Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
0 2>t £ cb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning Thomas J. Griffiths & SODS. UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The retention of business men in general is 4"04 te Y DRYCH ac a tuperlor advor- as&= medlxim, being read by tnouaandir HUM cannot be readied by any other pub-. Uoatloa. it tuts a large circulation, witti,, in f/JVøcy emtio mnu locciutry ■ f- uiuwa, iu orfou-t. avium* tut ,gcw.u. xseisenaettcinN*. At AO A. retvfcmaew, 4i«u»jui Organ en: uie W twjm jeeWL)ib.
CYNGRAIR Y CENEDLOEDD 1
CYNGRAIR Y CENEDLOEDD 1 Gan W. W. Williams III. Nid oes neb ychwaith yn dal y gwna Cyngrair y Cenedloedd roi terfyn un- waith am byth ar ryfel. Nid yw ein Harlywydd, yr hwn sydd wedi bod y prif weithredydd yn gweithio y syniad hwn allail, yn d-al hyny. Dywedai fis- oedd yn ol: "The League will not ab- solutely prevent war. It is only an ap- proach to an understanding between na- tions looking in that direction." Mae yn rhesymol ac yn angenrheidiol, wrth gwrs, i gyngrair fel hwn gael ei drafod yn drwyadl cyn cael ei fabwysiadu. Ond mae yn amlwg mai yr hyn sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o'r dadleu a'r croesdynu sydd wedi bod yn y wlad hon er's misoedd yw politics. Pe bu- asai Charles E. Hughes wedi ei ethol yn Arlywydd dair blynedd yn ol, ac wedi dod allan dros gyngrair yn erbyn rhyfel, fel ag y mae yn debyg iawn y buasai, nid oes ameuaeth na fuasai mwyafrif mawr y politicians a'r papyrau Gwerinol wedi dod allan o blaid y Cyngrair, a mwyafrif mawr y politicians a'r papyr- au Democrataidd wedi dod allan yn ei erbyn. Ni ddarfu i ni bleidleisio dros Mr. Wilson, ac yr ydym yn barod i addef pe buasai Mr. Hughes wedi ei ethol dair blynedd yn ol, ei fod yn rhe- symol i ni gredu y gallasai efe a'i gyn- orthwywyr fod wedi gwneyd cystal gwaith ag y mae Mr. Wilson a'i gyn- orthwywyr wedi ei wneyd; ond nid ydym yn barod i addef ei fod yn rhe- symol i ni gredu y gallasai fod wedi gwneyd yn ddim .gwell. Mae y blaid fydd mewn awdurdod bob amser yn gor- fod myned yn mlaen a thynu allan y prif gynlluniau a chario y rhai fwyaf o'r cyfrifoldeb. Os y bydd cyfle gweddol i godi gwrthwynebiadau i rai o'r mesur- au fydd y blaid hon wedi fabwysiadu, bydd y blaid wrthwynebol yn lied sicr o wneyd hyny, er mwyn politics. Mae y blaid wrthwynebol yn awr wedi gwneyd hyny gyda mesur y League of Nations. Gwaith hawdd iawn yw pigo beiau a rhoi rhwystrau ar ffordd y rhai fydd yn gwneyd gwaith. Yr oedd llaw- er o siarad yn ystod ein Rhyfel Gar- trefol am y "blunders" oedd Lincoln yn ei wneyd. Rhaid i Ifi gofio mai gwaith yr Arlywydd a'i gynorthwywyr yn Ver- sailles oedd, nid ysgrifenu allan eu syniadau eu hunain am y telerau hedd- wch, a'r Cyngrair i gadw heddwch, ond yr oeddent yn gorfod cyfarfod a chyn- rychiolwyr gwledydd eraill, ac yr oedd yn rhaid i'r oil- ddod i gyd-ddealldwr- iaeth. Nid oedd yr un gynrychiolaeth yn cael ei ffordd ei hun, ond yr oedd pob un yn gorfod rhoi a derbyn. Yr oedd cynrychiolwyr y wlad hon, mae yn ddiau, mor alluog ac mor awyddus i ofalu am fuddianau eu gwlad eu hun- ain ag oedd cynrychiolwyr gwledydd er- aill. Credwn hefyd eu bod lawn mor wladgarol a'r rhai sydd yn awr, dan gochl gwladgarwch mawr, yn haeru fod buddianau y wlad hon wedi cael eu hesgeuluso ganddynt. Mae y rhai hyn wedi taro ar dant poblogaidd, sef fod eisieu dyogelu budd- ianau ein gwlad ein hunain, beth bynag. Mae hyn yn cymeryd yn dda bob am- ser gyda'r natur ddynol hunanol. Yr oedd ein cynrychiolwyr yn Versailles yn Americaniaid trwyadl, wrth gwrs, ond yr ydym yn credu, ac yn gobeithio hefyd. nad oeddynt tra yno yn dango's eu hunain yn Americäniatd cul alhun- anol, ond yn. deg a mawrfrydig, yn -deilwng o ddynion oedd yn cynrychioli I ilywodraeth gref," gyfoethog, mewn cyn- adiedd bwysig, oedd yn trafod materion mawrion rhwngwladol, oedd yn dwyn cysylltiad agos a llwyddiant a heddwch yr holl fyd. Ymddengys i ni fod llawer o ys- bryd cul a hunanol yn cael ei ddangos gan y rhai sydd yn gwrthwynebu y Cyngrair yn Washington. Mae arnynt ormod o ofn y bydd rhaid i ni wneyd mwy na'n rhan mewn adfer rheol a threfn yn y byd, a cheisio rhwystro i alanastra cyffelyb ddygwydd eto. Bu amryw o'r gwledydd y tu draw i'r dwr yn ymladd yn ddewr yn erbyn y gelynj am amser maith cyn i ni fyned i'r rhy- fel. Yr oeddynt yn ymladd am eu by- wyd eu hunain, wrth gwrs, a darfu i'r wlad hon anfon cynorthwy ardderchog iddynt yn mhen amser, ond dylem gof- io fod y ffaith ein bod ni heddyw yn ddyogel rhag gelyn tramor, cryf a cryf- rwys-ddrwg, i'w phriodoli yn benaf i'r ffaith fod y gwledydd hyn wedi aberthu cymaint o drysorau, a thywallt cym- aint o waed. Nid ydym yn dweyd fod y rhan a gymerodd y wlad hon yn y rhy- fel yn ddiffygiol, ond gwyddom oil mai bychan iawn oedd ein haberth fel gwlad o'i gydmaru ag aberth amryw o'r gwledydd hyn; a phan y maent hwy yn eu galar a'u clwyfau, a newyn yn curo wrth ddrysau rhai o honynt, cred- wn y dylai- gwlad gref, gyfoethog fel hon, dderbyniodd gymaint trwy eu hab- erth mawr hwy, fod yn ewyllysgar i wneyd ei rhan i berffeithio y fuddugol- i-aeth a'i gwneyd yn ddyogel. Yr ydym yn ami yn clywed y geir- iau, "Americanize the treaty." Pa res- wm sydd mewn Americaneiddio (gyng- rair sydd i fod yn gyfamod rhwng cen- edloedd y byd? Beth feddyliem o gri am ei Italeiddio neu ei Japaneiddio? Nid yw ond ffolineb i ni geisio byw yn ein cysylltiadau rhwngwladol fel ag yr oeddem yn amser Monroe. Mae y byd wedi symud llawer er y pryd hwnw. Gallasai rhyfel fod yn myned yn mlaen yn Ewrop y pryd hwnw am fisoedd cyn i ni glywed am dano. Mae yr amgylch- iadau yn dra gwahanol yn awr. Mae Ewrop yn awr wrth ein drysau. Gofyn- ai y Seneddwr Nelson, o Dalaeth Min- nesota, yn y Senedd, fis yn ol, "Shall we become a national mummy wrapped in the folds of ,the Monroe Doctrine?" Nid oedd fawr o son am y Monroe Doc- trine ddwy flynedd a haner yn ol, pan, oedd y Ilywodraeth yn rhoi llawer o'n diwydianau ar "war basis," ac yn gwneyd parotoadau enfawr i gymeryd rhan mewn rhyfel ar gyfandir Ewrop. Os na wna y wlad hon ei rhan i gadw heddwch yn Ewrop, ni byddai yn beth rhyfedd pe y byddai yn cael ei gorfodi cyn hir iawn i gynorthwyo i adfer hedd- wch yno eto. Dywedai William Lloyd Garrison, fu yn ymladd mor ddewr am flynyddoedd meithion dros ryddid i'r dyn du, "My country is the world; my countrymen are all mankind." Yr oedd ei gariad ef at ryddid a chyfiawnder yn peri iddo hoffi y syniad hwn. ond y mae amgylchiadau wedi newid gymaint er- byn hyn fel bron na ddywedem ein bod ni yn cael ein gorfodi 1 fabwysiadu y syniad. Yr oeddem yn hoffi y safle eangfrydig a gymerai ein Harlywydd pan oeddem yn myned i fewn i'r rhyfel, ac yr oedd darllen ei areithiau o flaen y Gydgyng- orfa yn ysbrydoliaeth, ac yn gwneyd i ni deimlo yn falch fod genym y fath ddyn wrth lyw ein Ilywodraeth. Gobeithio y daw Cyngrair y Cenedl- oedd yn lwyddiant, pe na enillid dim ond cael gwared o'r gwarthrudd y mae cenedloedd gwaraidd a Christionogol y byd o dano, eu bod yn parhau mor an- waraidd ac mor anpghrefyddol a methu cydfyw heb yn achlysurol roi heibio eu goruchwylion a myned ati i ladd eu gil- ydd.
[No title]
Addysg Feiblaidd yn yr Ysgolion. Yn Nghyngrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, gynaliwyd yn Fflinl, deroyn- iwyd y penderfyniad canlynol o Gyngor Egtwysi Rhyddion Bangor: "Fod y gyn- adledd hon o. Eglwys Rhyddion Bangor o'r farn fod yr amser wedi dyfod i ail- ystyried lie addysg Feiblaidd a diwyll- iant moesol yn ysgolion Cymru; y dylid gwneyd trefniadau mwy effeithiol yn y colegau i barotoi athrawon ar gyfer y gwaith hwn, ac yn yr ysgolion parhad newydd y dylai o leiaf haner yr amser gael ei roddi i addysg ysbrydol, ieith- oedd, lien, celf, moes a chrefydd, ac yn arbenig i len a hanes Cymru; y dylid apelio at yr awdurdodau addysg i dref- nu mewn canolfanau cyfleus gynadledd- au cyhoeddus i ymdrin a'r- materion uchod, a thrwy hyny sicrhau cyd-ddeall a chydweithrediad rhwng yr athrawon, yr awdurdodau addysg, yr eglwysi, a'r holl gymdeithasau eraill a all gynorth- wyo." Caed trafodaeth faith a gwresog ar y mater. Pasiwyd i anfon y pender- fyniad yn mlaen i gael ei ystyried gan y Cyngor Cenedlaethol Cymreig yn y 'hlvn'tT;¡í'\l vn RJivl
ADGOFION AM GYLGHWYL GERDD-…
ADGOFION AM GYLGHWYL GERDD- OROL CASTELL HARLECH Gan J. H. Williams, Milwaukee, Wis. I,. Pan yn darllen sylw gan Pedr Alaw yn y "Drych," dro yn ol, am farwolaeth Lucas Williams, y dadganydd, a'i gry- bwylliad am dano ef ac Eos Morlais yn Nghylchwyl Gerddorol Harlech, daeth ag adgofion am yr wyl hono yn fyw iawn i fy nghof. Dichon fod yn mhlith darllenwyr y "Drych" amryw fel fy hunan a gawsant lawer o fwyniant ac a dderbyniasant lawer o les yn yr wyl fel na byddai ychydig o adgofion am dani a thro i'r amser difyr gynt yn annerbyniol ac annyddorol iddynt. Cofiaf yn dda am yr wyl gyntaf, er nad oeddwn ond bachgenyn pur fychan, a'r dysgwyliad mawr oedd am dani, a'r parotoadau mawr tuag ati. Ac 0, dyna ddiwrnod pwysig oedd hwnw pan y daeth, yn neillduol gyda ni y plant! Yr oeddym wedi gwneyd ein rhan tuag ati, wedi bod yn cynorthwyo i gario y coed i'r hen gastell i wneyd yr esgynloriau i'r cantorion, a'r seddau i'r gwrandawyr, ac hefyd gynorthwyo peth ac annghyn- orthwyo mwy, yn ddiameu, i'w hadeiladu fel y bydd plant bob amser. Byddem oil am y cyntaf, ac yn ei theimlo yn fraint ac yn anrhydedd i gael cario coed i'r castell, ac wedi bod yn edrych yn mlaen yn aiddg-ar at yr amser ded- wydd. Y mae gan yr ysgrifenydd res- wm da i gofio am yr amser, canys dyg nod yn ei dalcen o hono hyd y dydd hwn. Wedi bod yn cario byrddau yn galed ar ol dod allan o'r ysgol, ar ol i'r gweithwyr noswylio, aeth nifer o honom trwy dwll yn y mur i mewn i'r castell i chwareu gyda'r coed. Wedi rhoddi nifer o fyrddau ar eu gilydd yn dair ongl, ac eraill arnynt fel to, aeth rhai o honom i mewn odditanynt. Wedi i ni fyned i mewn, ceisiodd y bechgyn eraill ein rhwystro allan, trwy roddi darnau o goed ar ben y to. I geisio codi y to i fyny, aethym ar fy nghefn ar y ddaear a'm traed yn erbyn y nen- fwd i godi y byrddau i fyny, gyda'r can- lyniad i ddernyn bychan o bren ddis- gyn trwyddynt ar fy nhalcen nes oedd- wn yn gwaedu fel mochyn, ac y mae y graith ar fy nhalcen i fy adgofio ,hyd heddyw. Fel y sylwyd, diwrnod mawr oedd diwrnod yr wyl yn Harlech bob amser, ond yn enwedig y cyntaf. Fel y rhy- feddem at y cerbydresi hir yn dyfod i mewn o bob cyfeiriad, ac yn fwy neill- duol, yn ddiameu, am mai newydd gael ei hagor yr oedd y rheilffordd yno. Ac fel y gwyliem y tyrfaoedd yn cyrchu tua'r hen gastell, a'r seindyrf yn chwa- reu hyd yr heolydd ar eu ffordd i mewn. Cynaliwyd yr wyl yn flynyddol yn ddi- fwlch am ugain mlynedd. Bu yn gor- phwys am ugain mlynedd arall, pryd ei hail gychwynwyd, i'w rhoddi 1 or- phwys eilwaith ar ddechreuad y rhyfel. Yr oedd yn ystod y rhan fwyaf o'i chyf- nod cyntaf yn brif ddygwyddiad cerdd- orol Cymru o'r fath, a chyrchai cerdd- orion a charwyr cerddoriaeth iddi o gryn bellder. Rhoddodd lawer o fwyn- iant, a gwnaeth lawer o les i gerddor- iaeth y cylchoedd. Rhoddodd symbyl- iad i, a chreodd awydd at gerddoriaeth uwch, a chynyrchodd gariad yn y can- torion at gerddoriaeth er ei mwyn ei hun, canys ni cheid na gwobr na thai am ganu ynddi; a rhoddodd hefyd gyf- leusdra i'r wlad i glywed cerddoriaeth aruchel a chlasurol, ac i glywed o dro i dro holl ddadganwyr goreu Cymru na allesid eu cael hebddi. EAw y sefydliad oedd "Undeb Cerdd- orol Dirwestwyr Ardudwy," a gwnaed ef i fyny yn y dechreu gan gorau Sir Feirionydd; ond yn ddiweddarach gorau hefyd o ranau o Siroedd Caernarfon, Trefaldwyn ac Aberteifi, yn. nghyd a, seindyrf chwyth a thant. y cylchoedd. Byddai cyfanrif y cantorion yn amrywio o bump i naw cant. Fel rheol, canai pob cor yn unigol y boreu a'r prydnawn, ac yn yr hwyr unent o dan arweinydd cyffredinol i ganu corawdau a threith- ganau. Yn yr wyl gyntaf a gynaliwyd, yn 1868, rhaglen pa un sydd o fy mlaen, cymerwyd rhan gan bymtheg o gorau yn rhifo pum cant a naw-ar-hugain o gantorion, a seindyrf Llan a Blaenau Ffestiniog. Canwyd nifer o donau cyn- ulleidfaol, "Datod mae Rhwymau Caeth- iwed" (J. Thomas), "Hallelujah" (Han- del), ac "Ymgyrch Gwyr Harlech," ar eiriau dirwestol cyfansoddedig at yr am- gylchiad gan Cynhafal. Bu y gan hon vn dra nhobloeraidd vr adeer hnnn vn v cylchoedd, ac os wyf y a cofio yn iawn, dechreuai fel hyn: Gelyn cryf sy'n galw eto, Feibion Meii ion i tyodino, Ac yn enw Duw i d .ro— Taro dros ein gwlad. Meddwdod yw y gelyn creulon, Mae ei gledd yn difa'r iiynion, Ac yn goch gan waed ein meibion- Gymry, elewch i'r 3d. I Ieuan Gwyllt oedd y trweinydd cyff- redinol; R. C. William, Caernarfon, y dadganydd cyflogedig, a Robert Rob- erts, Caernarfon, y cyfeilydd. Er dyfal- wch y seiri i ¡gau i fyny pob mynedfa, ffenestr, simdda a thwll y gallent eu canfod rhag i neb allu myned i mewn na- chlywed heb dalu, yr oeddym ni y plant yn eu g'.vyljo yn ofalus, ac wedi astudio sut y -gallem ddianc i mewn "am ddim." Pan ddaeth y dydd, llwydd- ais i ddringo i fyny i hen ffenestr oedd heb ei chau, lie y gallwn glywed y canu yn bur amlwg, a gweled penau y rhes uchaf o'r canto ion ar yr esgynlawr. Y peth cyntaf a ganwyd oedd y don "Rot- terdam," ar yr amyn fawreddog, "Mae'n llon'd y nefoed J, llon'd y byd," gan y corau yn nghyd ac O'r canu gogoneddus i mi oedd hwnw, heb glywed fawr o ganu erioed, ac wrth u^rych yn ol arno yn awr o'r pellder hwn, nis gallesid cael dechreuad mwy ben.ditdig. Yr oedd y bass, penau y rhai oeddwn yn weled, yn treiglo ac yn rhuo fel tonau y mor oedd ger llaw, a chlywid y canu am filldiroedd i fyny'r bryniau oddiar y dref gan yr anlaethwyr gyda'u gwaith. Nis gallaf alw i gof ddim arall a glyw- ais, am fy moa yn lied debyg yn rhy bell, ac mewn lie rhy annghyfleus i glywed y corau unigol fel ag i gael ar- graff arnaf. Llywydd cyntaf yr undeb oedd y Parch. Owen Jines, Tabernacl, Ffest- iniog; a'r ysgri enydd oedd y Parch. J. Eiddon Jones, T'hydmyn. diweddarach, Llanrug. AdeiLidwyd yr esgynloriau, a pharotowyd y castell at yr amgylchiad gan yr hen gerddor adnabyddus, Owen Roberts, Talsarnau, yr hwn hefyd, trwy lythyr o'i eiddo yn y "Cerddor Cym- reig," roddodd gychwyniad i'r mudiad. I
MOSES, AUL A'R IESU I
MOSES, AUL A'R IESU I Gan Cobyn I Yn y "Drych" am Tachwedd 20, dar- llenais ysgrif gan Mr. Eben P. Davies ar y tri uchod, a synwyd fi yn fawr gan rai o'i olygiadau. Wrth gau i fyny ei sylwadau, dywedai feallai y gwnaent i rai feddwl ar linell nad ydynt wedi meddwl o'r blaen. Nis gwn sut y bu gydag eraill, ond, yn siwr, ni wnaeth i mi feddwl dim yn wahanol. Dysgwyl- iais y buasai i ryw weinfCog neu dduw- inydd ateb Mr. Davies, ond ymddengys fod y brodyr yn cysgu neu yn ddidaro yn nglyn a'r uchod. Credwn mai cam- gymeriad yw gadael i ysgrif fel yr uchod fyned yn ddisylw. Ymddengys i mi y dechreua Mr. Da- vies yn gyfeiliornus hollol. Dywed mai cyfundrefn orchymynol oedd eiddo Moses; un athrawiaethol oedd un Paul; ond dysgeidiaeth foesegol ac egwyddor- o! oedd eiddo yr Iesu. Yr oedd y tair yn orchymynol. Buasai yn gywirach i ddweyd fod eiddo Moses yn drefnydd- ol. Y mae llawer o'r gorchymynol yn yr Efengylau; ac yn hytrach na galw un Paul yn athrawiaethol, gellid ei galw yn eglurhaol a dadblygiadol. I'r genedl yn nyddiau Moses, yr oedd ei gyfundrefn ef yn well nag un athraw- ,iaethol o herwydd cyflwr ei gwareidd- iad. Hyd yn nod yn nyddiau y Gwared- wr, a dyddiau Paul a'r Apostolion, yr oedd cyfundrefn gyfunedig o'r tair yn well nag un o'r tair yn unig. Felly y mae dosbarthiad Mr. Davies yn rhy "gyfundrefnol" i fod yn gywir. Credwn fod el sylwadau ar, a'i olyg- iad o Paul yn eithafol o gyfeiliornus; a synem fod dyn o'i gyraeddiadau ef yn crwydro mor bell oddiwrth y gwir- ionedd. Dyn go gyffredin oedd Paul yn ei farn ef. Ei gwyn gyntaf yn er- byn Paul yw iddo droi i rywbeth allanol yr hyn a gychwynwyd "yn fewnol ac enaid-gynyrfiol." Trodd yn gyfundrefn yr hyn oedd yn unig yn egwyddor fewnol. Dyna'i gwyn; ac yr oedd Paul mor afresymol a honi nas gallai ffrwyth da dyfu "ond ar bren sydd yn cael ei drin a'i drwsio yn unol a rhyw gyfun- drefn." Tebyg na thalodd Mr. Davies sylw erioed i arddyddiaeth neu anjaethydd- iaeth. Y mae garddyddiaeth ac am- aethyddiaeth yn solygu llawer o "drin a thrwsio" ar goed a phob peth arall. Cymered Mr. Davies ardd neu fferm U" "O.A1 All ofil/lool 1 wneyd y gwaith, heb yr aredig, a'r llyf- nu, a'r hau, a'r chwynu, a'r gwrteithio, &c., ac heb dalu sylw o gwbl i'r "gyfun- drefn" o amaethu, a gwel y gwahan- iaeth yn fuan. Dyma ddywed un o feirniaid y Cyfan- dir, rhyddfeddyliwr ,ac un na ystyrir yn "iawngredwr," am Paul: "Ni fuasai crefydd Crist wedi myned y tu allan i derfynau Palestina, oni buasai i ddyn o olygiadau eang, a threfnydd ymarferol fel Paul ei chyflwyno i fyd cyfan, gan wneyd o eefengyl foesol Crist, delfrydol ac anmhenodol, grefydd barhaus." Yr oedd Paul yn offeryn yn llaw Duw i'w thaenu dros Ewrop a'r byd, a gwnaeth hyny drwy gyfundrefniad, yr hyn sydd adgas gan ddelfrydydd fel Mr. Davies. Ymffrostia Mr. Davies yn ei ddelfryd- iaeth, yr hyn nid yw amgen na, dych- ymyg noelh, a gwelir gwaith y gallu delfrydol hwnw drwy ei ysgrif. Nodwn ychydig o hono; oblegid ni chaniataai gofod y "Drych" am un tro i ni nodi yr oil. Camgymeriad penaf Mr. Davies yw gosod allan mai dyn arwynebol oedd Paul; dyn wedi andwyo crefydd ysbryd- ol Crist drwy ei throi yn rhywbeth allan- ol! "Yr oedd gan Paul feddwl mawr o hono ei hun." Dyna gwyn fawr iawn yn erbyn un a wnaeth ei hun yn bob- peth er mwyn Crist! Y mae pobl fedd- yliant yn fawr o'u hunain yn ymddwyn yn hollol wahanoL Gwnant bobpeth i fawrhau eu hunain; ond beth ddywed Paul: "Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hyny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist." Nid arwynebol oedd dyn a gyfaddef- ai ei hun yn "benaf o bechaduriaid"; ac, yn siwr, ni fuasai dyn a feddyliai yn fawr o hono'i hun yn cyfaddef peth o'r fath! Y mae pobl feddyliant yn fawr o honynt eu hunain yn cuddio eu drwg. Nid dyn arwynebol yw dyn wel ei "bechadurusrwydd." Cwyn arall yw fod Paul "yn Iuddew penboeth"! Yr oedd hefyd "yn bender- fynol o osod cymaint o urddas arno ei hun ag oedd yn bosibl." Gwelir yma eto ddrlfrydiaeth, sef dychymyg Mr. Da- vies ar waith. Dychymyg i gyd yw, oblegid y mae y Testament Newydd yn profi yn amgenach. Cred Mr. Davies mai ymffrostio y mae Paul pan y dywed ei fod yn He- brewr o'r Hebreaid, ac yn Pharisead, ac yn erlid yr eglwys, a rhyw ymffrost Iuddew yw; ond ymwada a'i hun fel Iuddew a phobpeth drwy ddweyd iddo gyfrif pobpeth yn golled "o herwydd ar- dderchowgrwydd gwybodaeth Crist." Ac i brofi ei fod yn "Iuddew pen- boeth," beth feddylia Mr. Davies o'i eiriau ar y pwnc hwn? Hobi fawr yr Iuddew hyd heddyw yw yr "enwaed- iad," ac ni ddywed Iuddew "penboeth" ddim yn erbyn ei hobi; ond beth ddy- wed Paul am yr enwaediad? "Enwaed- iad, nid yw ddim." Ac ni fuasai Iuddew "penboeth" byth yn defnyddio yr ym- adrodd a ganlyn (Gal. 3 28): "Nid oes nac Iuddew na Groegwr," &c. Nid dyn arwynebol, yn troi pethau mewnol yn allanol, a welai bethau cudd fel yma; ac ebe efe, "Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iuddew." Dyn ysbrydol iawn oedd Paul. Ac am fod Paul fel hyn ac fel arall, dywed Mr. Davies y credai llawer o Gristionogion boreuol nad oedd Paul ond person dychymygol"; a gallwn, ddweyd mai dychymygol yw y Paul a ddychymygir gan Mr. Davies, oblegid ni fu y fath Paul o gwbl, ond yn nar- felydd Mr. Davies. Tua diwedd ei ysgrif, gwelir waith delfrydiaeth Mr. Davies, oblegid a i ddi- fodi Paul ar ol ei gamddarlunio! Yna terfyna ei sylwadau yn y dull delfrydol a ganlyn: Diosger Paul o'i wisg oruwchnaturiol, a gosoder ef dan oleuni Ilachar beirniadaeth deg a a di- duedd, a cheir mai dyn cyffredin oedd fel Mr. Davies neu un o ohebwyr cyff- redin y "Drych." Diosger Mr. Davies o'i ddelfrydiaeth, a sicr genym y daw i weled pethau yn eglurach ac yn iawn- ach.
[No title]
-Yn ddiweddar, yr oedd Mri. W. Dew a Mr. Arthur Jones, Bangor, yn cynyg ar werth nifer o dafarndai yn Nosbarth Porthmadog. Cyn dechreu gwerthu, cyfeiriodd Mr. Arthur Jones at sylwad- au y Prifweinidog yn nglyn a'r fasnach feddwol, yr hyn oedd yn dangos, pa mor gryf bynag oedd ymgyrch "Pussyfoot," fod Mr. Lloyd George yn tybio nad oedd y mesurau eithafol sydd wedi eu pasio yn yr America yn cydfyned ag ys- bryd y cyhoedd. 0 dan yr amgylchiad- au, yr oedd dyfodol y fasnach gydag ychydig gyfnewidiadau wedi ei sicrhau. Gwerthwyd Brittania Inn, Porthmadog. am £ 300, a Brynawelon Inn am £ 200 i Mr. Arthur Peacock, Abermaw. Del- iwyd &'r Commercial Hotel, Ship Hotel.
IGENI IESU GRIST I
GENI IESU GRIST I Gan y Parch. T. R. Jones, Bala I "Awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hys- bysodd yr Arglwydd i ni" (Luc 2 15). Gwna miloedd lawer gyfryw bererindod ysbrydol bob blwyddyn; a'r Nadolig yw y ddewisol adeg: dyma ddydd pen- blwydd Ceidwad dyn. Hawdd eto fydd- ai dewis myned i "Jerusalem," yn hyt- rach nag i Fethlehem-fel y doethion o'r dwyrain, gan dybied mai yn ol can- onau daearol y penderfynir pwysig- rwydd lie a'i briodoldeb fel cartref Duw mewn cnawd. Arweinia seren yr Ar- glwydd yn ffyddlon a manwl i fangre y geni; ond nid yw dynion bob amser yn dylyn yr arweiniad mor ufudd a llwyr: caniatant ormod o ryddid i'w rhagdybiau, ymddiriedant yn nghryfder ac eglurder eu rhtswm dynol, gan es- geuluso ymgyngori a Duw, a sylwi ar yr arwyddion nefol. Er cymaint llai oedd Bethlehem na Jerusalem gyfagos, eto o honi hi y deuai y Tywysog, yr Hwn a fugeiliai enaid Israel Duw. Priodol ddigon oedd yr ym- holiad, "Pa le y mae yr Hwn a anwyd yn Frenin yr Iuddewon?" (Math. 2:2). Gwir Frenin oedd yr Iesu, ond na ddy- bynai am ei frenindod ar ddygwyddiad- au'r llawr. Ni allasai bod wedi ei eni yn y brifddinas, ac yn ei phalas bren- inol, ychwanegu cufydd at ei faintioli, na rhoi unrhyw gymwysder ynddo i ly- wodraethu mewn cyfiawnder a barn. "Fy mreniniaeth i nid yw o'r byd hwn" (loan 18 36). Mae yn frenin yn y byd hwn, ac yn llywodraethu yn mrenin- iaeth dynion, ond nid o'r byd hwn y tardd ei awdurdod, ac nid yw cysyllt- iadau daearol yn cadarnhau' ei orsedd. Ganesid ef mewn ystabl yn Methle- hem, a gwasanaethodd preseb yr anifeil- iaid yn gryd iddo, am nad oedd i'w fam a Joseph le yn llety cyhoeddus y pen- tref tra ar eu taith. Ond "dinas Daf- ydd" oedd Bethlehem, ac am "ei fod o dy a thylwyth Dafydd" yr aethai Joseph yno i'w "drethu." Gan hyny, fe wnaed lesu Grist ein Harglwydd ni o had Daf- ydd o ran y cnawd (Rhuf. 1:3); dis- gynai o linach freninol. Heblaw myned i Fethlehem, angenrheidiol yw fod y llygaid wedi eu hagoryd i ganfod ystyr yr amgylchiad, a'r clustiau yn abl i glywed a mwynhau molawd y cydgan nefol. "A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megys yr Uniganedig oddiwrth y Tad) yn llawn gras a gwirionedd" (loan 1 14). Iaith profiad sydd rhwng y ddau gromfach yn yr adnod; ac heb wres cariad ysbrydol yn eu calon, ac olew llygaid yn eu llygaid, ni ddichon neb weled gogoniant dwyfol trwy len y cnawd, na mawrhydi nefol heibio i'r ys- tabl a'r preseb. Cyfeiria hen ddywediad at dri rhy- feddod mawr, sef Rhufain yn ei gogon- iant, Paul yn y pwlpud, a Christ yn y cnawd. Diau fod y tri yn rhyfeddod, ond nid yn unig yr olaf yw y mwyaf o'r tri, eithr y mae yn annghydmarol fwy na phob rhyfeddod arall. Gelwir ei enw ef Rhyfeddol (Esaiah 9 6); ac yu ei ymyl Ef, syrth pob rhyfeddod ar- all i ddinodedd. "Rhyfeddir byth y geni'n dlawd." Hysbyswyd y ffaith mewn modd neillduol, i fugeiliaid yn y maes, ac i ddoethion o'r dwyrain tra wrth eu gorchwyl hwythau. Mae'r newyddion da i fod i'r bobl oil, ac ni all y rhai a'u cawsant eisoes eu nacau i'r paganiaid sydd hebddynt heb droi yn anffyddlon i ysbryd yr Efengyl ac ysgwyd ymaith ei gwir ddylanwad oddiar eu calon. Ond y bugeiliaid a'r doethion oedd y ddau ddosbarth etholed- ig i dderbyn gyntaf y newydd da hwn- o eni Ceidwad i'r byd, a'r Ceidwad hwnw yn Grist, a'r Crist yn Arglwydd. Diau eu bod yn dysgwyl hysbysiad o'r fath, a bod eu hysbryd mewn cywair i dderbyn y cyfryw ddadguddiad: yn ol yr hyn sydd ynom yr ydym yn clywed ac yn gweled; rhai a Duw ynddynt sydd yn gweled ac yn clywed Duw. Aeth y bugeiliaid yn ddiymdroi hyd Bethlehem, a chawsant Mair, a Joseph, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb; dychwelasant drachefn at eu dyled- swyddau gan ogoneddu a molianu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a wel- sent. Cyraeddodd y doethion drachefn i'r lie, wedi bod heibio i Jerusalem a Herod: "A phan ddaethant i'r ty, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a hwy a syrthiasant i lawr ac a'i haddolasant ef; ac wedi agoryd eu try- sorau, a offrymasant iddo anrhegion, aur, a thus, a myrr" (Math. 2 11). Dyfod "i'w addoli Ef" yw pwrpas teil- mewn proffes yn unig, fel y brenin He. rod, eithr mewn ysbryd a gwirionedd Ac nis gall gwir addoliad fod yn beth hawdd a didraul: y grefydd nad yw yn costio i ni, nid yw ycnwaith yn abl i roi i ni ddyddanwch na nerth. "Nid offrymaf boeth offrwm yn rhad" (1 Cron. 21 24). Gallwn ninau roddi anrhegion pen- blwydd i'r lesu eto; a'r anrhegion goreu. ond eu bod y drutaf hefyd, yw rhoi eiD hunain, "rhoi fy hun yn gwbl iddo." Nid oes dim yn wir rhoi, ar nad yw yn cynwys. rhoi ein hunain; "eithr rhodd- wch eich hunain i Dduw ,megys rhai o feirw yn fyw; a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw" (Rhuf. 6 13). Heblaw fod rhoi ein hunain i flaenori pob rhoi arall, rhaid ei ail gvflawni yn mhob rhoi dylynol. Priodol iawn yw cysylltu geni'r Iesu a heddwch, a dylai fod yn hawdd eleni i gadw gwyl y Nadolig mewn llawenydd. "Tywysog tangnefedd" yw un o'r teitl- au a roddir i'r Messiah, a thywys i dang- nefedd yw ei briod waith. "Efe yw ein tangnefedd ni, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwa- haniaeth rhyngom ni" (Eph. 2:14). Tyn Efe bob dau wrthwynebol a gelynol yn nes at eu gilydd: dwg y rhai pell yn agos, trwy ddwyn y naill a'r Hall i'w fynwes ei Hun. Pobl dduwiol ddichon fyw mewn heddwch llawn a pharhaol: pan wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd y bydd genym heddwch tuag at ddynion yn ogystal a thuag at Dduw, trwy ein Harglwydd lesu Grist. Rhaid i Gyfamod y Cenedloedd fod yn Gyfamod cysegredig rhwng pob un o honynt a Duw cyn y bydd yn gadarn a safadwy. Pobl yn caru Duw fedr garu dynion, fel brodyr, a phlant i'r un Tad. A thrwy'r heddwch cymdeithasol, a'r parodrwydd i geisio'r eiddo eraill mewn ewyllys da am eu llwyddiant, fe ddyg- ir gogoniant yn y goruchaf i Dduw.— O'r "Lladmerydd." I'
EWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB
EWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB Gan Sam Ellis Difyr ydyw gweled A. H. Williams yn beirniadu Lewis Gabriel am wadu "cyfrifoldeb," tra ar yr un pryd y mae ei ddamcaniaeth ef ei hun parthed caethiwed yr ewyllys yn arwain yn ddi- feth i'r un trobwll. Ymwinga Mr. Wil- liams yn egniol i geisio cysoni "rheid- rwydd" a "chyfrifoldeb." Dwg y dad- leuon arferol dros gaethewyllysiaeth, ac y mae y rhai hyny yn rhesymau dros "annghyfrifoldeb." Credaf nad ydyw A. H. W. yn iawn synio am ystyr y gair "rhyddid." Nid ydyw y ffaith fod dyn, yn fod rhydd- ewyllysiol yn tybio ei fod yn ddireol a gwallgof; yn hytrach, mewn rhyddid y sylweddolir y cydgordiad perffeithiaf mewn bywyd. Sohir am ddeddfau'r meddwl fel pe bai raid i'r meddwl hunan- ymwybodol fed yn ddarostyngedig i'r un deddfau a mater anymwybodol, yr hyn sydd heb ei brofi eto. Yn awr, i ddod at gnewullyn y mater, dymunaf i A. H. W. ddadgan am beth y mae dyn yn gyfrifol. Os ydyw ewyllys dyn yn rhwym i blygu i'r "cymellion cryfaf," ac os ydyw y cymellion hyny yn effeithiau anocheladwy ei natur at gylchynfyd, ac os ydyw ei natur a'i gylchynfyd yn bethau nad oes ganddo ef yr un rhan yn eu ffurfiad, pa fodd, paham, a pha bryd y mae dyn yn gyfrif- ol? Onid lluniwr ei natur, a threfnydd ei gylchynfyd, sydd gyfrifol? Mae caethewyllysiaeth yn arwain yn ddifeth i'r casgliad mai Duw ydyw awdwr pechod, neu nad oes! Duw yn bod. Wrth gwrs, mae pob un o*r ddau syn- iad yn farwol i bob agwedd o grefydd a moeseg. Hynyna mewn atebiad i A. H. W. Yn awr, ceisiaf roddi sylw i ymhol- iadau Lewis Gabriel. Teithia y ddau gyfaill doniol ar hyd yr un ffordd dyngedfenol; A. H. W. yn ngherbyd "uniongrededd," a L. G. mewn cerbyd newydd spon o'i wneuthuriad ei hun, mi a gredaf. Ymhola L. G. "beth yw ysbryd, os nad ysgogiad." Anhawdd rhoddi deffin- iad o ysbryd, ac y mae yr un peth yn wir am "fywyd" ac "ysgogiad." Cred- wn fod ysbryd yn golygu person hun- anymwybodol. Ni ellir dweyd hyny am "ysgogiad." Yr wyf fi, er engraifft, yn ymwybodol fy mod yn ysgrifenu y nod- iadau hyn; mae ysgrifbin yn "ysgogi," ond ni wyr hyny. Neu gallaswn ni ag sydd yn berson rhydd, beidio ysgrifenu, ond ni all yr ysgrifbin beidio ysgogi tra yr wyf yn ei ddefnyddio. Ni ddylid chwilio am ysbryd gyda chwyddwydr na uhellwvdr. Yn nhirinlr;ipth aninnoc