Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Clywedigion o Ororau Eryri,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Clywedigion o Ororau Eryri, ar Fenai. Dymunwn longyfarch y Parch. Albert E. Lewis, rheithor Llanrug, ar ellwyddiant yn enill Urdd Pencerdd yn Eisteddfod Corwen. Bydd o hyn allan yn cael el adnabod wrth yr enw Pencerdd Callwen." Dlsgwyllwn lawer oddiwrtho mewn cysylltiad & chanlad- aeth Eglwyslg yn ardal gerddorol Eryri. Y mae pawb sydd yn byw yn ngororau Eryri yn gwybod yn iawn am y boneddwr tyner galon, Mr. Samuel Jones, Glandinor- wig, yr hwn sydd wedi treuHo ei oes hirfaith yn mysg ei gydwladwyr, ac wedi gwneuthur daioni tu hwnt i ddirnadaeth neb. Y cbydig amser yn ol, rhoddodd wledd ardderchog i deuluoedd y rhai oedd wedi colli perthynasau yn y rhyfel yn Y sgoldy Llandinorwic, yn rhifo dros 70 mewn nifer, ynghyd a lp. i bob un. Yr oedd yr oil yn teimlo yn gynes iawn at Mr. a Mrs. Jones am eu caredig- rwydd. Y mae Mr. Jones wedi cyraedd yr oedran teg o 95, ac y mae yn edrych yn rhagorol, ond y mae ei anwyl briod, Mrs. Jones, yn teimlo mewn gwendid; dymunwn, Iddi adferiad buan. Yr oedd y Parch. James Salt (Penoerdd Orwig), ficer y plwyf, a'r Parch. John Owen, curad, yn gofalu am y trefniad. Cafwyd gwledd heb 91 bath. Yn ystod y mis hwn y mae Ilu o wynebau hen drigolion y fro wedi talu ymweliad a hen ororau Eryri am ychydig seibiant, ac yn eu mysg y Proff. William John Gryffydd, Caer. dydd. Yr oeddem oil yn falch o'i wel'd yn darllen y Llithoedd yn Hen Eglwys ei blwyf, saf Llanddeiniolen, nos Sul diweddaf. Y mae llon'd gwythienau y proffeswr o hyd waed Cymreig iawn, ad y mae yn hynod o gycaetadwy yn mysg ei hen gydnabod yn y gororau hyn. Y mae yn mysg y goreuon fel ysgolhaig. Dymunwn iddo adgyfnerthiad cyn ymadael am brif- ddinas Cymru. Pregethwyd pregeth nerthol gan y Parch. T. A. Morgan-Jones, periglor y plwyf. Yr ydym oil yn teimlo yn falch fod symud- iad ar droed i sefydlu brass band' yn Llan- beris. Flynyddoedd yn ol, bu band ar- dderchog yn Llanberis, ac yn ddiamheuol genyf y oint dderbyniad teilwng gan yr ar- dalwyr oil. Bydd hyn yn oreu bywiogrwydd trwy yr ardal, -ynghyd a rhoddi difyrwch i'r llu ymwelwyr sydd yn ymweled Wr ardal, yn enwedig yn ystod mlsoedd yr haf. Pob llwyddiant i'r anturiaeth. Y mae nifer fawr o Cadet Corps yn gwer- syllu yn Coed Helen Pare yn ystod y mis hwn, trwy ganiatad Mr. Trevor Charles Hughes, Capten y corphlu, Yr oeddym yu falcb, y dydd o'r blaen, o gyfarfod a'r Parch. W. A. Davies, M.A., noer Ponsonby, ynghyd a Mrs. Davies, yn edryck yn rhagorol lawn. Mab i ddiweddar Reithor Llanddeiniolen ydyw ef. Hefyd, Mr. John Brookes Jones, ysgolfelstr Mostyn, ynghyd "I frawd, Mr. William Samuel Jones, Llun- dain. Un o choristers St. Bennet, Llundaln, ydyw ef. Yr oeddynt oil yn edrych yn alriol a glita eu golwg. Y mae y Parch. J. T. Jones, fioer Llanfair- is-gaer, a deon gwladol Arfon, wedi bod am ychydig wyHau, ao wedi dyohwelyd yn ol. Yr ydym yn hyderu fod ieehyd el anwyl briod yn gwella. Y mae hi wedi bod yn bur llesg yii ddiwaddar. Ein dymuniad a'n gweddi ydyw Iddi gael llwyr adferiad buan. Y mae llu o hen weithwyr Chwarelau Dlnorwlg, ynghyd A phorthladd Fellnhell wedi dyohwelld yn ol i'r ben drigfan, ac trbyn hyn y mae y lleoedd fu fel pob man arall yn ddistaw yn deohreu symud, a'r llech- au o hen fynyddoedd Eryri yn dechreu cael; eu ohwalu i bedwar ban y byd, a'r gwelthwyr oil yn cael tal da am eu llafur. Dymunwn oil longyfarch Miss Mary Jones (Mair Menai), sef un o organyddion Eglwys Fair, Llanfairisgaer, ar ei llwyddiant yn niyned trwy arhollad y Senior Honours. Ymlaen yr elo. Yn Trawsfynydd y bu y Parch. Evan I Jones, B.A., Llanfairisgaer, yn mwynhau ychydig o holidays' eleni. Y maent oil I wedi dychwelyd adref yn ol, wedi gwella yn rhagorol ar ol awelon y Traws. Y mae j Trawsfynydd wedi dwyn dynion rhagorol allan i Weinidogaeth yr Eglwys, ac y maent yn weithwyr diwyd yn lie bynag y maent. Gobeithiaf fod y rhai a ddaw eto yn debyg ir hen ddwylaw. WMFFRA DAFYDD.

EIN CTHOEDDIADAD EGLWYSIG

Ystrad.

Secondary Education for 6itis…

j'!^^ IEglwysi Cymreig Llimdain.

Advertising

,( Yr Eglwysi Cymreig yn Lerpwl.