Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Anerchiad Moelrydd yn Nghyfarfod Dadlenu Coflech y Milwyr yn Beth- esda, Utica, N. Y. Wedi'r poenau a'r penyd—wedi'r brad, Wedi'r briw a'r adfyd; 0 afael angeu hefyd- 0 drin y gwn—adre'i gyd! Ond dau! hwy'n ddiau ni ddeuant—yn ol A hyn grea siomiant; Dewrion Duw! ar dirion dant Hwy gana mewn gogoniant! .Dewrion fel meibion Dura-wych gewri Eich coron ni ryda; Byth os daw i Bethesda Roddi ei nawdd, rhwydd hi wna. Eich hanes dan faner Iesu-fyddo Yn ufudd i'w dyrchu; Safwch, boys, dros y Groes yn gry'— lawn rodiwch i'w anrhydeddu. MOELRYDD, Utica, N. Y. o: —— Penillion i Harold Rees, Columbus I Junction, Iowa Y mae Harold wedi'n gadael A chael myn'd i'r nef i fyw; 'Nawr na wylwn yn ddiobaith Am mae ef yn nghwmni Duw; Ac mae'n gweled le'su anwyl Ar ei orsedd fel y mae, Ac fe gana yn dragwyddol Am ei godi uwch pob gwae. Fe fydd bellach yn rhyw ddysgwyl Gwel'd y teulu un 'rol un Yn dod ato byth i'r nefoedd I folianu y Duw-ddyn; Mae E' heddyw'n gwel'd y seintiau Aeth i'r nef o *Salem lan; Mae yn syllu ar eu gwisgoedd Ac yn gwrando'u peraidd gan. Sef o eglwys Salem. H. X. HUGHES. -:0:- Hen Afon Ogwen I Hen afon Ogwen, mae i mi Adgofion fyrdd am dani hi; O'r oriau dreuliais ar ei min, Ac yn ei dwr ar hafaidd hin; Fy nghyfoed hefyd ar wahan, Ddygwyddant weled hyn o gan, Adgofiant hwythau yr un wedd Yr amser hyfryd llawn o hedd. Mynydau difyr yno gaed Yn gwylio'r pysgod yn rhoi naid I fyny'n chwim o'r dyfroedd glan Gan lyncu'n fyw y gwybed man; Tra ninau fwriem fara can I geisio'u denu tua'r lan, Ond ofer fu pob ymgais ffol Doent am y bwyd, ac yna'n ol. Chwareuem weithiau yn ei gro Yn Iluchio ceryg taro clo; I dori'r dyfroedd ar wahan Yn llu o donau cylchog man; A dyna swyn oedd hyn i ni, Yn gwylio'r tonau man di ri'; Ac un o gampau plant y fro Oedd taflu careg taro clo. Temtasiwn fawr pan ddoe i'n rhan Oedd gwely tywod ar ei glan I droi'n arlunwyr gyda brys A darn o bren neu flaen y bys; I dynu lluniau fel ar draeth, Pob un yn tynu'n ol ei chwaeth; Mi wn yn awr nad oes i'w gael I dynu llun un lie mor wael. 0 bell ar droion gwelid ni Yn syllu'n synfawr ar ei lli; Fel march di reol a di waith, Yn wyllt garlamu ar ei thaith; A rhuai'n drwm ei throchion gor Wrth lanw'r creigiau tua'r mor; Arswydem rhagddi y pryd hyn Heb farw ddwr na thawel lyn. Pan haul edrychai iddi i lawr 1 wel'd ei wyneb melyn mawr; A llonach gwen na gwyneb gwr; Gorauro wnai ei gloew ddwr; Pan felly byddai fel ar hun, Caem ninau ynddi wel'd ein llun; Can loewed oedd ei dyfroedd gwych, Fel gloew wyneb dysglaer ddrych. Ei threigliad cyson gyda nerth, Lyfnhai y cedyrn greigiau serth; A gwisgo ambell gareg lefn A chnwb o fwsog a mei chefn; Hi ddisychedaai fuchod lu 0 lan y mor hyd Fraich Ty Du*; A lleithio'r coed a'r blodau man A murmur byth ei lleddfol gan. Rhyw ffugio bod yn neidr wnai, Gan haner gylchu dol a chae; Ac fel o'i bodd yn chwareu mig 0 dan dorlenydd ger y wig; 0 honi ei hun gwnai berlau glan Addurnai ei rhaiadrau man; A'r lle'r ymdreigla ar ei hynt Sydd ail i'r hen baradwys gynt. Mae'n debyg iawn o bethau'r byd, Mae yno mae hi'r un o hyd; Er fy mod i a'm cyfoed gynt Oil wedi ei gado ar ein hynt; A chwith yw meddwl ambell dro Fy mod mor bell o'r dawel fro; Un man drwy'r byd ni wel y bardd, Mor swynol a Bethesda hardd. JOSEPH DAVIES, San Francisco, Calif. Enw tyddyn yn agos i'w tharddle. Jesus is Calling (From the Welsh of "Index," Editor of the "Drych") One night I sailed over Death's mystical bar, Far over its billowless sea; I heard the sweet voice of my daughter afar, f Tenderly calling to me, Quickly I turned my shallop around, Wild joy my sad bosom possessed, Undaunted I gazed through the shadows profound, And sailed for the Land of the Blest. Hark! 0, hark! Hear the Voice,—the sweet voice divine; Peaceful the beautiful sea: "0 come., dear father, unto me; 0 come, 0 'come unto me." O. had I the wonderful voyage forbore, Unheeded the greeting divine, I ne'er should have seen the heavenly shore, Nor that beautiful darling of mine; Jesus was waiting upon the fair shore, The shore of the beautiful sea: I shrieked with my joy! I saw my Le- nore, With Jesus, still calling for me. Hark! 0, hark! Hear the Voice,—the sweet voice divine;, Peaceful the beautiful sea: "0 come, dear father, unto me; 0 come, 0 come unto me." 0 sinner that saileth across the wild bar, Afar over Sin's stormy sea; Defiled and forsaken, though deep is the scar, Jesus is calling to thee; He calls thee tonight. 0, hark to the wind: It murmurs of dark Calvary; 0 list, weary one, to the Friend of man- kind: He calleth, He calleth to thee! Hark! 0, hark! Hear the Voice, -the sweet voice divine; Peaceful the beautiful sea: "Come, vilest sinner, 0 come unto me, 0 come, 0 come unto me." GEORGE BOWEN, Seranton,Pa.

NODION 0 NEW CASTLE, PA. I

[No title]

I"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…

I LAKE CRYSTAL, MINN. i

Advertising