Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

,NODION .AR YR YSGOL SUL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

,NODION AR YR YSGOL SUL. (A.W. D.) I Nid oes neb a wad nad yw'r sefydliad gogo-neddus hwn yn hanfodol i lwyddiant ac effeithiolrwydd crefydd, hi fu yn y gorffennol o fendith anrhaethol, ac nid oes dim wedi codi eto a wna i ffwrdd .a'r anghen am dani. Mwy o angen Heddyw. f Os rhywbeth mae'r anghen am was- anaeth arbennig yr Ysgol Sul yn fwy heddyw nag erioed, a hynny am illai hi yw y symbylydd mawr i efrydiaeth o M Air yr Arglwydd. LEai o Ddylanwad. I Ond er ein gofid ni fedd yr Ysgol Sul yr un dylanwad, ac nid yw ychwaith mor boblogaidd ag a fu yn y gorffennol: yn araf cyll ei lie a'i dylanwad yn hanes ,Din gwlad- A i lawr yn rhifedi ei mynychwyr, ac yn enwedig ym mysg dau ddosbarth "yr hen," a r dynion ieuainc." A siarad yn gyffredinol ni fedd yr un swyn, ac ni chynhyrcha yr un dyddordeb ag yn y gorffennol. Llai o Ddyddordeb yn y Beibl. I Mater difrifol yw hwn, am yr aw-I gryma, na chymer y bobl yr un dydd- ordeb yn y Beibl a'i gynnwys ag a wnaent yn y gorffennol, ac mae y di- brisdod yma o Air Duw" yn y diwedd yn sicr o ddweyd yn anffafriol ar iywyd moesol a chrefyddol yr oes. Fe niweidia holl arweddau bywyd yr .eglwys, fe dloda brofiad y Seiat, fe dloda y cyfarfod gweddi, ac fe barlysa effeith- iolrwydd y pwlpud, a hynny mewn dyddiau y gelwir am bwlpud goleuedig, oblegid y mae dylanwad y pwlpud yn ilibynDu ar wybodaeth ysgrythyrol y gynulleidfa. I'r hwn sydd ganddo, medd Crist, y rhoddir iddo." Y medd- wl parod cyfaddas sy'n gwerthfawrogi cenadwri y pwlpud. Achosion y Dirywiad. Y mae achosion y dirywiad yn fewn- ol, ag yn allanol. Y mae ymddeffroad acldysg yn lie .troi yn fanteisiol wedi troi yn anfanteis- iol i'r Ysgol Sul trwy greu dibrisdod o Air yr Arglwydd Edrycha lawer ar y Beibl fel llyfr diflas, di-ramant, a hen ffasiwn; y mae eu hawyrgylch fydol wedi eu daJIu i'w anghen am ddiwylliant ysprydol, ac am y wybodaeth sydd yn anhepcor i ffurfiad cymeriad moesol, goleuedig a grymus. Y Wasg a'r Beibl. I At hyn y mae cyfroddiad y wasg mor amrywiol, ac mor gyfoethog, fel y mae llu wedi troi i feysydd eraill gan ddi- brisio y Beibl. Yr ym yn byw mewn cyfnod mor eang, y mae gwahanol ochr- au bywyd wedi ymagor o'n blaenau, ac yn dod i wasgu arnorn, ac y mae y wasg yn darpar yn helaeth ar eu cyfer len yddiaeth fyw a rhad. Oes, y mae lfawer o ganghenau o wybodaeth heddyw yn disodli y Beibl., Bydolrwydd a'r Beibl. At hyn y mae ysbryd fydol a mat- erol y cyfnod wedi parlysu chwaeth llu at bethau dwfn a thragwyddol bywyd. Mae'n syndod meddwl fod y bobl gydag addysg well yn ddibris o'r Beibl, tra ar y Haw arall y mae ysgolheigion goreu y gwledydd yn byw mwy yn y Beibl nag erioed; yn defnyddio eu hysgol- heigdod a'u hoes i efrydu cynnwys y Beibl, ei hanes, ei ddatblygiad, a'i gen sydwri. Nid oes yr un gangen o wybod- aeth, yn ystod y ganrif ddiweddaf, wedi cael mwy o sylw, mwy o lafur ag aberth y meddyliau gloewaf na'r Beibl, ag eto ceir y llu nad ydynt ond ar gyrrion gwybodaeth ac addysg y gwyr hyn, yn ,ei ddibrisio. Y Beibl Newydd. I Pa lyfr sydd wedi ei ail-eni i fywyd newydd fel y Beibl yn ystod y can' mlynedd diweddaf, y mae goleu y feirn iadaeth oreu wedi bod yn tywnnu arno ,a chydnabyddir ei fod yn hanfodol i fywyd goreu gwlad, i ffyniant uwchaf dynion, ei fod yn ddatguddiad Duw ohono ei Hun i ddynion eto dibrisir ef •can y llu- DifF/g yn y Dull. I O'r ochr arall, cyll yr Ysgol Sul ei .dylanwad ar lawer oherwydd y modd o ddwyn ei gwaith ymlaen. Nid yw yr Ysgol Sul yn cael ei gweithio yn gyson ag anianawd yr oes,—y mae'r egwyidor yn iawn, ond fod eisiau ei chyfaddasm i'r cyfnod. Mae'r dull o'i dwyn ymla,e. yn rhy hen ffasiwn, yn rby ystrydebol: y mae yn fynych fel peth heb enaid o'i mewn, -y blerwch, a'r ysbryd oer, difater deimlir. Ni lwyddodd unrhyw sefydliad erioed heb frwdfryded. I Athrawon Diog. Ceir llu o athrawon diog na efrydant eu maes na'r dosbarth; a'r canlyniad yw, nad oes dyddordeb yn y dosbarth at y wers na'r Ysgol Sul. Gwyddom ddigon am helbul y cyfarfod athrawon— yr anhawster i gael athrawon, nid bob amser am nad oes athrawon cymwys, ond am nad oes yr ysbryd aberth ac ymroddiad i'r gwaith. Wrth natur y; mae yn well gan ddyn gael ei ddiddori ei hun nac ymdrechu diddori arall, ond y mae dyletswydd yn gofyn am aberth, a thrwy aberth y mae dyn yn ffyddlon i Dduw as iddo ei hun. Disgy,blu Athrawon. I Ymddengys i mi y bydd yn rhaid wrth Ddosbarth Athrawon i gym- wyso athrawon i'w gwaith, a chael yn athraw ar y dosbarth hwnnw un sydd yn athraw neu yn athrawes yn yr Ysgol Ddyddiol, ac wedi efrydu gwydclor y gwaith o gyllwyno dysg yn fyw, dydd- orol ac effeithiol. Esgeuluso y Plant, I Mae lie i ofni nad yw y plant yn cael y sylw anghenrheidiol heddyw, rad ydym yn fyw i bwysigrwydd y plant a'u dyfodol. Paharn nad ellir cynnal dos- barth yn ystod yr wythnos, a chael rhai i'w gyfarfod, ac felly ategu gwaith yr Ysgol Sul ? Ar y Sal ychydig ellir ei wneud, canys y gri heddyw yw am beidio cadw yr Ysgol am fwy nag awr. Fel. popeth crefyddol arall, rhaid iddi fod yn fyr. Y P!ant ar yr Aefwyct. Hefyd pam na chymer y rhieni ham- dden gyda'r plant ar yr aelwyd, i'w holi ynghylch eu gwersi, a'u hyfforddi ynddynt ? Y mae llawer o dadau heddyw yn debycach i letywr ar ei haelwyd ei hun na thad, gan lleied o ddyddordeb a gymera yn addysg ei blant. Plentyn a Ph!entyn. Yn ein diffyg gofal dyladwy ar y plant y mae un o'n diffygion pennaf heddyw,—efrydu eu tueddion a teithi eu meddwl, yn lie eu trin yn beirannol. Mae gwahaniaeth rhwng pleucyn a phlentyn nid yn yr un modd y der- bynia pob un ei addysg y mae llawer plentyn wedi ei gyfrif yn ddwl am na dderbynia ei addysg yn y modd y cyf- lwynir ef iddo, pryd y buasai y pIentyn o'i ddeall yn iawn, a chyfranu addysg ar hyd llinellau ei feddwl, yn blentyn byw, cyflym iawn. U Cramio." I Y mae gormod o gramio yn ein dull presennol, heb gofio mae trwy ar- graffiadau y derbynia plentyn ei addysg oreu. Y cwrs ddefnyddir i gyfranu I addyag yn yr ysgolion ddyddiol heddyw yw, nid dysgu fel parrot ar y cof, ond dysgu drwy argraffiadau--cael at ben y plentyn trwy ei galon. Symylrwydd a naturioldeb yw amod- au llwyddiant gyda'r plant. Y maent yn byw yn rhy agos i natur i dderbyn dim yn beiriannol. Symylrwydd laith. Y mae gormod o eiriau mawr an- ystwytb yn ein gwerslyfrau-terrnau uwchanianol, megis anherfynol," hollalluog," &c, nad oes ystyr i blen- tyn ynddynt-termau yr Athronydd, termau nad yw efe ei hun bob amser yn gallu cytuno ynghylch eu hystyr. Dylai y wers fod yn syml a naturiol tu fewn i gylch meddwl y plentyn, a chylch ei barabliad. Dysgu a Dat-ddysgu. 1 A phaham y dysgir i blentyn bethau y rhaid eu dat-ddysgu ymhen blynydd, au ? Dylid dysgu y pethaa fyddant yn gys-ar iddo ymhen blynyddau. Tybier er engraifft am y wers ddilynol:— G. Lie mae. plant drwg yn myn'd ar ol marw ? A. I Uffern. G. Pa fath le yw uffern ? A. Llyn yn llosgi o dan a, brwm- I stad. Y mae peth fel hyn yn cyfleu syaiad paganaidd am Dduw. Y nae lie i ofm mewn crefydd, ond nid yw ofn i gymylu ar ogoniast eariad Dnw ac yn wir y ffordd sicraf i galon plentyn ydyw trwy y stori am Gariad Iesu Grist. Amynedd. Wedi'r cyfan y mae eisiau amynedd, llafur dyfal, ac ymroddol. Cairia.d at Iesu Grist all wneud yr Ysgol Sul yn eff- eithiol. Cyfundrefn ydyw i'w pher- ffeithio, ac i'w chyfaddasu i anghen pob oes, os ydyw i barhau yn ddylanwadol ac effeithiol yn ei gwaith o oleuo dynion ym meddwl Duw.

PENNAL.I

COEDLLAI. I

COLWYN. I

Advertising