryn- melyn, Talybont, a Miss Anwen Roberts i gael ar- holiad feddygol i Lerpwl y dydd o'r blaen. Ni chaw- s.ant wybod y canlyniad eto. M.arw yn y Dardanelles.—Dydd .Llun daeth y new- ydd i'r dref fod Mr. Jack Hewitt wedi ei ladd yn y Dardanelles. Bu y brawd yma a'i deulu yn byw yn y Bala am lawer o flynyddau. iMae ein cydymdeim- lad dyfnaf a'i rieni oedrannus. Newid <y Drefn.—Y mae dull y gwasanaeth wedi ei newid yehydig yng nghapel Tegid. Wedi canu yr emyn ddiweddaf o'n gwasanaeth mae y gynulIeidfa i aros ar eu traed tra fydd y pregethwr yn adrodd y weddi apostolaidd. Am'can hyn ydyw ceisio atal dipyn ar y rhuthro gwyllt sydd yn cymryd lie pan fydd y gwasanaeth drosodd. Y Cadeirydd Newydd.— Cadeirydd newydd y Cyng- or Dinesig ydyw !Mr. John Williams, Postfeistr. Anrhegu yr Athrawon.—Y mae tair o athrawesau Ysgol Sir y Merched yn ymadael y tymor hwn. Cym- erodd yr ysgolheigion fantais ar yr amgylchiad i ddangos eu parch a'u hedmygedd ohonynt. Anrheg- wyd prynhawn dydd Gwener Miss Davies, a Cake Stand,' a Miss Ethel Owen, B.A., a Silver Ink Stand,' a 'Miss iMyfanwy Morris, A.L.C.M., a 'Photo Frame.' Arbol,iad,au.-Y, mae arholiadau y Seniors a'r Jun- iors yn cymryd lie yn yr Ysgolion Canolraddol yr wythnosau hyn. Llythyrau.—Y mae rhieni y milwyr frwydrasant am y Dardanelles yr wythnos ddiweddaf yn derbyn 1 liythyrau o hyd, pa rai sy'n arllwyso teimladau tor- calonnus iawn. 0 Rhosgwalia.—Daeth nodyn o Rhosgwalia yn dweyd i Mr. Robert Jones, un o wasanaethyddion Mr. Jones, Maesfallen, roddi te parti rhagorol i ysgol- heigion ac athrawon yr Ysgol Sul. Rbagorcl onite? Haedda y igwr hwn uchel .glod petai am ddim ond am feddwl am weithred o'r fath.

NODION 0 FALDWYN.

Family Notices

,--....--,,>..._,-::"..;;:.;:...=---;:-<.::;-;:;;;::-.::-::;;:…