Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

'-Newyddion Cyffredinol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Cyffredinol. Y mae Eglwysi Rhyddion Caerdydd ar fedr evehwyn cylchgrawn newydd ar fyrder. Ar y bwrdd golygyddol bydd y Parchn Prifathraw Edwards, D.D., J. Morgan Jones, Wilkins Rees, a J. Wil- liamson. Mae y Parch Idwal Jones, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr, wedi bod yn ymosod ar Mr Tom Mann a Chlwb Pel Droed Abertawe, y cyntaf am anerch cyfaifod o weithwyr ar nos Sul, a'r di- weddaf am ymgymeryd a chwareu y bel droed ar y Sabbath. Llawenydd genym gael ar ddeall fod y Cymro talentog ac anturiaethus—Mr Pritchard-Morgan, yr aelod Seneddol dros Ferthyr Tydtil-yr hwn sydd ar ei ffordd adref o China, wedi Ilwyddo i gael caniatad gan y Llywodraeth Chineaidd i chwilio am fwnau mewn rhan gyfoethog o'r wlad bellenig hono. 0 Y flwyddyn hon cynhelir y cynulliad Cymreig hlynyddol er datblu Gwyl Dewi Sant yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Llun- dain, nos Gwyl Dewi, Pregethir gan 0 in Canon Davies, ficer Pwllheli, a rhifa y cor rhwng 300 a 400 o leisiau, yn cy- nwys cantorion detholedig o eglwysi Cymreig Llundain. Y cerddor enwog, Mr Ben Davies, a ddadgana yr unawdau. Yr archeb ddiweddaf a anfonodd Sul- tan Twrci i'r Almaen a gynwysa 82 o fagnelau mawrion Krupp, 0 30,000 o losgbeleni shrapnel.' Ai tybed ei fod yn rhagweled drwg, ynte a ydyw efe yn darpar ar gyfer rhyfel yn Alicedonia ? Y cwestiwn mawr yw o ba le y caiff efe arian i dalu am danynt, pan y mae ei drysorfa eisoes yn wag ? Parhau yn dra chythryblus y mae pethau yn Johannesburg. Carchariad amryw Brydeiniaid gan awdurdoJau y Weriniaeth, ar y cyhuddiad o deyrn- fradwriaeth, achosodd yr holl helynt. Ofair y bydd i hyn gynyrchu teimladan drwg rhwng y Llywodraeth Brydeinig a 0 C3 Llywodraeth y Boeriaid. Cred rhai eu bod eisoes ar fin cyhoeddi rhyfel y naill yn erbyn y Hall. Cynhaliwyd trengholiad yn Little- dean, Swydd Gloucester, nos Wener di- weddaf, ar gorff Mary Ann Harper, 28 mlwydd oed, yr hon a ymbriododd y dydd Mawrth blaenorol, ac a gafwyd yn farw yn ei gwely wrth ochr ei phriod foreu Iau. Dangosai y tystiolaethau fod y drancedig wedi bwyta yn ormodol o tinned salmon y noson gynt, a dychwel- wyd rheithfarn iddi farw oblegid hyny, ac hefyd am fod ei chalon mewn cywair ddrwg er pan y ganed hi. Dechreu yr wythnos o'r blaen cyr- baeddodd gweddillion Christopher Col- umbus o Cuba i Ysbaen yn ddiogel. Nis gallai Ysbaeniaid y dyddiau hyn feddwl am adael iddynt aros yn yr ynys hono wedi Iddi syrthio i feddiant yr American- iaid. Pan agorwyd yr arch, caed ynddo ddeg ar bugain o esgyrn ac ychydig lwch cymaint ag oedd i'w ddisgwyl I:> J ymhen y pedwar can' mlynedd. Yr Ys- baeniaid oeddynt yn gydoeswyr a Col- umbus a'u camdriniasant. Ysbaeniaid y dyddiau hyn a addolant ei ludw. if | Bu farw yn Bodewron, Rhy!, ddydcl | Iau diweddaf, y Parch John Williams, 1 yr hwn oedd yn 83 mlwydd oed, ac yn un o'r gweinidogion hynaf perthynol i gyfundeb y Methodistiaid yn Ngogledd Cymrn. Yr oedd Mr Williams, er nad ymgyrnerodd a'r swydd fugeiliol, yn un c C5 o'r gwyr mwyaf blaenllaw a feddai y 6 Methodistiaid, a Uanwodd rai o'rswyddi pwysicaf ynglyn a'r cyfundeb hwnw. Mae cjfarfod arbenig o Bwyllgor G weithiol Cymdeithas Ryddfrydol Caer- dydd, a gynbaliwyd nos Wener diwedd- af, darllenwyd atebiad Mr Robert Bird i'r cais a wnaed ar fod iddo sef)H fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol, ymha un y gofiliai nas galllli ganiatau i'w enw gael ei osod gerbron y corff cyfftedinol. Pas- iwyd penderfyniad yn amlygu gofid y Gymdeithas yn herwydd hyn. Y mae yr agerlong fwyaf a wnaed eriaed-ond nid y fwyaf a wneir, yn ddiau—wedi cyraedd i'w helfen ei hun er dydd Sadwrn diweddaf. Yr 'Oceanic' yw ei henw, a Chwmni y 'White Star' a'i pia. Yn Belfast—yn muarth mawr Harland a'i Gyf.—y gwnaed hi. Diwr- nod mawr yn mhrifddinas Gogledd yr Ynys Werdd oedd diwrnod y lansio. Edrycbid ar yr oruchwyliaeth gan fil- oedd o bob!. Gobeithio na bydd gronyn o debygolrwydd yn nhynged y llestr hon i eiddo y Great Eastern.' Y mae Talaethau Dwyreiniol yr America yn dioddef yn erwin oddiwrth dynior o oerni tra eithafol. Er fod yr bin yn sech a heulog, yr oedd yr oerni naw o raddau islaw pwynt rhew yn New York dydd Mercher wythnos i'r diwedd- af. Yn Saratoga yr oedd yn 32 gradd, ac yn Plattsburg yn 40 gradd. Eisoes rhewodd 1 In o drueiuiaid i farwolaeth, dioddefa y tlodion yn ddirfawr, a chau- wyd ysgolion gwledig. Ceir pont natur- iol o rew dros y Niagara wedi ei ffurfio gan luwch y rhaiadr. Yn fuan bydd pob cwestiwn rhwng Unol Dalaethau yr America, Canada, a Phrydain, sydd wedi en hymddiried i'r ddirprwyaeth 0 brif ddynion y tair gwlad i'w trafod, wedi eu penderfynu. Hyderir yn gryf y bydd cytundeb par- haol yn cael ei wneyd, a'r hyn sydd wedi peri anhunedd mawr rhwng brodyr am lawer o flynyd loedd yn cael ei gladdu y n o'r golsvg am byth. Bydd y cytundeb newydd, pan y gwneir ef, yn ol yr ar- wyddion piesenol, yn cymeryd i mewn yr holl gwestiynau ynglyn a'r pysgod- feydd a'r terfyn-diroedd ac yn rhwym- yn undeb rhwng y Weriniaetb, Canada, a Phrydain na thorir mohono byth. Gwyddis fod gan y Mri Barnum a Bailey gasgliad rhyfeddol yn cael ei ar- ddangos mewn lie neillduol yn ninas Llundain o ddynion a merched kg an- ferthwch naturiol yn perthyn iddynt. Y mae rhai yn enfawr, ac ereill yn or- fychan. Am ei fod yn deneu y rhy- feddir at un, tra y ceir yn ei ymyl un dychrynllyd o dew, ac felly yn y blaen. Yr enw cyffredinol ar filiau y show am danynt yw Ystranciau Anian.' Nid ydynt hwy, modd bynag, yn foddlawn cael eu galw yn 'ystranciau.' Am hyny, cynhaliasant gyfurfod yn eu plith eu hunain ddydd Sadwrn i ddymuno ar eu perchenogion i beidio eu galw mwy yn ystranciau,' eithr yn (Uhyfeddodau Natur.' .»TR7RRFRRTTF~~R»L~MRRBINIINIFRI-B—-RR. IN 1111 R ■ Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd cynhadledd yn Exeter Hall, Llundain, a alwyd yngliyd gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, pryd y dywedodd Mr R. Waddington, cadeirydd yr Undeb, yn ystod ei anerchiad agoriadol, fod y sefyll- fa bresenol ynglyn a. mynycbiad plant yn Ysgolion y Burdd yn Llundain yn resynol. Allan o 751,000 o ysgolheig- ion ar lyfrau y Bwrdd, yr oedd 145,000 yn absenol yn wastadol. Nid oedd trosecldau yril"erbyn y Ddeddf Addysg yn cael edrych arnynt yn yr un goleuni a throseddau ya erbyn eyfreithial1 ereill. Dangosodd Mr Waddington hefyd y draul a achJysurid i'r trethdalwyr gan yr ab-enolion. Yr oedd pobl Llundain dan deyrnged i Dr Macnamara am sicr- hau diwygiad yn hyn o beth. Ychydig ddyddiau yn ol cyrhaeddodd Llwyd ap Iwan, mab hynaf y diweddar Michael D. Jones, Bda, i'r wlad hon o Batagonia. Ei fwriad ydoedd ymweled a'i berthynasau a'i gyfeillion ar ol absen- oldeb o 13 mlynedd, ac ni chlywodd am farwolaetb ei dad nes cyrhaedd ohono i Plymouth. Y r oedd yr angladd yn cy- meryd lie pan oedd efe ar y weilgi, yn llawen wrth feddwl am gael croesaw calon gan bawb a adawsai yn ei hen gar- tref. Y mae Ap Iwan yn berchen ar fferm yn y Wladfa, ac y mae yn briod a chwaer i Miss Eiluned Morgan, yr hon fu ar ymweliad a. Chymrn beth amser yn ol. Cyn dychwelyd i Batagonia, bwriada Mr Ap Iwan osod ger bron Mr Cham- berlain, Ysgrifenydd y Trefeligaethau, rai cynygion o beithynas i ragolygon dy- ?n y 0 ?3 fodol y Wladfa, gan fod y gwladfawyr yn dymuno cael ymreolaeth o ryw fath. ATao y Barnwr Phillimore wedi enyn condemniad y cyhoedd a'r wasg ynglyn ag achos yr Isgadben Wark, yr hwn, er yn wr priod, ac yn trigo yn Llundain, a gadwai ordderchwraig yn Lerpwl. Yn hytrach na gwynebu canlyniadau ei fywyd anllad, bu y ddynes farw drwy ei dwylaw ei hun. Haerid ei fod yntau yn gyfranog yn y weithred, ac ar anog- aeth y Parnwr. cafodd y rheithwyr ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Honai y wasg nad oedd yn euog deiseb- odd 60,000 am bardwn iddo. Y mae'r Ysgrifenydd Cartrefol newydd newid y ddedfryd i dair blynedd o garchariad. Ni wna hyny y tro chwaith os yn euog, y mae y gosb yn Ilawer rhy fychan os yn ddieuog, y mae yn llawer gormod. Yn awr, ffurfir deiseb yn uniongyrcbol at y Frenhines am ei ryddbad. Yn ngynllun gwreiddiol Ysgolion Sir 13 ri Cymru dywedwyd y gofelid am roddi i bob ysgol ei chenhadaeth arbenig. Ys- gol y clasuron fyddai y naill, ac ysgol addysg fasnachol fyddai y lIall. A goll- wyd golwg ar liynynia ? Pa le y mae'r ysgol fasnachol ? Gofynir hyn drwy holl Wyncdd a Phowys, ie, De a Gog- ledd. Ai nid cydredeg a chydymgeisio am glod yr unrhyw arholiadau a wna yr holl ysgolion fel eu gilydd, gan fwrw dros gof pa beth sydd fuddiol i'r wlad ? Nid i'r alwedigaeth athrawol yr a pawb o'r plant; eto addysg gymbwysiadol at hyny a gyfrenir hyd yma yn benaf yn yr oil o'r Ysgolion Sir. Nid oes dadl nad yw y cyhoedd yn galw am addysg fas- nachol i lu mawr o blant, ond, atolwg, pa le y ceir ef 1 Ymha un ohonynt y dysgir Uawysgrif dda, llaw ffer, cadw cyfrifon, ieithoedd tramor-pethau llan- fodol at fod yn farsiandwr? Rbaid i ni > addef ein hanwybodaeth. Ar yr un pryd fe ddylai holl arweinwyr yr YsgGl- ion Sir roddi ystyriaeth ddiymdroi i'r angen arbenig hwn sydd yn euro drym- ach, drymach wrth ein dry sail. Gadawn y mater yn y fan hon heddyw. Y mae hyrwyddwyr y mudiad er codi cofgolofn i goffadwriaethu pump o Gy- mry enwog a anwyd ymhlwyf mynyddig Llansanuan, Mr Ddinbych, yn disgwyl y sosodir y golofn i fyny yn ei lie erbyn y Pasg llesaf. Mae Mr Goscombe John, y cerflunydd ieuanc i'r hwn yr ymddiried- wyd y gorchwyl, weili gorphen ei waith. Yr enwogion ag y bwriedir i'r gofgolofn eu coffhau ydynt Tudur Aled, y bardd, yr hwn a oesai yn amser y Frenhines Elizabeth William Salusbury, cyfieith- ydd y Testament Newydd; y brodyr Henry a William Rees (Gwilym Hir- aethog), a forworth Glan Aled, bardd enwog arall. Anfynych y gall un pI wyf 0 113 ymffrostio ei fod yn enedigle i gyuifer o Gymry mor wir fuwr. Dyddorol ydyw sylwi fod y pump yn pertbyn i wahanol enwadau, Pabydd ydoedd Tndur Aled, Eglwyswr ydoedd Salusbury, Methodist ydoedd Henry Rees, Annibynwr ydoedd Hiraothog, a Bedyddiwr ydoedd Ior- werth. Disgwylir Mr Kearley, A.S. (Devonport), yr hwn sydd wedi cyfranu yn haelionus tuag at y draul, ynghyd a Mr T. E. Ellis, A.S., a Chymry enwog ereill, i fod yn bresenol yn y ddefod ddadorchuddiadol. Lleolir y gofgofn ynghanol pentref Llansannan. Y Drych a sylwa :—< Cytnna pawb i gydnabod fod y diweddar Michael D. Jones, Bodiwan, Bala, yn Gymro di- gymysg a diffuant. Rheolid ei fywyd gan un egwyddor darawiadol, a digonol hefyd, set fod pethau da Cymru yn ddi- gon da i Gymro yn ei wlad ei hun. Mor ymarferol a gwionol yr ymddangosai yn ngbanol petheuach cymhen a darfodedig yr oes bresenol Safai fel colofn yn ngbanol gwrthgiliad oddiwrth egwyddor- ion ac arferion Cymreig. Ei arwyddair oedd, I Iz:titli Cymru, bwyd Cymru, dillad Cymru, a chrefydd Cymru.' I ddyn o'i fath ef, tebyg fod edrych ar gyflwr ei wlad ynglyn a'r pedwar peth uchod yn peri blinder. Onid yw yr iaith Gymraeg ar hyd a lied y wlad mewn cyflwr dirywiedig 1 Onid yw bwyd Cy- mru, i raddau helaeth, yn ddadforiadau 0 wledydd estrono11 Onid yw dillad Cy- mru, yr oes brasenol, mor an-Nghymveig ag y medr fod 1 Onid yw crefydd Cy- mru yn bob peth anghenedlaethol 1 Dyn oedd Michael Jones yn siarad iaith Cy- mru yn bwyta bwyd Cymru (dim te a choffi); yn gwisgo dillad Cymru, ac yn addoli Duw fel Cymro diledryw. Yr oedd ganddo ben, gwyneb, barf, a cborff Cymro, a dylai gael coffadwriaeth Cymro o'r Cymry, Fel hyn y mae rhywun yn dwrdio Idriswyn am groniclo gwrhydri y pel- droedwyr Cymreig yn Abertawe :— 0 Idris Wyn, y diras wr-aethost Weithian yn reportiwr, Yn waa diawl, croniclydd stwr, A diroidua bel-droediwr. Yn iaith nef, iaith crefydd—awen a dysg, Y gwnaed iaith Cymreigydd Gwrida, ow, it roi, Gaerdydd, I ddiawliaid iaith addolydd. Rowlands yn chwerw w.yla—0 weled Cysegr-'speilio Gwalia Rowel Harris ddolnria, Ilwylio nef i ddial wna,

Advertising