Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

 CYLCBDAiTH ;WLLHELL' 1,;?-i.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

 CYLCBDAiTH ;WLLHELL' 1,;?-i.I Dydd Llun, Ionawr 3ydd, cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Rhagfyr, yn Nghric- ieth, o dan lywyddiaeth yr Arolygwr, y Parch E. Mostyn Jones. Yr oedd yn bres- ennol hefyd, Parch John Price, Mr J. H. Jones, Rhiw; Mr -J. Morgan Williams, Nevin, PregethwrCyflogedig y Gylchdaith; Mr H. Parry, Tyddyn, a Mr H. J. Lewis, Cernlyn, Pwllheli, Goruchwylwyr; dau gynrychiolwr o Pwllheli, un o Llanbedrog, a naw o gynrychiolwyr o Cricieth. Pe cynhelid ffair neu ddiwrnod o wyl, posibl y ceid cynrychiolaeth gref o Leyn. Tybed nad ellir dod o hyd i gynllun fel y gellid talu i'r cynrychiolwyr? Ceid degau am y cyntaf i gynnyg eu, gwasanaeth felly. Diolch yn fawr i Cricieth am eu sel pan y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ym- hen uchaf y Gylchdaith. Dechreuwyd y gweithrediadau trwy i'r Arolygwr ddarllen rhan o'r Ys- ythvr, ac i William Humphreys, Llanbedrog, aiwain mewn gweddi. Derbyniwyd cyfrifon yr eglwysi. Cadarnhawyd cofnodion y ewrdd blaen- orol a gynhaliwyd yn Nevin. Rhoddwyd croesawiad cynnes i Mr J. Morgan Williams, gwr ieuanc o Rhiwlas, sydd wedi dod i wasanaethu y Gylchdaith i Nefyn. Dymunwyd yn dda iddo yn dymhorol ac yn ysprydol. Llawenydd mawr i'r cyfarfod oedd gweled Mr John Davies, a phob arwydd ei fod yn gwella o'i faith a'i flin gystudd. Diolch yn fawr i'r Tad Nefol am ei arbed a'i adfer yn ol i wasanaethu yr achos. Rhoddwyd cyfrif o drysorfa y Gymanfa Ganu gan yr Ysgrifennydd, ac wedi peth ymdrafodaeth ar y priodoldeb o gynnal Cymanfa dan yr amgylchiadau cynhyrfus, pasiwyd cynnal un, a rhoddwyd awdurdod i'r Ysgrifennydd alw pwyllgor yn ddiym- droi. Peth newydd spon oedd i'r Ysgol Sul gael cymaint o sylw yn y cyfarfod. Siar- adwyd gan liaws o frodyr ar y priodoldeb o symud o'r claerineb presennol, ac ym- egnio i wneud yr Ysgol yn fwy 'up-to date.' Cafodd llythyr Ysgrifennydd Ys- golion y Dalaith sylw manwl mewn perth- ynas i'r Maes Llafur. Penderfynwyd gwneud ymdrech arbennig eleni i ad-ennill y tir a gollwyd. Penodwyd Mr J. H. Jones. Rhiw, i ofalu am .Faes Dosbarth L, a'r Gweinidogion i wylied a pharotoi y Dos- barthiadau eraill. Pob Ysgol i ffurfio pwyllgor lleol i edrych i mewn 1 sefyllfa yr Ysgol, ac i anfon adroddiad Ilawn i'r Arol- ygwr cyn Chwefror laf. Rhwyd J hynt i'r cynllun. Yn unol a rhybudd yr Ysgrifen- nydd, pasiwyd i ffurfio Undeb Ysgolion y Gylchdaith, ar wahan i'r Undebau sydd yn bodoli rhwng rhai ysgolion yn y cylch -dau gyfarfod-i'w cynnal yn flynyddol mewn lleoedd canolog. Hysbyswyd fod tymor y Goruchwyliwr i ben, a thalwyd teyrnged uchel o ganmol- iaeth i Mr W. J. Lewis, Pwllheli am y modd deheuig a medrus y cyfiawnodd ei waith. Sylwyd ar ei allu, a'i fanylrwydd gyda chyfrifon y Gylchdaith, a'i ymdrech Iwyddiannus a dibaid i estyn cortynnau pabell ei eglwys a'i enwad. Ategwyd yn frwd gan yr oil o'r frawdoliaeth, ac wedi maith berswadio addawodd arcs yn ei swydd am dymor pellach. Rhoddodd Mr Lewis glod uchel i'w gyd swyddog, Mr H. Parry. Gofynwyd i Mr Price, gweinidog Cric- ieth, beidio rhoddi addewid i Gylchdaith arall hyd ar ol cyfarfod Mawrth, ac add- awodd yn gadarnhaol. Cafwyd cyfarfod da, Ilawn ysbryd a gwaith. Wedi terfynu ymneilltuwyd i ystafell arall i fwynhau gwledd ardderchog -y spread yn ysfelenydd. Buasai y Gol. yn beio am feithder pe rhoddid y Tariff. Gwnaeth pawb gyfiawnder (?) a'r dan- teithion, a diolchwyd yn gynnes iawn i'r chwiorydd Mrs R. M. Williams, a Mrs Bowen, yn cael eu cynorthwyo gan Misses Maggie Evans, S. C. Jones, a S. C. Williams, am eu llafur a'u gofal. Diolch yn fawr i gyfeillion Salem am ei derbyniad croesawgar. GWALIA. I

* MERTHYR TYDFIL. I

CYLCHDAITH TREGARTH. I

.LLANDUDNO. I

CYLCHDAITH MANCHESTER. I

[No title]

Advertising