Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

I 0 WLAD Y GYFLAFAN I

[No title]

MARWOLAETH MRS. THOMAS LL.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MRS. THOMAS LL. WILLIAMS, UTICA, N. Y. Ychydig wedi haner nos, nos Sul, pan oedd Rhagfyr yn agor ei ddorau, bu farw y chwaer dawel, garedig a duwiol hon, yn 52 mlwydd a naw mis oed, wedi dyoddef cystudd blin am yn agos i 18 mlynedd. Ganwyd yr ymadawedig yn Ebenezer, Arfon, a merch ydoedd i Mr. a Mrs. Richard Jones, New Street, blaenor gynt gyda'r Wesleaid yn y Tabernacl, Ebenezer. Pan oedd Mrs. Williams yn ieuanc, arferai weinyddu gyda'r Parch. William Rowlands, Cefn- y-waen, a chyda ei blant wedi hyny. Ymbriododd gyda Mr. Thomas Ll. Wil- liams oddeutu 28 mlynedd yn ol yn Caernarfon, G. C. Yn fuan ar ol hyn, ymfudasant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Arvonia, Virginia. Wedi aros yno oddeutu tair blynedd, daeth i'w bryd symud i Granville, N. Y., lie y treul- iasant dros 16 o flynyddau. Yn yr argyfwng llechfaol 1916, sy- mudasant i Hastings-on-Hudson, N. Y., Mrs. Thomas LI. Williams ac ar anogaeth gref y meddyg yno, symudasant i Utica tua blwyddyn yn ol. Ond er pob gofal a symud ar ei rhan gan ei phriod caredig a gofalus, angeu a orfu, a chredwn yn ddibetrus oddiar yr adnabyddiaeth o honi tra yma yn dyoddef, ei bod wedi cael newid er gwell. Pethau a berthynant i deyrnas Dduw oedd ei holl oglud, yn enwedig emynau ac adnodau. Ni frysia'r neb a gredo Yn nydd y storom gref, Mae'r angor yn ddyogel Ar graig addewid nef; I'r glyn heb frys na phryder, Nac ofnau o un rhyw, Wynebodd hon yn dawel- Bu farw fel bu fyw.. Gadawodd i alaru ar ei hoi, ei phriod, Thomas Ll. Williams; ei merch, Mrs. Evan Lewis; a Myfyr, y mab; tri o "frodyr, John yn Lee Park, Pa.; a dau yn Ebenezer, Arfon; a phedair o chwi- orydd, ddwy yn y wlad hon, un yn Rome, N. Y., a'r Hall yn Granville; a dwy yn Hen Golwyn, G. C. Tad yr amddifaid a Barnwr y gwedd- won fyddb yn arweinydd ac yn ddydd- anydd i'r teulu trallodus. Cymer yr angladd (preifat) le boreu dydd Iau am 11 o'r gloch.—Moelrydd. Bawb sy'n llwythog a blinderog, Deuwch ataf ft, medd Ef; Gorphwys. gant ar ol cystuddiau Yn nhawelwch clyd y nef; Hyfryd oedd i'n chwaer gystuddiwyd Flwyddi lawer yn y byd Gael ymfudo draw o'r diwedd Lie mae pawb yn iach o hyd! Pererines fu'n dyoddef Ar ei hir flinderus daith; Caled fu yr anial iddi- Ar ddiffygio lawer gwaith; Ond ei ffydd a'i daliai 'fyny; Mwyn a siriol oedd bob dydd; Dysgwyl oedd am wawr y boreu Pan y'i rhoid o'i rhwymau'n rhydd. Er mai llesg oedd drwy'r blynyddau, 'Eto'r oedd yn gydmar cu; Fe wel Tom hi'n unig hebddi Pan yn troedio'r anial du; Tywyll fydd yr aelwyd hebddi; Gwag y cartref clyd di nam; Bydd rhyw adgof a rhyw hiraeth Mud yn aros heb y Fam! I- -c I ———

CYNLLUN CYNILO Y LLYWOD- …

Advertising

NODION -PERSONOL1

[No title]