Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

YR ANRH. DANIEL WEBSTER WILLIAMS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ANRH. DANIEL WEBSTER WIL- LIAMS, Y GOLYGYDD, A'l FAB, BEN AMES WILLIAMS, Y NOFELYDD Gan E. O. Roberts, Jackson, Ohio I Llawenydd mawr genym bob amser ydyw gweled a darllen am lwyddiant ein pobl ieuainc, drwy gyraedd 'safle- oedd uchel a phwysig mewn byd ac eg- lwys., Un o'r cyfryw sydd wedi dringo i ben yr ysgol, a chyraedd ei nod uchel, ydyw y nofelydd ieuanc uchod, Ben: Ames Williams, a'r hwn a restrir hedd- yw yn rhestr flaenaf nofelwyr America, er nad ydyw eto ond deg-ar-hugain oed. Cafodd ei addysg foreuol yn Jackson, ac yn Macon, Miss. Derbyniodd ran' o'i addysg hefyd yn yr University of Wales, pan oedd ei dad, yr Anrh. Daniel Webster Williams, yn drafnoddydd yn Yr Anrh. Daniel Webster William? -1 Caerdydd. Ar ei ddychweliad i Am- erica, ewblhaodd ei addysg yn ngholeg Dartmouth, ae oddiyno y graddiodd mewn tair blynedd a haner yn He ped- air blynedd. Dechreuodd ei yrfa lwyddianus pan yn fachgenyn yn ngwaelod yr ysgol, drwy osod "types" ar y "Standard- Journal," yn argraffdy ei dad, am bum sent-ar-hugain y dydd, ar Sadyrnau ac yn ystod ei seibiant. Am chwe blyn- edd wedi graddio, cawn ef ar staff y "Boston American," lie yr amlygodd ei allu uwchraddol, ac y parhaodd i ddringo. Tra yn Boston y darganfydd- odd Robert H. Davis, Golygydd y "Munsey Magazines," ei alluoedd dys- glaer, ac efe yn benaf a'i dygodd i sylw cylchgronau ein gwlad. Dyma ddywed Golygydd y "People's Home Journal" am dano: "Ben Ames Williams is an American novelist who has a commanding place among writers of virile fiction. He is onfe of the few novelists who are able to drive a theme and a story abreast and not tandem. Life and romance have invented so many ways of bringing a man and woman together that we might be par- doned for believing that their inven- tion had reached its limit, when along comes a man who hits upon something entirely new, and Ben Ames Williams ts at his best in his latest novel, "The Man Who Had Everything." Here is a remarkable story, one that will be ap- preciated by our readers-one that will be a noteworthy addition to our liter- ature." Rhoddodd Edward Joseph O'Brien, beirniad Ilenyddol y "Boston Tran- script," yn ei "Distinctive Stories of the Year," le i dair o'i ystoriau. Deng- ys y ffaith hon yn unig safle yr awdwr ieuanc hwn. Rnedodd ei nofel, "The Great Accident," yn y "Saturday Even- ing Post," o Medi 27ain hyd Tachwedd 15fed. Dewisodd seiliau a chymeriadau y nofel glodus hon o dref Jackson. Er nad oes ond prin tair blynedd er pan ddechreuodd ysgrifenu i'r cylchgronau, yn ystod yr adeg yna mae wedi ysgrif- enu dros gant o nofelau. ac yn sicr ddigon, rhed ei "income tax" yn uchel eleni, canys mae eisoes wedi sylwedd- oli y flwyddyn hon dros ddeug^iin mil o ddoleri am ei lafur! Er cymr.int y ,.N,iith a gvfiawna. mwynha fywyd yn llawn. Treulia if"- oeid yr h-if yn e' hafdv ar lan v Wer ydd yn Belfast. Maine, gyda'i briod tiawddgar a'i dd-iu fab bychan pert. Mae yn hoff iawn o rwyfo a physgota, a chwareu golf a tennis, &c. Treuliodd fy mab, Owen Stanley, a'i briod, ddeu- fis yn eu cwmni yr haf diweddaf, a chafodd Ben a Stanley amser eu bywyd yn pysgota yn y mor, ac yn yr aberoedd a'r llynoedd. Mesura Ben Ames dros chwe troedfedd, a phwysa ddau gant a deugain. Mae ei galon fawr yn gyd- fynedol a'i ben llawn, ac a'i gorff mawr a lluniaidd. Mab ydyw i'r Cymro galluog, yr Anrh. Daniel Webster Williams, y Gol- ygydd, a'r cyn-drafnoddydd, a'r cyn- seneddwr. Mab ydyw Webster Wil- liams i'r diweddar fardd a lienor, Ben- jamin G. Williams, o Oak Hill, ac yno y ganwyd ef. Ei daid o du ei dad oedd George Williams, Lledrod, Sir Aberteifi. Ei daid o du ei fam oedd Joshua Evans, Llanio Isaf, o'r un Sir, ac yr oedd y ddau hyn yn mhlith sefydlwyr cyntaf swydd Jackson. Yr oedd y diweddar efengylydd peraidd, y Parch. Evan Evans, Nantyglo, yn frawd i Josiah Evans, ac yn dad i'r nofelydd enwog, Beriah Gwynfe Evans, ac mae y Proff. D. J. Evans' sydd yn Broffeswr Lladin yn Athrofa Ohio yn frawd i fam Web- ster Williams. Dyna ach y nofelydiji ieuanc, Ben Ames Williams, o du ei dad. Ei fam sydd ferch i'r diweddar Farnydd Ames, o Macon, Miss., a brawd i'r Barnydd ydoedd yr Esgob Ames, o'r eglwys Fethodistaidd Esgobol. Y mae mam Mrs. Williams yn chwaer i'r Cadfridog Longstreet, a wnaeth enw mawr iddo ei hun yn ystod y gwrthryfel cartrefol. Mae hithau, Mrs. Williams, yn fonedd- iges dalentog iawn. Felly pa ryfedd fod Ben Ames wedi ei gynysgaeddu a gallu- oedd meddyliol mor gryf a dysglaer, canys ysglodyn ydyw o hen foncyffion enwog a chadarn o'r ddwy ochr. Ein dymuniad iddo ydyw Uwch, uwch, yr elo'r nofelydd Nes dringo i gader miliwnydd. Mae hefyd elfenau moesol a chref- yddol ei rieni a'i hynafiaid yn cael eu dadguddio yn amlwg yn y nofelydd. Cyn terfynu, dymunwn ddweyd gair neu ddau yn rhagor am ei dad amryddawn. Yn ol fy marn i, efe ydyw Daniel Web- ster yr ail, a Lloyd George America. Mae o daldra canolig, ac wedi ei freint- 10 a chorff llydan a chadarn. Gellid meddwl oddiwrth ei ymddangosiad a'i gerddediad mai swyddog milwrol yw, gan mor unionsyth yr ymddengys. Syl- wer ar ei edrychiad llym a phelldreidd- lol, ac ar y penderfynolrwydd sydd yn argraffedig ar ei wynebpryd. Er's deng mlynedd-ar-hugain mae Mr. Williams yn brif berchenog a golygydd y "Jackson Standard Journal," sef or- gan hynaf y blaid Werinol yn y Sir. Nis gwyddom am un Cymro a ysgrifen- odd fwy nag ef; nid yn unig i'w new- yddiadur ei hun, ond i'r gwahanol new- yddiaduron dyddiol. Rai blynyddau yn ol, cyhoeddodd lyfr eang ar hanes swydd Jackson. Efe hefyd ydyw hanest- yddwr "Cymdeithas y Cambriaid" oddi- ar ei gychwyniad, a chymer ran amlwg bob amser yn ei huchel-wyliau. 'Mae yn noddwr aiddgar i'r Eistedd- fod, a llwyddodd mewn llawer o honynt. Mae yn ddirwestwr o'r groth, ac ni chyffyrddodd a myglys er's deugain mlynedd. Defnyddiodd fyglys am ych- ydig amser pan yn fachgenyn-er mwyn bod yn ddyn, ond canfu ei gamgymeriad yn fuan iawn. Areithiodd lawer ar ddirwest, yr Ysgol Sul, ac ar faterion crefyddol a gwleidyddol. Yn y Senedd yn Washington, neu mewn rhyw ddinas fawr arall yn golygu un o'r cylchgron- au neu newyddiadur dyddiol y dylasai fod, ond yn lie hyny, mae wedi aberthu ei fywyd i'w gyd-ddinasyddion yn swydd Jackson. Gwerthfawrogir ei lafur mawr a'i feddyliau dihysbydd, ond ef- allai nid i'r graddau y dylem. ———— m • » ————

Advertising

SLATINGTON, PA.I

Advertising

I"AR HYD Y NOS"I

Advertising

I CINCINNATI, OHIO j

Advertising