Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Daeth Awel Lem yr Hydref Daeth awel lem yr Hydref: Dystawodd cor y llwyn; A'r hedydd mwyn ni chwyd i'r nen O'i nyth yn mysg y brwyn. Daeth awel em yr Hydref: Bob blodyn per ei sawr, 'Rol plygu'i ben dan wyll v nos, Ni ddeffry gyda'r wawr. Daeth awel lem yr Hydref I sisial wrth y dail; Dan wrido'n deg, yn wylaidd lu Disgynant bob-yn-ail. Daeth awel lem yr Hydref Tan suo'n mysg y grug; A chanu'n iach mae swynion haf; Y gauaf ganddi ddug. NANCE EVANS. -:0:- Hedd a ThaweJwch Dil o'n hudol ne' ydyw; Neu hanfod y gwynfyd yw; A'n Duw lor, ein Hawdwr hedd Yn for o swyngyfaredd; A'i adloniedol delynau Yn ddifyr hedd i'w fawrhau. Syflyd yr hen was aflan I'w le tost, diwaelod dan; Hilyn o wynias lyn anwn Lygrodd y byd anhyfryd hwn. le'r du Kaiser adgasedd Fu o hyd yn difa hedd; Diafol oedd y dihafal hyll Ali fawr orchest yn for erchyll; Yn hafog a phob rhyw ofid, Ac annuwiol, elynol lid. Ond darniodd Duw y deyrnas, Llawn elfen gwrth gynen, gas; Deifio'r anwn etifedd Sydd for yn dygyfor hedd. Nid rhuthro a swnio sydd, Na gwylio i ladd ein gilydd; Nid briwio, na chlwyfo a chledd, Nac ail lunio celanedd Ond tawelfyd a hawddfyd hedd, Yn eyfuno'r byd cyfanedd. GLAS RHOSYDD, Chicago, 111. Byddwn Ddiolchgar I Am heddwch sy'n teyrnasu; Am Gristionogol wlad; Am gapel, teulu, cartref, Am oriau llawnion, mad; Am wlad yn rhoi trugaredd I holl genedloedd byd; Am gyfaill a chymydog, Diolchwn Dduw o hyd. Am allor wen ein tadau, Am fan yn ymyl Duw; Am obaith fod anwyliaid 0 fewn y nef yn byw; Am lewnion ysguboriau; Am iechyd, golwg, clyw; Am drugareddau fyrddiwn; Diolchwn di, O! Dduw. MORIEN MON, 'Rwy'n Ofni Angeu I Wrth rodio'r dyffryn du, A'i ddwfn gysgodion, Daw oerion ofnau lu I lethu'm calon; O! na chawn fyned trwy Yr afon heb un clwy', A chanu gyda hwy- Fv hen gyfeillion. Daw'r ofnau ataf 'nawr Wrth gofio'r marw; Fe gefna ffryndiau'r llawr Mewn drycin arw; O! na chai'm henaid gwan Un olwg ar y lan Lle'm gwelir yn y man Dros frig y llanw. Tu draw i nos y bedd Mae dydd o wynfyd, A phrofi hyfryd hedd Wnaf yn fy adfyd; Mae Gobaith yna'n byw, Yn heulwen wyneb Duw, Ac nid oes blod'yn gwyw Yn nhir y bywyd. IOAN RHYS. Llanon, Ceredigion. Hedd Wyn I Hedd Wyn dy delyn a dalodd—melus Y moliant a ganodd; Cam ddyffryn a cwm ddeffrodd I werth a bar wrth eu bodd. Daw nodau a gydneidiant—yn swynol Mewn seiniau o foliant; A difyr y dyferant Fuddus si a foddia sant. Yr wyt fyw er i ti fod-yn huno Dan haenau y beddrod; Gwynfa yw'r lie i ganfod; Rhan y dewr yw rhin dy rod. Deg yru gydag arwr-a gefaist Yn gofeb rhywelwr; Angeliaeth efengylwr Y drws i dy dros y dwr.. Hedd Wyn, wyt heddyw wynach—na'r eira'r Neu'r Aran gyfrinach; A'th hedd awel dawelach Na'r huan besg yr wyn bach. J. T. EVANS. -:0:- Efengyl y Cymylau Mae Anian yn llawn dadguddiadau 0 berffaith ogoniant ein Duw; Darlunfa yw'n llawn rhyfeddodau,— Diderfyn bortread i'r byw; Elfenau cuddiedig ddadguddiwyd; Mor gywrain Ei Allu Mawr Ef! Gogoniant ffurfafen amlygwyd Gan Awdwr mor, daear, a nef. Dnw edrych yn eiriol o'r nefoedd: Fe ivyfia yr adar i gyd 1 A 'hedant am nawdd i bellderoedd Rhag niwed yl ereulon ei fryd; Liewvrcha ei wvneb tosturiol Yn Iliwiau'r goleuni yn gain; I'r blodau rhydd dlysni sy'n nefol; Fe baentia y lili'n ddi staen. O'r cwmwl daw bendith' yn dyher, A disgyn. yn esmwyth fel gwlith; A gaPu Duw dyr o'r uchelder Mewn taran a chorwynt i'n plith; Arwvddlun yw'r cwmwl o'r Dwyfol Sy'n dadgan gwir Aberth y Groes; Dadlena fod Crist yn bresenol: Yn arwain-yn nod i bob oes. Mae'r 'cwmwl yn arwydd ddiflanol O'n pechod cyn disgyn i'r bedd; Mewn cwmwl ceir pechod tragwyddol Rydd drwydded i fro'r bythol hedd; Rhaid i ni wrth graffder ysbrydol A chwmp.3wd gwir obaith, a'i lyw, I weled trwy'r níwl eyfnewidiol. Y sylwedd tragwyddol a Duw. Myfyriwn ar bothau gweledig A grewyd gan gariad di draul, Nes peri i ddynion colledig Wel'd harddwch gogoniant yr haul: Cyfiawnder ei Natur ddysgleiria; Cyfeiriad y nod yw byd gwyn; I bawb sydd yn nghysgod Calfaria Mae gobaith er myned fr "glyn." I 1 080 SIENCYN.
I NODION 0 NEW CASTLE, PA.
I NODION 0 NEW CASTLE, PA. I Gan Brython Rhagfyr 8, 1919.-Nos Sadwrn, Rhag- fyr 6, cynaliwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf llwyddianus yn hanes eglwys barchus yr Emmanuel, o dan nawdA Cymdeithas Dynion Ieuainc yr eglwys, ac o dan yr enw, "Cyfarfod y Tadau a'r Meibion," pan y daeth lluaws yn nghyd o'r ddau ddosbarth hyn. I ddech- reu, cafwyd bancwed anrhydeddus am haner awr wedi saith; pawb yn cael hwyl a bias wrth gyfranogi o'r bwyd- ydd hyfryd ag oedd wedi cael eu paro- toi gan wragedd ieuainc yr eglwys, dan arweiniad rMs. Charles Richards, Mrs. Wm. H. Lewis, Mrs. Morgan Morgans, Mrs. Wm. C. Jenkins a Mrs. John S. Rodgers. Ar ol gofyn bendith gan y Parch. Emrys Thomas, y gweinidog, cyf- ranogodd pawb o'r bwydydd blasus. Yna cafwyd gwledd arall i'r meddwl a'r ysbryd. Galwyd y cyfarfod hwn i drefn gan y cadeirydd, Mrs. John S. Rodgers, a galwodd ar yr oil ag oedd yn bresenol i ganu "America"; yna can agoriadol mewn hwyl gan Mr. Charles Richards; deuawd gan y ddau dad, Mr. Thomas Edwards, South Mercer St., a Mr. Dan- iel Williams, Sheridan Ave.; y ddau yn canu nes tynu banllef o gymeradwyaeth oddiwrth bawb, a galwad am iddynt ail ganu. Anerchiadau y beirdd a barddon- iaeth gan Brython; chwareu ar y crwth gan Master Wm. J. Jenkins; anerchiad ar y cwestiwn o bleidlais i'r gwragedd yn y wlad hon, gan y dyn ieuanc, Mr. Barton Richards, Arlington Ave.; ad- roddiad gwir dda gan Mr. Griffith Phil- lips, Lyndal St.; anerchiad ar esgyrn a chnawd dynoliaeth gan Mr. Clifford Edwards, yr hwn sydd yn oruchwyliwr gyda'r Y. M. C. A., ac yn hynod lwydd- ianus yn ei waith; chwareu ar y ber- doneg gan Master E. Phillips, Lyndal St.; anerchiad ar yr uchel draul o fyw, gan Mr. Clifford Williams, Highland Ave.; anerchiad ar y "Cyfnod o gan mlynedd cyn geni fy nhad," gan y Parch. Emrys Thomas, yr hwn a ddy- wedodd fod effaith ddrwg neu dda by- wyd y tadau dros can mlynedd yn ol yn effeithio ar fywyd ac ymarweddiad plant yr oes hon. Can swynol gan y brawd Thomas Hopkins, yr hon gan oedd i fod i gael ei chanu gyda'r delyn, ond fod y gwlaw wedi rhwystro ei fab, David, i ddod i waered i'r capel; eto darfu i'r brawd Hopkins ei chanu gydag effaith dda. Diweddwyd y cyfarfod trwy ganu emyn, ac ymadawodd y tadau a'r meibion wedi cael noswaith fuddiol a daionus. Mae rhagolygon gwir dda am Eis- teddfod lwyddianus a buddiol yma y Nadolig nesaf, yr hon Eisteddfod sydd yn cael ei chynal bob blwyddyn dan nawdd eglwys barchus yr Annibynwyr. Y mae y pwyllgor, dan lywyddiaeth y brawd rhagorol, Wm. J. Davies, am y mae y rhaglen yn barod i'w chael gan yr ysgrifenydd, Mr. Rhys J. Williams, Bleakely Ave. Yr ydym yn dechreu teimlo effaith streic y glowyr yma yn bresenol; mae rhai o'r gweithfeydd wedi gorfod cau i lawr o achos prinder glo; yr ysgolion dyddiol hefyd sydd yn dyoddef, a'r gweithiwr tlawd yn dyoddef yn waeth na neb. Dyna fel y mae yn yr amgylch- iadau cyfyng bob amser, y tlawd a'r gwan yn gorfod dyoddef y caledi i gyd. Blin genym i hysbysu am farwolaeth y wraig ieuanc, Mrs. Elizabeth Francis Miller, Warren, Ohio, yr hyn a gymer- odd Ie yn y clafdy yn ninas New York, Me yr oedd wedi cael ei chymifyd ych. ydig fisoedd yn ol, er ceisio I ellhad. Ganw'yd hi yn New Castle yn agos i bedair blynedd-ar-hugain yn ol; ei rhi- eni anwyl oeddynt: Mr. a Mrs. Thomas Francis, y rhai ddarfu ei blaenori hi i'r byd arall ychydig amser yn ol. Caf- odd Elizabeth bob mantais addysg boreu oes, a phob tynerwch mam a thad gofalus, ac felly tyfodd yn ddynes yn berchen ar lawer o wybodaeth a synwyr cyffredin. Rhyw ychydig flyn- yddau yn ol, darfu iddi gyda'r teulu symud i Crafton, Pittsburgh, a thra 'yn cartrefu yno y darfu iddi golli ei ffrynd goreu, ei mam anwyl. Symudasant i Warren, Ohio, a'i thad anwyl yn dylyn y swydd o oruchwyliwr ar y felin alcan, a thra yn gwneyd ei chartref yno, darfu iddi vmuno mewn glan briodas a'i phriod anwyl Mr. James Miller, yr hwn sydd yn ei ddagrau yn bresenol, ac o'r undeb hwn y ganwyd dau o blant. Yma tarawyd y fam, a'r teulu a wasgarwyd; y priod yn Warren; un o'r plant, Mary Francis, gyda pherthynas iddi yn New Castle: a'r llall yn New York gydag ewythr iddi. Ymunodd Elizabeth er yn foreu iawn ag achos y Ceidwad. a daliodd felly yn ffyddlawn trwy ei hoes fer. Yr oedd yn teimlo mawr ddyddordeb yn achos y tlawd a'r angenus. Daethpwyd a'i chorff i New Castle, i gartref ei mod- ¡ ryb a'i hewythr, Mr. a Mrs. William E. Francis, Edgewood Ave., lie y cynal- iwyd y gwasanaeth angladdol ar y 4ydd I o Ragfyr, pryd y gwasanaethwyd gan y ¡ Parch. Emrys Thomas, New Castle, a'r I l' Parch. Joseph Lloyd, Youitgstown, Ohio. Canwyd yn doddedig iawn gan y ped- warawd: Miss Margaret Williams, Mrs. 1 John S. Rodgers, Mr. Dávid Lewis a Mr. Richard E. Johns. Gosodwyd ei chorff, i orwedd yn nghladdfa Oak Park, New Castle. Gadawodd y ddynes ieuanc ar ol yn eu dagrau, heblaw ei phriod a'r ddau blentyn; dri brawd, sef William a Glyn yn New York, a Tom yn cartrefu yn Cincinnati, Ohio; a pherthynasau yn New Castle, sef Mr. a Mrs. Wm. E. Francis a'r teulu, a Mr. a Mrs. Daniel Williams a'r teulu. Bendith y Cysur- wr mawr fyddo gyda hwy oil yn eu hir- aeth. Ymadael wnaeth ein Lizzie Yn gynar iawn a'r byd; Ei bywyd dorwyd ymaith, A hithau aeth yn fud; Ond bellach, 'ry'm yn credu Ei bod hi'n canu'n awr Yn uchel am y golchi A'r puro ar y llawr.
[No title]
I Y peth sy'n rhyfedd ydyw fod. y Cymro yn Iwerddon yn troi yn genetll. aetholwr Gwyddelig mor ffyrnig, tra y mae'r Cymro yn ei wlad ei hun yn gen- edlaetholwr digon llipa a diasgwrn-cefn yn fynych. Nid wyf yn meddwl fod cenedlaetholdeb Cymru cyn gryfed a chyn i-ached heddyw ag oedd bum' mlynedd-ar-hugain yn ol.-Y "Genedl."
[No title]
Saethwragedd Medrus yn Bisley, Lloegr. Agoriad y campau yn Bisley. Gwel- ir Mrs. Gertrude Preston (yn y gystadleuaeth am wobr y Brenin) yn tanio yn y gystadleuaeth 200 Hath —Copyright Westerij Newspaper Union
COLUMBUS, OHIO
COLUMBUS, OHIO 'Gan T. Roderick Tachwedd 29, 1919.-Mae yr eglwys (A.), Washington Avenue, wedi bod yn hynod garedig yn ei hymddygiad tuag at eglwys y T. C. ar ol iddynt werthu eu capel, fel nad oedd ganddynt un man neillduol i fyned; ond dyma swyddog- ion yr eglwys uchod yn cynyg eu capel hardd i ni, dim ond i ni dalu costau y glo a'r goleuni trydanol hyd y bydd y capel newydd wedi ei orphen; ac yr ydym ni fel eglwys yn wir ddiolchgar iddynt am eu caredigrwydd; ac felly mae y gwasanaeth yn cael ei gario yn rnlaen fel yn yr hen gapel; ac y mae y ddwy eglwys wrth eu bodd yn cyd- addoli Duw. Yr oedd yn olygfa ogon- eddus Ddydd Diolchgarwch i weled y ddwy eglwys fel un corff yn cydweddio, a diolch i'r Arglwydd am ei holl ddon- iau iddynt mewn rhagluniaeth a gras dair gwaith yn y dydd. Yr oedfa olaf yn nghapel y M. C. oedd swper fawreddog, yr hon a roddwyd gan Gymdeithas Gynorthwyol y Gwragedd. Yr oedd y setiau wedi eu cymeryd ym- aith, fel yr oedd yno ddigon o le i ddau neu dri chant i eistedd ar unwaith, a chan mai hon oedd yr oedfa olaf, fe ddaeth yno Gymry o bob parth o'r ddi- nas, ac fe gafodd dros chwe chant eu digonedd o swper y bydd coflo hir am dano. Yr oedd yr Anrh. James Thomas, y maer etholedig newydd, yn bresenol, ac wedi i L. D. Davies gael y dorf fawr i ddystewi, mae Mr. Thomas yn. esgyn i'r llwyfan, a dywedodd y byddai efe yn gwneyd ei oreu i leihau anfoesoldeb y ddinas, ac i ddileu ei ddyledion, a llaw- er o welliantau eraill. Fe ganodd can- torion y ddwy eglwys, "0 Fryniau Caer- salem," ac eraill, ac fe wnaeth R. E. Jones, A. C., yr arweinydd, ganu "Hen WIad fy Nhadau," a'r dorf yn ymuno yn y cydgan. Mrs. D. T. Rees oedd Ily- wyddes y Gymdeithas, a hi wnaeth ar- aeth ddestlus iawn ar yr amgylchiad. Drwg iawn genyf hysbysu i'r hen fam yn Israel, Mrs. Hannah Thomas, yr hon sydd yn byw ar gongl Miller a Cole Sts., gwympo wrth fyned o amgylch y ty a briwio ei hunan yn bur ddrwg. Mae Miss Mary Johnson yn byw gyda hi er's llawer o flynyddau. Gobeithio y bydd iddi gael adferiad eto. Mae hi tua 80 oed. Mae Mrs. David Phillips Long a Jefferson Ave., yn parhau yn ur eiddil, byth yn gallu myned allan o'r ty. Mae hi yn 83 oed. Mae hi bob amser mor siriol, ac yn hoffi gweled ei ffryndiau yn ymweled a hi. Mae hi yn mwynhau siarad am bethau mawr crefydd, a'r bendithion yr oedd hi wedi eu cael pan yn abl i fyned i'r capel (A.) ar Washing- ton Avenue. Ni chlywn ddim o honi yn cwyno, ond mae hi yn foddlon i ewyllys yr Arglwydd. Nos Sabboth, Tachwedd 11, fe wnaeth L. D. Davies roddi hanes yr eg- lwys yn ei gwaith am tua 70 mlynedd. Fe gynaliwyd moddion gras yn yr hen gapel ar 5th a Long Streets am tua 39 o flynyddoedd. Y gweinidog cyntat oedd y Parch. William Parry, Granville, Ohio.. Yr oedd efe yn cerdded oddiyno ar brydnawn Sadwrn ac yn cyraedd Col- umbus tua 9 neu 10 o'r gloch y nos. Yr oedd y Cymry yn eu tro'n ei ymgeleddu. Pregethai foreu a hwyr, a foreu dydd LIun cerddai yn I ol i Granville. Saer coed oedd efe wrth ei alwedigaeth. Byddai yn astudio ei bregeth lawer yn y shop. Yr oedd hyn cyn i'r rheil- ffyrdd gyraedd Columbus, ac yr oedd tua 28 o filldiroedd rhwng y ddwy dref. Wedi iddo farw, rhoddwyd galwad i'r Parch. Dafydd Williams, ac fe aeth efe wedi gorphen yn Columbus i Chicago; yna rhoddwyd galwad i'r Parch. Robert H. Evans, yr hwn oedd yn weinidog ar yr eglwys yn amser y Rhyfel Cartrefol; ac yr oedd ei gyflog yn $400 y flwyddyn. Yr oedd efe yn astudio ei bregeth lawer pan yn siglo'r cryd. a helpu llawer ar ei briod. Cof gerfyf glywed iddo ddy- weyd wrth y swyddogion: "Wel," medd- ai, "mae hi yn amser caled iawn, a'r avian yn brin; fe gymera i $300 hyd nes bydd yr amser yn gwella"; felly y bu. Cafodd alwad i weinidogaethu yn Wisconsin. Yna rhoddwyd g-alwad i'r Parch. R. Vaughan Griffith, a bu yr eg- lwys yn llwyddianus iawn o dan ei ofal; ac wedi iddo dderbyn yr alwad i New York, rhoddwyd galwad i Dr. H. P. How- ell. Dyma un o fugeiliaid mwyn a thyner yr eglwys. Yr oedd Evan R. Jones yn bregethwr cynorthwyol. Mae y cenadon hyn wedi cael eu galw at eu gwobr. Y diaconiaid am 30 0 flynyddau oedd 11 Edward Herbert, Evan Reynolds, jonu S. Morgan, Daniel S. Jones, Thomas H. Jones, Maurice Williams, D. S. Morgan, R C. Williams, Evan Moses, John W. Jones, D. J. Benbow. Mae y swyddog- ion hyn wedi cael eu galw i fwynhau y frigfanau nefol. Yn Mehefin, 1888, gorphenwyd y capel newydd. a chafodd ei gysegru i_'yr Arglwydd yn Mehefin, 1888. Dr. H. P. Howell oedd y gweinidog cyntaf, a bu yn fugail yr eglwys am 10 o flynyddau, ac wedi marw Dr. Howell, rhoddwyd mhvad i'r Parch. John Hammond, ac ni fii neb erioed yn gweithio mwy yn Pr- byn y diodydd meddwol na'r Parchedig a'i briod. ac yr oedd y W. C. T. U. yn uebel iawn pi fri pan oeddynt yma. Fe gafodd Mr. Hammond alwad i Scranton, Pa., ac yna rhoddwyd galwad i'r Parch. D. J. Williams, Wisconsin, a bu yn bu- geilio yr eglwys am dair blynedd. Rhoddwyd galwad i Dr. John R. Johns, Wisconsin, ac fe dderbyniodd yr alwad. Dyma un o wroniaid y pwlpud Cymreig y dyddiau hyny, ond nid oedd ei iechyd yn dda. Gallwn ddweyd am dano iddo wneuthur ei oreu. Yr oedd ei bregeth- au yn gwneuthur eu hoi ar yr holl eg- lwys, a gallwn ddweyd yn ddfbetrus iddo farw wrth wneuthur ei oreu. Yna galwyd y Parch. E. Edwin Jones, yr hwn hefyd yw ein pregethwr presenol. Yr oedd gweinidogaeth Dr. H. P. Howell am 10 o flynyddau; John Ham- mond am 7; Dr..Johns am ddwy flyn- edd, pan y bu farw. Y diaconiaid am y 31 o flynyddau oedd: Thomas Rogers, James H. Lloyd, L. D. Davies, T. A. Morgan, R. H. George, J. J. Jones, Rich- ard Hammond, S. S. Davies, J. W. Jen- kins, D. W. Evans. Aelodaeth yr eg- lwys ar ddechreu y 31fed blwyddyn oedd 325; and erbyn heddyw yn 550. Cangen arall o'r eglwys ydyw arwein- wyr y canu. Un o'r rhai cyntaf oedd William Benbow; yna Thomas E. Bebb, Maurice Williams, John H. Richards, Edward Morgan, Robert Thomas, R. W. Roberts,ac R. E. Jones, A. C. Mae y dynion hyn wedi gwneuthur eu hoi mewn ystyr gerddorol ar ein hieuenctyd. Y mae yn hysbys i'n cor ni berfform- io y "Messiah" naw mlynedd yn olynol, dan arweiniad R. W. Roberts. Dywedodd Mr. Davies fod swyddogion yr eglwys am ddadgan eu gwir ddiolch- garwch i'r eglwys am eu cydweithrediad i gario pob gwaith perthynol i'r eglwys yn mlaen yn ddirwgnach, ac maent yn gobeithio na fydd i neb lacio dwylaw wrth ddechreu parotoi ar gyfer adeil- adu y capel newydd. Mae Mr. a Mrs. Bennie Jones, y rhai sydd newydd briodi yn yr haf, wedi prynu cartref hardd a chyfieus ar Tap- pan St., ger Ilaw Neil Avenue. Mae y teulu bach hwn eto yn gysurus iawn. Yr ydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt.. ———— «-————
0 WLAD Y GYFLAFANI
0 WLAD Y GYFLAFAN I Gan Dewi Gwenog I Cefais noson o gwsg neitiiwr, peth na chefais wedi gadael Efrog Newydd, er y teimlwn eto fel buaswn ar fwrdd y "Philadelphia" yn brwydro a thonau eigion. Wedi boreufwyd, awd dros yr amser a. basiodd a'i helyntion pan oedd- em yn blant. Gofynwn am hwn a'r llall, a'r ateb oedd, "Maent wedi myned at y mwyafrif er's llawer dydd, Dafydd bach." Awd allan er lloni tipyn ar y tristwch oedd wedi ein meddianu, a chael gweled y ffarm a'r anifeiliaid, yn nghyd a'r gwair a'r yd. Yr oedd pob- peth yn ymddangos ar ei oreu, o'r oen, bach i'r ceffyl bywus. Hapus iawn yw bywyd yr amaethwr tra fyddo haul llwyddiant yn tywynu ar ei gartref. Mae'r dull o amaethu yn Nghymru wedi newid llawer yn yr haner canrif ddiweddaf, yn enwedig yn Sir Aberteifi. Mae y pladur a'r cryman wedi eu gosod yn y cromen, a'r mower a'r self-binder wedi cymeryd eu lie; yr heiyrn tyweirch wedi eu taflu i'r ffos, a phawb yn ym- ddibynu ar y glowyr am eu tanwydd. Mawn a. choed, emyn a chan, oedd i weled a chlywed ar aelwydydd Cymru! gynt, ond nid felly heddyw. Nid ydynt yn codi ond ychydig o yd a gwair yn Nghymru y blynyddau diweddaf yma. Stock ffarms yw hi i gyd braidd; codi anifeiliaid a'u gwerthu oddiar y borfa i'r porthmen i'w tewhau. Cadwant gryn lawer o dda gwartheg, ac ant a'r Ilaeth mewn otos i'r trefydd i'w werthu o ddrws i ddrws am bris uchel, a chludant yn ol tua thref gaws, a menyn, a blawd, gwenith, a chig, a thatws. Mae llawei o ffermwyr, nid ydynt yn codi gymaint a mochyn at iws ty, fel dywedant. Mae tir Cymru fel rheol yn siwr o fyned yn wyllt a dirywio, os ca godi ei gefn. -f mae yn rhaid wrth yr aradr a'r oged, neu ni fydd dim ond brwyn, grug ac eithin yn tyfu arno; a thyna yw sefyll- fa ltewer iawn o dir Cymru heddyw, fel mae gwaetha'r modd i'r ffarmwyr. Rhaid iddynt ddod i drin y tir a gadael gwario eu hamser' ar oferedd hyd y trefydd. Mae yn rhaid dod a'r wlad yn ol fel ag oedd yn amser y cyn, deidiau, pryd oedd digonedd o bobpeth at gynaliaeth dyn ac anifail o'r bwydydd mwyaf pur a maethlawn. Yr oedd gan Gymru Fu gist o flawd gwenith, un ar- all o haidd, ac un o flawd ceirch yn eu tai; bob amser yr elit yno, byddai yr arogl yn ddigon i greu eisieu bwyd ar ddyn fyddai a'i gylla yn llawn. 0 dan y Ilofft, gwelit fochyn neu ddau yn crogi; efallai eidion, hefyd; yr. oil at ddiwallu'r teulu. Nis gwelir dynion cy- hyrog mwyach o fewn swydd Ceredig- ion fel gynt; eu holafiaid ydynt ddynion bychain a gwachul. Maent yn defnydd- io sigarets i eithafion, a chp.riant ffyn o faintioli anferth ar bob achosion. Cafodd yr hen dai to gwellt eu bon- demnio gan awdurdodau iechyd y llyw- odraeth; dywedent nad oedd tai felly vr Addas i fodau dynol allu byw yn- ddynt. Gyda mynediad y ty gwellt, aeth y cewri hefyd gyda hwy o'r wlad, Yn amser y ty gwellt hen ffasiwn, bydd- ai y tad, nosweithiau hirion yn y gauaf, yn rhoddi gwersi i'r plant mewn serydd- ;,ae,th, gan ddefnyddio "corn y simdde" el ysbieynddrych i ddynodi y blaned hon a'r blaned arall iddynt oddiar yr aelwyd. O'r arsyllfa hon bu llawer ulentyn yn alluog i leoli y seren ogledd- 01 cyn hyn.
Rhyctd i Bob Meddwl ei Fam…
Rhyctd i Bob Meddwl ei Fam ac I Bob I Barn ei Llafar." Gwerth y Gymraeg. Mri. Gol.: Ar ol bod yn ninas Man- chester (Lloegr) am y rhan fwyaf o fy oes, ac yn America am bedair mlynedd- ir-ddeg, y "Drych" yw'r unig newydd- ladur sydd wedi bod yn help i mi ddeall hsn iaith fy mam yn Sir Dinbych. Llawer iawn o hwyl wyf fi yn gael wrth fy ngwaith yn un o faelfeydd 0., yn gwerthu lleiniau a phethau teraill. Yr wythnos ddiweddaf, cefais y fraint o werthu llieiniau i ddwy Gymraes o Ohio; hwy yn siarad a fi yn Seisneg, a gyda'u gilydd yn Gymraeg. Ac meddai un: "Diwcs, ferch, gallwn brynu hwn yn Treorci am tua phump swllt." Te- byg iawn," 'be finau, "ac yn Sir Din- bych am haner coron." Y mae y "Drych" yn werth dwbl ei bris i mi. Papyr Cymraeg sydd eisieu arnom ni, blant Cymry, i godi yr iaith yn ei hoi. TWM BACH. Y "Drych" a'r Gymraeg. Mri. Gol.: Y mae yn bleser amgau blaendal am y "Drych," a chydymffurfio, a'r drefn newydd o godiad bris. Yr wyf yn darllen y papyr yn wythnosol gyda piwynhad neillduol, gan fy mod wedi fy amddifadu o glywed iaith fy mam yn cael ei siarad. Cymro ydwyf o Bonty- pwl, Sir Fynwy, fel y mae yn hysbys i rai o ddarllenwyr y "Drych." Nadolig Ilawen a Blwyddyn Newydd Dda iddynt oil. "Po fwyaf bydd dyn byw, mwyaf wel, mwyaf glYw," medd yr hen air. Mi wel- ais ac mi glywais lawer yn son am "Oes y byd i'r iaith Gymraeg," ond, ryw fodd, y mae arnaf ofn y derfydd yr hen iaith cyn pen haner can mlynedd yn yr Unol Dalaethau. Daethym i'r wlad hon yn mis Gorph- enaf, 1868, i Johnstown, Pa., ac oddi- yno i Altoona, ac wedi hyny i Hubbard, Ohio, ac oddiyno i Braceville, Ill., ac yn ol i Ohio, i Salineville, a thrachefn i Oberlin, Ohio. Y mae yr haner canrif yn tystiolaethu yn ddiymwad fod y Gymraeg yn raddol ddiflanu. Dylid cadw ffrwyn ar y tafod pan yn ddweyd pethau lel hyn, oblegid, fel rheol, nid yw y tafod yn amgen na my- negiad o'r galon. Dylem ofalu na siar- adom ddim ond yr hyn a wyddom sydd wir, ac nid yw y gwir bob amser i'w siarad. Chwith iawn meddwl y der- fydd iaith ein tadau, hyd yn nod yn yr Unol Dalaethau; ond tra y gellir, go- beithiaf na dderfydd y "Drych." Mr. Gol., os byddwch chwi, neu rai o'ch gohebwyr, yn synu at fy ofnau, da chwi, peidiwch a thaeru fy mod yn hurtyn; ond os profwch, mewn ysbryd boneddigaidd ac iaith eglur mai gau broffwyd ydwyf parthed tynged y Gym- raeg, byddaf yn ddiolchgar i chwi a phawb arall. Y PARCH. W. D. WILLIAMS. R. S. 0. a Dr. Williams. Mri. Gol.: Do, gwnaethym gamgy- meriad mewn gosod "Ex." yn lie "Deut. lie y gwelir yr ymadrodd y | cyfeiriwn ato. Yr wyf yn diolch i "Nid Dr. Williams" am ei nodi allan. Defnyddia "Nid Dr. Williams" gyf- ieithiad rhyw Farrar Denton, yr hyn a wna gam a'r Beibl, oblegid gesyd "flesh" (cig) yn lie "diod gref." "Diod gref" a "diod gadarn" y cyfieithir y gair drwy yr oesau; a gwell i ni wynebu y ffaith yn lie gwyrdroi y Beibl i gefn- ogi ein golygiadau dirwestol presenol ni. "Diod gadarn" yw yr holl gyfleith- iadau; a'r un gair sydd yn yr Hebraeg. Yn nglyn a 2 Sam. 12 8, ni wna "Nid Dr." ond rhoi yr ymadrodd yn y Seis- neg, ond golyga yr un peth yno, sef i'r Arglwydd Dduw roi gwragedd Saul i Dafydd gyda'i deyrnas. Felly yn yr ym- adrodd, ymddengys yr Arglwydd yn cefnogi amlwreiciaeth, neu o leiaf, yn goddef shyny. Y mae yn ffaith fod Daf- ydd yn amlwreiciwr, ac ni annghymer- adwyir hyny yn un man. Felly ymddengys fod y syniad am Dduw yn meddwl yr Iuddew yn newid o oes i oes. Ni chred y Dr. mewn dad- blygiad; ond y mae drwy y Beibl. R. S. 0. Hirhoedledd y Patriarehiaid; Mri. Gol.: Feallai mai dyddorol i rai o'ch darllenwyr fydd y lledgyfieithiad canlynol allan ofisolyn Seisneg, a ddar- llenais rai wythnosau yn ol: "Mae y rhai sydd yn hoffi cloddio i'r hyn y mae dynoliaeth yn gyffredin yn dderbyn fel ffeithiau, ac yn rhyfeddu at- ynt, yn awr yn dywedyd fod henafiaid yr oesoedd Feiblaidd yn cyfrif amser, Mid wrth droadau (solstices), a'r cy- hydded-au (equinoxes), na'r haul, na sy- mudiad y ddaear, ond wrth y lleuad, a hlwyddyn iddynt hwy oedd blwydd leu- adol. Y mae ychydig dros deuddeg a haner o fisoedd lleuadol, o yn agos i naw-ar-hugain o ddiwrnodau yr un yn mhob blwyddyn. Y mae hyn yn ei wneyd yn fwy hawdd i ddeall pa fodd y bu i Adda fyw am 930 o flynyddoedd; yn ol ein cyfrifiad presenol, ei oed mewn gwirionedd oedd 74; ac eiddo Noah a'i 950 yn dyfod yn 76; a'r hynaf oil, sef Methusaleh, a'i 967 o flwyddi lleuadol, yn dyfod yn ol ein cyfrif ni yn 77. Yn ddiweddarach, dechreuwyd cyfrif wrth y cyhydeddau (equinQxes), a chwech mis neu chwech lleuad oedd yn y flwyddyn; felly daeth y 175 o flwyddi Abraham yn 87 o'n hamser ni. Mae'r oil yn ymddangos yn fwy tebygol par- thed hirhoedledd y patriarehiaid hyn. T. J. Beth yw Anffyddiaeth? Mri. Gol.: Gwelir cais gan Cobyn yn v "Drych," Tachwedd 27, am yr un peth a ofynais inau dro yn ol, pan y'm gal- wyd yn anffyddiwr gan rai o Ddoctor- i-aid duwinyddol y "Drych," o achos rhywbeth oeddwn wedi ddweyd nad oedd yn boddio eu syniadau hwynt. Dychrvnwyd fiyn arw iawn, canys teimlwn pan yn darllen elp hysgrifau condemniol, fy mod yn aelod mewn dos- barth o ddynion gwaeth na'r gwr drwg ei hunan. Yn fy ngofid meddyli-ais am anfon i'r "Drych" i ofyn beth oedd yn gwneyd dyn yn anffyddiwr, ac felly fu. Yn fuan daeth atebiad gan Dr. Daniel Wil- liams. Dywed mai nid un yn gwadu lioll athrawiaethau Cristionogaeth, ond in yn pigo allan yr hyn sydd yn unol ::i archwaeth ac yn osgoi neu gwrthoc 1ethau nad ydynt unol a'i archwaeth. Ateb byr ac i'r pwrpas, a boddhaol i ni, a daeth a fi allan o fy ngofid, canys canfyddais fy mod yn aelod mewn dos- barth Iluosog ac enwog. Gwyddwn fod pob dyn sydd yn ystyr- ied athrawiaethau Cristionogol yn pigo allan ac yn gwrthod yn ol ei archwaeth; ac nid yw duwinyddion y "Drych" yn ail i neb am bigo a gwrthod; ac yn ol esboniad Dr. Williams, nid ydynt yn ail i neb yn nosbarth yr anffyddwyr. Y drwg yw fod rhaid i ni, yr aelodau israddol, bigo a gwrthod yn ol eu harch- waeth hwynt, er mwyn heddwch, am eu bod hwynt yn gywir bob amser. Nid wyf yn cynyg hyn fel atebiad i gais Cobyn, ond daeth draws fy medd- wl o newydd wrth ddarlleil ei gais. Gobeithiaf weled Iluaws o atebion; mae yn werth sylw, yn siwr ddigon. D. P. PRICE, Elgin, III. Fel yr Wyf yn GweJed. Mri. Gol.: Mae yn rhyfedd i mi fod ysgrifenwyr tudalen gyntaf y "Drych" yn bychanu eu gilydd cyn dechreu profi eu haeriadau, gan mai haeriadau yw y rhan fwyaf o'u llithiau; ond gwelwch ar unwaith fod y rhan fwyaf o honynt yn meddwl eu bod yn hollwybodol a thrwy athroniaeth o'u heiddo eu hun- ain yn ceisio profi yr anmhosibl. Nid oes athroniaeth ysbrydol benderfynol; nid oes modd penderfynu trwy resymeg un o'r pynciau cyfrin ag sydd yn cael eu trin gan y rhai hyn. Y maent yn anfoneddig ac isel eu chwaeth. Nid ydynt yn enill clod na mantais iddynt eu hunain, ond yn hyt- rach yn dangos diffyg synwyr cyffredin. Mae yn gwneyd i mi feddwl am hen wr aeth i New York un Sabboth i gael clywed rhai o'i phregethwyr enwog. Felly aeth i eglwys Talmadge, ond yr oedd y dyn mawr hwnw wedi myned am seibiant i'r wlad, a dyn dyeithr yn ei le. Cymerodd ei destyn yn Matthew 8 14, "A mam gwraig Pedr oedd yn gorwedd yn glaf o'r cryd," a phregeth- odd yn hyawdl am awr. "Wel," medd- ai, "af i wrando Watson y prydnawn"; ond pwy oedd yno ond yr un pregethwr a phregethodd yr un bregeth ar yr un testyn, "A mam gwraig Pedr oedd yn gorwedd yn glaf o'r cryd." "Wel, af i wrando ar Henry Ward Beecher heno, a chaf glywed rhywbeth gwahanol"; felly yr aeth, ond syndod, clywodd ryw ddyn yn cyhoeddi fod Mr. Beecher wedi cael ei alw i ryw fan i draddodi dar- lith, a phwy oedd yno ond yr un pre- gethwr, a chymerodd ei destyn yn yr un man, a phregethodd yr un geiriau, "A mam gwraig Pedr oedd yn gorwedd yn glaf o'r cryd." Foreu ddydd Llun, aeth i'r orsaf gyda chyfaill, a phwy oedd yno ond pregeth- wr y Sul, ac yn sydyn dechreuodd y peirianau chwibianu, a'r clychau ganu, ac ysgrechiadau yr agerlongau yn gy mysg, nes byddaru pawb. "Wel," medd- ai yr hen wr wrth ei gyfaill yn ngwydd y pregethwr, "mae mam gwraig Pedr wedi marw; yr oedd yn sal iawn ddoe!" Mae y byd heddyw yn dysgwyl cre- fydd weithredol; nid yw Duw yn dangos ffafr i neb; ac os wyt yn ceisio ysgoi dy gyfrifoldeb trwy resymeg ffugiol (false logic), yr wyt yn camgymeryd y ffordd. "Yr hyn a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe." "Os hauwn wynt, medwn y corwynt." Os gwasgarwn flodau yn lie drain, bydd y canlyniadau yn hollol wahanol. Pan yn ysgrifenu, bydded bod amean daionus mewn golwg a ddyrchafa ein lien. MADOG. Chwarelyddiaeth. t )Mri. Gol.: Yn y "Drych" am Rhagfyr 4ydd, 1919, darllenais ysgrif gan un a gyfenwa ei hun yn "Arolygwr." Ar hyn o bryd, nis gallaf gofio i mi yn fy oes ddarllen dim mwy camarweiniol; a phwy bynag yw yr awdwr, rhaid ei fod yn un gwynebgaled ac arwynebol iawn ei feddwl, os na bydd i'w ysgrif godi gwrid i'w wyneb, oblegid ysgrif ydyw sydd yn llawn o. gamgyhuddiadau di- sail. Arolygwr yn cyhuddo dosbarth o weithwyr gonest a diwylliedig o ran y cyfangorff. Wel, naddo, yn siwr, ni welais yn fy oes effeithiau digywilydd- dra mwy annymunol ac atgas. Mae yr ysgrif o ran natur yn llawn nwyau gwenwynig; eto, anturiwn (a sefyll lie chwyth y gwynt y sawyr ymaith) ei llosgi allan. Y dosbarth gyhuddir gan yr Arolyg- wr ydyw y llech chwarelwyr, a chy- fynga ei gyhuddiadau at ei gydgenedl fel dosbarih'neillduol yn mysg y chwar- elwyr. Yn wir, mae yn eithafol. Dyma'r cyhuddiadau sydd yn yr ys- grif: (1) Maent yn ddosbarth dau- wynebog; (2) Maent yn ddosbarth sydd yn dyfetha eiddo ei meistr; (3) Maent yn ddiog; (4) Yn lladron; (5) Yn fedd- won! Mr. Arolygwr, a gaf fi ofyn i chwi ar pa seiliau yr ydych yn ein cy- huddo fel dosbarth o'r troseddau uchod? Yn enw iawnder, dysgwyliaf eich eglur- had. Ac atolwg, os gwelsoch yn Ver- mont (neu rywle aralD fai personau euog o'r troseddau a nodweh, a ydyw yn deg a chyfiawn i chwi ar sail o'r fath gyhuddo dosbarth cyfan o'ch cydgenedl ar goedd byd o fod yn ddauwynebog, dyfethgar. diog, lladronllyd a meddw? Gwn fod Judas yn mysg y dysgyblion, a gwn hefyd mai ynfyd y cyfrifid fi gan yr Arolygwr pe y dywedaswn wrtho mai bradwyr oedd yr holl ddysgyblion. Neu pe y dywedaswn mai dosbarth o ddyn- ion annghall a ffol yw arolygwyr Cym- reig y llech chwarelau, gan seilio y cy- huddiad ar y ffaith y gwyddwn am un felly. Oni chyhuddid fi yn gyfiawn o fod yn ddyn ffol? Ond gan ddysgwyl fod rhyw gymaint o ddynoli-aeth yn yr Arolygwr, rhodd- \vn iddo gyfleusdra i egluro ei ysgrif, a phrofi y cyhuddiadau fel dosbarth enog i'r troseddau, neu alw yn ol y cy- huddiadau. J. W. G. Y Byd, y Cnawd, a'r Diafol. Mri. Gol.: At Dafydd Price, neu Da- vid T. Price, un o feirdd Proscairon, yr wyf yn cyfeirio. Yr oedd eraill yn bar- ddoni. a rhai o honynt yn barddoni yn lied dda, ond yr oedd Dafydd Price yn mlaen arnynt oil. Yr oedd gwneyd pen- illion bron mor hawdd ag anadlu iddo. Ganwyd ef yn gynar yn y ganrif. Pe buasai wedi byw hyd heddyw, buasai yn gant a naw neu gant o deg oed. Yr cedd rhwng haner cant a thriughin pan wyf fi yn ei gofio. Yr oedd ei wraig yn ddynes lied fawr, a chanddynt dyaid o blant, pedwarrar-ddeg, a'r oil ond un- yn fyw ac wedi tyfu i'w llawn maint- ioli, pan wyf fi yn eu cofio gyntaf. Clywais yn ddiweddar fod Bennett wedi marw, ac felly nid oes yn aros ond un, yr ieuengaf, sef Mary, Mrs. Benjamin Evans, Cresco, Iowa (12 milldir o Lime Springs). Ychydig ddyddiau yn ol,. daethym ar draws rhai o benillion Daf- ydd Price, yn mhlith hen lythyrau, ac yr wyf am gynyg ychydig o honynt i'r darllenydd. Ysgrifenais ryw dro ar eu diwedd, "Found in an envelope of 1870." Y Byd, pa beth yw dy ddiben Yn cymell dy hunan o hyd? Ai ni chaf fi byth genyt hamdden I feddwl am ddim ond y byd? Rhaid i mi ymadael oddi yma Yn fuan, nis gwn i pa awr; 'Rwy'n tynu at lan yr Iorddonen, 'Rwy'n disgyn yn raddol i lawr. Na chynyg i'm sylw dy weniaith; Dos ymaith ar unwaith, y byd; Ni ddichon dy ddawn a'th hudoliaeth Byth mwyach ail enill fy mryd; 0 ganol dy furmur a'th ferw Ymgiliaf i gael mwy o nerth, Fel byddwyf yn gryfach i farw, Mae cryfder i farw yn werth. 0 Gnawd, mae dy olwg ddeniadol, A'th "strywiau" estronol a'th swyn Yn ddigon i ddenu'r annuwiol Yn gaethwas i'w flys er dy fwyn; Aberthir mawr gyfoeth a golad Yn ami ar allor y cnawd; Derbynir yn daliad anhyfryd Annghysur, a thlodi, a gwawd. Holl foethau y cnawd, pa beth ydynt? Rhyw gysgod dychmygol fwynhad, Fel cysgod heb sylwedd byth ynddynt;. Fel cysgod' yn fyr eu parhad; Eu caru sydd anfad ynfydlrwydd; Eu chwenych yw ffoledd y byd; Arweiniant i gyfiwr annedwydd Eu heilunaddblwyr i gyd. Y Diafol, a'th holl demtasiynau, 'Rwyt tithau'n hen eiyn i ddyn; Yr oeddyt ti ffelly'n y dechreu, Yr ydwyt ti etc yr un un; Os lladdodd bydblrwydd ei filoedd, A'r cnawd ei fyTddiynau'r un pryd, Trwy dichell yn twyllo'r cenedloedd Ti leddaist ddeng mwy na hwylix nghyd. Ymladdaf a'r diafol heb ildio, Nes gyru y gelyn i ffoi; Anfonaf am gymortfr i'w guro, Am gymorth, mae genyf le i droi; Mi godaf fy llef tua'r nefoedd, Mae. restr 'NgwaredWr yn gryf; Pen diafol cyn hyn a ysigodd; Paham nad ymladdaf yn hyf? DR. DANIEL WILLIAMS. Tipyn o'r Gwir. Mri. Got.: Nid ydys am i'r darllen- Ilenydd gasglu mai anaml y dywed yr- ysgrifenydd y gwir, na ychwaith mai annghywirdeb yn unig argreffir yn y wasg, er mai dyna y doraeth; ond hedd- yw, pan mae y rhyfel mawr drosodd, gellir dysgwyl fod tipyn o'r penboethni wedi myned hefyd, ac y perchir mwy- ar reswm a ffeithiau. Tua thair blynedd yn ol, yr oedd etholiad cyffredinol yn Canada, ac mewn cwrdd yn yr ardal hon, lie yr oedd ymgeisydd bleidiai ryfel yn siar- ad, ceisiodd yr ysgrifenydd amddilfyn yr ochr arall, ac er fod dealldwriaeth rhyngddo ef a'r gynulleidfa ar y dech- reu ei fod i gael gwrandawiad, o her- wydd terfysg rhai gwallgofiaid, ni chaf- odd ddweyd llawer. Hyd y gwyddis, nid oedd neb yn yr ardal y pryd hyny ond efe yn gwrthwynebu y llywodraeth, ond erbyn hyn, pe cawsent gyfle, buasai yr etholwyr wedi troi y llywodraeth yna allan er's llawer ddydd. Yr eglurhad ar ymddygiad y bobl y pryd hyny yw fod y wasg wedi eu twyllo. Y pryd hyny, apeliai y llywodraeth a'i swyddogion yn daer at y bobl i gefn- ogi y rhyfel yn mhob modd er mwyn gorchfygu yr Almaeniaid malldigedig, meddent hwy; eto gellir dweyd fod y llywodraeth hon yn cynorthwyo mwy ar yr Almaeniaid na neb. Yr oedd tunelli ar dunelli o "nickel" yn cael ei allforio o Canada i'r Almaen ar y ptryd; mwn nas gallasai yr AImaeniaid garioy rhy- fel yn mlaen hebddo, a'r hwn nas gall- ent ei gael yn unman arall. Llywod- raeth Canada yn erfyn; ie, yn gorfodi ein gwyr ieuainc i fyned i ymladd a'r Almaeniaid, ac ar yr un pryd yn godd- ef i'n cyfoethogion yru "nickel" i'r Al- maeniaid i'w lladd! Fy awdurdod dros hyn yw "The Far- mer's Sun," ermig yr amaethwyr yn Ontario, ac un o'r newyddiaduron mwy- af ymddiriedol. Erbyn heddyw, mae Ontario wedi bwrw allan y ddwy hen blaid arferol, sef y Toriaid a'r Rhydd- frydwyr-uniad o ddrygioni pa rai yw llywodraeth bresenol Canada-ac wedi ethol llywodraeth newydd grai o am- aethwyr a gweithwyr, a Chanada i gyd yn barod i wneyd yr un peth y cyfle cyntaf geir. Wedi i'r rhyfel ddechreu, llawer a ddywedwyd wrthym am greulonderau yr Almaeniaid; yr oeddynt yn poeni, yn treisio, ac yn lladd y diamddiffvn, medd- id, yn echrydus felly; a dywedid hyny gyda'r fath don ag a awgrymai na allai Prydeinwyr wneyd peth o'r fath. Ond beth mae ein milwyr ni ein hunain ddaethant yn ol yn ei ddweyd? "Oedd- em ni ddim gwell na'r Germans," dyna ddywedant. Pan ddelid haid o Almaen- wyr, eid a hwy yn ol ychydig, a saethid hwy yn farw; dynion, mae yn debyg, nad oedd ganddynt fwy o law yn nghychwyniarl, dygiad yn mlaen, a rheoleiddiad y rhyfel. nag a oedd gan ein milwyr ninau; a hyny oedd dim. Bu rhai o'n bechgyn yn cvdweithredu o fodd neu anfodd, ac felly yr oeddynt yn llygad-dystion o hyn; a dyma eu dedfryd: "Oeddem ni ddim gwell na'r Germans." Ha; wyr frodyr, pa fodd y gwellir y byd yma? Ai trwy gelu y gwir am ein teulu ni, a chyhoeddi eiddo ein cymy- dogion ledled y byd? Mewn gwirionedd yn awr, a ydym ni yn well pobl na'r Almaenwyr? Wrth gwrs, nid ydym bawb o honom, feallai, yn euog o dwyllo yn wirfoddol yn yr achos, ond fe fygyd- wyd llawer, a dylai fod yn wers i ni i ofalu rhag cael ein mygydu yn y dvfod- ol. Llawer gwaith y gwenais wrth syl-' wi ar y pwyo fyddai ar yr Almaenwyr, ac y gofynwn i fy hun, lie bu y bobl hyn gyhyd cyn adnabod yr Almaenwyr? Oblegid ychydig amser yn ol. y nhw oedd pob peth da o'r bron, ond pan dorodd y rhyfel allan, aethant yn ddu ar unwaith. Wrth bardduo yr Almaen- iaid, paentid anwybodaeth y pardduwyr ar yr un llian. LEWIS GABRIEL.