Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Terfin Streic yr Alcanwyr.|
Terfin Streic yr Alcanwyr. MAE streic alcayl-wvr Llanelli ar ben. Ddydd Gwener. cyfarfu cynrychiolwyr 2,000 o weithwyr yn Neuadd St. Pedr, Llanelli, a chymerwvd pleidlais drwy r tugel ar gynygion y meistri. "i canlyniad oedd mwyafrif o 54 yn ffafr derbyn amodau A y meistri. Penodwyd pwyllgor i ymgynghori a'r meistri er mwvn dechreu gweithio gynted ag y gellir. Cytunir i dderbyn 22% y cant yn is na'r saTon cvflogau.
O Ffestiniog.
O Ffestiniog. C Ni raid afradloni dawn na threthu gofod i geisio ar- gyhoeddi neb fod Ffestiniog wedi ei donio yn hel- aeth a'r gras hwn; a chafodd gyfie arbenig i ddangos ei hun yn ystod y dyddiau diweddaf. Hebryngwyd gweddillion y bachgen bach a fodd- odd i fynwent Bethesda ddydd LInn gan dyrfa fawr, ac amlygid teimladau dwysion o bob cyfeiriad. Di- gwrddai fod yn ddechreu'r mis'" fel y dywedir, mewn aiurvw or prif chwarelau-yr oedd hyny yn fantais i lawer roddi eu presenoldeb: fel, rhwng pobpeth, yr oedd hwn yn un o'r cynhebryngau llu- osocaf welwyd yn yr ardal er's llawer blwyddyn. Ond nid yw "pethau i derfynu gyda'r angladd. Drwg genym glywed fod rhieni y feychan, yn enw- edig y tad, mewn gwaeledd mawr, ac wrth reswm mae yr ergyd hon wedi ei daflu lawer yu mhellach. Yn ngwyneb hyn, mae yr ardal wedi penderfynu eu cynorthwvo yn y modd mwyaf sylweddol dan eu profedigaethau trymion. Bydd casglyddion ewyll- vsgar yn euro wrth bob drws ar fyrder ar eu rhan. Diau y cant dderbyniad siriol ar bob aelwyd a chyf- raniadau helaeth. Ysgrifenydd y mudiad yw Mr ll. G. Jones, Vron Hill, a Mr J. Parry Jones, Y.H., yn drysorydd. Mwyn genym ddeall fod Mr Parry Jones yn gwella o'i afiechyd diweddar ni all yr ar- dal fforddio colli gwasanaeth dynion fel efe ond am dymhor byr iawn. EISTEDDFOD Y WESLHYAID. Crvbwyllais am yr uchod yr wytlmos ddiweddaf yn iiglvn -t'r canu yn yr awyra rhaid fod peth gwir yn fy ngosodiad gan fod cryn lawer 0 wyntoedd ystormns yn ei hanes pan y daeth. Llanwyd y gad- air. yn absenoldeb Mr R. Roberts, Dolawel, gau Mr Richard Jones, un o is-oruchwylwyr Chwarelau Oakeley, a rhoddodd gyfrif da ohono ei hun fel cad- eirydd. Arweiniwyd yn ddyddorol gan Barlwydon. Y beirniad cerddorol oedd y Parch R. D. Hughes, B.A., L.T.S.C. (Pencerdd Arfon), Northenden. Dyna ddigon o address, beth bynag am bwysig- rwydd. Dywedai pregethwr yn ddiweddar, wrth draethu yn felus ar Job, fod cyfeiriad byr yn aw- grvmu mawredd ac enwogrwydd. Po fyraf fyddo y cvfeiriau, enwocaf fyth fydd y person. Dyua fel yr osdd hi gyda Job, ineddai ef. Yr oedd yn adna- byddus i gylch eang iawn, fel yr awgryma ei gyfeir- ad byr yn adnod gyntaf y llyfr: Ac yr oedd gwr Tn ngwlad Us a'i enw Job." Nis gwn a fydd yr athrawiaeth hon yn dderbyniol gan Mr Hughes, y beirniad cerddorol. ai peidio; gwnaed a fyddo da yn ei olwg gyda hi. Cafwyd cystadleuon campus, meddir. yn yr Eis- teddfod hon, yn arbenig yn yr adran gerddorol. Yn 91 mhlith y buddugwyr gwelwn enwau loan Brothen, Abbey Williams, Llinos Moelwyn, Llinos Gwalia, Owain Barlwyd, Ted Williams, Evan Harris, Ilichd. Williams, loan Alaw, a Chor Gwaenydd, dan ar- weiniad Griffith Davies (Dulyri). Cafodd y beirniad ei hun mewn dwfr poeth fwy nag unwaith, meddir, yn enwedig gyda'r unawd soprano a'r her-unawd. A'r peth goreu, medd rhyw hen air, i ddyn wedi myned i ddwfr poeth yw myned at ei gyfeillion; byddant hwy ar adegau felly yn ddigon oerion. Llinos Moelwyn a Llinos Gwalia fuont gydradd ar yr uuawd soprano, Ar y Traeth," ond nid pawb oedd yn cydolygu mwy nag mewn mil o achosion cyfZelyh. Bydded pawb yn sicr yn ei feddwl ei hun. Ond gyda'r her-unawd y bu mwyaf o gynhwrf. Galwyd pedwar i'r llwyfan ond safai y gystadleu- aeth l'hwng Llinos Moelwyn a Ted Williams. Y naill yn canu The Holy City," a'r Hall yn canu He layeth the beams." Llinos Moelwyn gafodd y gwpan arian a Ted Williams gafodd y clod. Dywed y cerddorion proffesedig y dylasai ansawdd yr un- awdau gael rhagor o sylw ond Mr Hughes oedd bia penderfynu hyny y tro hwn, a gwnaeth hyny yn ddiau yn gydwybodol. Waeth heb hel dail, mae Llinos Moelwyn yn dod r,,olv, trwy'r te-w a'r teiieli, iel y dywedir, ac y mae ganddi ddigon o ysbryd i orchfygn cyfandir cewch ei chlywed yn y ddinas fawr yna Nos Wvl Dewi, a choAwch fyned i'w gwrando. Y HUEW. Os bu y rhew dipyn yn hir yn dod i'w gyhoeddiad eleni, ymddengys fel pe b'ai am wneud iawn am yr oediad y dyddiau hyn. Bu llawer o godymu hyd yr heolydd yma nos Sadwrn, a bu agos i un ferch ieaanc a chael damwain boenus ar Bont y Queen's. Da oedd gwaith yr awdurdodau yn bwrw halen hyd yr heolydd etyb hyn well dyben na bwrw halen ar gig noeth fel y gwneir yn fynych ganddync. GWYL DEWI. Mae yr Wyl Genedlaethol Gymreig yn agoshau a gresyn fyddai iddi lithro heibio heb un cais i'w ciiynal a'i choledd yn ein hardal boblog. Pa le mae caredigion yr wyl y blynyddau aetlmnt heihio: Go- beithio nad yw eu gwladgarwch yn claiaru heb son am oeri yn nhreigliad y blynyddoedd. PKTDEEIX. -0-
Twyilwr yn Hghaornarfon.
Twyilwr yn Hghaornarfon. YN llys ynadon Caernarfon ddydd lau, cyhuddwyd Robert Hudson o gael pedair oriawr a chadwen ar- ian trwy dwyll gan Robert Lloyd, oriadurwr, High Street. Tabyrddwr gyda'r milisia yw'r cyhuddedig, ac aeth i siop Mr Lloyd gan ddweyd ei fod yn gweithio ar fferm Ty'ntwll fod 12p yn ddyledus iddo gan ei feistr, a'i fod yn awyddus i brynu or- iawr. Rhoed iddo bedair oriawr am y mynai i'w feistr ddethol ohonynt. Fodd bynag. caed y gad- weri wedi ei gwystlo yn y dref, a dwy oriawr yn Mangor, ac yr oedd y ddwy arall yn ei feddiant pan ddaliwyd at. Gohiriwyd yr achos. O Bwriedir mabwysiadu Deddf Llyfrgelloedd Cy- hoeddus yn Nghonwy. Oherwydd lledaeniad y frech goch, mae'r ysgolion dyddiol yn ardal Wyddgrug wedi eu cau. 0 fewn cylch Rhaith Dosbarth Connah's Quay, ni fu ond 44 farw y llynedd, Mae Miss Rosina Davies, yr efengyles, yn gor- wedd dan yr anwydwst a dolur gwddf. Mae Mr Pritchard Morgan, yr A.S. dros Ferthyr, wedi cychwyn adref 0 China.
- Barddciilaeth
Barddciilaeth IESU YN SIAMPL. YK lesu wna arosyd-yn ei swydd Yn siampl i fy mywyd Weleaiampl ddif rychetilyd, A heb un bai yn y byd. HWFA MON. DYNGARTvVCH DAN EI GORON. (Achlysurivyd y llinellau hyn gan ymdrcrhion cyfeill- ion i ddod o hyd i gorph bachgen bach a foddodd yn yr afon Dwyryd ) Y ':AUAF grwydrai'r cymoedd Yn rnraieh yr awel lem, A;r eira ar fynyddoedd Ein bro, yn oer ei drem Ond drwy y meusydd llymion, Fel cysgod ansel gwyn, Dyngarwch dan ei goron Siriolai noethni'r glyn. Llaw dyner cydycndeimlad Fu'n plethu'r goron gain Mae blodeu teca'r cread Yn tyfu rhwng y drain: 'Roedd rbosyn gwyn tosturi Yn gwenu ar ei bron, A hrielIl teg tirioni Yn harddu'r goron hon. Edrychai'r Dwyryd donog I Yn euog ar bob Haw A llawer clogwyn cuchiog Fel llofrudd yn ei traw Pob awel, er ei hafiaeth, Alarai rhwng y coed, AYrth glywed am farwolaeth Y bachgen deuddeg oed. Hyd lwybrau y drychinoedd Fe ddaeth y nos ar daen, A'r Ddwyryd drwy y glyncedd Yn llifo fel o'r blaen Dychwelodd caredigion I'r dref mewn siom bob un, A'r bachgen yn yr afon Mor oer a'r don ei hun Fe gauwyd drysau'r ardal Am wythnos wedi hyn, Ac un heb neb i'w gynal 0 dan y cenllif gwyn ;— Fu engyl hyd y glannu Dan aden ddu yr hwyr,— Hen gennant y Cymerau A Duw yn unig wyr. Dyngarwch dan ei goron Er hyn yn gys-on gaed, Mae'r blodeu eto'n wynion Yn tyfu'n ol ei draed Wrth roi y bachgen druan Yn ol mor wael ei lun, Yr afon dan bob ceuian Ymdrechai guddio'i hun 11 Ac os bu cleddyf oeufin Gan angau llytn erioed, Fe'i cododd yn y ddrychin At fachgen deuddeg oed Mae'r bedd, rieni anwyl, Yn llaesu'r storom fawr, Ei gwrddyd ni raid disgwyl Ond yn y nef yn awr. BKYFDIR- HEN GERDDI. B6 adeg pan oedd cerddi mewn bri mawr. Prif neges llanc, wedi dod i'r ffair, oedd cael cerdd newydd i fyned adref; erbyn heddyw, maent wedi myned i dir annghof. I'eallai y bydd hon yn ddyddorol i rai o ddarllenwyr y -CLWYDFA B. HEN GOFION FY NAIN. YN awr, fy mwyn gyfeillion naws union cyd-nesewch, Mae genyf, os caf genad, ryw ganiad newydd gewch: Ar ryw brydnawn mi glywais Hugh Moiris o'r Cae Main Yn adrodd rhyw hen bethau a fydd,¡,i'n nyddiau Nain. 'Boedd hen drigolion Cvmrn yn htff o ganu gynt, X chanddynt aur ac arian yn hoewlan ar eu hynt Cyfranu i'r tyiodiou yn rhwyddlon bydfJai rhai'n, Doedd fawr o drethi trymion yn amser lion fy Nain. 'Roedd Morgan Pugh o'r Pennact, a Rolant Pant y Wrach, A ^VFeirig Bryn yr Odyn, a Ben o'r Tyddyn Bach, Btwb ar ei dir ei hunan, mor hoewlan oedd y rhai'n, Yn byw yn nghanol llawnder, yn amser gwych fy Nain. 'Roedd Morris Llwyd o'r Dolydd, a Dafydd y Bryndu, Vn perchen aur a.c arian, mor Uydain yn mhob llu I gadw buwch a mochyn, fe gai y tlawd ryw lain o dir, i fyw'n tyaurus, yn nyddiau oes fy Nain. 'Doedd fawr o gwyno am diroedd, a llusgo gweflau'n llaes, 0 achos bod y ffermwyr yn cydio maes at faes 'Doedd fawr o feddwi a churo, nac achos rhwystro Thai B. 'Doedd odid un afradlon yn nyddiau lion fy Nain. Mae wyrion i rai ydoedd yn perchen tiroedd teg, Wrth feddwi a chyfreithio, ni ddal yr un o ddeg; Newynog y'ut a charpiog, fel ryw f wgauod brain, Ni fuasai neb yn credu mo hyn yn nydd fy Nain. Mae llawer wedi codi trwy rogri a d'reidi drwg, [ brynu tiroedd mawriop, f, I meibion Lletty'r Mwg; Ac yntau Robert Monis, ac Ellis Llechwedd Cain, Eu teidiau fu'n cardota yn nyddiau oes fy Nain. 'Doedd fawr o dC a choffi, ond uwd a llymru a llaeth, A maidd a chaws a 'menyn, a chig a fyddai'n faeth 'Doedd neb fel Cadi'r Felin, a gownau mu4in main, A bonnets llawn rubanau, nid oedd yn nydd fy Nain. Pais wen a bonet befar,-a gown merino coch A welwyd yn y faicbnad gan Marged Vol y Moch Mae merched Wil y ( arpiau a'u capiau muslin main, Yn boeth y byddo'r ffasiwn, ddywedai fy hen Nain. Mae'n rhyfedd gan hen bobol, wrth rodio gwlad a thre, W e!'j bwtaias a 'sbardynau gan bawb o lanciau'r lie; Chwips a chrysau, hetedings fydd hefyd gan y rbai'n, Fe gawsai :rhai'n eu rhegi yn nyddian gwych fy Nain. 'Roedd roab i Sion y Bili 'n myn'd echdoe heibio'r l'las, Mor faJched a'r hen Lasiffer ar gefn ei geffyl glas, Fe Rjrthiodd wedi tneddwi nes aeth a'i diwyn i'r drain, Fe f asai gwers o chwerthin am ei ben yn nydd fy Nain. -ia&eln rhyfedd genyf weled y fath dwyll yn awr ar dir, 'Does fawr am dala eu dyled, mae'n galed dweyd y gwir, Mae'r bobol am y gwaetha, medd Dina 'r Fotty Fain, Roedd y byd yn well o lawer yn amser gwych fy Nain. Mae'r wtad yn llawn o drafferth, mae hyn yn beth o bwys, Mae rhai am fj w'n gymedrol, a rhai'n didot Is dwys, c ambeU un am gwi wt mor feddw a Grasi fain, Nid oedd son am byn, tatwn bro na bryn, mi wn, yn nydd fy Nain. Wei, buan y da) ty ddo pob dyn a ffwndro'n ffol, A buan delo helynt hen amser gynt yn ol; Gwir gariau fo mewn bryn a bro, hyn wi f yn geisio'n gain, A'r wlBd yn rhydd, heb neb yn brndd, fel gynt yn nydd fy Nain. „ YWATK MKIEIOS A BARDB^GWACBKII. -0--
[No title]
Mae hi wedi myned yn rhyfel bapyr wyllt rhwng Idriswyn a'r Parch D. Oliver Edwards-y cyntaf yn y Weekly Mail, a'r ail yn Seren Cymru. Y bel droed yw pav-v-iit y cweryl, ac y mae llawer o bupar, mwstard, a| halen yn cael eu cymhwyso. Mae Cynghor Eglwysi Rhyddion wedi ei ffurfio yn y Drenewydd.
-------Sysegriad Esgob Hewydd…
Sysegriad Esgob Hewydd Bangor. YN Mynachlog Westminster ddydd lau, aed drwy' ddefod o gysegru y Parch Watkin Herbert Wil- liams, D.D., esgob newydd Bangor, a'r Parch H. J." Foss, esgob newydd Osaka. Yr oedd yn bresenol Archesgob Caergaint, Esgobion Llundain, Win- chester, Chichester, Llandaf, St Albans, Tyddewi, Llanelwy, a Johnson (gynt o Calcutta). Ar ol i'r cler- igwyr a'r esgobion gymeryd eu safleoedd priodol, darllenodd yr Archesgob Wasanaeth y CJmun, a chanwyd emyn ar don o waith Syr F. Bridge. Dar- llenwyd yr Epistol gan Esgob Winchester, yr Ef- engyl gan Esgob Llundain, a chanwyd y Credo. Yna traddodwyd y bregeth gan y Parch Henry L. Thompson, ficer Eglwys Mair y Forwyn, Rhydych- ain. Ei destvn oedd "Pethau newydd a hen" (Matt. xiii. [)2). Yn nghwrs ei bregeth, sylwodd ar henafiaeth yr Eglwys Gymreig, anhawsderau a rhag- olygon gwaith eglwysig yn Ngliymru a nododd allan ddyledswyddau arbenig yr Esgob Williams yn Esgobaeth Bangor, a'r ysbiyd yn yr hwn y dylai eu cyflawni. Ar derfyn y bregeth, arweiniwyd y ddau esgob newydd i un o'r capelau i wisgo'r arwj-ddlun swyddogol. Yn eu habseaoldeb, canwyd anthem o waith Syr John Stainer. Ar ol dychwel o'r capel, cyflwynwyd y ddau i'r Archesgob gan Esgobion Llandaf a Llanelwy. Ar ol i Syr John Hassard ddarllen gwys y Frenhines, tyngodd y ddau y llw canonaidd wed'yn corganwyd y Litani gan y Parch Dr Troutbeck, Prwyadur y Fynachlog. Gan eistedd o flaen yr allor, rhoes yr Archesgob yr holiadau ar- ferol i'r ddau, ac yna aethant i wisgo cyflawn wisg- oedd eu swydd. Canwyd anthem arall o waith Syr F. Bridge gan y cor. Wed'yn adroddod(I i-r Arch- esgob emyn, a ganwyd yn hyfryd ar hen don. Daeth y ddefod o gysegru wed'yn—yr holl esgobion yn dodi eu dwylaw ar y ddau esgob newydd, y rhai ar ol cwblhau'r ddefod a gymerasant eu safle gyda'u brodyr esgobol o fewrn r sancteiddiolaf. Ar ol gwneud y casgliad, gweinyddwyd y Swper Sanctaidd gan yr Archesgob. Ar derfyn y gwasanaeth, ar- weiniwyd y ddau gan Ddeon a Chanoniaid West- minster i'r Neuadd a elwir Jerusalem Chamber.
----,.0--,--Djffftyn Clwyd
-0- Djffftyn Clwyd DIXBYCH. DDYDD Sadwrn, aeth arnryw i fynu i bysgodlyn Gwaenynog i ddifyru eu hunain ar y rhew. Yn an- ff odits, torodd y rhew, a chafodd pump ohonynt droclifa. Gerbron Cymdeithas Lenyddol y Capel Mawr nos lau, darllenwyd papyr gan Mr D. H. Davies, B.A., Prifathraw Ysgol y Sir, ar Eplesiad." Mae Bwrdd Addysg Llundain wedi condemnio ad- eiladau ysgol Henllan; a'r Bwrdd Ysgol, mewn canlyniad,yn chwilio am dir i godi ysgoldai newydd- ion. Yn Llys y Manddyledion ddydd Mawrth, dyfarn- wyd i Mr Denson, Newmarket, dalu 7p i Mr T. A. Wynne Edwards am wneud aradr neillduol iddo. Hawlid 19p 19s 5c. N ANTGLYN. Mae Swyddfa Addysg wedi caniatau codi ysgol newydd yma. RHUTIIXN. Yn N ghymdeithas y Bobl leua nicbu dadl ar A ellir cyfiawnhau rhyfel?" Mri Gee a J. Williams o blaid, a'r Cynghorwr T. J. Roberts a Mr H. Ro- berts yn erbyn. Bu swper a chwrdd adloniadol yn nghapel Beth- ania nos lau. Mae'r (jwarcheidwaid wedi penderfynu yn erbyn i dafarnwyr roi diod i rai dan 15 oed. LLANELWY. Yn y Gymdeithas Lenyddol caed dadl ar A ddylai y Llywodraeth vmyryd a Defodaeth yn yr Eglwys?" Cad., Mr David Hughes; nac., Mr J Parry, Brynhyfryd. Gerbron Cymdeithas Lenyddol yr Eglwys caed Adgofion am Lanehvy" gan Mr S Powell. Sylw- ai fod hen gymeriad o'r enw Bella yn byw yn un o'r llusendai, ac yn y moddion brydnawn Sul elai o gwmpas i roi pinsiad o snisin i'r rhai fyddai'n cysgu. Yr oedd ei harch ganddi'n barod lawer o flynyddau cyn iddi farw, ac yn hono y cadwai ei bara a phethau eraill. Yn yr hen ffeiriau a gynelid yroedd hen gymeriad arall o'r enw William Jones (William fy Gacen), yr hwn a werthai gacenau yn darlunio pob math oedd yn dod i'r ffair, a darluniau o'r rheidweinydd, cog- yddes y tlotty, a bwyd yr esgob. Ar y pryd cedwid ysgol gan un Jenny Davies, a chanddi fachgen yn yr ystabl gyda Dr Roberts' Daeth y bachgen ynfeddyg ei hunan yn Nlireffynon. Yn y Sgwar lie mae'r Gwyddelod yn awr yr oedd vn bvw Elis Jones v llifiwr, cerddor da a chrythor Wm". Jones, hvnod am ei dduwioldeb John Barns, y gwelivdd O. Williams (Dywy 11), y llythyrglud- ydd; Ellis Jones, Typoeth, cerddor; ac Owen y Llofft, llytln rgludydd Rhuddlan a Rhyl, a'rdlythyr- au yn mhoced ei got fawr. Yr oedd Rhyl yn ei babandod, a chanoedd o wn- ingod yn rhedeg ar hyd y baru-iau tywod. Rhuddlan yn borthladd bychan bywiog, a dau agerfad yn rhedeg yn gyson rhwng >yno £ a Lerpwl. Rhenid llythyrau yn yLlan, nid wrth rif y tai fel yn awr, ond" yn ol yr enwau arnynt, megys Betsy Browes Menyn, Joe Bot, Mali beth ydi o'r glocli, Jac, v Potiwr, Owen y Llofft, Owen Dywyll, Ned y SirS; a Wil ffordd fawr. Yr oedd cludiad llythyr i Fanceiniou yn 9c. BODFARI. Ddydd Sadwrn, tra yn tori pren, piciodd darn ohono i lygad Mr Owen Williams. Glanclwyd,f £ gan ei niweidio yn dost. CLWTDFAB. Yn arholiad Bwrdd Rheolaeth Addysg Sir Gaer- narfon, ysgol ganolradd Porthmadog enillodd y safle flaenaf. Ymgeisiodd naw o'r plant yn arholiad lie o/ Rhydychain, a llwyddasant oil.
--0-----Y MOR-GWISGOEDD Y…
--0- Y MOR-GWISGOEDD Y MOR. DYLAI Rhieni a Gwarcheidwaid Rydd S'u bwriad anfon eu plant i'r mdr, ao vn byw bellder o Lerpwl, yn y lie cyntaf ymohebu a'r Don, Lord Street, am eu rhestr fanwl o Wisgoedd i fechgyn yn troi allan i'r mdr neu, os yn y dref, galwch a gwelweh y nwydd- au ddangosir yn eu Hadran Forawl. Gan eu bod yn gwneud y cwbl eu hunain, gellir cael siwtiau cyflawn am brisiau cyfanwerthol, yn thedeg o 7p., 10p., 15p. 20p, ifynu—Anfonir Rheatr o'r prisiau a phob many]. on ond cyfeirio i'r Adran Forawl The Don Associat on, Tiord Strt et a Paradise Street, Liverpool.
....--... ILlythyr Lorpwi,
I Llythyr Lorpwi, [Gan SYLLDREM], DATT ANGLADD PRHDD. PRUDD yw pob angladd, eithr pan welir dau yrtJ mlodau eu dyddiau yn cael eu galw adref yn ddisrf- yd, dyfnach yw'r prudd-der. Dyna hanes y ddau Gymro ieuainc a foddwyd ddydd Sadwrn, yr 28aim cynfisol. Claddwyd Mr Thomas Evans vn mynwent Anfield ddydd Merc her yn nghanol amlvgiadau o alar a chydymdeimlad dwys a'i deulu. Ddydd lau y cIadd.V:ycÍ y naIl, Mr W S..Jones, yn mynwent Glanadda, Bangor. Bu gwasanaeth yn nghapel Newsham Park am 9.80. Cludwyd y corph gan gyfeillion yr ymadawedig, a gorchuddid yr arch ag arwyddluniau serch ei gydnabod. Gweinyddwyd yn eifeithiol gan y Parchn R. A. Jones, B.A. (y gwein- idog), 0. Owens, a Hugh Roberts. Tystiwyd am fywyd addawol, gweithgar, y cyfaill oedd wedi liuno. Yna aed i orsaf Lime Street, lie y canwyd "Bydd myrdd o ryfeddodau." Yn Mangor yr oedd "llu mawr wedi ymgynull. Gweinyddwyd wrth y bedd gau y Parch 11. Rees Davies, gweinldogHirael. HAELTONI MK S. SMITH, A.S. *m*a ITTI, A. S' Er cof am ei fab, y mae Mr Samuel Smith., vr A.S. dros sir I flint, wedi cyfranu'n hael at amryw sefydliadau yn y ddinas. Yn mhlith y rhoddion ceir 250p at Nawdd-dy Myrtle Street; lOOp at Sef- ydliad y Gwyr Ieuainc Cristionogol; lOOp at Gym- deithas Beibl-Ddarllenwyr y ddinas lOOp at Gen- adaeth y Morwyr: 50p at yr hyfforddlong Indefatig- able 50p at Genadaeth y Boreufwv d Rhad Forea Sul; a 50p at Gymdeithas Dilladu v Tlodion. "TREM AE YR A WYllGYI.CH." Yr hyn a wna Syr John Lubbock i'r Saeson— gwneud gwyddonau yn boblogaidd trwy ysgrifau a darlithiau ymarferol-hrny a wna ein cvdwladwr hybarch, Mr Eleazer Roberts, Y.H., Hoylake, i'a cenedl ni. Mae ei enw yn hysbys i holl Gymry Lerpwl, ac fe i cydnabyddir yn un o'n gwyr mwvaf amryddawn, oblegyd ymhyfryda mewn lien, cerdd, seryddiaeth., gwleid.yddiaet'li, &-c. Nos Wener, ger- bron Cymdeithas Lenyddol Holt Road, traddododd ddarlith ddifyr tuhwnt ar y byd wybrenol, gan egluro ei sylwadau trwy gyfrwng llusern ledrith. Y cadeirydd oedd y Parch D. Jones, ac yr oedd cyn- ulliad Iluosog yn mwynhau'r ddarlith k CWEDD CYSTADTA; DAVID STIIFFT. Cwtdd cystadlu goreu't- tyrnhor hyd yma--dyna'r farn gyhoeddus am dano. Nos Fercher y bu, a daeth tyrfa fawr i'w fwynbau. 0 ran rhif yr ymgeiswyr yr oedd yn mhell tuhwnt i'r un fu o'i flaen y tymhor bwn yn y ddinas. a. chanmolid yn uchel ansawdd y cynyrchion. Mr John Morris, Y.H., oedd yn y gadair. tra'r awenau yn nwylaw Mr Lewis Jones (Ynyswr), V nys Hilbre. Anbawdd fuasai cael ei well; yr oedd ei bertrwydd a'i fywiogrwydd yn cadw'r hwyl yn ddiball. Y beirniaid oeddynt Cerdd, Mr G W Hughes, G. & L.T.S C.. Cefnmawrf Awen, Trisant: Lien, Parch R A Jones, B.A., Cer- idwen Peris, a Mr 0 Morgan Owen Cvfieithu' Mr J H Jones, Birkenhead Adrodd, Mri Ifan Tomos, Griff Davies, a Trebor Lleifiad Arholiadau, Parch W Jones, Mri W H Lewis, H H Hughes, J Thomas, a T G Roberts Amrywiaeth, Mrs 0 Morgan Owen, Mrs W Jones, Mrs Jones, Mrs Williams, Capt Thos Owen, F.R.G.S., Mri S Davies ac 0 C Roberts. Wele'r buddugwyr:— Lien.—Prif draitbawd, 1. 0 Cromwell Jones, Bir- kenhead 2, J Rowlands, Myrtle Street. Ail draith- awd, 1, H. 0 Jones; 2. R Rowlands—y ddau o'r Tab- ernacl. Tra;thawd y merched, 1, Mrs Jones, Beth- lehem 2. Miss Winifred Hughes, Croxteth Road. Awen.-Telyne¡r" Gtugog Mason a Caerwyn Ro- berts yn gyfartal. Emyn, Parch E Wnion Evans Machynlleth. Englvn, Gwilym Mathafarn. Cerdd —Daeth tri cbor meibion i ymgais am y woVr o 5p. am ganu "Cydgan y Pereviriion, sef Eryri (Mr Jones); Walton Park (Mr J 0 Williams); a'r Gwalia (Mr John Roberts). Yr olaf a farnwyd yn oreu. Deuawd tenor a Lass, Mri Wm Jones, Anfield, ac Elias Jones, Stanley Road. Unawd tenor, Mr Barrow Thorpe. Unawd twss, Mr Oynwyd Jcnes. Uuawd soprano, Miss Lizzie Roberts, Shaw Street. Unawd i blant, 1, Sophie Jones, Lodge Lane; 2, Maggie Jones, Isac Stnet. DarlJen sol'-ffa, 1, Sophie Jones; 2, Catherine Hughes; 3, Griffith Williams. Dosbarth uwchFanny Pughe. Arholiadav —Pob oed, Hugh Owen. Dan 24, R P Jones 2, J Rowlands. Dan 19, W Lloyd J ones 2, W D Owen 3, Rachel Griffiths ac E Williams. Dan 16 Nellie Griffiths; 2, Lillie Jones; 3, J Lloyd Jones. Dan 13, T Lloyd Jones: 2, Herbert Jones; 3, Robt a Thos Williams. Dan 10 oed, Griffith Wil- liams 2, Jane A Thomas 3, John Rogers. Amrywiaeth.—-Araith ddifyfyr, R Rowlands, Tab- ernacl. LVian dillyn, Mrs Littler, Webster Road. Amwisg l debot. Mrs Littler. Gwisgo doh', Nellie Jones. Hosanau. May Hughes. Parthlen, Robt Williams 2, May Hughes. Darlun o Afr, Huah A Jor,es. Ysgrifenu, G E Roberts 2, Gwen Jones 3 Edith Hughes. Cyfieithu-i'r Gymraeg, G W Ed- wards; i'r Saesneg, Ellen Jones. Prif adroddiad, Wm Pany. Adroddiad i blant, 1, Robert Williams; 2, Lili Jones: 3, Arthur Hughes. Yn yr adran gerddorol caed cystadleuon campus, ac yr oedd y brwdfrydedd yn f,*wr gyda'r corau yr oedd y ddeuawd, yr unawdan, a'r adrodd hefyd yn rhagorol a chyda chystadleuon mor wych, cynyrchion' ucheli add, a'r hwyl Gymreig oedd yn mhoirpeth, caed cwrdd tra amheuthyn. Y mae degwm y clod am lwydd y cwrdd j n ddyledxis i Mr R R Hughes, 3 Arundel Street), a Mr D J Jones, Pelham Grove, oblegyd eu llafur fel ysgrifenyddion. BYR A CHWTA. Cynelir Cynghrair Cenedlaethol yr Eglwysi Rhydd- ion yn Lerpwl Mawrth 13-16. Syniad da yw cynal cyrddau difyr ar nos Sadwrn, fel y gwneir mewn dau gapel Cymreig yn y ddinas. Ceir mwy o fwymant ynddynt nag wrth grwydro'r heolydd. Shon Chwareu Teg a vsgrifensj" Bu'r Parch R Aethwy Jones, B.A., yn beirniadu traithodau ddwywaith yn ddiweddar yn y ddinas, a'r ddau dro cymerodd arno ei hun i ranu'r gwobrwyon yn ol ei fympwv, ac nid yn ol trefniant y pwyllgor. "Os gim o wobr sydd t'r goreu, dyla1 r goreu gael y gtni, ac nid 15s a rhoi 6s i'r nesaf ato. Beth yw eich barn chwi ?" Gwn fod engreiphtiau i'w cael o hyn wedi ei wneud gan feirniaid eraill, megys gyda'r fyfyr- draith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl. Eithr os oes goreu mewn cystadleuaeth, dylai'r goreu gael y wobr yn gyflawn, ac nid oes gan feirniad hawl i'w rbanu yn ol ei fympwy ei hun. Daeth adroddiad eglwys Grove Street i'm Uaw. Dyma ychydig o'r ystadegau: Aelodau yn nechrea 1898, 311; derbyniwyd or newydd I gyamndeb, 10 o eglwysi eraill, 54 symudodd l eglwysi eraill, 39 heb lythyrau, 6 wedi colli eu haelodaeth, 3 bu farw, 1; aelodau ar ddiwedd y flwyddyn, 326 • | casglwyd at wahanol achosion, 702p 4s 5c, Cofir i gadair Eisteddfod y Temlwyr Da gael ei hatal oherwydd annheilyngdod. Deallaf y cynygir hi eto ar yr un testynyu yr Eisteddfod negaf. Mae'r Parch W. Williams, Southport. wedi gwrth. od i'w enw g3,pl roi o flaen un oeglwysi Arfon gyda golwg,,it, ei bngeilio.