Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YR ANRHYDEDDUS T. PRICE, :PRIF…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ANRHYDEDDUS T. PRICE, PRIF W EIN I DOC DEHEUBARTH AWSTRALIA. (Can Ohebydd Llundain.) Fel y mae'n wybyddus i'n darllenwyr, gwr o wehelyth Cymreig yw yr Anrhydeddus Tho- mas Price, Prifweinidog y rhan ddeheuol o Awstralia, pen y Wediiyddiaeth sydd yn cyn- nrychioli Llafur a Rhyddfrydiaeth yn y rhan arbenig hono o'r Cyfandir mawr Awstral- i aidd. Rhyw bum' mlynedd ar hugain yn ol aeth Mr. Price gyda'i wraig, ac un plentyn bychan, allan o Liverpool, ar fwrdd y Dundee,' i chwilio am iechyd yr ochr arall i'r byd. Dychwel yn ol atom yn wr 56ain mlwydd oed, yn llanw y swydd bwysicaf yn y Drefedigaeth yr ymfudodd iddi. Cydne- bydd ei fod wedi cyrhaedd y swydd hono drwy gymmhorth nodweddion a berthyn iddo fel Cymro. Rhaid cydnabod, pan y syrth- iodd ein llygaid arno gyntaf, mai yehydig o'r marciau cenedlaethol Cymreig allem eu can- fod yn ei edrychiad a'd osgo. Ond y maent yn fyw iawn ynddo, er hyny, ac fel yr aw- grymwyd yn barod, y mae yntau yn hollol ymwybodol o honynt. Yn Mrymbo y ganwyd ef, ar y 19eg o Ion- awr, 1852. Efe oedd y cyntaf o saith o blant a anwyd i John Price a'i wraig. Saer maen oedd John Price wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys mai i weithio ceryg at yr Ys- gol Genedlaethol yr aeth i Frymbo o Liver- pool. Wedi gorphen y gw.a.ith yno, a phan oedd Thomas o ddeutu blwydd oed, dychwel- odd yn ol i'w ddinas ei hun. Byr, fel y gwelir, fu cyssylltiad Thomas Price a'i wlad enedigol, ond y mae Cymreigiaeth yn rhyw- beth dyfnac'h nag amgylchedd ac effeithiau Ile. Cafodd y bychan addysg plentyn yn yr ysgol gein-iog a berthynai i Eglwys Sant Sior, ac yn ddiweddarach bu yn chwanegu at ei wybodaeth mewn ysgol nos. Anfonodd gof-a ynion teuluaidd ef yn gynnar i helpu ei dad, ac fel saer ma-en y treuliodd ugain mlynedd boreuaf ei oes. Yr adeg hon mynychai Ys- gol Sul y Wesleyaid" Cymreig, yn Burrows Gardens, ac wedi hyny yn Brady Street. Fel dysgybl ac athraw cafodd les dirfawr iddo'i hun yn y cylch hwn, a phriodola, lawer o'i ddefnyddioldeb i'r gwersi a cafodd yr adeg hon o'i fywyd. Teimlai ddyddordeb arbenig mewn cwestiynau gwleidyddol, a bu yn aelod gwedthgar o un o gymdeithasau Rhyddfryd- ig Liverpool, ac o Gymdeithas Hunan-Reol- aeth i'r Iwerddon. Cymmerai ran, hefyd, yn y mudiad dirwestol, a bu yn dal amrvw swyddi yn Nghyfrinfaoedd y Temlwyr JDa. Addefa iddo dderbyn llawer o'i ysbrydiaeth wleidyddol o ddalenau pigog y Porcupine,' newyddiadur1 a wnaeth, yn ei ddydd, lawer o waith cenihadol ynglyn a phyngciau politicaidd ar lanau'r Ferswy. Erbyn hyn, yr oedd wedi cyrhaedd deg ar hugain oed, ac yn ben saer maen gyda gweithwyr dano; ond yr oedd yn wan ei iechyd, ac ar gynghor ei feddyg hwyl- iodd i Awstralia, gan feddwl ymsefydlu ar y tir. Troi yn ol at yr hen grefft a ddarfu iddo, ac ymddengys iddo gael gwaith sefydl- og yn ddiymdroi. Am chwe' hlynedd bu yn gweithio ,ar y senedd-dy, lie y mae yn awr yn eistedd fel Prifweinidos:! Bu am ysbaid yn rheoli gweithdai RheilfFyrdd y Dalaeth, ond collocld y swydd hono yn 1893, pan yr aeth yn ymgeisydd am le yn y senedd, fel un o gynnrychiolwyr Llafur. Fe'i' hetholwvd dros ranbarth Sturt. a chyfrlifid ef yn mhlith y dosbarth mwyaf eithafol o'i frodyr. Y mae ei olygiadau yn parhau yn dra Radicalaidd, Tieu, ynhytrach. yn Sosialyddol, hyd y dydd hwn, er fod ei ddull o'u cyflwyno wedi llin- iaru yehydig gyda threigliad y blynyddau. Wrth gwrs, yr oedd yn ffafr cyfundrefn yr wyth awr, trosglwyddiad y mwnau i'r Wlad- wriaeth,. y bleidlais i ferched, yn gystal ag yn ffafr cau allan lafur du, neu felyn, o Aws- tralia yn gyfang^bl, a protection,' a pheth- au eraill sydd yn ymddangos i ni yn hynod, ond sydd yn ymddangos fel yn cyd-fyned a'r syniadau mwyaf gwerinol yr ochr arall i'r blaned. Yn 1899 fe, dclaeth yn arweinydd plaid Llafur yn y Ty, ac yn y cyssylltiad hwn dangcsodd lawer o. nodweddion Celt a i rid ei gymmeriad. Nid vw yn, siaradwr coeth, ac •nid oes ganddo arcldull gaboledig ond ymae yn llefarydd effeithiol a theimladwy dros ben. Cyssyllter a hyny ddiffuantrwydd a gonestrwydd ucnel, ac y mae yn hawdd am- gyffred dirgelwch ei lwyddiant. Yn 1905. bu plaid Llafur yn fuddugol yn yr etholiadau, a rhyngddynt hwy a'r blaid Ryddfrydig, fe Iwyddasant i droi allan y Weinyddiaeth, ac i ffurfio Gwfeinyddiaeth unedig o'r eiddynt eu hunain, yr hon sydd yn awr mewn awdurdod O'r dvnion, blaenaf yn y Weinyddiaeth svlw: odd Mr. Price fod un yn Sais. un arall yn Ysgotyn, y llall yn Wyddel, a'r pedwerydd n yn Gyni.ro, a'u bod yn perthyn o ran enwad i'r Presbyteriaid. yr Esgobaethwyr, i Eglwys Rhufain, ac d'r Methodistiaid Wesleyaidd." Anfonwyd Mr: Price drosodd i'r wlad hon gyda dymuniadau goreu ei gyd-seneddwyr. i gynnrychioH South Australia ynglyn &'r Franco British Exhibition. Bwriada. of a Mrs. Price dreulio rhai misoedd yn y wlad hon. Yr • wythnos nesaf rhoddir derbvniad iddo yn Manchester. Ar y 4vdd o Ebrill dis- gwylir ef i gyfarfod blvnyddol Undeb Cym- deithasau Diwylliadol Cymreig Llundain; ac ar y 7fed fe'i croesawir i wledd yn y Clwb Cymreig. Ar hyn o bryd, erys gyda Mr. D. D. Pritchard, yn Hornsey, ond y mae i'w gael y rhan amlaf yn swyddfa'r Agent Gen- eral South Australia yn T'hreadneedle St. Yn mis Mai gobeithia gael myned am seib- iant i Ddyffryn Llangollen, ac i ymweled a man ei enedig'aeth.

Y Cwminwl Seneddol.

Mesur Esgob Llanelwy.

Argiwydd Carrington a'r Man…

Mesur Dadgyssylltiadv,

Amgueddfa Cymru.

Adferfa (Sanatorium) Casnewydd.

Ysbytty'r Frech Wen, Barri.

Mr. Sidney Robinson, A.S.,…

Adferydidfa Calltymynydd.

Dathlu CwYI Badrig Sant.

ABERGYNOLWYN.

ANRHEGU CODWR CANU.

Advertising

Casnewydd.

AIL CYFRES.