Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NEW YORK A VERMONT

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

NEW YORK A VERMONT UTICA, N. Y., Tachwedd 26, 1919.- Cynelir y Cyfarfod Dosbarth yn Moriah, Rhagfyr 5-7. Bydd y Gynadledd yn dechreu am 1 o'r £ loch ddydd Sadwrn. —Richard T. Williams, Ysg. -y mae Field Clerk George E. Da- vies, mab Dr. a Mrs. John Davies, Mor- iah, yn ol o Camp Dodge, Iowa, wedi cael rhyddhad anrhydeddus. -y mae Idris J. Davies, mab Mr. a Mrs. Griffith W. Davies, 1130 Linwood Place, gartref o Detroit, Mich., am ych- ydife ddyddiau. -Ddydd Gwener diweddaf, derbyn- iodd Mrs. Wm. R. Griffith, 1524% High Street, y newydd trist o farwolaeth ei hanwyi mam yn Nghymru. Cydym- hap-,vy! niam yn deimlir yn fawr a hi yn ei phrofedig- aeth lem. -Er mwyn ceisio chwyddo trysorfa: "Cartret y Cymry," cynelir sosial nos Fercher (heno), yn nghartref Mr. a Mrs. John L. Evans, 1314 Dudley Ave. Croesaw i bawb. -VIae y brawd Owen Roberts (Maine), 113 Leah Street, yn bur wael y dyddiau hyn. Mae wedi cael y grippe, a hwnw wedi troi yn pneumonia arno. Gobeithio y ca wellhad buan. -NTos Lun, yn nghartref ei gor-nith, yn 1629 West Street, Mrs. James Jones, bu farw Louisa Jane Jones, yn 79 oed, a daeth i'r wlad hon o Barmouth, G. C. Trigai yma er's wyth mlynedd. Gedy ddwy nith ac un nai: Mrs. John Quin- lan a Mrs. Albert Lockwood, y ddwy yn Syracuse, N. Y., a Richard B. Francis, Remsen. —Derbyniodd Miss Bessie Roberts, 318 Genesee Street, newydd trist o'r Hen Wlad am fai-wolaeth ei chwaer, sef Mrs. Francis Evans, Colwyn Bay. Yr oedd yr ymadawedig yn chwaer hefyd i Mrs. Robert Williams, Philadelphia, Pa., gynt o'r ddinas hon. Estynwn ein cydymdeimlad a'r ddwy chwaer yn eu profedigaeth. —Ddydd Gwener, yn Steuben, N. Y., bu farw Bazaleel Thomas, ffarmwr ad- nabyddus. Ganwyd ef yn Steuben, Mai 28, 1843, a threuliodd yn mron yr oil o'i oes yno. Mab oedd i Richard Tho- mas. Rhagfyr, 1865, ymbriododd a Mary Jones, Boonville. Gedy weddw a phedwar o blant: Mrs. John S. Jones a Mrs. Fred Owen, Trenton; Mrs. Her- bert Hayes a Jefferson Thomas, Steu- ben; Mrs. Mary Williams, Remsen; a brawd, Clinton Thomas, Bardwell; ne- iant, a nithod, ac wyrion. -Newydd galarus a dderbyniodd Mrs. Roger Williams, 1137 Taylor Ave. am farwolaeth ei hanwyl frawd, Hugh P. Huighes, yr hwn a gyfarfu a damwain angeuol yn ngllofa'r Fron, Coedpoeth, G. C., Hydref 30, yn 44 oed. Claddwyd yn Coedpoeth, Tachwedd 3. Yr oedd yn arweinydd canu yn nghapel y Wesle- aid yno. Gadawodd dri brawd a thair chwaer. Y mae brawd i'r ymadawedig wedi cyraedd safle uchel gyda cherdd- oriaeth. Cydymdeimlir a'r teulu. Nid oes ond byr amser oddiar pan fu farw y fam.—O. L. -Da genym weled y brawd ieuanc, William H. Jones, mab Mr. a Mrs. Hugh H. Jones, 1511 Steuben Street, wedi dod adref o'r ysbyty er's wythnos, a golwg addawol iddo gael. adferiad llwyr i'w olygon; ond cafodd ymosodiad o'r in- fluenza wedi dod adref, ond y mae yn gwella yn dda o hwnw eto. Dal yn ddi, gon gwael y mae ei frawd, Owen. Yn ei wely mewn ysbyty yn West Haven, Conn., y mae efe o hyd, ac y mae ei deulu mewn pryder mawr yn ei gylch, yn methu gwybod yn iawn beth i wneyd tgydag ef. Braidd yn'awyddus y maent i fyned yno i'w 'nol, a dyfod ag ef ad- ref, fel y gallant fod yn fwy boddlawn yn ei gylch.—T. L. W. Y Diweddar Robert Thomas I Yn nglyn a'r diweddar Robert Tho- mas, corff yr hwn a anfonwyd o New York i Utica, gan feddwl mai yma oedd ei gartref, ymddengys fod llewyrch wedi cyraedd o Edwardsville, Pa., mewn llythyr a dderbyniodd Hugh Wil- liams, v claddwr, oddiwrth Griffith J. Roberts. Hysbysa Mr. Roberts fod gan- ddo gefnder yn Nghaliffornia o'r enw Robert Thomas, a'i fod yn frawd i Mrs. David Owen (Melynfardd), arferai gar- trefu YJ) Utica, a chyn hyny yn Gran- ville. Dywed iddo gael llythyr oddi, wrth Jennie Morris (nith), a arferai fyw yn Utica, ac yn un o deulu y "Drych," yn ei hysbysu fod Robert Tho- mas, ei hewythr, ar ei ffordd o Galifforn- ia am feymru, ac fod y perthynasau yno yn ei ddySlwyl. Tra yn yr yshyty yn New-York, cafwyd allan mai ei gartref oedd Merced, California, ond dim ych- wanegol yn ei gylch. Drwy ryw amryfusedd, eyfeiriwyd ei gorff i Utica, gan y clywsid fod yma ddau o'r enw yn trigo. Dylasai yr aw- durdodau yn New York fod wedi gwneyd ymholiad synwyrol cyn gweith- redu. Bu yr awdurdodau yn New York yn frysiog a byrbwyll iawn, ac y mae pobl Utica yn synu at eu trefn anniben. Gobeithiwn fod y llewyrchyn olaf hwn yn ddadguddiad o'r dirgelwch, achosodd gryn fraw a chyffro yn mhlith y Cym- ry. Mor fyrbwyll a hyny y danfonwyd brysneges i Gymru i hysbysu'r teulu o farwolaeth un Robert Thomas sydd yn dda genym hysbysu ei fod yn fyw yn Detroit, Mich. I Taflen Goffa y Milwyr Nos Sul, yn nghapel Moriah, dadlen- wyd taflen bres, 26 wrth 38 modfedd, er anrhydeddu y bechgyn aethant o'r eg- Iwys i gymeryd rhan yn y Rhyfel Mawr. Y mae arni yr arysgrif a gan- lyn: "This tablet was erected in loving and grateful remembrance of the protection of Almighty God to the following men of the congregation who rendered service in, and those who responded to the call of the Great War." George E. Davies, Idris J. Davies, Robert Lloyd Davies, Stanley W. Jones, Owen G.. Jones, Ivor H. Jones, Owen H. Jones, Evan G. Jones, Joseph Jones, William Jones, David Jones, John A. Wil- liams, David A. Williams, David J. Williams, John P. Thomas, Hayden Evans, Harry. Thomas, Oliver G. Thomas, John O. Evans, Idris Wynne, EHis J. Roberts, Elfyn M. Thomas, Benjamin Hughes, Wil- liam M. Hughes, T. Manllwyd Tho- mas, Richard J. Owen, David Owen, Robert G. Owen, Robert J. Ed- wards, Morris Llewelyn, William Pritchard, Malcolm Jones, William T. Williams, Thomas G. Williams, Peter Jones, Reese Jones, Vernon E. Jones, Herbert W. Jones, Rob- ert Jennings, Robert A. Williams, Idris Roberts. Cyflwynwyd i bob un o honynt dyst- ysgrif o werthfawrogiad, yn cynwys y geiriau isod, wedi eu fframio mewn aur, yr enw wedi ei ysgrifi<| gan Rob- ert Lloyd Davies, un o'r bechgyn ateb- odd i'r alwad. i 1 The I Moriah Welsh Presbyterian Church I ) -Of- I Utica, N. Y. I i desires to record its appreciation of the services of its sons in the Great War. The response to the Nation's Call and the fidelity in the performance of duty oil the part of will remain a perpetual memory and make in the annals of the Church a record never to be effaced. Done by order of the church this twenty third day of November, in the year nineteen hundred nineteen. JOHN DAVIES, Pastor. Yr oedd y gwasanaeth yn ddwys a dyddorol, ac yr oedd yno gynulliad mawr iawn yn igorllenwi yr adeilad. Cafwyd anerchiad gan y gweinidog, Dr. John Davies, yn arddangos Haw Duw yn nygiad y rhyfel i ben, a therfynodd gan anog y bechgyn i barhau eu gwas.. anaeth yn myddin y Groes. Yr oedd y bechgyn yno yn eu gwisg filwrol yn y seddau blaen, a chynrychiolid hwy gan Evan G. Jones ac Ellis J. Roberts, y rhai a wnaethant anerchiadau byrion mewn atebiad i'r cyflwyniad ar ran y bechgyn. Gwnaed y dadleniad igan Mr. Elias Ellis, yr hwn a gyngorai y 'bechgyn i barhau yn eu' gwladgarwch a'u gwrol- deb yn achos yr eglwys. Caed rhaglen ddyddorol o ganu dan arweiniad John M. Jones. Unawd, "Arm, Arm Ye Brave," John M. Jones; unawd gan Mrs. John L. Evans; a chan- odd y cor, gyda Ted Lloyd fel unawd- ydd, "Y Croesgadwyr" a'r "Delyn, Aur," gydag effaith rhagorol. Canwyd amryw donau hefyd yn Seisneg; a hir gofir am y gwasanaeth. Dychwelodd y bechgyn oil o'r rhyfel, ac yr oedd 23 o'r 41 yn y gwasanaeth; eraill yn rhy bell i fod yn wyddfodol. Cyfeilid gan David Par- ry a Miss Hannah Evans. Y Diweddar John W. Jones, Utica, N. Y. I Blin iawn genym orfod cofnodi mar- wolaeth y diweddar frawd caredig, John W. Jones, neu fel yr adnabyddid ef oreu gan ei gyfeillion, John Book- seller, yr hyn a gymerodd Ie yn ei bres- wylfod ar 1503 Steuben Street, bryd- nawn dydd Mawrth, Tachwedd 18fed: Yr oedd yn teimlo yn llesg ei iechyd er's amryw fisoedd, ond yn alluog i ddylyn ei alwedigaeth hyd o fewn dwy wythnos i'w farwolaeth, pryd y caeth- iwyd ef i'w ystafell-wely. Cafodd gys- tudd blin y dyddiau diweddaf y bu byw, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel a di- rwgnach iawn. Genedigol o Llanllyfni, G. C., oedd Mr. Jones; mab i'r diweddar Wm. W. a Margaret Jones, ac ymfudodd i'r wlad hon gyda'i deulu o Dalysarn, oddeutu pum blynedd yn ol. Treuliodd dair blynedd yn ninas New York, a'r ddwy flynedd ddiweddaf yn ninas Utica. Gwasanaethai yn Utica fel ticket agent yn swyddfa y New York State Railways, a thystiolaeth arolygydd y cwmni yw na bu ganddynt neb ffydd- lonach a gonestach yn llanw y cyfryw swydd erioed o'r blaen. Tystiolaeth pawb a'i hadwaenai oedd ei fod yn, gy- meriad dymunol dros ben, yn unplyg a ddidderbyn-wyneb, ac yn feddianol ar rld'!gon o nerth moesol ac anmbyniaeth barn i sefyll i fyny yn gadarn dros ei argyhoeddiadau. Yr oedd yn feddianol ar allu a gwybodaeth uwchlaw y cyff- redin, yn neillduol felly yn y byd cerdd- orol. Meddai lais peraidd a barn gerddorol glir. Bu yn weithgar iawn gyda ch-anlad- aeth y cysegr ar hyd ei oes; arweiniai y canu cynulleidfaol yn nghapel Taly-I John W. Jones sarn, G. C., am lawer o flynyddoedd, -a. bu yn wasanaethgar iawn gyda'r Ysjgol Sabbothol yn Nghymru ar hyd y blyn- yddoedd. Yr oedd yn feddianol ar allu i fod yn ddefnyddiol yn y cyfeiriad hwn yn ogystal. Meddai farn Ysgrythyrol dda, ac yr oedd yn hyddysg iawn yn. yr Ysgrythyrau. Canodd lawer yn ystod ei fywyd ar yr hen ddaear yma, ond y mae erbyn heddyw wedi tewi, eto credwn ei fod yn canu mewn byd lie nad oes diwedd i fod ar ei gan i dragwyddoldeb. Y mae ein cydymdeimlad yn fawr a'i briod, Mrs. Henderson Jones, yn nghyd a'r ddau fab, Arthur ac Ednyfed, pa rai sydd wedi eu gadael yn weddw ac am- ddifaid i alaru eu colled ar ol priod tyner a thad gofalus. Cafodd angladd tywysogaidd bryd- nawn Sadwrn, Tachwedd 22ain. Caf- wyd gwasanaeth byr yn y ty, ac yna awd i'r co. pel, lie yr oedd tyrfa luosog wedi ymgynull i dalu y gymwynas olaf i un a berchid yn fawr ganddynt. Gwas- anaethwyd yn effeithiol iawn gan y Parchn. W. R. Williams a Dr. John Davies, Moriah. Rhoddodd Dr. Davies dystiolaeth uchel iawn i gymeriad a gwasanaeth Mr. Jones,. Canodd y gynulleidfa ddwy o hoff donau ein hanwyl frawd, sef "Llanllyf- ni" a "Babel," o dan arweiniad Mr. John M. Jones, a chafwyd pedwarawd ar y don "Martyrdom," ar y geiriau, "Cawn orphwys yn y nef," gan Mrs. John L. Evans, Miss Bessie Thomas, John M. Jones a Griffith G. Jones; Miss Olwen Jones yn cyfeilio. Yr elorglud- wyr oeddynt: Caradog M. Davies, Wil- liam Powell, David D. Griffith, Owen H. Jones, Owen D. Jones a Griffith G. Jones. Gorchuddiwyd yr arch a blodau anfonwyd gan gyfeillion y teulu, yn nghyd a'r gwahanol igymdeithaaau y perthynai Mr. Jones iddynt yn y ddi- nas.—G. G. J. Cartref y Cymry 0 I Yn ol yr adroddiadau i law ddiwedd* yr wythnos, hysbysid fod y casgliadau at y "Cartref Newydd wedi cyraedd $9,554, ac felly yn fyr o tua $5,000 o gyraedd y nod; ond y mae y minteioedd sydd allan yn ymddiriedol y cyraeddir y $15,000 cyn y diwedd. Ni ddaw yr arian mor hwylue efg y dysgwylid, ond dysgwylir y daw hwyl fwy hwylus ar bethau cyn y diwedd. Yn mhlith y rhai diweddaf i danysgriflo y mae a ganlyn: Y maer-etholedig, James K. O'Connor, $30; Dr. M. J. Davies, $25; M. J. Bray- ton, $25; R. S. Reynolds, $50; F. A. Bosworth, $25; W. E. Lewis, $100; Gil- bert Butler,$20; Caradog M. Davies, Deerfield, $25; Idris Roberts, $25; F. W. Owen, $25; Willard H. Roberts, $15; cyfaill,$25; cyfaill,$20; William G. Williams. $25; Maynard & Woodward, $25; M. H. Sexton, $25; American Hard Wall Plaster Co., $25; Arthur L. Evans, $15; H. C. Peterson Co., $25; Robert R. Williams, $18; Dr. Fred Owens, $25; Caleb E. Davies,$25; Mrs. J. S. Sher- man, $25; John H. Keene, $50; John W. MacLean, $50; Senator Davenport, $25; H. D. Pixley Son Co., $25. Cyfarfod Adloniadol I Cynaliodd y Cymreigyddion eu cyfar- fod agoriadol yn y Cartref Newydd nos Lun, ac aed drwy ragleR ddyddorol dan nawdd aelodau y Gymdeithas o Rome, y rhai a ddaethant a nifer o gantorion ac adroddwyr, y rhai a ddifyrasant y cynulliad yn fawr. Yr oedd y rhaglen yn nodedig ar igyfrif ei hamrywiaeth a'i diniolwch. Llywyddwyd gan John J. Roberts; deuawd, Mrs. J. S. Jones a. Mrs. J. L. Williams; anerchiad gan y llywydd; adroddiad, J. Rathbone Evans; unawd, "Thoughts of Mother," Mae Evans; corawd; adroddiad, John J. Roberts; unawd,^J. R. Evans; triawi, Mrs. J. S. Jones, Miss Jennie L. Wil- liams a J. R. Evans; adroddiad, Mrs. J. R. Evans; deuawd, Mrs. J. S. Jones a Mrs. J. lA Williams; corawd. Cynygiwyd pleidlais o ddiolch gan D. Lloyd Davies, ac eiliwyd gan J. Quincy Hughes, ac addawyd croesaw gwell pan orphenid y Cartref. Ar ol y cyfarfod agored, cynaliwyd cyfarfod busnes, at awdurdodwyd yr ymddiriedolwyr i fyn- ed yn mlaen gyda'r fgwaith o orphen yr adeilad. Nodio.n o New York Mills, N. Y. I Yr wythnos diweddaf, cyfarfyddodd yr Industrial Sewing Circle am y tro cyntaf am dymor y gauaf, ac yr oedd pob aelod yno. Nid wyf yn gwybod ? p? d?'?1 ?'r'ent am ei gynierya?y tymor hwn; ond maent yn bwriad^uy myned ati o ddifrif. Mae amryw wedi dod yn ddinasydd- ion o'r ardal hon, ac yn eu plith, Owen Thomas, Wetmore Avenue. Mae yma Ig-ydymdeimlad mawr a. Mrs. Henderson Jones yn ei phrofedigaeth ealar ar ol ei hanwyi briod, John W. Jones, 1503 Steuben St., Utica. .Yr wythnos ddiweddaf, cafodd Cym- deithas Rydd y Cymry "welcome home" swper, wedi ei barotoi gan Mrs. Mar- tins, No. 1 Mill Boarding House, a » chawsant amser rhgoro1. Y Sabboth cawsom adroddiad rhagor- ol gan Miss LeMoyne Owens, Stittville, a mawr yw y ganmoliaeth iddi; ac yr oedd Mrs. Dr. Hughes a'i modrybgyda hi. i Mae yn chwith iawn genym ar ol Wil-1 liam Oliver, yn enwedig yn y boreu j wrth fyned at y gwaith, fel y byddai yn 1 fy nghyfarfod bob boreu. Ond ffarm- wr mawr yw efe ar hyn o bryd ar fryn- iau Plainfield, fel mae yn adnabyddus bellach, ac enw ei gartref yw Llwybr Main Ffarm, enw ei hen gartref ar fyn- ydd Llandogai, Arfon.—R. W. Thomas. (Yn y Nodion o'r Mills yr wythnos ddiweddaf, ymddangosodd gwall cam- arweiniol drwg. Fel hyn y dylasai y frawddel. fod: "Mae G. B. J. yn adna- .byddus i Gymry y cylchoedd. Mae mab i Mr. a Mrs. Griffith Williams new- ydd ddychwelyd o dref Caernarfon." Gol.). He!yntion Holland Patent, N. Y. Tachwedd 23, 1919.-Cawsom Sab- both ystormus iawn. Yr oedd yn bur anhawdd myned .allan, yn enwedig i'r gweiniaid sydd yn ein plith; eto caf- wyd cyfarfodydd da, a Dr. Hughes wedi dyfod yn ffyddlon; a chafwyd pregeth werthfawr iawn. Yr oeddem yn pry- deru am dano, trwy ei fod wedi cael anwyd. Yr oedd yn pregethu yn Rem- sen yn yr hwyr, a chafwyd cyfarfod gweddi yma, ac er mai ychydig oedd wedi gallu dyfod yn nghyd. Yr oedd Mrs. Hughes yn cyfeilio, a Miss Kitty May Gittins yn "p hivyr,i chyfarfod bywiog oedd. Teimlai yr ychydig oedd yno nad ofer oedd iddynt ddysgwyl wrth yr Arglwydd. "Ll-awer o ddichon taer weddi." Y mae ein hanwyl frawd, John E. Jones, yn teimlo yn bur wael y dyddiau hyn. Y mae yn chwith ei weled ef yn methu. Y mae Miss Emma E. Jones, ei nnwyl fcxeh, ychydig yn well. Bu ei brawd, C. Clark Jones, yn talu yxnwel- iad .3 hwy yn ddiweddar. Yr oeddem yn falch iawn ei weled a chael ysgwyd llaw yn gynes. Hefyd, y mae ein ffyddlon frawd, John D. Lloyd, wedi bod yn lied wael. Yr oeddem mewn pryder trwy ei fod ei hunan. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cy- nal Ddydd Diolchgarwch: cyfarfod gweddi am ddeg o'r igloch y boreu. a phregeth yn yr hwyr. Gobeithiwn allu bod yn bresenol unwaith yn ychwaneg. Gobeithio y cawn deimlo fod ein Duw yn y cyfarfodydd, yn bendithio Ei blant. Yr ydym yn teimlo yn bryderus iawn am ein hanwyl frawd, John Titus Da- vies, New York Mills. Y mae yn wael iawn er's rai wythnosau, dan ofal y meddyg. Yr oedd ychydig yn well ddi- wedd yr wythnos. Y mae yn cael pob gofal gan y teulu yn yr hen gartref. Y mae yn ddrwg iawn genym ein bod yn rhy wan i fyned i'w weled. Bydd y teulu yn cyfarfod ar Ddydd Diolchgar- wch. Teimlwn yn wir ofidus ein bod yn methu bod yn bresenol. Dymunwn iddynt amser dedwydd. Bydd y rhai bach yn sicr o fwynhau y cyfan. Bydd miloedd o gadeiriau gwag trwy y byd y Dydd Diolchgarwch hwn. Ben- dithied Duw y calonau hiraethlon "trwy ein gwlad. Rhyw gymysgedd mawr sydd trwy ein byd yn bresenol. Ofnwn nad yw y wlad yn ymostwng o flaen Duw fel y dylai wneyd. Y mae ein chwaer anwyl, Mrs. Alma Jones, yn parhau i fyw o hyd, er ei bod yn mhell iawn yn y Iglyn, ac yn hollol dawel fod yr lesu yn gwneyd pobpeth yn iawn. *Nid yw ein hanwyl chwaer, Mrs. Mary Davies, yn alluog i fyned allan; eto teimla ychydig yn well. Yr ydym fel chwiorydd yn ymdrechu cydymdeim- lo a'n gilydd yn ein eystuddiau.-R. 11 ion, N. Y. I Tachwedd 23, 1919.-Ni synem weled y Golygydd yn y "Drych" diweddaf yn awgrymu am gael cofnodiad buan am ddygwyddi-ad tra phwysig gymerodd le yma dro yn ol, sef priodas un o Gym- ry mwyaf blaenllaw Ilion, ac un tra adnabyddus i Gymry y dyffryn hwn, & Ileoedd eraill, &6f Owen J. Williams (Penmachno). Pan yr oedd ei gyd- nabod o flwyddyn i flwyddyn yn sylwi yn drist arno yn ymlwybro yn unig yn nhiriogaeth henlancyddiaeth, a haul ei obeithion bron a machlud yn ngorllewin ei ffurfafen, yn bur annysgwyliadwy, wele fun dlos yn ymddangos yn y dwy- rain, a'i golygon tua'r gorllewin; trodd yntau ei olygon yn ol i weled y llwybr- au unig a deithiodd, a igwelodd y fun a'i llygaid arno, ac heb ymgyngori ag anhawsderau, trodd ei gamrau tuag ati, a gwelai ei bod hithau yn dod i'w gyf- arfod, ac yn yr olwg ar ei thelgwch a'i gwyleidd-dra, cyflymai ei gamrau nes y cydgyfarfyddwyd dan linell y cyhyd- edd; ac yn swn ei llais ac atdyniad ei llygad, ni chymerodd ond amser byr i wres yr awyrgylch'i doddi dwy galon i waed eu gilydd, a phenderfynu mai yn un a chytun yn rhwymau serch y treulient y gweddill o'r daith. Yn ddigon dirigel a distwr, collwyd y ddau o'r pentref un dydd, a'r boreu wed'yn daeth y si gyda'r awel fod Owen J. Williams (Penmachno), a Miss Cath- erine Jones, merch Mr. a Mrs. John S. Jones, Ilion, wedi eu huno mewn priod- as foreu dydd Iau, Tachwedd 6ed, ):5an y Parch. Wm. O. Williams, yn ei gar- tref yn Granville, yn eglwys pa un y mae y briodferch a'i theulu yn aelodau hyd yma, er yn byw yn Iljon er's tro. Clywsom mai byr fu eu harosiad. yÍl Granvillq, ac iddynt fyned am bleser- daith briodasol i ryw leoedd, a daeth- ant adref yn ddyogel a golwg llawer mwy siriol a boddhaus ar y ddau, ac mae dymuniadau goreu eu lluaws cyf- eillion yn eu dylyn i'w bywyd newydd. Eitha tro caethiwo trad-yr hen "Ben"; Druan bach, 'roedd cariad Yn methu hel esmwythad I deml ei gydymdeimlad. Mae ei brofiad, ei ysbryd, a'i wedd yn tystiolaethu mai nid da bod dyn ei hunan, a gwell dau nag un i deithio'r anial garw bywyd. Lwc dda calon Ilion i chwi; bywyd o hedd, byd o ha' fo'n dal i'r fynyd ola'. Bellach, mae mwyafrif mawr chwarel- wyr New York a Vermont wedi troi tua'u cartrefi ar ol bod yma, yn Rome ac Utica am amser y sefyll allan. Dy- lem fel gweithwyr fod yn ddiolchgar i Dduw rhagluniaeth am agor y drysau hyn o ymwared i bawb-ewyllysiai weith- io; ac y mae yn felus meddwl "am lu- aws adawodd eu cartrefi, yn lie sugno llaeth buwch yr Undeb, i chwilio am waith a chyflog; amryw o honynt yn hen mewn dyddiau, afiechyd yn y teulu gan eraill, a llawer o anhawsderau. Melus meddwl fod yr annghydfod wedi ei derfynu yn dra boddiraol i bawb. Mae genym fel chwarelwyr, yn ogystal a pherellonogion, achos i dalu ein diolch i Dduw pob daioni yr wyth- nos hon, ac yn wastadol, am ein dwyn allan o'r argyfwng hwn, heb i ddim -an- nymunol ac anamericanaidd ddygwydd yn ein hanes, fel y bu ac y mae mewn llu o leoedd drwy'r wlad a'r byd. Bydd y cyfaill a'n cydystafellydd, John R. Jones, South Poultney gynt, yn gadael yma am Hartford, Conn., ganol yr wythnos hon, i weithio yn ur, o'r mel-naii. LIane ieuanc, glan ei rod- iad, a hawdd ei garu. Lwc dda iddo, er yn chwith o golli ei gwmni. Tebyg y bydd y Cymro llengar, Mor- ris J. Roberts, wedi gadael am ei hen gartref yn Granvillei aros a gweithio tua diwedd yr wythnos hon. Mae yma lawer wedi cael eu taflu i dristwch, galar a .phoen yn ddiweddar yn mysg y Cymry, ond bydd i'ch gohebyddion sef- ydlog sylwi arnynt. Drwg genym fod Mrs. John S. Jones yn wael ci hiechyd er's wythnosau, ac mai yn araf y mae plentyn i ferch Mrs. Owen M. Williams yn gwella yn yr ys- byty.—John C. ( Iiion, N. Y. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mrs. Anna Roberts, priod y diweddar John Peter Roberts, Fairhaven, Vt., yr hwn a fu farw rai blynyddau yn ol yn Fair- haven. Er's tro yn ol, yr oedd Mrs. Roberts wedi dyfod i aros a chartrefu gyda'i nith, Mrs. David Williams (en- gineer), Ilion, yr hon a fu yn dyner a gofalus iawn o honi dros yr amser y bu yn aros gyda hwy. Cynaliwyd gwas- anaeth angladdol yn nhy Mr. a Mrs. David Williams, nos Wener, a daeth ni- fer luosog iawn o Gymry Ilion yn n'ghyd, ac aed a'r hyn oedd farwol o'r chwaer i'w gladdu i Fairhaven, ddydd Sadwrn, gan y perthynasau. Derbyn- ied yr oil o'r perthynasau ein cydym- deimlad llwyraf. Brodor o Blaenau Ffestiniog oedd John Peter Roberts, ei diweddar briod, ac yn fab i Peter Roberts, Tabernacl gynt, yr hwn oedd gymeriad ffraeth a gwreiddiol iawn yn ei ddydd, ac yn gweithio bob amser yn chwarel y Daff- ws. Da genyf oedd gweled yr hen frawd, Robert Roberts, tad Mrs. David Wil- liams, a brawd yr ymadawedig, yn gwella ac yn criwtio eto ar ol misoedd o waeledd. Caffed brydnawnddydd es- mwyth a thawel, ac ychwanetgiad nerth ar y ffordd ydyw ein dymuniad. Y brawd Thomas Owen (Canada), hefyd, a fu o dan operation yr wythnos o'r blaen. Da genym ei fod yntau wedi dal y driniaeth yn lew, ac yn edrych mor sionc ag erioed. Caffed ddyddiau lawer eto i fyw yn hapus yn nghanol ei deulu lluosog. Mae pethau yn myned yn weddol dda yn Ilion ar hyn o bryd, a chredaf ei bod yn normal, fel y dywedir, yma, ac hyd y gwn i, mae pawb mewn gwaith ac heb deimlo dim oddiwrth y cynwrf gweithfaol ag sydd yn berw yn y wlad. "Ac wrth fyned heibio," chwedl Morien Mon, caniatewch i mi ofyn, pa bryd y daw heddwch i%eyrnasu? Caed terfyn ar y rhyfel mawr ac erchyll er's dros flwyddyn yn ol, on mae ei ysbryd a'i effeithiau yn aros yn mhob agwedd ar gymdeithas hyd heddyw. Dywedir pan fyddo y mor mawr yna wedi ei gyn- yrfu i'w waelodion tgan wynt nerthol yn chwythu, ond wedi i'r gwynt ddystewi, bydd y mor a'i donau yn rhuo am am- ser o dan effeithiau y storm gref; ond cwestiwn o amser yn unig ydyw ei af- lonyddwch yn awr. Neu, os mynwch, pan mae adeilad neu stor fawr wedi myned ar dan, ser fod y tan wedi ei orchfygu gan y tanddiffoddwyr, er hyny, gwelir eto rhyw fan fflachiadau o wreichion tan yn tori allan yma ac acw, ac mae ei fwg yn parhau i esgyn i fyny am ddyddiau, a sawyr y tan yn llanw yr hell fro am amser maith. Rhywbeth yn debyg y gwelwn ein byd heddyw, yn gymaint afe fod y byd drwy- ddo draw wedi ei gynyrfu i'w waelod- ion gan ysbryd rhyfel a chynddaredd pobloedd am dros bedair blynedd; a berwi o'r mor a'i donau yn dan, nid rhyfedd fod ei donau heb ddystewi eto, na dylanwad sawr y tan heb ddarfod; ond fe ddaw y diwedd yn y man. Cwestiwn o amser yn unig ydyw.- Dewi Ilion. Rome, N. Y. I Erbyn hyn, ar ol marwolaeth ei I*iod, y mae Dr. Morien Mon Huws yn gwneyd ei gartref drachefn yn ninas brydferth Rome', N. Y., gan breswylio yn ei hen gartref gyda'i ferch ddi briod, yr hon sydd er's Mynyddau yn ysgol- feistres yn y ddinas. Bu M. M. 'yma am ugain mlynedd o'r blaen, yn weinidog ar eglwys Court Street, Rome, yn Y. M. -C. A. Secretary, ac yn Gaplan yn y County Home a'r State Custodial Insti. tution. Y mae yr eglwys Seisnig a was- anaetha ychydig fiildiroedd o'r ddinas. Ei gyfeiriad yw 516 Floyd Avenue.— Goh. Unadiila Forks, N. Y. I Tachwedd 24, 1919.-Dydd Mercher, Tachwedd 19, bu farw Robert Pughe, yn 76 nalwydd oed, yn y Masonic Honie, Utica. X. Y., o glefyd y galon. Yr oedd yn aelod o Sauquoit Lodge, F. & A. M.. am lawer o fiynyddau. Cynaliwyd ei gynhebrwng i) gartref ei frawd, Lewis Pughe, Unadilla Forks, X. Y., y Parch. C. W. Xewman yn gweinyddu yn y ty, ac aelodau o'r Sauquoit Lodge,' F. & A. M. yn cynal y gwasanaeth wrth y bedd. Genedijgol oedd yr uchod o Sir Feir- ionydd, sef mab i John Pughe. Llanfi- hangel-y-Penant. Y mae yn y wlad hon er's Ilawer o flynyddoedd, a bu yn gweithio ar ffarm yn Paris Hill am am- ryw fiynyddau. Y mae iddo ddau frawa i alaru ar ei ol, sef John Pughe. Em- poria, Kansas, a Lewis Pughe, Una- diila Forks, X. Y., ac amryw neiaint a nithod yn y wlad hon ac yn yr Hen Wlad.—E. E. P. Pouitney, Vt., am Wledd Gerdderol Mae rhai blynyddau bel'ach wedi Ilithro drosodd i'r gorphenol mud er pan fwynhawyd gwledd gerddorol Gym- reig yn y dref hon. Mae ysbryd yr Eis- teddfod wedi llwyr drengu yn ein plith; ein dadganVvvr, rhai wedi dodi'r delyn i gadw, ac eraill wedi myned ar was- gar, a chwaeth ein hardalwyr wedi ei wyrdroi at bethau 0 lai gwerth. Yn gymdeithasol, y' mae cyflwr Cymry yr ardal yn resynus. Dichon mai gwreich- ioneTI.. sycld yn eisieu i ailgyneu tan ein hen allor. Os felly, mae rhagolygon am ddeffroad! Derbyniwyd gair yma yn ddiweddar oddiwrth un o "theatrical managers" dinas Rutland i'r perwyl fod y Mount- ain Ash Welsh Male Concert Choir i fod yma gyda ni, nos Lun, Rhagfyr 15. Dyma i ni addewid am fwy na igwreich- ionen; am fflam fywiol ysbryd y gan Gymreig; ac nis gallwn lai na chredu y bydd i Gymry Poultney ^dderbyn hyn o newydd gyda gradd helaeth o fwyn- had a dyddordeb. Tra ar ei ymdaith yn y rhan hon o'n gwlad, mae j* cor en- wog hwn wedi ei sicrhau i ymddangos yn y Playhouse yn Rutland ar y 12fed, yn y Pember Theatre. Granville, ar y 13fed, ac yn y dref hon ar y 15fed o'r mis nesaf, a gwarentir fod ei raglenau yn gyfryw ag i foddio bob chwaeth gerddorol. Yn mhlith yr unawdwyr, ceir amryw o'r hen aelodau sydd wedi goglais cynulliadau ein gwlad ar ach- lysuron blaenorol, a cheir ar y rhestr hefyd enwau dadganwyr nas clywyd yhia o'r blaen, ond mae y ffaith eu bod i fyny a gofynion beirniadol Glyndwr Richards yn ernes o'r hyn a ddysgwyl- iwn ganddynt. Yn ystod wythnos eu hymddangosiad yn ein tref, bydd Gwalia gerddorol yn dathlu canmlwyddiant genedigaeth ei Phencerdd, yr anfarwol Brinley Rich- ards. Gyda hyn o anogaeth, yirigynull- wn ninau at ein gilydd i ddathlu, yn swn alawon melodaidd a gasglwyd ac a gadwyd i ni trwy ei lafur a'i athrylith nefolaidd, ddydd canmlwyddiant ei ddy- fodiad i'r byd. Pa well modd i ddathju coffa am seren gerddorol ddysgleiriaf ein cenedl na thrwy dreulio awr neu ddwy yn nghwmni meibion cerddgar v Mountain Ash Concert Choir?—H. H. P.

Advertising

[No title]

Advertising