DARLLENWCH ERTHYGLAU (11)

Advertising
Copy
NEWYDDION CYMRU. —'Barwn Rhondda yw y teitl a ddewisodd Mr. D. A. Thomas ar ei ddyrchafiad i Dy yr Arglwyddi. —Costiodd etholiad Merthyr i Mr. C. B. Stanton 801p. 5s. 9c., ac i Mr. Winstone l,099p. Ss. 2c. Pan gofir mai am ychydig ddyddiau y parhaodd y frwydr y mae y symiau hyn yn ym- ddangos yn fawr. —Y mae'r Proff. W. Lewis Jones, M. A., Athraw Saesneg yn Mhrifysgol Bangoi> yn gorwedd yn wael ddifrifol gan ergyd o'r parlys. Bu'n orweddog o'r blaen yn lied ddiweddar; collodd gryn swm o waed, a hyny, fe dybid, oblegid gor-ymestyn wrth chwareu golff. Dim ond wythnos oedd er pan adawsai ei ystafell. —Yn ddiweddar penderfynodd gwerthwyr llefrith Penmaenmawr i godi pris y llefrith i bum' ceiniog y chwart-ceiniog yn fwy nag yr arferai fod. Yn answyddogol cychwynodd Undeb y Chwarelwyr brotest yn erbyn y cynllun drwy wrthod prynu'r l'efritli, ac hefyd y mae llawer o'r tri- golion yn dylyn eu hesiampl, ac yn prynu condensed milk. —Gadawodd Mr. Keir Hardie, yr aelod llafur dros Ferthyr, 426p. 10s. lie., yr oil i'w weddw a'i ferch. Yr ,)edd 95p. 13s. Ic. o gyflog yn ddyled- us iddo, a dywedir fod ganddo bump o gyfraniadau mewn papyr newydd-y pump gyda'u gilydd yn werth haner coron! -Da genym weled fod Capt. Rich- ard H. Mills, mab Mr. Richard Mills, un o flaenoriaid hynaf y Methodistiaid yii Xolgellau. wedi ei benodi yn 'Major' yn y Fyddin. Mae Major Mills wedi cael profiad maith ac amrywiol iawn, ac yn cael ei barchu yn ddirfawr gan bawb sydd yn ei adnabod. —Dyma fedd-argraff Mr. Cadwaladr Roberts, y cerddor, a farnwyd yn fuddugol y Nadolig:— "Cadwaladr Robei-ts-eydwladwr wybu Wir iaith Cerddoriaeth cur o'i ddaearu Bruddha ei'genedl—-ei beraidd ganu A ddygai Wynedd i ddiddig wenu, Gwr o farn i'w gorau fu-gyrai tan Ei foddus anian dorfeydd i synu." —Traddodwyd y gyntaf o gyfres o j ddarlithiau ar v rhyfel a chwestiwn cynildeb (o dan nawdd Pwyllgor Cynildeb Rhyfel) yn y Wyddgrug gan Mr. J. A. R. Marriott, M. A. Dywed-1 odd y darlithvdd, os yr elai y rhyfel yn mlaen i derfyn dwy flynedd y bydd- ent wedi gwario 2,500 o filiynau, ac os yr elai yn mlaen am dair blynedd mentrai ddweyd na byddai eu holl gostau yn llai na 5.000 o filiynau. —Derbvniwyd Ilythyr oddiwrth Lywvdd Bwrdd y Llywodraeth Leol o berthynas i gais Cyngor Sir Dinbych yn ffnfr trosglwyddo nlwyf Llysfaen o sir Gaernarfon i sir Ddinbych. Dan- gosai'r Ilytbyr allan fod dau bender- fyniad cyffelyb wedi eu gwrthod, ac nad oedd yr amser presenol yn un cymwvs i arlnewyddu y cynyg. yr hwn a wrthwynebid gan sir Gaernarfon. Ystyriai Llvwydd Bwrdd y Llywodr- aeth Leol felly fod rhesymau arheniK pah am iitzz gellid ystvried y cais ar y" adeg bresenoL —Yn Mrawdlys Chwarter Trefald- wyn, cyhuddwyd Herbert Thomas, ddesgrifid fel trafaeliwr, o Cynwyd. Corwen, o dderbyn arian trwy dwyll yn y Drefnewvdd ar y fied o Fedi. Deroyniodd ddarluniau o wyth ar hugain o filwyr i'w teuluoedd, gyda thai am wnevd darluniau mawr o hon- ynt. ond dinystriodd y darluniau, y rhai, mewn rhai adhesion, oedd yr unig ddarluniau oedd ar gael o'r mil- wyr oedd wedi eu lladd: a chadwodd yr arian. Oyfaddefodd y cyhuddedig y cyhuddiad. Dywedwyd fod cyhuddiad- au cvffelyb yn ei erbyn yn St. Helens, Farnborough, Knutsford, Llanidloes, Porthmadog. a Phwllheli. Dedfryd- wvd ef i garchar am naw mis gyda llafur caled. MAEWOLAETHAU. Y Goffledd. Arthog. Yn ddiweddar, Edward Jones, Wesley Terr. Bettws Gwerfil Goch.—Rhag. 29, Mrs. Jones. Ty Cervg, yn 84 oed. Bontddu.—Yn ddiweddar. Miss Rose Price, Ty'nycoed. Cwrryglo.—Yn ddiweddar, John Griff- ith. Bryn Crwn, yn 79 oed. Caernarfon.-Ton. 6, Thos. Williams, Hafod Terr. Dolgpllpti.-Ton. 5. Mrs. Dr. Jones, Llvs Mynac-h, yn 82 oed. Ffestiniog.—Yn ddiweddar, R. Cum- mings, 11 Cromwell St.—Owen Owens, 22 Park Square.—Wm. Lloyd, Rhydygro, Tanygrisiau, yn 72 oed.—Mrs. Wm. Jones. Cefn Bychan. Usnfrmon-yn-Tal.—Rhag. 26, Tom Lewis. gynt o Gelligrynan, yn 81 oed. yn 5 8 oed. Llandyrnog.—Yn Ninbych, 5 Garden Terr., Mrs. Margaret Hughes, Coed- ios: Cottage, yn 83 oed. Llanbedr, ',NIP i rioia.-Tong -,vr 9, loan Thomas. Penrhiw, vn 70 oed. Lernwl.—Yn ddiweddar, Wm. Edward Barlow, 15 Colebrooke Rd., Dingle, NantlIe-Yn ddiweddar, Robert E. Morris, Water St., Penygroes, yn 29 oed. Penrhvndeudrapth.—Yn yr ysbyty yn Alexandria, Rhingyll Wm. Jones, Pentrefelin. Pwllheli. Yn Ffrainc. Corporal Lewio Jones Williams, Penrhos, yn 25 oed. Rbvl.-Yn Medeor House, Elizabeth G.. gweddw John Jones.—Owen Robert Williams (Cymro Cybi), 12 East Parade. Wrexham.—Rhag. 24. Goronwv, plen- t'-n Mr. a Mrs. G. Oswald Williams, Eirianfan, Adwy'rclawdd, yn 2 oed. Y Petieudir. I Abprdnr.-Ton. 9, Ynyscynon Shop, Cwmbach. Evan Griffiths. Aberystwyth.—'Ion. 8, Brigydon View pl!1C;. Richard J imes, yn 87 oed.— Tn-n i p. Tnirn-t House. Portland St.. Margaret. Tewis, vn 71 oed. Ba.-P-n-(i -Ton. 7, Elias Jones, diwedd- ar Gelligaer. CaplPM1.-Ion. 11, Llvsb'-echfa, Ed. Richards, Y. H., Nantyderri, yn 87 oed. Cae^ydd.—Ton. 8. vn y Westminster pAp1. Richard Thomas John. nai R. pv>'Hins. Cpt.ernu.-Ion. 5, Gwen- rtAHnp A.da ((-wpn), meich Mr. a ToTn Williams, "Inverness PI., vn go, oed.—Ton. 6. vn vsbyty Ed- wh VTT., Albert Edward, priod Miriam Morgan, mab Mr. a Mrs. Morgan, Splatt, yn 24 oed.—Ion. 7, Llanbleddian Gardens, Wm. Wil- liams yn 69 oed. Ceinewydd.—Yn ddiweddar, yn Ar- ymor, Capt. John Williams, yn 66 oed. Coecl-duon.-ton. 7. Parch. Robert Evans, yn 7S oed. Crughywel.—Ion. 9, High St., John Jones, haiarnfasnachwr, yn 78 oed. Llandaff North.—Ion. 2, Wm. Row- lands, diweddar Melingriffith. Llanharri.—Ion. 9, Tynewydd, John Morgan, yn 68 oed. .\Ierthyr.- Yn y Cartref, Thomas St., Gomer Jones, arolygydd ysgolion, yn 61 oed. Mynwent y Crynwyr.—Ion. 6. Ben- jamin Miles. Nantygarw.—Ion. S. Edward, priod Ann Mathews, yn 81. Penarth.—Ion. 6, yn yr ysbyty. Mary E. Edwards, merch Le-vyis Jenkins. Penygraig.—Ion. 11. Lewis St., Maud Gwendoline, priod Daniel Thomas, gynt Railway Bar Hotel, Aberdar.— Yn Maesygraig, Vicarage Rd., Eliza- beth. priod Obadiah Williams, Dinas Colleries, Dinas. Pontnewydd—Ion. 5. Troy House, Thomas Lewis, yn 84 oed. Pontyclun.-Ton. S. Maesvfelin, Rich- ard Evan, mab Thomas a Margaret David.—Portmanmoor Rd., Thos. Williams (molder) yn 62 oed. Seaton, Swydd Devon. Caroline Matilda, merch y diweddar Edward W. Richards, rheithor St. Andrew, yn 87 oed. Weston-super-Mare.—Ionawr <5, (South R(1., Richard Herbert, diweddar Abersychan, yn 60 oed. Ynysbwl.—Ionawr 10. Robert Town Hotel. Albert Victor, priod Annie Dew.

News
Copy
WM. W. ROBERTS REAL ESTATE, LOANS AND INSUR. i ANCE. Cymro Ymddirledol gyda phroflad a gwybodaeth o'r Drafodaeth hon. Gyda A. B. CONGER. 246 GENESEE ST.. UTICA, N. Y.

Advertising
Copy
NODION 0 NEW YORK. Xos Wener diweddaf, yn addoldy A. 11th St., cynaliodd Cymdeithas Ddi- wjiliadol y Cymry un o'r chyfarfod- yrlrl rheolaidd dan lywyddiaeth y Parch. Joseph Evans, B. A. Cafwyd dadl bwvsig ar un o brif bynciau y dydd, sef "A ddylai gwledydd y byd fabwysiadu darpariaeth filwrol." Trefnodd y pwyllgor fod i ddau aelod o Gyfrinfa Cambrian i gymeryd y cadarnhaol, ac fod dau o'r Gymdeithas Ddiwylliadol i gymeryd y nacaol. Agorwyd ar ran y Cambrian gan Har- vey Hughes mewn modd meistrolgar, a'r un modd gan ei eilydd W. E. Jones. Yn nacaol gan T. Ivor Evans, a gwnaeth yn ol ei arfer yn rhagorol, ac felly gellir dweyd am ei eilydd Hugh Morris. Rhoddwyd eyfle am ymdrin- iaeth pellach gan yr aelodau, a man- teisiwyd ar y cyfleusdra, a phan ran- wyd y ty, cafwyd mwyafrif go helaeth o blaid darpariaeth filwrol. Teg yw hysbysu fod pwyllgor y cyngerdd sydd i'w gynal yn addoldy M. C. ar 155th St., Lincoln Birthday, dan nawdd Cyfrinfau Glvndwr a Ruth, wedi bod yn ffodus i sicrhau yn mhlith eraill gantores ragorol, yr hon sydd newydd ddyfod i'r ddinas. sef Miss Edith Maldwyn Jones. Gellir dweyd ei bod hi wedi cyngerdda yn mhrif drefi Cymru, ac yn hynod o boblog- aidd. Bydd y cyngerdd yn gyfle i ni ddangos ein cydymdeimlad, ac na byddwn yn ol i genedloedd eraill yn y wlad heddychol hon, i gynorthwyo yn 01 ein gallu ein cydgenedl yn y dydd blin. Dyma gyfle i ddangos ein gwlad- garwch a'n cenedlgarwch mewn rhyw- beth heblaw geiriau. Nos Fawrth y cyntaf o'r flwyddyn, urddodd y genadyddes Miss Hannah Roberts, swyddogion etholedig Cyfrin- fa Ruth, C. L. E., Miss Eliz. Owen; U. L., Miss Mary Bevan; Ysg.-Ar., Mrs. M. Roberts; Ysg. Goh., Miss Eliz. E. Jones; Trys., Mrs. J. Anthony; Gor., Miss Ema Williams; Ar., Miss Hannah Roberfts; G. M., Mrs. R. D. Williams; G. A., Mrs. Morton Jones; Caplan, Mrs. W. E. Jones; organyddes. Mrs. M. A. Roberts; cenadyddes i'r Gynadledd, Mrs. M. A. Roberts. Da genym hysbysu fod y Gymdeithas mewn safle lewyrchus. Xos Sabboth, Chwef. 27, bwriedir cynal gwasanaeth addoliadol blynydd- ol dan nawdd Cymdeithas Dewi Sant yn eglwys West Park Presbyterian Hh St., ar Amsterdam Ave. Yn yr eglwys hon y gwasanaetha y Cymro gwladgarol Dr. Anthony Evans. Ceir manylion eto.—Colwynian. Marwolaeth sydyn Cymraes adna- hyddus.—Ddydd Gwener, Ionawr 28, bu farw y chwaer hynaws Mrs. Bellingham, 1906 3rd Avenue, New York, ar ol byr gystudd o'r gelyn marwol y pneumonia, megys yn mlod- au ei dyddiau, sef 54 mlwydd oed. Nos Sadwrn, y 29ain, cynaliwyd gwasan- aeth angladdol yn ei hen gartref, a daeth cynulliad mawr i'r cyfarfod, a syndod i ni oedd gweled nifer mor lluosog o Gymry a'r rhai hyny yn hen sefydlwyr y ddinas a'i hen gydnabydd- ion wedi dod yn nghyd, a hyny ar hys- bysiad mor fyr i dalu y warogaeth olaf i'r anwyl chwaer; Dr. Jamison, gwein- idog yr eglwys Fethodlstaidd ar Park Avenue ac 86th Street, yn gweinyddu ar yr achlysur, a chafwyd gwasanaeth tarawiadol iawn, y gladdedigaeth yn cymeryd lie yn Woodlawn Cemetery. Enw morwynig yr ymadawedig oedd Lizzie Parry, a merch ydoedd i Henry a Jane Parry, Slatington, Pa., gynt a chyn hyny o Dinorwig, Arfon; daeth- ant i'r wlad hon dros 60 mlynedd yn ol. Bu farw ei hanwyl dad dros 45 mlynedd yn ol. Bu farw ei hanwyl dad dros 43 mlynedd yn ol yn Slating- ton gan adael y fam gyda tri o blant i alaru ar ei ol, sef Kate, Lizzie a Griff- ith; daeth y fam a'r plant i New York mewn ysbaid ar ol claddu ei gwr. Bu farw Griffith, y mab, er's amryw flyn- yddoedd, gan adael gweddw a merch fach i alaru ar ei ol. Mewn ysbaid ar ol hyny bu farw y fam, ac ar ol hyny bu farw Kate y ferch, a dyma Lizzie yn canlyn ei camrau, felly fe welir fod yr oil o'r teulu dyddan hwn wedi myned at yr Hwn a'i rhoes. Heddwch i'w llwch; Tarawiadol iawn i mi oedd gweled yn y gwasanaeth ddwv chwaer i'r tad, sef Mrs. John McDonald a Mrs. Elizabeth Me Donald, y ddwy mewn gwth o oedran. Cefais hysbysiad am Mrs. Morris, sef priod William Morris, y gof, fel yr adnabyddir, a brawd* i Proff. James Haydn Morris a Mrs. Haydn. Mae y chwaer yn yr ysbyty yn Tompkirfs- ville, Staten Island, wedi myned dan law feddygwaith, ac fel yr wyf yn deall ei bod mewn sefyllfa beryglus, yr hyn sydd yn achosi pryder mawr i'w lluaws gyfeillion. Gobeithio y caiff wellhad buan.-Eft-o-gydd. Da genyf ddeall fod llawer o'r Cym- ry fu dan yr influenza yn gwella, ac hyderaf y caiff y gweddill wellhad buan. Cawsom y fraint o siglo llaw a'r cyfaill William Jones, prif beirianydd yr agerlong "Rugbian." Brawd yw Mr. Jones i Mrs. Harry Morris (Megan Dwyryd) a Miss L. E. Jones, 2 East 6 lsit St. Hyd yma mae wedi osgoi y tanforolion, ac hyderaf y caiff fordaith ddyogel eto; dysgwylir ddod i Efrog Newydd yn fuan eto. Bu i long ei frawd Tom, peirianydd ar y "Marere," gael ei suddo gan y Germans yn Mor y Gogledd, ond achubwyd yr oil o'r dwy- law. Da genym weled Mr. Lewis o Lun- dain, yma ar ei ymweliad blynyddol yn cynrychioli un o fasnachdai mwyaf Llundain. Mae yma gydymdeimlad mawr a theulu y diweddar Barch. Eifion Jones, Rome, yn eu profedigaeth chwerw.— J. W. R. Yn ymweled a'n dinas yr wythnos ddiweddaf, yr oedd Mrs. W. W. Wat- kins, o Scranton, Pa., a'i mab ieuanc Torrington (Eos Scranton), soprano soloist yn eglwys St. Luke's, y ddinas hono. Gwahoddwyd ef i ganu yn eg- lwys Plymouth, Brooklyn, nos Wener, a rhoddodd foddlonrwydd neillduol. Canodd yr "Holy City" a darn o'r "Messiah." Er mai gwasanaeth cref- ydclol ydoedd, yr oedd ei ddatganiad o "Come unto him" mor ragorol fel y rhoddwyd iddo encore gynes. Y maent wedi gofyn iddo ganu eto yno yn y dyfodol agos. Tra yn y ddinas arosai Mrs. Watkins a'i mab gyda Mr. G. T. Matthews yn Brynhyfryd, Brook- lyn. I.

News
Copy
SE OND ANNUAL Musical Eisteddfod To be Held at The State Belt Park Bangor and Pen Argyl, Pa., May 30,1916 ON DECORATION DAY Conductor GWILYM GLAN CONWY Adjudicator Dr. LEWIS WATKINS, Philadelphia, Pa. Artists. Miss NEITHEMIER, Philadelphia, Pa. Offi cers: Manager THOS. R. WILLIAMS, Bangor, Pa. I.airman THOS. D. MAY, Pen Argyl, Pa. Treasurer EVAX PARRY, Wind Gap, Pa. Corresponding Secretary. WM. R. DAVIES, 239, N. 7th St., Bangor, Pa. LIST OF SUBJECTS. 1. Glee Mixed voices (not Jess than 40 voices or more than 45). "The Breezes of Morning," by Gwilym Gwent. Pub. by D. O. Evans, Youngs- town, 0.) Prize,$75.00 2. Male chorus (not less than 25 voices or more than 30). (A) "The Victory." Dan Protheroe. (B) "A Moorish Serenade," by Dan Prothero, (Gamble Hinged Pub. Co., Chicago). Prize$75.00 3. Church Choir (not less than 20 voices or more than 25). (A) "God Shall Wipe Away All Tears," Dan Protheroe. (B) "Softly now the Light of Day," by Lewis Watkins. (A- Gamble Hinged Pub. Co., Chicago; B—Theo Presser, Phila.). Prize $35.0'0 4. Mixed octet, S., A., T., B., "Why Art Thou Mute, Oh Arabella," by Dan Pruthl roe (D. O. Evans, Pub.). Prize$16.00 o. Mixed quaretet, "The Heavenly Voice," George B. Nevin. (Ditson Edition). Prize.$12.00 6. Quartet (Hymn Tune) S., A., T., I; "Hold Me in the Mighty Waters," John D Williams (John D. Wil- liams. Pub., Wind Gap, Pa.). Prize $5. 7. Duet, tenor and bass, "The Mar- tial Spirit," Dr. J. Parry. (D. O. Evans, Youngstown. 0.). Prize $10.00 8. Soprano solo, "A Dream of Life's Springtime," Lewis Watkins. (D. O. Evans). Prize. $ 5.00 9. Tenor solo, "The iSilent World Is Sleeping," Dudley Buck. (Shirmer Edition). Prize$5.00 10. Contralto solo, "Out in the Blossoms with Jenny." Lewis Watkins (D. O. Evans). Prize.$5.00 11. Baritone solo, "The Raft," Ciro Pinsuti. Key G. (Ditson Edition). Prize$5.00 12. Band selection, "Tancred" (Overture). G. Rossini. Arranged by Theo. Moses. Prize$75.00 13. Orchestra selection, "Orpheus in der Untervelt," by J. Offenbach, Ar- ranged by Charles Roberts. (Carl Fisher, Pub. Prize$35.00 All music can be had at Christine Music Store, Bangor, Pa., or at R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y. RULES AND CONDITIONS. I 1. Names of all competitors on all numbers must be in hands of the sec- retary on or before May 20, 1916. 2. Competitors may send original or nnn-de-plume" name. 3. All the competitors have the per- mission of furnishing their own accompanist, or avail themselves of the official accompanist. 4. Preliminaries will be held on quartets and solos if necessary at the pavilion at 10 A. M. on May 30. 5. Merit only will be considered in awarding prizes. Adjudicator will be authorized to divide or withhold same if he sees fit. 6. Decision of adjudicator in all ca?es shall be final. 7. No person shall be allowed to compete for more than one solo prize. 8. Any grievance occurring, the same must be reduced to writing and handed to the secretary. 9. Amateur bands only will be al- lowed to compete in this competition. Number of pieces in band not more than 30, or less than 25. 10. Amateur orchestra only allowed in competition. Number of pieces not to exceed 20. pieces, nor less than 15. Nos. 9 and 10 must be a bona fide or- ganization. 11. Should there be no competition on band, number, one-third of prize will be withheld. 12. This rule also applies to glee or mixed voices and male chorus.

News
Copy
Younp-stown. 0. Heddvw. hebrvngwyd i dy ei hir p-artref yr hen gymydng" John E. Evan. gynt o Niles. Bu mor anffodull a cholli ei glun dde tua 40 mlynedd vn ol. Yr oedd vn un o .aelodau brein- iol eghvys y Bedyddwyr yn Niles. Rai bivnvddau vn ol symudodd at ei fereh i'r ddinas her. ac yr oedd yn un o fr,'orlloniai,l Walnut St., a dvg-ai fawr ^el drc*s y achcxs. Genedigol o Maes- tesr. a pbvdler wrth ei alwedigaeth oedd. Gadawodd dair merch ac un mab. Y'- oedd wedi cyraedd 99 oed. Un arall a svmudwyd gan angeu ar ol p-rvn ervstudd oedd vr addfwvn John S. Edwards. qvpt o Church Hill, vn 6S 0pfl fto-nefno^] 0 Llanidloes oedd, ond s^iruiln-1-! ei rieni i Dowlais pan oedd of vn Hentvn. ac odd! yno daeth y tenln. c' o dri brawd a dwv enwaer a'r tad a'r fam, i'r wlad hon vn 1870. Sefydlasant yn Church Hill, lie v buont am flynvddau lawer. Yr oedd yr ymadawedig yn un o gy- cbwvnwyr yr eglwys Fedvddiedier ar Church Hill, a bu vn aelod crefvddol ar hvd ei oes. Gadawodd wedrlw. un mab a merch. a dau frawd. Dearwvd vn Church Hill, pryd y ewasanaeth- ai v Parch. J. H. Llovn. Walnut St.

News
Copy
Prislau isel am Dymor Byr Y COR-DRYSOR-Emynau a Thonau, $1. POPULAR EVANGELICAL HYMNS. Containing all English Hymns, and selection Welsh Hymns of above book and some chapters of the Welsh Bible. Paper covers, 10 cts; cloth bomnd, 25 cts. DYLANWAD CYMDEITHASOL CRISTIONOGAETH, sef traethawd buddugol am yr hwn y dywedodd y beirniad dysgedig y diweddar Barch. M. H. Ellis, M. A. i "Carem yn fawr weled y gwaith penigamp hwn wedi ei argraffu. Mae yr oes mewn angen am dano," &c. 30 cts. YR ORIEL LENYDDOL. Hanes yr Enwadau o'u dechreuad, 40 cts. EYE SALVE FOR CHURCH-GOERS, sef hanes yr enwadau yn Saesneg, 75 cts. Rev. D. S. THOMAS, D. D., 2310 River Ave., Camden, N. Y. || Frank A. Bosworth, Is-lywydd. r!¡ Wm. C. Wright, Archwilydd. 7 Henry R. Williams, Is-lywydd, Cashier. ¥t: Chas. B. Rogers, Dywydd. C. H. P. Gould, Is-lywydd. m| a Hugh. T. Owen, Cynorthwywr y I- Llywydd. || I First National Bank of Utica Bank of Utica, Sefydlwyd 1812. s Unwyd a'r Oneida County Bank 1900. K ",0 Cyfalaf $1,000,000.00. Gweddill ac Elw,$2,500,000.00 | Y banc cryfaf yn nghanolbarth New York. Cyfalaf digonol, gweddill j§ ? da, goruchwyliaeth ofalus a bwrdd Hywodraethol cryf, gyda darpariaeth g ? ar gyfer pob math o wasanaeth banciol. Apelia y Bane hwn am || gyfrifon, cwmniau, corfforiaethau a phersonau unigol, gan addaw trin- g^ p iaeth anrhydeddus i'w ewsmeriaid, yn gyson a rheolau banciol. S| ? Talwn dri a haner y cant o log. <g ? Adran i ferched ar wahan, a Dyogelnychau i'w rhentu. g 1 CYFARWYDDWYR: 1 a Francis G. Wood i E. L. Wells H Charles B. Rogers I Quentin McAdam Joseph Rudd ? Nicholas E. Devereux ? Beecher M. Crouse William S. Doolittle J. E. Waterbury William E. Lewis Leslie W. Bowen G. H. P. Gould Loomis Burrell Merwin K. Hart George S. Dana g Henry R. Williams f| Frank A. Bosworth § Frank X. Matt If Gilbert Butler || William E. Hiteman & Frederick W. Owen 1 CYLCHWYL Lenyddol a Cherddorol Dan Nawdd Ysgolion Sul Moriah a Peniel I'W CHYNAL YN NGHAPEL MORIAH, UTICA, N. Y. Nosweithiau Mawrth a Mercher, EBRILL 4 a 5, 1916 SWYDDOGION. Arweinydd JOHN O. THOMAS Cyfeilydd W. R. THOMAS, A. T. S. C. (Howard Ave.) BEIRNIAID. Cerddoriaeth Dr. D. E. JONES, Scranton, Pa. Adroddiadau.HUGH HUGHES, Swyddfa'r "Press." Traethodau a'r Amrywiaeth Parch. D. MORGAN RICHARDS Barddoniaeth THOS. LLEWELYN WILLIAMS Bara Brith Mrs. W. H. JONES, 13 Clark Place TESTYNAU CERDDORIAETH. 1. Cystadleuaeth i Gor Cymysg, heb fod dros 25 o rif, "Y Blodeuyn Olaf" (The Last Rose), J. Ambrose Lloyd. (D. O. Evans Edition).$25.#6 A Chadair i'r Arweinydd buddugol. 2. Cystadleuaeth i Barti Meibion,^heb fod dros 20 o rif, "Milwyr y Groes" (Crusaders), Dr. Dan Protheroe. Gwobr $20.00 Ac os na bydd cystadleuaeth, $15.00. 3. Cystadleuaeth i Gor o Blant, heb fod dros 25 mewn nifer na thros 16 oed. (Caniateir chwech i gynorthwyo fel Tenor a Bass). "Jerusalem fy Nghartref Gwiw" (Jerusalem My Native Land), Dr. L. Mason Gwobr $15.00 4. Deuawd, "Excelsior" (Balfe) Gwobr $ 6.00 5. Unawd Soprano, "Cartref fy Nghalon," D. Pughe Evans. Gwobr $ 4.00 6. Unawd Alto, "Adlais y Dyddiau Gynt" (R. S. Hughes) Gwobr $ 4.00 7 Unawd Tenor, "O! na byddai'n Haf o Hyd" (Wm. Davies) Gwobr$4.00 8. Unawd Baritone, "Y Bachgen Dewr" (Dr. Parry). Gwobr $ 4.00 9. Unawd Bass, "Cymru" (R. S. Hughes).Gwobr $ 4.00 10. Her Unawd i Unrhyw Lais, "Lead Kindly Light" (D. Pughe Evans). Gwobr Medal Aur 11. Deuawd i rai dan 18 oed, "Dyma Feibl anwyl Iesu" (J. T. Rees), neu Gwobr ;,?; yma Feibl anwyl lesu" (J. T. Rees ) neu "0 Ddedwydd Fraint" (Allan o gantata "Plant y Nefoedd." Dan Protheroe.)$4.00 12. Unawd i rai o dan 20 oed, agored i unrhyw lais, "Cartref" ("Home") (Trevor Evans) Gwobr $ 3.00 13. Unawd i rai o dan 16eg oed, "Kissing Papa through the Telephone'" (Thomas P. Westendorf). Gwobrau $1.50; 75c.; 50c. 14. Can i Blant o dan 12 oed, "Mi hoffwn wel'd yr Iesu" (allan o daflen Cymanfa yr Ysgolion Sabbothol y M. C.) Gwobrau$1.00; 50c.; 25c. 15. Can i Blant o dan 8 oed, "Mi glywa'th dyner lais" (o Swn y Jiwbili). Gwobrau$1.00; 50c; 25c. Rhod(ledig gan gyfaill. Y Gerddoriaeth ar werth gan R. Morris Williams, 139 Grove Place a W. Gaerwenydd Thomas, 2 Clarke Place, Utica, N. Y. TRAETHODAU. 16. Traethawd, agored i bob oed, "Darbodaeth" (Thrift) Gwobr$5.00 17. "Y Gymdeithas Ymdrechol, ei hamcan, a'i dylanwad" ("The Christian Endeavor Society, its object, and influence"). Cyfyngedig i'r Cym- deithasau Ymdrechol. Gwobr $ 3.00 ADRODDIADAU. 18. Her Adroddiad (Unrhyw ddernyn). Gwobr Medal Aur 19. Adroddiad i rai dros 18 oed, "Dim ond 'Thank You Gwobr $ 4.00 20. Adroddiad i rai heb fod dros 18 oed, "Stiwdant a'i ginio" (allan o 'Ann y Foty.') Gwobrau, $2.00 a $1.00. 21. Adroddiad i rai heb fod dros 14 oed, "Peswch yn moddion gras." Gwobrau$1.00; 75c., a 50c. 22. Adroddiad i Blant dan 10 oed, "Welwch Chwi Fi." Gwobrau 75c., 50c., a 25c. BARDDONIAETH. 23. Pryddest heb fod dros gant 0 linellau oddiar y geiriau "Ty nid o waith llaw," seiliedig ar II Cor. 5:1 .Gwobr$5.00 a Medal Aur. 24. Pedwar Penill, wyth llinell, "Pen y Mynydd" Gwobr laf, $2.00; ail, $1.00 AMRYWIAETH. 25. Am y deg cyngor goreu i ddyn ieuanc wrth adael cartref Gwobr$1.50 26. Am y llythyr goreu oddiwrth fam at ei mhab yn y rhyfel presenol. Gwobr i.50 27. Am y dorth oreu o Faca Brith Gwobr Sachaid o Mawd. Rhoddedig gan Owen Hughes. Sylwed y plant fod tair o wobrwyon sylweddol i'r rhai a werthant fwyaf o werth o docynau. Ceir manylion eto. AMODAU. 1. Rhaid i'r holl gyfansoddiadau fod yn wreiddiol, ac nid ail law. 2. Atelir pris tocyn ar bob buddugwr os na fydd yn bresenol. 3. Yr oil o'r cyfansoddiadau buddugol yn eiddo y Pwyllgor. 4. Enwau y rhai fwriadant gystadlu i fod yn Haw yr ysgrifenydd erbyn y laf o Ebrill. 5. Y cyfansoddiadau i fod yn Haw yr Ysgrifenydd ar neu cyn Mawrth y 27ain. 6. Bydd yn ofynol i'r bara brith fod yn Haw y beirniad dydd Mawrth, Ebrill y 4ydd. 7. Os bydd uwchlaw tri yn cystadlu ar y Gerddoriaeth a'r Adroddiadau, ac eithrio cystadleuaethau y plant, bydd yn ofynol cael Rhagbrawf. Hysbysir yr amser yn y Newyddiaduron. All correspondence should be addressed to the Secretary- JOHN E. WILLIAMS, 126 Union Ave., Utica, N. Y. Cynydd Ein Hadnoddau Arianol $1,750,993.86 'Tachwedd, 1905. $3,956,776.04 Ionawr, 1911. $8,206,685.46 Ionawr, 1916 Gwell fyddai i chwi ddod yn aelod o deulu arianol cynyddol ag sydd yn mwynhau darpariad- au gwasanaeth y Citizens. Gwahoddir, croesawir, a dymunir busnes newydd ac ychwanegol. Ymofynwch o'r lie yr ydych drwy'r llythyrdy; neu gellwch alw yn bersonol. Gwnawn fusnes a chwi o rywle. CITIZEN'S Trust Company Phone 546—Private Branch Exchange. SENECA SQUARE, UTICA, N. Y.

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
Lieut. J. Saunders Lewis, B. A., mab y Parch. Lodwig Lewis, Lerpwl, ac wyr i'r diweddar D: Owen Thomas. Enillodd ei B. A. yn Athrofa Lerpwl. Tra yn y cole. enillodd wobr a gynyg- U. gan y "Review of Reviews."

News
Copy
MINNEAPOLIS. MINN. Rhagfyr 21, 1915, bu farw John E. Hughes yn 77 mlwydd oed yn ei gar- tref 2 80 9 E. 2 6th St., y dlinas hon. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Evan Hughes, Cambria, Wis., ac yno y treuliodd foreu ei ces, ac ymbriododd yn 1863 gyda Miss Ana Jones, merch Jones Liverpool. Buont fyw am gyfnod yn Lime Springs, Iowa, a Langford, S. D., a chladdwyd ei briod yn y lie olaf yn 1891. Eu plant ydynt, William E. Hughes, Black River Falls. Wis.; Mrs. E. A. Darling, Waupaca. Wis.; Mrs. Farley, Trigo, Montana; John E., Minneapolis; George E. a Oliver G., yn Fouth Dakota, a Mrs. Stewart, Oregon City, Ore. Tua deg mlynedd yn ol, symudodd i Minneapolis, ac yn ddi- weddarach priododd gyda Mrs. O. C. Snyder, yr hon gyda y plant sydd wedi ei gadael mewn galar ar ei ol. Cymer- odd yr angladd Ie ar y 24ain, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. T. Evans, a rhoddwvd y corff i orphwys yn mynwent Laymen. O'r plant yr oedd Wm. E., John E. a Mrs. Farley yn bresenol yn yr angladd.

News
Copy
I a CYMRO LL WYDDIANUS. Hyfryrlwch o'r mwyaf i mi ydoedd y newydd fod y cvfaill ffycldlon a'r Cymro trwyadl, H. W. Prytherch, Binghamton, X. Y., wedi cael ei ethol yn llywydd cwmni sychnwyddau cyf- anwerthol J. L. Morgan & Co. Ffurf- iwyd y cwmni hwn yn 1894, yn cael ei wneyd i fyny gan J. L. Morgan, Cymro trwyadl, H. W. Prytherch, a dau eraill. Trwy ymdrech a llafur caled mae wedi llwyddo i gyraedd pen uchaf yr ysgol. Bu Mr. J. L. Morgan farw dechreu y flwyddyn hon, ac yr oedd eraill eisieu llanw'r swydd yn olynol i Mr. Morgans, ond da genyf fod y fantol wedi troi a disgyn ar Mr. Prytherch. Mae Mr. Prytherch yn llanw'r swydd bwysig o drysorydd yn un o'r eglwysi Presbyteraidd mwyaf yn Binghamton. Mae yn weithgar mewn llawer cylch ac yn fawr ei barch. Dechreuodd ei yrfa fasnachol yn Utica, ac yno y cyfarfyddais ag ef gyn- taf yn y flwyddyn 1879. Buom yn cydweithio am flynyddau yn eglwys Moriah, ac yn y Cymdeithasau Cym- reig, yr Iforiaid, Cymreigyddion. y Gymdeithas Elusengar a'r Feiblaidd; cawsom lawer o bleser yn y gwaith. Dvmunwn i'r brawd lawer o flwyddi i vmledu a llwyddo fwy fwy mewn dy- lanwad ac anrhydedd.—Rees D. Jones, Scranton, Pa.

News
Copy
Y mae Mr. Tom Williams, ysgrifen- ydd y Gymdeithas Gymraeg a ffurf- iwyd yn ngharchar y Prydeinwyr yn Ruhleben, Germani, wedi anfon at y Prifathraw T. F. Roberts, Aberyst- wyth yn diolch iddo am anfon cyflen- wad o lyfrau Cymraeg iddynt. Cymerwyd gwraig i Germanwr, o'r enw Annie Seisu, i Lys Ynadon yn Llanrwst, am ddianc o'r Tloty. Yr oedd ei gwr wedi ei wneyd yn ddyogel ('1" tro. Cafodd y wraig ei rhyddid am ddwy awr; ond rhoddodd oriau iawer atynt. Pan ddaeth y Swyddog ar ei thraws, yr oedd y wraig hon wedi ymwisgo mewn khaki fel milwr Pry- deinig mewn ty yn Chapel Street, ac yn rhoi gwraig arall drwy gwrs o ym- arferiadau milwrol. Onid gwell fydd- ai newid enw'r stryd?

Advertising
Copy
GRANITE CITY. ILL. Gan D. C. Daniels. Cynaliwyd Eisteddfod flynyddol De- heu-Orllewin y Dalaeth hon yn y dref hon ddydd Nadolig o dan amgylchiad- au ffafriol yn ngwydd tyrfa luosog. Llywydd y dydd oedd W. J. Lynch, arolygydd melin ddur y National Enameling and Stamping Co., ac fel arfer yn feistrolgar a hwylus. Y beirniaid oeddynt: Ar y gerddoriaeth, y brawd ieuanc, Haydn Owen, Chi- cago, mab yr adnabyddus Hugh Owen, yr arweinydd corawl llwyddianus, a dangosodd fedrusrwydd a chyfaddas- der neillduol. Ceir clywed rhagor am y brawd hwn, os ca fywyd ac iechyd. Beirniad yr adroddiadau, Proff. J. A. Coolidge; y rhyddiaith, Proff. W. Frohard: celfyddyd, Mr. Dalegraff; y prize bags, Mrs. W. G. Davies; accom- panist, Miss Bessie Mae Morgan; yr oil o'r dref hon. Cadeirwyd gan Mr. J. Steele, y maer, a Mr. John Owen, East St. Louis. Fel y canlyn oed,d y gweithrediad- au: Unawd i blant ddim dros wyth oed, "Jesus loves me, this I know," goreu, Violet Evans; unawd ar y ber- doneg, "Playful Rondo," goreu, Lilian Watkins; adroddiad i blant, "Nobody knows but Mother," goreu Irene Gray, wyres i'r diweddar John Gray (Eur- fryn); wythawd gwrywaid, "Myfan- wy," goreu parti John James (Ap Meinydd); unawd i fechgyn "Dare to be a Daniel," goreu Orville Morgan. Corau i blant, "Sleighing Glee," oreu, cor Presbyteriaid, dan arweiniad Miss Bessie Morgan; unawd ar y ber- doneg, "Second Mazurka," goreu Hazel Crondy; unawd i ferched, "Lost Hope," goreu Laura Butler; deuawd, T. a B., "Excelsior," goreu Harold Williams a John Hopkins (Troserch); y prize bag, goreu eiddo Mrs. Lager; adroddiad i ferched, "Give thanks for what," goreu Bessie Hodge; corau i ferched, "0, lovely night," goreu cor y Presbyteriaid dan arweiniad Miss Bessie Morgan; champion solo, goreu Harold Williams. Medd y brawd hwn ar adnoddau datganwr ardderchog; pedwarawd cymysg, "To the haven of thy breast," parti Pugh a pharti Hathaway yn gydfuddugol. Y prif ddarn, "Y blodeuyn olaf," cor yr M. E. yn fuddugol o dan arweiniad Proff. L. P. Frohardt. Hefyd breintiwyd yr Eisteddfod eleni gyda phresenoldeb y tenorydd adnabyddus, Harri Davis, a rhoddodd ddau ddatganiad fel y medr efe wneyd: y mae yn trigo yn bresenol ar 19th Street, yn ymyl Bissel Street, St. Louis, ac yn gyflogedig yn un o eg- lwysi y ddinas. Mae cvnddeiliaid Prydain wedi narotoi i gynal cyngerdd yn yr Odeon, St. Louis, nos Sadwrn, yr 22ain eyf., er budd truenusion y rhyfel, sydd yn gwneyd Ewrop megys uffern. Mae y mvvllgor o dan lywyddiaeth W. J. Lynch wedi darparu arlwy gerddorol a dramayddol o'r fath oreu, ac yn sicr o'r gefnogaeth oreu. Yn ddiweddar, rhoddwyd i orwedd yn nibriddellau y dyffryn yr hyn oedd farwol o'r brawd John R. Williams, roller, Granite City. Cwympodd tra wrth ei orchwyl yn y felin heb sisial yr un gair. Daeth i'r wlad hon flyn- yddau yn ol o Pentre Estvll. yn ymyl Abertawe. Yr oedd yn 47ain oed, ac y mae priod yn ei galar ar ol brawd a gwr tyner a 'dirodres. Mae y brawd William Christmas Williams a'i briod yn fwy llawen bob dydd o herwvdd y bachgenyn newydd sydd wedi penderfynu gwneyd ei gar- tref yn eu plith: a chyda llaw mae Williams wedi ei godi i'r brif gadair yn nghyfrinfa yr Urdd Faswnaidd yn Granite City. Beth nesaf? Mae y brawd Dafydd Hughes, y roller, o Llanelli, v misoedd hyn ar ymweliad a ffryndiau yn y Dwvrain, a'i fab, Brvn, yn Steubenville, Ohio. Da oedd cael gair oddiwrth y "atriarch Daniel J. Evans (Daniel Ddu) yn mynesru ei fod yn parhau yn gvdmarol ffafriol o ran corff a medd- wl, ac yn cael llawer o swyn a phleser yn nghymdeithas y pethau hyny sydd wedi eu profi yn fuddiol a swynol am ug-einifll1 o flvnyddoedd yn ei brofiad a'i fvwvt]. Er gweled ei ffryndiau (lmvyl yn Hyde Park yn ei ragflaenu o un i un. y mae efe megys cedrwydd- ftn yn aros yn daleref yn ymyl ei gant oed. Bydded y dyddiau hvn yn dyner, iraidd a melus iddo yw dymuniad Ilu heblaw fy hun.