Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Bardd a'r lIenor. I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Bardd a'r lIenor. I CAN FERA. ?,\ I- GWYDDEL A CHYMRU. Dywedodd vr Athro T. Gwynn Jones, M.A., yn un o' i ysgrifau gwych yn y DARIAN mai Cymry yw amryw f't arweinyddion gwladgarwyr ^iwerddon yn y dyddiau hyn; ac felly y mae hi wedi bod yn y goritennol hefyd. Efallai na A-vr paxvb mai Cymro o un cchr vdoedd Thomas Osborne Davis, y bardd tanbaid, a in farvv/mor ifanc. Cymerth Thomas Davis ran flaenllaw yt;gln a chymdeithas yr "Young j Ireland," a'u papur newydd, y "Nation," ac i'r papur hwnnw y sgrifenuodd ei ganeuon gwladgar. Mae hanes ei yrfa fer yn hysbys i, bawb a "ftyr hanes Iwerddon yn ystod, y ganrif i ddiwethaf, ac nid wyf yn bwriadu dywedyd dim am ei fywyd ystorrnus ond hoffwn wahodd sylw at ei gariad at Ciymru. Fel yr awgrymais, yr oedd Thomas Davis banner Cymro.: dvwedir bod ei dad yn Gymro o waed coch cyfa, a'i tod yn caru Cymru yn eglur i'r icariad hwnnw gael ei drosglwyddo i'w. fab athrylithgar, canys yr oedcl cariad Ihomas Davis at Gvm ru yn fawr iawn. Ei hoff efrydiaeth o'i fachgen- dod ydoedd iaith a llenyddiaeth, traddodiadau a hynafiaethau'r Cvrnro a'r G\k-d(lel; ac yr oedd ef yn awydd- us. iawn am i Gymru ac Iwerddon ddvfod'i adtiabod ei gilydd yn well, Ymfirostiai ef ei fod yn Gymro o du ei dad. Buasai'n well ganddo fad. yn Hotentot nag yn Sais. Cyfrifai ef y Gyrnry, a'r Gwyddvl hwythau, yn uwch a rhagorach pobl ,na'r Saeson, a gwarth, yn ei olwg ef, oedd inni ym- ostwng i gymryd ein llywodraethu gan genedl is a salach. Yr oedd ef yn un o'r rhai eyntaf i ddadleu o blaid i Yinreolaeth i Gymru; ac y craffu heddyw ar y geiriau a sgrifenodd ef dros dri chwarter canrif yn ol. Ebr ef :— "Agorais 'M'Cullock's Geographi- v-yiin(-u i chwilio am ryw ystadegau yngiyn a hanes Cymru, :??, ond yn lie cael hanes Cymru ar wahan, fe'i cefais ynglyn a hanes Lloegr- England and Wales—ac nid oedd yno chwaith ddim arbennig am y Dywysogaeth. Cai Cumberland, a'r rhan hvyaf. 0 siroedd Lloegr, fwv o le na Chymru. 'A yw amser,' meddwn, wedi IJacld y llwyth tan-baid ac ystyfnig hwnnw- o Geltiaid a wrthsaf- odd frenhinoedd Lloegr cvhyd, ac a sathrodd ar ddwyfroneg v Norman mor fynvch, y llwyth a blygai weithiau yn yr haf, i ddim ond i godi wedyn gydag elfennau ffyrnigwyllt y gaeaf, oedd bob amser o'u plaid? A gollwyd y genedl honno a safodd mor ddewr j gvda Llywelyn yn erbyn holl allu Lloegr, a'gododd ar air Glyndwr, ac a roddodS Faner y Ddraig a'r Brenhin- oedd Tuduraidd i Loegr? Naddo! Er gwaethaf Cyflafan y Beirdd, a llosgi'r croniclau, er gwaethaf difod- iant gwleidyddol, mae eto' fiiiwn 0'- Cymry yng N ghymru, ac y mae na.w o bob deg ohonynt yn siarad eu heniaith odidog fyth, yn dilyn eu hen arferion, yn canu eu hen ganeuon, vn addoli Duw yn eu ffordd eu hun, ac yn casau'r Sais gymaint a'u tadau.' Gallai naw ar hugain o aelodau Cym- reig yn y Scnedd wneuthur Ilawer dros eu gwlad, yn Jemvedig ped ymunent a'r Gwyddvl a'r Scotmyn. Eu dylet- swydd yw ymdrechu i sicrhau i Gymru Senedd Leol j'w llywodraethu ei hun. Mae gan y miliwn Cymry sy'n byw rhwng" hen fynyddoedd eu gwlad olud- oe/dd o iwnau gwerthfawr, Porthladd- oedd rhagorol, ac un, Abel". Daur Gleddyf, y goreu ym Mhrydain; ac y mae'r bob! hyn o'r un gwaed a ninnau, y Gwyddvl, ac y mae ell hiaith yn perthyn i'n hiaith ni, ac y mae mor annbebyg i iaith y Saeson ag v gall -?teson a ?, -all fod. Mae gan y miiwn hyn o Gymry gymaint oh awl i Senedd o'r eiddynt eu hunain ag sy gan y saith gan mil o bobl Groeg. Rhaid iddynt gael Sen- edd felly i warchadw, eu cN-Ilid, eu hiaith, a'u cymeriad cenedlaethol rhag gorthrwm ymherodrol y Sais, a,ii tir rhag ei oresgyn gan estroniaid. Gwir na allai Cymru, pe'n rhydd, amddiffyn i therfynau, fel y gallai IAverddon, ond y mae Cymru'n Gened! ddigon I pwysig i hawlia Senedd iddi ei hun." I Nid mewn rhyddiaith yn unig y h Ihomas Davis fynegiant i'w i-boes f)?tx-is fyne,?,ialit i'w dcimladau tuagat Gymru; gwnaelh hynny mewn barddoniaeth hefyd. \ele efel-cliiad o un o'i gatieuon Cymru'n Deyrnas. Yr'oedd Cymru gynt yn deyrnas; Bechan oedd, ond mawr ei hurddas Methodd cedyrn wneuthur caethwas O'r hen Gymro drud. Tyv y llwfryn gwan ei galon; Gnawd i fawddyn wisgo cyffion; Rhaid i ddewrion fod yn rhyddion, Neu yn feirw i gyd. Heddyw'r Sais maleisus Biau'n gwlad fawreddus Cawn ni'r gwaith, A llawer craith, Ac vntau ffrwyth ei orthwm Trethir ni j • I'r person ffri Loddesta ar y degvvm Iaith y Sais a'i au athrawon Ladd ein heniaith ni; Tollau a'n handwya Rhenti'r Sais a'n lletha; Ac fel .'Vyn, Heb air o g^yn, 'Rym ninnau'r dwvn }■ cyfan N n c?,fan! 0 pa bryd Y down ynghyd I hyrddio'r Saeson allan! Wyrda Cymru, pie mae'r dewrion? Pie mae Corn y Gad? Cofio Arthur yw'n cywilydd— Gyr y gwaed yn don i'n deurydd— Tra goddefwn warth yn llonydd Ac yn llwfr bob dydd. Myn v gwaed ar gadfaes Camlan Myn y gwaed ar Forfa Rhucldlan; Myn y gwaed dros Gymru gyfan, Rhaid cael Cymru'n rhydd! Cofiwn am Lywelyn, Cofiwn Owain wedyn, 1 Yna'n un, Yn dorf gytun, Dilynwn gam re'n b]aenor: Ag un-Ilef, Nes siglo'r nef, Banllefwn oil yn gydgor— "Saeson, crynwch! Gymru, cenwch Arthur, ddaeth vn ol!" Nid yn fihvr d rosom, Ond yn enaid ynom. Megis gw.fr A wnaed gan gur Yn bur fel dur ein brynlau, Trown yn awr, ■ Yn dyrfa fawr, I ddryllio'n hiau yn ddarnau! Wyrda Cymru, pie mae'r dewrion? Pie mae Corn y Gad? A gawn ni godi cor meibion i ganu'r gainc yna trwy heolydd Caerdydd o dan chwyfiad Baner y Ddraig?

Llythyr at y Gol. I

Drama- John Penry.I

[No title]

10 Tarian Fach y Plant. V-,....................-........-..............:..--:;.

Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.

 Eisteddfod Bodringallti…

NEWYODION. I

DIFFYC TRAUL A GWYNTOGRWYDD,