Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
NEW YORK A VERMONT.
NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Rhagfyr 24, 1919.- Bydd cor "Band of Hope" Moriah yn perfformio Cantata, "Santa Claus at Miss Prim's," yn nghapel Thorn, eglwys Tabernacl, congl Clarke a King St., nos Nadolig. Cynwysa y cor 80 o leisiau, a bydd yn wyl gerddorol gwerth ei mwynhau. —Nos Sul nesar, oyaa cor Moriah yn rhoi Cantata, "The Nativity," dan arweiniad John M. Jones. Cynwysa y cor 45 o leisiau. Yr unawdwyr fydd- ant: Mrs. Wm. H. Jones, W. A. Ellis, John M. Jones, Mrs. John L. Evans, David Jones a Robert W. Jones. David, Parry fydd wrth yr organ, Miss Olwen M. Jongs wrth y berdoneg, a'r crythwyr fyddant Alun Jones a Wilfred Thomas. —Bydd yn newydd dyddorol i Gymry Sir Oneida, a'r Hen Wlad, fod y Sirydd newydd, Arthur W. Pickard, wedi pen- odi, Humphrey Griffiths, 1301 Seymour Avenue, yn is-garchar-geidwad Utica. Cyngorwn Gymry Utica i iawn-ym- ddwyn rhag y bydd yn rhaid iddynt fyned dan ofal Hwmphra. —Nac annghofier cyngerdd Cor Glyn- dwr nos Fercher, yn eglwys y Central M. E., Court Street, adeilad eang a chysurus, dan nawdd eglwys Bethesda. Addewir cyngerdd rhagorol ag a fydd yn foddlonrwydd i bawb, o ba chwaeth bynag. Y mae yn gor o ddawn eithr- iadol. Bydd yn ddrwg genych os yr ant ymaith heb i chwi eu gwrando. Daliwch ar y cyfle. Y mae Hugh Williams, a adnabydd- ir wrth yr enw "Caruso Bach," adref i dreulio y Gwyliau gyda'i berthynasau. Y mae Mr. Williams yn aelod o'r Gallo Opera Co., sydd newydd fod yn teithio drwy Canada, a'r hwn a a mor bell a, Glanau y Tawelfor. Y mae Mr. Wil- liams yn efrydu i gymeryd prif ranau y ewmni, ac y mae hefyd yn llwyfan- reolwr. Mae ei gyfeillion Iluosog yn falch i'w gyfarfod. -Y Parch. John Davies, D. D., sydd yn ol o'i ymweliad a Racine, Wis., lie yr aeth i gladdedigaeth un o'i hen ael- odau yn ei gyn-eglwys yno, sef Mrs. Jane Gittins, yr hon oedd yn 94 oed, ac wedi bod yn y wlad er's 70 mlynedd. Treuliodd flwyddau cyntaf ei harosiad yn Waterville. ger Utica. Yr oedd Mrs. Gittins yn barchus iawn yn Racine. Dadganodd ei dymuniad i gael Dr. Da- vies yno i weinyddu. Dewiswyd y swyddogion a ganlyn am y flwyddyn yn Ysgolion Sul Moriah a Peniel: Moriah—Arolygwr, Evan T. Williams; is-arolygwr, Stanley W. Jones; ysgrifenydd, John R. Thomas; trysorydd, Ellis J. Roberts; cyfeilydd- esau, Hannah Evans a Dilys Jones; ar- weinwyr y canu, John T. Roberts ac Ellis J. Roberts; cynrychiolydd i'r Cyf- arfod Ysgol, Owen Hughes; arolygwr adran y plant, David Jones. Peniel- Arolygwr, Edward Parry; is-arolygwr, Hugh A. Jones; ysgrifenydd, Richard Thomas; trysorydd, Robert H. Wil- liams; cyfeilyddesau, Mrs. Wm. G. Tho- mas a Dilys Jones; arweinydd y canu, Griffith A. Jones. Yr oedd y gwasanaeth nos. Sul di- weddaf yn Moriah o dan arweiniad y Gymdeithas Ymdrechol, a daeth cynull- iad mawr yn nghyd. Yr oedd y rhaglen yn nwylaw y bobl ieuainc. Arweiniai Trefor Hughes, ac offrymwyd gweddi gan George E. Davies. afwyd unawdau gan Miss Lillian Jones a W. A. Ellis. Hefyd pedwarawd: Mrs. Robert W. Jones, Annie Lloyd Davies, W. A. Ellis a Peter Jones. Testyn y cyfarfod oedd, "Y Genadwri a'r Ysbryd Nadolig. Agorwyd gan Owen G. Jones, llywydd y Gymdeithas, a chafwyd anerchiad rhagorol gan y gweinidog, Dr. Davies. Diweddwyd a darnau gan Miss Olwen M. Jones ar yr organ. Yn eu cyfarfod rheolaidd o Gyfrinfa "Gwenfron," o Urdd y Gwir Iforiaid, nos Wener, yn neuådd Carnwath, derbyn, iwyd dwy o newydd i fewn. Cymerodd etholiad blynyddol y swyddogion le: Llywydd, Miss Jennie R. Jones; is- lywvdd, Miss Jane Thomas; trysorydd- es, Mrs. John O. Thomas; ysgrifenydd- es cofnodol, Mrs. Wm. E. Williams; ys- grifenyddes arianol, Miss Rosina M. Thomas; gorchwylyddes, Miss Grace Pugh; arweinyddes, Mrs. John E. Wil- liams; gwyliedyddes fewnol, Miss Jen- nie Thomas; gwyliedyddes allanol, Mrs. R. W. Thomas; arweinyddes gynorth- wyol. Miss Bessie Thomas; caplanes, Mrs. Evan Jones; organyddes, Miss Rosina M. Thomas; trysoryddes y blwch heulog, Mrs. William Hughes. Y genades i Gynadledd y Bwrdd yw Mrs. R. W. Thomas, ac i gymeryd ei lie, Mrs. Richard R. Williams. Yr ymddiriedol- yddesau am flwyddyn; Mrs. Evan Jones, Mrs. E. Ellis a Mrs. Wm. R. Thomas. Am dair: Mrs. Wm. J. Williams, Mrs. Griffith W. Davies a Mrs. Hugh Wil- liams. Lleolir y swyddogion, Ionawr 16. —Cafodd R. W. Owen, llywydd y Cymreigyddion, $29 o Holland Patent, fel cyfraniad yr ardal hono at y Car1- tref Newydd. Casglwyd yr arian gan y Parch. Richard Hughes a Robert Hughes. Hawlia pobl Holland Patent y dylesid cyfrif $50 y Surrogate E. Wil- lard Jones i'r ardal, gan ei fod yn byw yno. Chwareu teg i bawb. Dyma en- wau y rhai danysgrifiasant: D. B. Lisle, $5; John Roberts, $1; R. J. Meredith, $1; John D. Lloyd, $1; Robert Hughes, $5; Samuel E. Evans, $1; John E. Jones, $1; William J. Jones, $1; Chas. J. Clark,$1; y Parch. Richard Hughes, $2; George W. Owens, $1; Elias W. Jones, $2; Owen G .Owens (Stittville), $5; Ellis D. Jones, $1; Griffith D. Tho- mas, $1.; cyfanswm, $29. I Cyngerdd Cor Glyndwr Heno (nos Fercher) y ceir cyfle oes i wrando un o gorau goreu y byd heb rag- rithio. Y mae ei gampau drwy y Tal- aethau Dwyreiniol wedi bod yn yrfa o lwyddiant dysglaer, ac y mae y clod a'r ganmoliaeth gant yn mhob lie yn eithr- iadol. Y mae i'r bechgyn hyn glod eithriadol, am nad cor yw yn gwneyd eu bywiolaeth wrth ganu ydynt, ac nid eu galwedigaeth feunyddiol yw canu, eithr glowyr ydynt, a milwyr newydd ddychwelyd o fod ar faes brwydrau ofn- adwy; ac eto y maent yn dwyn Cymru i fri mawr drwy eu doniau cerddorol di- hafal. Y ma-ent hefyd yn gor o fechgyn da a bucheddol, a gallant rhoi'cyngerdd- au cysegredig i foddhau calon hen Grist- ion. Y mae ganddynt amrywiaeth mawr o unawdau, deuawdau a chorawd- au, a chanigau, y rhai a ddadgenir gyda pherffeithrwydd a swyn annghyffredin. Y mae yr unawdau yn nodedig: "The Trumpeter," "The Nirvana," "I fear no foe," "Lend me your aid," "My Dreams," "Absent," a "Moira, my Girl" (Gwyddelig), y "Deathless Army," ac eraill sydd yn ysbrydoliaeth i'w gwran- do. Wrth eu gwrando, dychymygwch eich bod yn gwrando ar Caruso, McCor- mack, ac eraill o eosau y byd. Cofiwch am y cyfle! Cyfarfod Chwarterol Cynulleidfaolwyr Talaeth New York 11 Cynaliwyd yr uchod yn nghapel Court Street, Rome, ddyddiau Sadwrn a'r Sul, Rhagfyr 13-14; y gynadledd brydnawn Sadwrn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Robert W. Thomas, New York Mills. Yn absenoldeb y llywydd a'r is-lywydd, y Parch. Joseph Evans a Richard G. Lloyd, pasiwyd i'r Parch. W. Caradog Jones gymeryd y gadair. Galwyd enwau yr eglwysi, ac yr oedd y cynrychiolwyr canlynol yn bresenol: Bethel, Wm. J. Williams; Holland Pat- ent, v gweinidog; Nelson, y gweinidog; New York Mills, Robert W. Thomas a William O. Jones; Rome, W. W. Ross ac Owen Thomas. Gweinidogion: y Parchn. W. Caradog Jones, Rome; J. D. Thomas, Nelson; Richard Hughes, Hol- land Patent. Darllenwyd cofnodion y Gymanfa a chadarnhawyd hwynt. Pas- iwyd ein bod yn cynal y cyfarfodydd chwarterol fel arfer. Fod y Parchn. W. Caradog Jones a Richard Hughes i ohebu ag eglwys Floyd. Ein bod yn dewis William Williams, Bethel, i ddod a hanes hen gapel Penymynydd i'r cyf- arfod nesaf. Ein bod yn gwneyd cais at eglwys Peniel, Remsen, i gymeryd y cyfarfod nesaf. Ein bod yn anfon ein cydymdeimlad a'r Parch. Morien Mon Hughes, D. D., yn ei brofedigaeth chwerw o golli ei briod yn yr angeu. Yr oedd Dr. Hughes yn ffyddlawn a gweithgar gyda phob ran o'r gwaith yn nghylch ein Cymanfa pan yn weinidog ar eglwysi Peniel, Remsen, a Court St., Rome. Duw a fyddo yn dyner o hono; a hyderwn fod blynyddoedd lawer iddo eto i wasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab. Cafwyd adrpddiad ffafriol o'r eglwysi gan y gwahanol gynrychiolwyr. Pre- gethwyd gan Dr. J. Vincent Jones yn y boreu. Y prydnawn, pregethwyd gan y Parch. J. D. Thomas, a chafwyd an- erchiad rhagorol gan Mrs. J. J. Pear- sall, Brooklyn, ar y Genadaeth! Dywed- odd hithau bethau pwysig, fel y dylai yr eglwysi fod mewn ysbryd priodol i gydweithio er cael y byd at Grist. Cre- dwn y bydd i'r anerchiad wneyd daioni mawr. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parchn. J. D. Thomas a Richard Hughes. Cafwyd cyfarfodydd dymunol, a siriol- deb a charedigrwydd neillduol gan yr eglwys a'r gweinidog. Yr oedd y canu yn rhagorol, o dan arweiniad W. W. Ross, a chanodd y cor yn ddymunol rhwng y ddwy bregeth yn yr hwyr. Bendith yr Arglwydd a ddylyno eglwys Rome.—Richard Hughes, Ysg. Noson Gyda chor Mountain Ash yn Poultney, Vt. Ar ol ymweliad Cor Mountain Ash a'n tref, iaith y "Poultney Journal," golyg- ydd yr hwn sydd gerddor coeth a di- wylliedig, ydoedd "Veni, vidi, vici!" "Daethant yma atom," meddai; "gwel- sant gynulliad lluosog i'w croesawu, a chymerasant feddiant llwyr o'u gwran- dawyr o'r mynyd y tarawsant eu rhifyn agoriadol, set "Peace to the Souls of the Heroes," hyd eu rhifyn diweddaf." Heb os nac oni bae, y mae "bechgyn y creithiau glas" yn teilyngu yr oil a ddywedwyd ac a ddywedir am danynt fel cor meibion dihafal. Yn ychwanegol at eu perffeithrwydd corawl, ni chlyw- som erioed well ynganiad gan ddadgan- wyr, bob gair yn hyglyw a chroew yn mhob unawd, deuawd a chorawd; eu lleisiau yn gogleisio'r glust ac yn peri i'r galon brysuro ei churiadau. Manteisibdd Mr. Glyndwr Richards ar ysbaid yr "intermission" i gyfarch ei wrandawyr Americanaidd, yn fyr ac i bwrpas, parthed ei wlad ei hun, yn gerddorol a chymdeithasol. Meddyliem, pe bai y cynllun pwrpasol hwn wedi ei fabwysiadu flynyddau yn ol gan ymwel- wyr llwyfanol o Gymru, yn sicr ni fuaSi- ai y fath anwybodaeth parthed Gwlad y Bryniau a'i phlant yn bodoli heddyw ar hyd a lied ein gwlad eang. Tynodd idd- ynt ddarlun o'r wyl gerddorol, gan nodi prif atdyniadau gwahanol ddyddiau yr wyl; darluniodd y fath beth a phym- theng mil o leisiau goreu ei wlad yn cyduno ar derfyn yr wyl i ganu emyn- au, corawqeu ac anthemau. Gwnaeth i ni gofio fel y teithiai miloedd o'r wlad hon (cyn y rhyfel) i wrando ar ychydig o bentrefwyr gwledig yn Bavaria yn actio eu "Passion Play" blynyddol, a gwnaeth i fwy nag un o'i wrandawyr benderfynu y dewisai yn hytrach dalu ymweliad a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nghymru. Da, was, Proff. Richards, er urddas Cymru y gwnaethoch hyn!- H. H. P. Penderfyniadau Cyfrinfa "Goronwy," Rhif 37, ar Farwolaeth y Diweddar Frawd, John D. Jones Yn ngwyneb y ffaith foG y Rheolwr doelh wedi gweled yn dda i gymeryd oddiwrthym y brawd hoffus, John D. Jones, penderfynwyd mewn cyfarfod rheolaidd o Gyfrinfa "Goronwy," Rhif 37, U. G. I. A., Ein bod fel Cyfrinfa yn teimlo ein coll- ed a'n hiraeth yii ngwyneb y ffaith bruddaidd o golli un o'r aelodau hynaf ag oedd yn perthyn i'n Cyfrinfa; un ag oedd wedi bod yn nodedig o ffyddlawn i gyfarfodydd y Gyfrinfa tra y gallodd. Yr oedd yn frawd egwyddorol a chy- mwynasgar. Credai o galon mewn Ifor- iaeth, ac yr oedd ganddo ffydd ddiysgog yn egwyddorion yr Urdd, sef "Cyfeill- garwch," "Cariad" a Gwirionedd." Yr oedd yn feddianol ar galon garedig, jlc yn barod i gynorthwyo brawd teilwng a fyddai mewiji profedigaeth. Llanwodd swyddi yn y Gyfrinfa er anrhydedd iddo ei hun a'r Gyfrinfa. Yr oedd yn frawd dyddan a diymffrost, ac yn un oedd yn feddianol ar farn dda, a bydd adgof am ei gymdeithas yn parhau yn felus am amser maith yn meddyliau y rhai a'i adwaenant. Ein bod yn cydymdeimlo a gweddw'r ymadawedig yn y brofedigaeth o golli priod ffyddlawn a gofalus, a chyflwyn- wn hi i ofal yr Hwn sydd yn gallu cy- suro ei blant yn yr awr dywyllaf, a'r Hwn hefyd sydd wedi addaw bod yn Dad ffyddlawn yr amddifaid a'r weddw; a'n dymuniad ni ydyw ar iddi gael nerth i ddal y brofedigaeth yn yr amgylchiad 'hwn, ac i allu dweyd "mai yr Arglwydd yw efe, gwnaeth yr hyn oedd dda yn ei olwg." Ein bod fel Cyfrinfa yn pwrcasu go. benydd o fipdau i'w rhoddi ar arch ein hanwyl frawd; ein bod hefyd yn rhoddi ein presenoldeb yn yr angladd. Fod adysgrif o'r penderfyniadau hyn yn cael ei hanfon i weddw yr ymadaw- edig, ac i gael ei gosod ar gofnodion y Gyfrinfa, ac i ymddangos yn y "Drych." Dros y Gyfrinfa-R. G. Lloyd, John O. Thomas, W. T. Williams, Pwyllgor; Hugh Parry, Ysg. I Helyntion Holland Patent, N. Y. I Rhagfyr 22ain, 1919.—Y mae yma gryn barotoi ar gyfer y Nadolig yn yr eglwysi. Deallwn mai swperau fydd gan y Seison. Nis gwyddom eto beth fydd i'n plant bach ni, ond y mae y ffyddloniaid yn gofalu. Y mae y rhai bach yn dyfal ddysgwyl cael eu cofio, ac ni siomir hwynt. Diolch yn fawr i'n hanwyl weinidog, Dr. Hughes, am ei bregeth ragorol am enedigaeth Crist, brydnawn Sabboth, a chafwyd pregeth dda iawn yn yr hwyr. Hefyd, dymunwn ddiolch yn fawr iddo am ei ffyddlondeb yn ymweled a'n brawd, John T. Davies, sydd yn y Fax- ton Hospital, a bod mwy o obaith am ei adferiad nag a fu. Bendithied Duw ei ymweliadau i fod yn gysur mawr iddo yn ei gystudd caled. Y mae Miss, Winifred Jones o Utica yn talu ymweliad a'i pherthynasau yma, Samuel E. a John B. Jones, a'i chwaer, Gwen Jones. Y mae yn ferch i'r di- weddar Mr. a Mrs. Griffith Jones, eu brawd hynaf, ac y'n ferch dda, ddysg- edig a pharchus. Ddydd Sadwrn, daeth Mr. a Mrs. Hugh Parry, a'i modryb, Mrs. John R. Roberts, o Utica, adref am ychydig or- iau. Siomwyd ni yn fawr iddynt fethu aros dros y Sabboth. Deallwn fod mab bychan wedi dyfod i aros yn nghartref ein cyfeillion anwyl, Mr. a Mrs. Ellis Williams. Yn awr, caiff Owen bach gwmpeini i chwareu. Ein cofion anwyl atynt, a bendith Duw fyddo gyda hwy wrth fagu eu rhai bach, rhodd Duw ydynt. Cafodd ein chwaer anwyl Mrs. Mary Davies ei chymeryd yn wael iawn eto. Y mae y teulu mewn pryder mawr. Y mae pawb yma yn cydymdeimlo a hwy. Byddai yn golled fawr i ni golli y chwaer anwyl hon. Y mae yn debyg iawn i'w hanwyl ewythr, Dr. Erasmus W. Jones., Parhau fywbeth yn debyg y mae ein hanwyl chwaer, Mrs. Alma Jones. Y mae wedi bod yn amyneddgar iawn yn ei chystudd. Diolch yn fawr i Mrs. Ann Roberts a'i hanwyl ferch, Miss Margaret E. Rob- erts. Remsen, am y card Nadolig Cym- raeg ysblenydd anfonasant i ni. Cof- ion anwyl atynt. Hefyd, diolch i bawb a'n cofiodd. Cysur mawr i'r hen ydyw cael eu cofio. Y mae llawer y dyddiau hyn mewn pryder fod diwedd y byd yn ymyl; os felly, y mae yn anmharod iawn i'r am- gylchiad. Bydded iddynt gofio, '"Ni frysia yr hwn a gredo." "Preswylwyr y graig a ganant." Y mae arnom hir- aeth am weled ein teuluoedd newydd. Hyderwn eu bod yn gwella. Cofion at- ynt, ac y cyfarfyddwn yn tu;in. West Pawlet, Vt. Nos Wener, y 19eg cyf., cynaliwyd cyfarfod nodedig yn yr Academy Hall, yn nodedig felly ar gyfrif y ffaith ei fod yn gam yn yr iawn gyfeiriad. Gelwid ef yn "community social," a chafodd ei fodolaeth yn nghalon pedair eglwys y pentref, Cymreig a Seisneg, gyda'r am- can o estyn cyfleusdra i'r pentrefwyr o bob cenedl i ddod i well adnabyddiaeth o'u gilydd. Teimlwn bob amser mai un o angen- ion mawr eglwysi y wlad ydyw cael eu bendithio a mwy o ysbryd undeb a chyd- weithrediad; a mawr obeithiwn y bydd i'r symudiad hwn esgor ar ganlyniadau daionus, o herwydd credwn er holl ddwndwr y byd a'i bethau, mai yr eg- lwys wedi'r cwbl sydd i arwain yn gym- deithasol yn ogystal a chrefyddol. Siaradwyd yn y eyfarfod gan weinidog- ion yr eglwysi, sef y Parchedigion Reect. Talbot a Williams; hefyd, cafwyd llawer o adloniant mewn canu ac ad- rodd gan rai o aelodau y pedair eglwys; a chan fod rhai o honynt nas gwyddom eu henwau, ymataliwn rhag enwi neb fel y ffordd sicraf i beidio tramgwyddo. Aeth pobpeth yn mlaen er boddhad i bawb, ac yr oedd yno dyrfa dra lluosag; ac ar y diwedd, drwy garedigrwydd ac er llafur mawr i rai o'r chwiorydd, caf- wyd gwledd i'r corff, ac ymadawodd pawb o honom wedi cael ein gwala a'r gweddill o ymborth i'r corff yn ogystal ac i'r meddwl. Da genym wneyd yn hysbys fod sef- yllfa iechydol yr ardal, yn gyffredinol felly, gryn lawer yn well nag ydoedd flwyddyn yn ol; er hyny, y mae yma nifer bychan ar restr y cleifion; y brawd Gwilym Wyllt yn dal rywbeth yn debyg, ond ei ferch, Eunice, yn teim- lo ei hun yn cfyfhau yn feunyddiol ar ol bod yn yr ysbyty. Drwg genym dros y brawd, Griffith Roberts (Porch), nad yw yn teimlo yn dda y dyddiau hyn, gan ei fod wedi ei gaethiwo i'w wely er's tro; ond hyder- wn y ca wellhad buan. Mrs. Isaac Le- wis hefyd sydd wedi bod yn lied wael, ond yn gwella yn lied dda y dyddiau hyn. Hefyd, -pair le.wenydd mawr i ni i groesawu adref i'n plith y brawd ieu- ianc hoff, Thomas H. Jones, mab ilr di- weddar John Humphrey Jones; yntau wedi dod am dro i'w hen ardal o "farch- nad y defaid" yn Wyoming. Hefyd, gwelsom ei chwaer, Dorothy, wedi cyr- aedd adref yn barod erbyn y Nadolig. Y mae y ddau yn edrych yn rhagorol.— Gwlithyn.
Advertising
MAE SEATTLE MORTGAGES Yn Well Heddyw nag Erioed ENILLANT Saith y Cant o Log Clir Yn Daladwy Bob Chwe Mis Sicrheir eich arian gan eiddo yn werth o leiaf ddwywaith gymaint, a'r Mortgage Gadewch i mi roddi y man- ylion i chwi yn Gymraeg neu Saesneg Joseph E. Thomas 1026 Third Avenue (GROUND FLOOR) I S. E. Comet Third and Spring SEATTLE, WASH.
IY DIWEDDAR JOHN J. WILLIAMS…
Y DIWEDDAR JOHN J. WILLIAMS (TALEITHIN) Ganwyd y brawd ymadawedig, John J. Williams, yn Sir Gaernarfon, G. C., yn y flwyddyn 1844. Daeth ei dad, John J. Williams, i'r wlad hon yn y flwyddyn 1845, a daeth yntau a'i fain a'i chwaer, Elen, yn y flwyddyn 1846. Yr oedd y teulu hwn yn mhlith y Cymry cyntaf a ymsefydlasant yn ardal Welsh Prairie, ger Cambria, Wis. Ganwyd iddynt chwech o blant; claddwyd un yn Nghymru yn ei fabandod, ac y mae yn aros yn awr, un chwaer, sef Mrs. O. R. Jones, Columbus, Wis.; a dau frawd, sef Mr. Robert J. Williams, Randolph, a William J. Williams, Cambria. Bu farw eu tad yn y flwyddyn 1870, a bu y fam farw yn mis Ebrill, 1906. Ag eithrio ychydig flynyddoedd yn Minnesota a Dakota, bu i'r ymadawedig dreulio ei oes yn gyfangwbl yn nghylch- oedd Cambria. Gan iddo fod yma gy- hyd, yr oedd yn gymeriad adnabyddus yn mhlith y Cymry yn y cylchoedd hyn. Gwelodd lu o Gymry yn cael eu heb- rwng i dy eu hir gartref; nid yn unig yr oil o'r hen sefydlwyr cyntaf, ond hefyd lu mawr o'i gyfoedion ef ei hun. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys pan yn bedair-ar-ddeg oed, a pharha- odd yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Wedi hir gystudd, daeth y diwedd, Rhagfyr 6, 1919. Cafodd angladd an- rhydeddus, Rhagfyr 9fed. Cynaliwyd y gwasanaeth yn addoldy y M. C. yn Cam- bria, a gwasanaethwyd gan ei weinidog. Rhoddwyd y gweddillion i < orwedd yn mynwent Cambria.—J. O. P. -1
COLUMBUS, OHIO
COLUMBUS, OHIO Gan T. Roderick Fe wnaeth Cymdeithas Gwragedd Cymreig America roddi te yn nghartref Mr. a Mrs. Thomas Humphreys, 923 j Franklin Avenue, Tachwedd 5ed, pryd y daeth yn nghyd nifer fawr i fwynhau y te a'r canu. Mae yn ofynol cael rhodd o arian gan bob un. Fe wnaeth Mrs. C. R. Parrish, merch Mrs. R. C. Williams, roddi hanes ei thaith yn yr Amerig Ddeheuol yn; nghwmni Bishop Oldham a'i briod am tua chwe mis. Yr oedd ei desgrifiad o arwynebedd y wlad, a dull y brodorion o fyw, a'r hinsawdd, a'r ffrwythau, a'r adar ami liwiau, yn ddyddorol dros ben. Fe wnaeth Mrs. Anne Jones Kaufer a Mrs. Alice Jones Morgan, ganu dau ddeuawd nes gwef- reiddio y cwmni, ac nid oes dim rhyfedd yn y byd am hyn, o herwydd mai hwy ydyw dwy o'r cantoresau goreu yn y ddinas. Fe gafwyd 30 o aelodau new- yddion yn y cyf-arfod hwn. Mrs. J. P. Pletsch ydyw llywyddes y Gymdeithas. Mae Cymry Columbus wrth eu bodd am fod Cymro glan gloew, mab Mr. a Mrs. Dafydd Thomas, wedi cael ei ethol yn faer prif ddinas Ohio, ac y mae yn wyr i'r diwedder Barchedig John Jones, Penllys. Mae Mr. a Mrs. Chalmers Jones, 162 N. Washington Avenue, wedi symud i'w cartref newydd, 1631 Clifton Avenue. Mae hon yn ardai yn mhlith cyfoethog- ion y ddinas. Efe yw llywydd yr Ysgol Sabbothol, a John E. Jones yn; islywydd, ac y maent wedi llwyddo i godi yr Ys- gol i rif uwch nag y mae wedi bod am flynyddoedd. Fe wnaeth y cor ffug-dyrfa yn y capel Tachwedd 12, ac fe wnaeth y merched roddi priodas ffug. Mrs. D. C. Jenkins oedd y gweinidog; Margaret Davies y briodferch; Anna Mary Williams y priodfab; Marie Davies y dyn goreu; Mrs. E. H. Davies yr hynafwraig; Mrs. J. J. Snyder, mam y briodferch; ac Alice Jones Morgan oedd tad y priod- fab. Yr oedd yr olwg ar y taclau hyn yn ddigon i ela dyn i dori trwy chwer- thin. Nid oes dim eisieu 'dweyd iddynt gael amser da;- mae hyny i'w weled oddiwrth yr uchod. Sabboth, Tachwedd 11, fe wnaeth Alban Edwards, y milwr ieuanc, yr hwn a fu drosodd yn Ffrainc, roddi hanes y Gymdeithas Ymdrechol o'r dechreuad yn yr eglwys, ac yr oedd yn ddyddorol iawn. Mae yn dda genym weled y dyn- ion ieuainc yn cymeryd gafael yn y gwaith da. Fe ddarllenodd John E. Jones bapyr ardderchog ar waith yr Ys- gol Sabbothol, a pha fodd i'w gwneuthur yn llwyddianus; ac fe wnaeth Mrs. D. D. Davies roddi hanes Cymdeithas Gyn- orthwyol y Gwragedd, a'r modd yr oedd- ynt wedi cydweithio a thalu llawer o ddyledion y capel. Fe dreuliodd Llewelyn Williams a'i briod amryw wythnosau yn ac o am- gylch Chicago. Aethant yn gyntaf i Wi- nona Lake, Ind., ond nid oedd llawer yno yr amser hyn. Mae7lawer o ym- welwyr yn cyrchu yno yn yr haf. Tua dwy filldir oddiyno mae Warsaw, tref fechan gynyddol a bywiog. Oddiyma aethant i Goshen a South Bend, lie yr arosasant rai dyddiau ar fusnes a phles- er. Ond yn Chicago oedct pen y daith, er gweled hen ffryndiau boreu oes. Arosasant gyda Mrs. Harries, Cornell Avenue, Hyde Park; ardal brydferth ar lan Llyn Michigan. Cawsant y pleser di ail o gyfarfod a Trefor Jones a'i deulu ar Wilcox Street; nid oeddynt wedi cyfarfod a hwy am ugain mlynedd. Teg yw dweyd fod yr ymgyfarfyddiad yn un llawen a phleserus. Mae Trefor yn cadw ei oed yn hynod, ac yn llawn o'r ddawn* farddol. Buom yn gyfeillion mynwesol am dros ddeugain o flynydd- au, pan oeddynt yn byw yn Ironton, O. Nid yw pobl Ironton wedi annghofio Trefor hyd heddyw. Mae'r ychydig sydd yn weddill o'r Cymry yn holi am eu hen gyfaill talentog yn ami iawn. Daethom adref wedi cael seibiant a mwynhad pleserus dros ben, ac adferiad iechyd ynl y fargen. Yr wyf am hysbysu i mi annghofio roddi enw y Parch. J. Morriston Tho- mas, Ph. D., Ravenswood, Chicago, a'i briod, vn bresenol yn mhriodas George Roberts, brawd Mrs. Thomas, yn De- troit, rai wythnosau yn ol; hefyd, yr oedd Mr. a Mrs. Edmunds. Detroit, yn' bresenol. Mae Mrs. Edmunds yn chwaer i George Roberts.
HYN _A'R _LLALL 0 OSHKOSH,…
HYN A'R LLALL 0 OSHKOSH, WIS. j Gan William Jarmon Evans Y mae yr eglwys mewn cyflwr llew- yrchus o dan arweiniad ein gweinidog, y Parch. G. J. Parry, yr hwn sydd wedi llafurio gyda ffyddlondeb mawr. Pre- getha yn y ddwy iaith fel eu gilydd, ac yr ydym yn sicr fod dyfodol dysglaer o'i flaen. Yr ydym oil yn meddwl yn uchel iawn o hono. Cefnogir ef yn y gwaith da gan dri o flaenoriaid medrus a galluog; yr oil wedi cael profiad hel- aeth gyda'r gwaith; Mr. John Owen yn y swydd er's 28ain o flynyddoedd. Heb- law bod yn flaenor, y mae Mr. John Rowlands yn drysorydd yr eglwys, ac yn gwneyd ei waith gyda medrusrwydd a ffyddlondeb mawr. Ni fu ein gwein- idog erioed heb ei gyflog yn ei bryd, ond fel peth cyffredin, rai dyddiau cyn ei amser. Y mae J. H. Williams yn flaenor ac yn ysgrifenydd. Mae yn dal y swydd o ysgrifenydd er's yn agos i 22 o flynyddau, gyda ffyddlondeb a doethineb. Y mae yma gor da, o dan arweiniad Mr. John O. Jones. Y mae wedi ymaflyd yn ei swydd o ddifrif; a hyderwn y bydd mor ffyddlon a'i rag- flaenydd, Mr. Evan Vincent, yr hwn a fu yn arwain cor yr eglwys yn ffydd- lawn am 23 o flynyddoedd, hyd nes yr ymddiswyddodd mis' Ionawr diweddaf. Nid yn ami y byddai ei le yn wag. Y mae ei ddwy ferch, Mabel a Jean Vin- cent, yn llenwi swyddi uchel iawn fel athrawesau mewn cerddoriaeth ac addysg uwchraddol. Mabel sydd gyda cherddoriaeth, a Miss Jean Vincent yn brifathrawes yn un o brifysgolion Min- neapolis. Bydd y ddwy yn barod i wneyd yr hyn a allent gyda'r achos pan yma ar eu tro. Y mae gan y ddwy feddwl uchel iawn o'r eglwys Gymreig, gan mai yma mae y rhan fwyaf o'u cydnabod. Dymunir eu llwyddiant eto yn y dyfodol gan eu heglwys yma. Y mae yr Ysgol Sul yn un o'r rhai goreu yn y wlad, yn anrhydedd i Mr. John Clayton, yr arolygwr medrus, a Miss Bessie Davies, arolygyddes y plant. Y mae rhyw son ein bod yn myn- ed i'w cholli ddiwedd y flwyddyn; o Randolph y daeth y gair, ac, efallal, mai o'r fan hono y daw y gwr hefyd. Y "graded lessons" sydd genym yma gan mwyaf, ond yn y dosbarthiadau hynaf, lie y parheir gyda'r hen drefn. Y mae yma amryw o'r "organized classes." Y mae Miss Anna Jones yn athrawes ar un, sef dosbarth o ferched ieuainc glandeg o'r 18 oed i 22. Mae Miss Anna Jones yn wyres i'r diweddar David Charles. Y mae gan yr ysgrifen- ydd hefyd ddosbarth o ddynion ieuainc. Y mae yma Gymdeithasau Ymdrechol i'r plant a'r bobl ieuainc. Gomer R. Jones yw llywydd yr olaf; dyn ieuanc medrus iawn. Mrs. W. H. Davies, nai Dr. Davies gynt, a Miss Ellen Jones sydd yn gofalu am y rhai bach, 3 o'r gloch brydnawn Sul. Y mae gan y plant bach y ddwy athrawes fwyaf prof- iadol, nad oes modd cael eu gwell. Mae yma hefyd Gymdeithas Dorcas. Y mae y rhai hyn yn gefn mawr i'r achos yn yr ystyr arianol. Hefyd, y mae yma Gymdeithas Gen- adol y Chwiorydd, un o'r rhai goreu yn y wlad. Merch i'r diweddar Dr. Da- vies yw llywyddes hon. Y mae Miss Davies yn awr yn Madison yn cymeryd cwrs o addysg uwchraddol er ceisio parotoi ei hunan gogyfer cylch eangach o ddefnyddioldeb. Dymuna yr eglwys bob llwyddiant iddi, pe bae ddim ond er mwyn ei thad, y Dr. clodwiw. Ffurfiwyd pwyllgor cymdeithasol yma yn ddiweddar. Gwaith hwn, sef y "Social committee," ydyw trefnu cyfar- fodydd cymdeithasol. Y mae pob aw- durdod ganddynt i weithredu fel y gwel- ont yn oreu. Caffaeliad mawr i unrhyw eglwys ydyw cael pwyllgor o nodwedd hwn. Y mae hwn sydd genym ni wedi bod o fantais ddirfawr i ni yma yn yr ystyr arianol. Mynwch ffurfio un, eg- lwysi gweiniaid! Cawsom gyfarfodydd Diolchgarwch neillduol o dda. Gwasanaeth Cymraeg yn y boreu. Cymerwyd rhan mewn gweddi gan amryw o'r brodyr; yna caf- wyd anerchiad amserol a phwrpasol iawn gan y gweinidog. Ei destyn oedd, "0, na folianid yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni, feibion dyn- ion." Daioni ydoedd y pethau cyffredin, ebe'r pregethwr, a dywedodd fod "rhy- feddodau" yn y cylch gwyrthiol. Son- iodd am y pethau gwyrthiol sydd wedi cymeryd lie yn hanes y byd yn ddi- weddar, ac yn cymeryd lie; dylem fod yn ddiolchgar iawn am danynt. a pheid- io diystyru y pethau cyffredin. Cafwyd moddion Seisnig yn yr hwyr; y cyfar- fod dan ofal y bobl ieuainc. Miss Catherine Rowlands oedd yn llywyddu gyda medrusrwydd a doethineb. Yr oeddym oil yn ei hedmygu am ei hunan- feddiant yn ngwyneb torf o bobl. Caf- wyd anerchiad Seisnig gan y gweinidog, yn adolygu hanes yr achos yn y lie yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Y mae wedi mabwysiadu cynllun Dr. John C. Jones, Chicago gynt, o ba un y mae yn edmygwr mawr. Dyna wneid gan yr hybarch Ddoctor yn Hebron- nos Diolch- garwch, sef adolygu y flwyddyn aeth heibio. Y mae yn gynllun rhagorol. Bwriedir gwneyd eto yr un peth. Yn ol syniad yr ysgrifenydd, yr oedd hwn yn un o'r cyfarfodydd Diolchgarwch goreu y bu ynddo erioed. Fel y gwelwch fod genym eglwys fyw a gweithgar yma. Ni dderbyniodd yr un sent erioed o'r Genadaeth, am ddim a wn i; ac yn ol pob golwg, ni bydd galwad am hyny yn y dyfodol agos, o leiaf. Yr ydym yn rhy annibyn- 01 i hyny. Ac os oes yna unrhyw deulu Cymraeg o'r pentrefi cylchynol heb yr un achos Cymreig ynddynt, ac yn dy- muno symud, gallaf eich sicrhau na wnewch ddim gwell symudiad na'r sy- mudiad i dref brydferth Oshkosh, ac i eglwys Gymreig Salem. Y mae yma bobl garedig, croesawgar, a gweinidog na raid i'r Cymro na Sais fod cywilydd o hono. Y mae y ddwy iaith ar benau ei fvsedd. Y mae Pwyllgor Cymdeithas Dewi Sant, llywydd pa un yw Mr. Luther Dq- vies, wedi gwneyd trefniadau ar gyfer v dydd cyntaf o Fawrth. Bwriedir cael bancwed yn un -o-brif hotels y ddinas. Y mae rhaglen ardderchog wedi ei baro- toi eisoes. Y mae y. Parch. D. K. Rob- erts, Wales, Waukesha, wedi ein hys- bysu y daw yma i roddi i ni y brif an- erchiad y noson hono. Drwg genyf ddweyd mai dal yn wan- aidd o ran ei iechyd y mae gohebydd y "Drych," sef Mr. J. Deiniol Jones, B. A Y mae wedi symud allan o'r dref ac yn aros gyda'i fab a'i ferch-yn-nghyfraith am y gauaf. Yr ydym yn teimlo colled ar ei ol yn yr eglwys, ac yn enwedig felly yn yr Ysgol Sul, gan ei fod ef ""I yn un o'r Doctoriaid mewn duwinydd- iaeth. Hyderwn y caiff adferiad buan ac y cymer ei le fel arfer yn ngholofn- au y "Drych." Y mae yn dda genym gael dweyd fod Mrs. O. H. Williams ychydig yn well, er mai dal yn lied wanaidd y mae o hyd. Y mae wedi ei chaethiwo i'w chartref yn awr er's pymtheg mis. Teimlir coll- ed ar ei hoi yn y moddion cyhoeddus. Y mae' ei chartref wedi bod yn agored bob amser, ac yn enwedig felly i weis- ion puw. Y mae yr hen chwaer, Mrs. Ebenezer Williams, yn yr ysbyty ar hyn o bryd, ac y mae Mrs. Ludwig, merch i Mr. Llewelyn Williams, un o ymddiriedol- wyr yr eglwys, wedi bod o dan driniaeth lawfeddygol ddifrifol. Deallwn ei bod yn gwella yn raddol. Y mae Tenorydd Machno a'i hoffus briod gyda ni hefyd. Y mae y ddau yn barod iawn i'n cynorthwyo gyda chan- iadaeth y cysegr; Tenorydd gyda'i lais rhagorol, a'i briod yn ei arwain wrth y berdoneg. Hir oes ac iechyd da i'r ddau. Y mae ganddynt gartref dedwydd iawn a hardd yn y ddinas, ac y mae tad Mrs. Roberts yn gwneyd ei gartref gyda hwy. Cymro i'r earn yw Tenorydd. Efallai fod hyn yn ddigon am y tro hwn.
NODION 0 SPOKANE, WASH.
NODION 0 SPOKANE, WASH. Gan R. J. Hughes Rhagfyr 10, 1919.—Un o bethau pwys- ig a gy-merodd le yn ein dinas y dydd lau diweddaf oedd dathliad priodas eur- aidd y Parch. Jonathan Edwards, D. D. a Mrs. Edwards, E. 820 Nora Avenue. Ganiwyd Mr. a Mrs. Edwards yn Nghym- ru; Mr. Edwards yn y flwyddyn 1850, a Mrs. Edwards yn 1849, ond gadawodd wlad ei genedigaeth pan yn 12 oed. Priodwyd y ddau yn Scranton, Pa., yn 1869, a daethant i Spokane yn 1886, pryd y dechreliodd Mr. Edwards ar ei waith fel bugail y Westminster Church, prif eglwys Annibynol ein dinas. Dyma y cyfle cyntaf i'r teulu fod gyda'u gil- ydd-er's ugain mlynedd. Enwau y rhai oeddynt ym bresenol oedd: Dr. a Mrs. Edwards;. Mrs. Owen a pum plentyn; Mrs. Rosine E. Stewart, Portland, Ore.; David A. Edwards, Chicago, Ill.; Mrs Lillian E. Abeling, Salt Lake City, Utah; Orville G. Edwards, Portland; a, Mr. a Mrs. Jonathan W. Edwards o'r ddinas horn. Am 5 y prydnawn, yr oedd y teulu yn gryno oddiamgylch y bwrdd yn ciniawa yn y Devenport Hotel. Yn yr hwyr, yr oedd cyfarfod llon- gyfarchiadol yn capel Westminster, o dan niawdd gweinidogion Annibynwyr ein tref. Rhoddodd y Parch. H. A. Luckenbach anerchiad o longyfarchiad dros y gweinidogion ar yr achlysur, yn nghyd ag ychydig eiriau tyner gan Mrs. B. A. Ostrander; a chafwyd air gaid Mr. Edwards yn rhoddi tipyn o fras lin- elliad o'i lafur gyda'r eglwys, ac ych- ydig o eiriau gan Mrs. Edwards. Can- wyd amryw ddarnau gan Mrs. Sampel Lewis a Jesse Buchols. Ar ran y llu- aws gyfeillion, cyflwvnodd Dr. Harper, gweinidog presenol y Westminster, god- aid o aur i Dr. a Mrs. Edwards, a der- byniasant lawer o arirhegion eraill, a Ilongyfarchiadau oddiwrth eu hamryw gyfeillion, yn mhell ac agos. Mae Mr. Edwards yn y weinidogaeth er's 48 o flynyddau. Cynorthwyodd Dr. Edwards i adeiladu pedair o eglwysi Annibynol yn ein dinas, sef y Pilgrim Church, Westminster, Hillyard, a Lin- coln Heights, heblaw amryw y tu allan i'n tref; ac ar hyn ,o bryd y mae yn weinidog ar y Vera Community Church. Heblaw ei waith fel pregethwr a gwein- idog llwyddianus, y mae y Parch. Jon- athan Edwards, fel y gwyr miloedd dar- llenwyr y "Drych," yn un o lenorion trymaf ein cenedl, ac wedi enill amryw wobrwyon yn ein Heisteddfodau; a'n dymuniadau ninau fel Cymry ydyw am i Mr. a Mrs. Edwards gael blynyddoedd lawer eto i wneyd daioni. Dylaswn ddweyd hefyd fod wyr i Mr. a Mrs. Edwards wedi ei eni yma, sef mab bach i Jonathan W. Edwards, un o olygyddion y "Daily Chronicle," ag sydd yn myned i gario enw ei daid; dim mwy na dim llai na Jonathan Edwards. Mr. a Mrs. Owens, Manito, sydd wedi myned i Seattle i fyw. Mr. a Mrs. Jones a'r teulu, o River- side, Okanogan, Washington, sydd wedi dyfod i'n dinas i fyw. Yr oedd yn dda genyf eu cyfarfod nos Sul yn y capel, ac yn enwedig o glywed y plant yn siarad Cymraeg mor dda. Wei done, Mr. a Mrs. Jones, am gadw yr hen iaith ar yr aelwyd yn fyw. Y mae yn arferol gan eglwysi ein dinas ar ddydd Diolchgarwch i gynal cwrdd undebol; felly eleni eto, a .da genyf mai y Parch. R. O. Williams a ddewiswyd i bregethu eleni, at yr wyf yn sicr na siomwyd neb oedd yno, gan fod Mr. Williams yn pregethu yn odid- og bob amser.
[No title]
—Methiant llwyr fu ymgais Miss Vio- let Douglas-Pennant i brofi'r cyhudd- iadau gwaethaf yn erbyn y swyddogion a merched y W. R. A. F. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, cyn gohirio i ystyried eu hadroddiad, dywedodd y cadeirydd nad oedd y cyhuddiadau o anfoesoldeb yn nglyn a Hurst Park wedi eu profi, ac nad oedd sail i'r cyhuddiadau emill yn erbyn y swyddogion.
Advertising
Nid yw yn Ddigon Cael y coluddion i symud. Y mae yD tfwy pwysig i gael yr afu, yr arenau, y croen a'r coluddion i weithio gyda u gilydd, ac yn erbyn hunanwenwyniad. Y mae Beecham's Pills yn gweithio yn ddymunol ar y peirianau cysylltiedig a threuliad bwyd a glanhad y gwas- raff. Symudant ymaith yr achosion yn ogystal ag esmwythau ar yr arwydd- ion. BEECHAM'S PILLS Largest Sale of any Medicine in the World. Sold by druggittt throughout the world. In boxes. IOe.. 2Sc. The Telephone Directory Goes to Press THURSDAY, JANUARY 8, 1920 t Advertising Forms Close JANUARY 2, 1920 i r If you have anything to sell that can be bought by telephone, let us show you how advertising in the Telephone Direc- tory can be made to increase sales. Telephone, write, or call at our Com- mercial Office today. WtisW New York Telephone Comp any New York Telephone Company