Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Ein Genedl ym Manceinion.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ein Genedl ym Manceinion. Cenhadon y Sul oesaf. Y METHODISTIAIB C A LKIN AIM) Moss Sn>E~l(J.!su a I) J H i.loya wininnis, PENDtBTONâ10.30 E W Roberfsti R Williams HBTWOOU 8'1'10.30 R E Jones, Oldham, « Ii, Wyn Roberts VICTORIA rK-i o.,io R Williams 6 R Ernest Jones W ARRINGTON-D Ellis, Lerpwl Y £ A.Mv'IBYNWYP BOOTH STRSBX'â10.30 a 6 E Jones Roberts, Rhy) OHORMOS RD.-I0.30 a 6.15 W Thomas, LVaaeroinion T.D.DtrsrCAV 8T.- 10.30 a 6.15, Cyfarfod Ysgol HOIIINWOOO -10.80 a fi.1 Spencer Wiiliams Y WTSSLEAITJ DBWJ SANTo" 10-30 J M Williams 6 W G Jones HORKBâ10.S0 A Blackwell 6 Joseph Price BIION"â10.80 \V Rowlsnda 6 A Blackwell BIMULArr-2.30 YSIlO) » J M Williams OAIFAKIAâ10.80 J Ellis 6 J Roger Jones WKA8Mâ10.30 JRi ger Jones 6.30 E Evans Y BKDYDDWYK. MEHLOCK STâ10-30 a 8-30 H Jones LOKGBIGHTâ10.80 a 6-30. Cyfarfod Gweddi Y Parch. Hugh Jones, Bugail Newydd y Bedyddwyr. Nos Lun, Rhag. 7, sefydlwyd y Parch. Hugh Jones yn weinidog eglwysi Medlock Street a Longsight. Rhoddodd y ddwy eglwys groeso iddo nos Sadwrn ym Medlock Street, pryd y cafwyd Social ragorol, ac y cymer- wyd rhan gan ddoniau'r ddwy eglwys, a ehan y Parchn. D. J. Bassett, Edge Lane, Lerpwl, a D. Lloyd, Llanfachreth, M6n, y rhai hefyd a wasanaethodd y Sul dilynol. Nos Lun daeth cynrychiolaeth dda o eglwysi pob enwad ynghyd. Llywyddwyd gan Mr. Richard Williams, un o'r swyddogion hynaf. Wedi dechreu trwy weddi gari y Parch. D. J. Bassett galwyd^ ar Mr. D. J. Morgan (Glantawe), ysgrifennydd Medlock Street, i ddarllen llythyrau oddi with eglwysi a ehyfeillion yn dymuno pob llwydd i'r bugail newydd a'r praidd, ac hefyd lythyrau oddi wrth rai yn gofidio am fethu bod yn y cyf- arfod, megis y Parchn. J. H. Lloyd Williams, B.A. Robert Williams, Pendleton E. Humphreys, Rochdale Wm. Owen, Queen's Park J. Lewis, Rhydwen gweinidog mam oglwys Mr. Hugh Jones; Idwal Jones, y Rhos Emlyn J ones, Bargoed Corporal W. R. Jones, S.W.B., yr hwn a ddygai dyst- iolaeth uchel i gymeriad a gwaith y gweinidog newydd fel Caplan. Hafyd oddi wrth eglwysi Penrhynside a Glanwydden, a Tabernacl, Uandudno. Rhoddodd y llywydd a'r ysgrifennydd hanes yr alwad. Daeth Mr. Jones atynt am y tro cyntaf y Sul cyntaf o Orfiennaf, a'r Sul olaf o'r mis hwnnw rhoddwyd galwad unfryd iddo i'w bugeilio. Atebodd yntau'n gadamhaol, a dechreuodd ar ei waith y Sul cyntaf o Ragfyr. Yna galwyd ar y Parch. D. Lloyd, Llanfachreth, hen weinidog Mr. Jones. Bu Mr. Lloyd yn weinidog Rhydwen a Llanfaethlu bu & llaw amlwg yn addysg a chynnydd y bugail newydd, a sylwodd ar ei gymeriad prydferth a'i ddoniau disglair, pan yn y Gobeithlu a'r Ysgol Sul, a moddion gras yr eglwys, ac I yn dechreu pregethu. Profodd yn helaeth o ddylanwadau Diwygiad 1904 a 5; ac wedi cwra addysg yng Nghaergybi aeth i Goleg Bangor, gan ennill parch ei athrawon a'i gyd-fyfyrwyr. Urddwyd ef yn weinidog eglwysi Penrhynside a Glanwydden, lle'1' enillodd radd dda fel pregethwr a gweinidog. Pan dorrodd y rhyfel allan yr oedd yn un o'r gweinidogion Cymreig cyntaf i gael ei ddewis yn Gaplan, a bu'n Gaplan dewr am bedair blynedd, gan wasanaethu gyda'r adran Gymreig yn y wlad hon, yn yr Iwerdd- on, yn Ffrainc, ac ar y Rhine. Naturiol iawn oedd i Mr. Lloyd deimlo'n falch o'i fab yn y ffydd. Yna cafwyd anerchiadau byrion, yn eynnwys croeso cynnes y gwahanol enwadau, a dymuniad am fendith Duw ar yr uniad hapus, gan y Parchn. E. Jones Davies, ar ran y Bedyddwyr Saesneg D. J. Basset t,ar ran Cyfundeb Lerpwl a'r Cylch E. Wyn Roberts, dros y Methodistiaid J. Morris a M. Llewelyn, dros yr Annibynwyr J. Roger Jones, B.A., dros y Wesleaid; a Capten Thompson, dros yr Achos Saesneg sy'n ymgynnull yn ysgoldy'r Capel. Cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Jones yn datgan ei ddiolchgarwch am y croeso a estynnwyd iddo, ac hefyd ei hyder yng ngallu'r efengyl. Daw Mr. Jones yma'n ddilynydd i'r Parch. J. H. Hughes, y Bala, yr hwn a fu'n bugeilio'r ddwy eglwys am 16 mlynedd. Blin iawn gennym ddeallei fod dan gystudd trwm. Cyfeiriwyd yn dyner iawn ato, a dymunwyd iddo wellhad buan. Dibennwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. M. Llewelyn. Y CYMRO DDOE A HEDDYW.â Cafwyd un o'r darlithiau diddoraf yn y Gymdeithas Genedlaethol nos Wener cyn y ddiweddaf, ar y testun uchod gan yr Athro Ifor Williams, M.A., Bangor. Y mae'r Athro yn un o'r rhai hynny. sy'n gallu gwneuthur ei bwnc yn ddiddorol i'w wrandawyr. Dyna'r drydedd waith iddo annerch y Gymdeithas, a gobeithio y cawn .f lawer teirgwaith eto. Llywyddwyd yn ddeheig gan Mr. R. G. Edwards,- Fallow- field (un o fechgyn tref y Bala). Dechreuodd yr Athro ei ddarlith trwy ddyfynnu Wil Bryan yn ei gyngor i Rhys Lewis--mai diffyg mawr, y Cymro yw ei fod yn fyr o cheek. Y cheek hwnnw, chwedl Wil, a nodweddai y Ceiliog Dandy ac nid yr wyneb- aledweh a nodweddai'r mul." Sylwodd I ar y rheswm a roddir fynychaf gan y Saeson am yr yswildod a berthyn inni, a'r diffyg hyder ynom ein hunain, sef ein bod yn genedl orchfygedig, ac oherwydd hynny'n teimlo'n wasaidd yng ngwydd cenhedloedd (eraill. Ni chytunai'r Athro a'r syniad yna o gwbl, ac fel enghraifft o hynny edrychai ar safle Serbia fechan heddyw. Er wedi ei gorchfygu gan y gelyn ni wyra'r Serbiaid ei ben i'r un Awstriad, am ei fod yn ymwybodol o ddewr- der ei gydgenedl pan oedd yr odds gymaint yn eu herbyn. Cyfrifa'r Athro am y diffyg hyder ynom fel cenedl i'r dull hwnnw a arferid yn yr ysgolion o gosbi pob bachgen neu eneth am arfer iaith eu mam, ac i edrych ar hyn fel un o'r troseddau mwyaf gwarthus. Beth allasai fod yn fwy effeithiol i dorri asgwrn cefn cenedl na dysgu'r plant yn yr oed thwng 5 a 15 i ddiystyru eu hiaith a'u cenedl eu hunain ? Ond er cymaint a gyfyngwyd ar lwybrau y "Cymro Ddoe," fe ddringodd i swyddi parchus ac anrhyd- eddusmewn gwahanol gyfeiriadau. Dylai hyn fod yn symbyliad i'r Cymry Heddyw," pan y mae'r rhwystrau (lawer ohonynt) wedi eu symud, i gerdded ymlaen, ac anogir ni i ofalu ein hunain fod ein gweithrediadau yn cael y sylw dyladwy. Ofer disgwyl i estron ofalu am ganu ein clodydd, fel y gwelwyd yn ystod y Rhyfel. Proffwyda'r Athro ddyfodol disglair i'r Cymro Yfory sy'n perthyn i genedl mor athrylithgar, ac hynod am ei gallu i ddysgu'n gyflym- ond iddo ddatblygu'r cheek, chwedl Wil Bryan, sydd yn Fine Art. Diolchwyd i'r darlithydd gan ei hen athro, y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A., a Mri. E. Jones, Gore Street, ac Owen Jones, Pen y groes, Eccles. A chafwyd ychydig eiriau gan Glasafon a Chynogfab. Y TELYNAU ADRE.-Nawn Sadwrn cyn y diweddaf, rhoddodd eglwys Booth Street ei hail Social i'r becbgyn fu yn y fyddin. Gwahoddwyd hwy a'u ffrindiau i de yn yr ysgoldy, ac yn yr hwyr cafwyd Social i aelodau'r eglwys. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch. M. Llewelyn, a chafwyd caneuon gan Mri. F. Dale, H. T. Pugh, a Llew Williams, Miss M. Oldfield, Miss M. Chappell, Miss Rosina Hughes, Miss Edith Hughes a Miss Nellie Davies unawd ar y piano gan Miss Edith Williams ar y crwth gan Mr. Llew Roberts adrodd- iadau,âdarnau o Alun Mabon (Ceiriog), William y Gwydd a Grandfather's Clock gan Miss Watcyn Wyn.. Cyfeiliwyd gan Misses Edith Williams, Rose Oldfield a Mrs. Tom Parry. Cafwyd anerchiad gan Grand old man yr eglwysâMr. Hugh Hughes (80 oed)âyn croesawu'r bechgyn yn ol i waith a breintiau'r Cysegr, ac anerchiad barddonol gan Mr. Ellis Davies :â Yn ol o faes yr heldrin, 0 dwrf magnelau'r gad, Hyfrydwch estyn croesaw glan I arwyr tref a gwlad Er byw yn erw angau Am lawer blwyddyn hir, Bu'r cysgod dwyfol drosoch oil Mewn dieithr estron dir. Dros Ryddid euthoch allan I'r gad yn gryf eich cam, A chaer o'ch amgylch yno fu Gweddiau tad a mam Ofnadwy fu pryderon Rhieni am eu plant, Tra cwympai'r dewrion ar bob llaw, Nes llenwi ffos a phant. Ar delyn llawer aelwyd Y Galon Drom fu'r gainc, Wrth hebrwng bechgyn goreu'r byd I'r heldrin fawr yn Ffrainc Mae estyn croeso ichwi Yn orchwyl digon rhad, Tra beddau'r rhai a gwympodd sy'n Anhysbys yn y wlad. Chwi wyddoch am y ffosydd," A chlwyfau'r chwerw drin," Ond gwelsoch fendith cartre'n dod it gweddi ar ei min Profasoch bethau chwerwon Mewn llawer ffos a glyn, Ond gweini ichwi lawer gwaith Bu engyl Nef cyn hyn. Boed dyner yr awelon Uwch beddau'r dewrion sydd Yn huno mewn estronol wlad Nes delo toriad dydd Mae telyn ein llawenydd Ac alaw ar bob tant, A'n braint yw diolch fyth i'r Nef Am gadw'n fyw ein plant. Mwynhawyd y danteithion oedd ar y bwrdd ac ar y rhaglen yn fawr iawn. Diolchodd Mri. E. Davies a J. E. Cox ar ran y bechgyn, a dibennwyd trwy ganu Hen Wladfy Nhadau. GAIR DUW YN UCHA.F.-Cynhaliwvd cyfarfod blynyddol Cymdeithas y Beiblau nos Sadwrn cyn y ddiweddaf, yng Nghapel Pendleton. Mr. John Roberts yn y gadair, a'r Parch. T. A. Wolfendale, M.A.,yn annerch. Rhoddodd Mr. John Jones, Booth Street (y trysorydd), yr adroddiad ariannol, yr hwn oedd yn well na'r un blaenorol. Canodd plant yr eglwys ddwywaith yn y cyfarfod, a diolchwyd i'r areithiwr a'r swyddogion gan y Parchn. J. H. Lloyd Williams a R. Williams. EINON. I BEIRDD Y NADOLIG. Disgynnai'r eira yn drwch ar bant a, bryn, a mwyn oedd eistedd wrth dan braf y gegin fawr. Syllai Ifor, y bachgen ieu- engaf, yn ddyfal ar y ffiamau yn esgyn gan ddilyn ei gilydd i fyny'r simne, a, hawdd gweld ar ei wedd fod ei feddwl byw ar waith. Onid oedd y Nadolig yn ymyl ? Gwyr pob plentyn am y miwsig Sy 'ngorfoledd Dydd Nadolig. Halsoch chi lythyr i Santa Clans V' gofvnnai Ifor. "Do," ebe'i dad. "Ddwed- soch chi mai motor own i am gael ?" Naddo'n wir, beth gwell fuaset ti o gael motor, ag eira mor drwm ar lawr ?" Wel, He bod ni yn gorfod cered trwyddo fe," ebe Ifor. I ble'r aem ni pe caem fotor ?" I Feth- lehem, wrth gwrs," oedd ateb parod y bachgen. Awn ninnau hyd Fethlehem. Ni raid wrth fotor, yn enwedig yng nghwmni'r Beirdd.# Fe a eu dychymyg a ni yn gynt o lawer, a hynny heb dalu dim Cawn oleu Cannwyll" Ficer Pritchard i gy- chwyn :â Awn i Fethlem bawb dan ganu, Neidio, dawnsio, a difyrru, I gael gweld ein Prynwr credig A aned heddyw, Ddydd Nadelig. Fe aeth y doethion i'w gyflwyno, Ac i roi anrhegion iddo,- Aur a thys a myrr o'r goreu, A'u presentio ar eu gliniau. Rhedwn ninnau i'w gorddiwes, I gael clywed rhan o'u cyffes Dysgwn genddynt i gyflwyno A rhoi clod a moliant iddo. Yn lie aur, rhown lwyrgred ynddo, Yn lie thus, rhown foliant iddo, Yn lie myrr, rhown edifeirwch, Ac fe'u cymer drwy hyfrydwch. Mae'r angylion yn llawenu, Mae'r ffurfafen yn tywynnu, Mae llu'r nef yn canu hymnauâ Caned dynion rywbeth hwythau. Awn i Fethlem i gael gweled Mair a Mab Duw ar ei harffed Mair yn dala rhwng ei dwylo Y Mab sy'n cadw'r byd rhag cwympo. A chaiff Watcyn Wyn ddweyd wrthym am y Seren :â Seren na wyddai serydd ddim am dani, Seren ar ddeddf seryddiaeth wedi torri Rhyw seren o'r Diddymdra wedi cynneu I ddangos y Gwaredwr gyda'i goleu Rhyw seren yn serennu gwawr i'r byd, Seren a mwy o Dduw na'r ser i gyd A daw Hedd Wyn gyda ni at y Preseb a'r Gftn Dyma'r dydd y gwelwyd lesu Yn y Preseb gwael ei drem, Ac angylion Duw yn canu Uwch ben meysydd Bethlehem, Canwn ninnau Gydag engyl gwynion Duw. Er mai Preseb oer di-foliant Gafodd Ef yn faban gynt, Pan yn dyfod o'r gogoniant Tua'r ddaear ar ei hynt, Holl allweddau Tragwyddoldeb sy'n Ei law.. Deuwch, engyl, eto i ganu Uwch ein hen ryfelgar fyd, Cenwch wrthym am yr lesu All dawelu'r brwydrau'i gyd. Yn y moliant Uned holl deyrnasoedd byd. Daw gogoniant newydd i fywyd y rhai sy'n gweld -y Seren a'r Preseb. Maent yn newid eu llwybrau wedi gweled y Mab bychan. Dyna ddywedir am y doethion Hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall." Mae yna ffordd arall gennym wedi gweled Mab Duw-" ffordd arall o edrych ar bethauâar Dduw, a phlentyn, a chartref a chymydog, &c. 'Does neb yn dychwelyd o Fethlehem heb feddwl yn well am eraill. Y mae y meddwl yr hwn oedd hefyd yng Nghrist ynddo yntau. Cariad yw cyweirnod anthem yr ^yl Gogoniant yn y Goruchaf i Dduw, ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da." Nid cadfaes yw'r byd ar ddydd Nadolig, ond aelwyd,âbrodyr ydym. Ew- yllys dda yw ewyllys y dydd, ac ar hon y mae bendith Duw. Trwy gofio am eraill y mae Duw yn dod o hyd i'w lawenydd, a'r un modd y deuwn ninnau i'w feddu. Ni fydd llawenydd y Nadolig yn gyflawn heb inni goflo'r gwan a'r tlawd." Cofiwn eiriau Mynyddog :â Mae'r gwyliau wedi dyfod A gwledd i lawer ty, A llawer difyr ddefod 0 gylch y pwdin du Ond cofiwn ddydd Nadolig, Pan 'ddeutu'r wledd yn cwrdd, Fod llawer teulu unig Heb grystyn ar y bwrdd. Ystyriwn y tylawd, Cyfrannwn i'r tylawd, Mae'r nef yn siwr o gofio Sawl gofia'r dyn tylawd. Ac ebe Eifion Wyn, ein pen-telynegydd:â Boed Ion dy lys, boed lawn dy wledd A chofia flys yr hwn na fedd. Cadw'th Nadolig, fy mrawd, 0 newydd i Fab Sr-Dyn, Car dy gymydog, fy mrawd, A char ef fel ti dy hun. A phan wrth dy fwrdd, fy mrawd, Ai prin ai helaethwych fo,- Cadw dy friwsion, fy mrawd, I'r frongoch a llivyd y to. Faint ohonoch chi'r plant ddymunodd yn ystod Gwyliau'r Rhyfel Mawr yr un fath a'r plentyn y canodd y Parch. D. Rhydderch, Capel Seion, amdano-oedd yn fodlon bod heb anrhegion Nadolig er mwyn i'r plant gollodd eu tad yn y Rhyfel eu cael :â Pa bryd y daw Nadolig A'i glychau mwyn am dro ? 'Rwy'n disgwyl Santa Claus a'i faich Anrhegion trwy y fro. Ai tybed daw eleni, Fel cynt, a thegan im' ? A ellir rhwystro Ffrind y plant Gan raib y rhyfel llym ? Wrth glywed am y galar Sydd yng nghartrefi'r wlad fodlon i'r presantau fynd Ft bychain sydd, heb dad. Gwyn eich byd, os gwnaethoch. Nid digon anrheg a chinio i feddu llawen- ydd yr Wyl. Mae llawenydd y Nadolig yn beth cymdeithasol, moesol, ac ysbrydol, fel y canodd Elfed yn ei garol fyth-hyfryd :â Os na chawn weled blodau Mai 0 gylch ein tai, Nadolig, Mae'n well na blodau ar bob llwyn Gael cyfaill mwyn caredig. Os na ddaw'r wennol yn ei thro 0 dan y tO ddydd Calan, Mae gweld y plant sy'n byw ymhell Yn well na'r haf ei hunan. Llawenydd sydd ar bopeth hardd, Ar flodau gardd, ac adar Ond gelHr byw heb flodau'n hir Lie Gedwir calon hawddgar. Mae carol Bethlehem o hyd Yn suo crud gobeithion Mae yn Nadolig ym mhob man Lie genir anian raslon. BINON. j

I Bywyd a Blwyddyn

Advertising