Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
,CYLCHDAITH. CEFN MAWR. iiI
CYLCHDAITH. CEFN MAWR. I Cynhaliwyd y cyfarfod Chwarterol yn Rhos, dydd Mercher. Ionawr 5ed, 19JG, o dan lywyddiaeth y Parch John Smith. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parch J. Lloyd Jones, ynghyd a'r ddau oruchwyliwr, Mri Evan Williams ac Edward Jones, hefyd cymychiolaeth o bob eglvvys. D^echreuwyd y cyfarfod gan y Parch J. U. Jones, Rhos. Darllenwyd a chadarnhawyd y cyfrifon. Derbyniwyd cyfrifon yr eglwysi a llon- gyfarchwyd eglwysi y Cefn a Plasbenion ar eu hymdrechion i dalu cyfran dda o'r cl-ddyled. Diolchwyd ac ail-etholwyd y Parch J. Lloyd Jones yn Ysgrifennydd Addysg y < Gylchdaith. Etholwyd Mr Ben Jones, Rhos, yn ys- grifennydd y cyfarfod chwarter, yn lie Mr Ted Hughes, Cefn, yr hwn sydd wedi ymuno a Byddin Prydain Fawr, a diolch- wyd iddo am ei wasanaeth tel ysgrifen- nydd. Etholwyd Mr Theophilus Williams, Cefn, gyda Mr Chas. E. Jones, yn archwil- wyr y Genhadaeth Dramor. Diolchwyd i Mri Evan Williams a Ed- ward Jones, Cefn, Goruchwylwyr y Gyichdaith, am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, a gofynwyd iddynt barhau am flwyddyn arall. Cydsyniodd Mr E. Wil- liams, ond dymunodd Mr Edward Jones am gael ei newid, ac yr oedd yn bur ddrwg gan y cyfarfod am hyny. Enwodd yr Arolygwr Mr D. L. Price i gymeryd y swydd, a phasiwyd ef yn unfrydol. Fasiwyd ein bod fel Cylchdaith yn gwneud symudiad yn ystod y flwyddyn hon. i glirio y ddyled sydd ar y Gylchdaith. Fod y Gymanfa Ysgolion i'w chynnal yn Rhos, dydd Mercher, Ebrill 2üain,:U.Jl G. Cafwyd adroddiad gan Mr Thomas Evans, Stryt Isa, o'r casgliadau wnaed yn yr eglwysi i'r War Emergency Com- mittee,"—derbyniwyd lp. 12s. Trwy unfrydedd y cyfarfod estynwyd gwahoddiad i'r Parch J. Meirion Jones, Taayfron, i olynu y Parch J. Lloyd Jones, yn Rhos yn 1917. Llongyfarchwyd eglwys y RPos ar y golwg hardd sydd ar yr addoldy, wedi ei adgyweirio a'i lanhau, hefyd am yr organ ardderchog sydd ynddo. Hefyd eglwys Stryt Isa am ei haelioni yn casglu yn ystod y flwyddyn ddiweddaf y swm ardderchog o £100 tuagat leihau y ddyled sydd ar y capel. Daeth un mater pwysig iawn o flaen y cyfarfod, sef ein bod fel Cylchdaith yn cynnal Cymanfa Bregethu yn flynyddol. Siaradwyd gan amrai o blaid, a phender fynwyd fod y mater i gael sylw yn yr eglwysi yn ystod y chwarter a'i drafod eto yn y cyfarfod chwarter nesaf, yr hwn a gynhelir yn Cefri Mawr. Pasiwyd pleidlais o gydyrrdeimlad a'r tculuoedd canlynol :-Mrs A. Williams, Cefn; Mr Ben Jones, Rhos; Mr Enoch Lewis, a Mr Samuel Morris, Stryt Isa Mr W. Eaton, Johnstown. Yr oedd te rhagorol wedi ei barotoi gan gyfeillion y Rhos cydrhwng y ddau gyfar- fod dan ofal Mrs J. Lloyd Jones, Mrs R. Jarvis, Mrs E. Evans, Mrs David Jones, a Mrs R. Richards. Terfynwyd yr eisteddiad gan y Parch J. Smith. YSG. I
CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER-…
CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER- 1 MAW. Cynhaliwyd cyfarfod chwarter- cylch- daith Dolgellau ac Abermaw prydnawn Mercher, Ionawr oed, dan lywyddiaeth y Parch E. J. Parry (Arolygwr). Yr oedd hefyd yn bresennol Parch R. Conwy Pritchard a'r Parch W. R. Jones, a Mr J. R. Williams, Abermaw, Goruchwyliwr, a chynrychiolaeth o bob eglwys yn y Gylchdaith. Dechreuwyd trwy ddarllen, a'r brawd Thomas Griffith fyned i weddi. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Rhoddwyd adroddiad o gasgliad y War Emergency Fund gan y Parch R. Conwy Pritchard. Pasiwyd i Mr Pryce Jones a Mr G. E. Owen i fod yn Oruchwylwyr y Genhad- aeth Dramor. Pasiwyd trwy fwyafrif nad yw y Daflen o gyfrifon y Gylchdaith i gael ei hargraffu am eleni. Diolchwyd i Mri W. A. Meredith a J. R. Williams am eu gwasanaeth fel Goruch wylwyr, ac ail etholwyd hwy yn unfrydol am flwyddyn arall. Gwahoddiad i'r Gweinidogion.-Rhodd- wyd gwahoddiad cynnes i'r Parch E. J. Parry, yr Arolygwr, ac i'r Parch W. R. Jones (Harlech) i wasanaethu y Gylchdaith am flwyddyn arall, ac addawodd y ddau. Derbyniwyd gyda llawenydd addewid y Parch David Thomas i ddilyn y Parch R. Conwy Pritchard yn Dolgellau ym Medi nesaf. Ty Newydd Gweinidog Dolgellau.-Pas- iwyd yn unfrydol fod y cyfrifon ya cael eu cymeradwyo. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu galarusy diweddar Mr Edward I Jones, Wesley Terrace, Arthog, yn y ddam- wain angeuol ar y Railway wrth Aber- I maw. Piegethwyr Cynorthwyol. Enw ydi pwyllgor i edrych i fewn i wasanaeth y rhai hyn ar y Gylchdaith, ac i barotoi adroddiad erbyn cyfarfod chwarter Mawrth, yr Arolygwr i alw y Pwyllgor at ei gilydd. Cafwyd cyfarfod chwarterol d^munol iawn, a'r cyfrifon bron yn llawn o bob eglwys, hyn yn destun llawenydd pan gofiwn amgylchiad y wlad y dyddiau hyn. Ar y terfyn cafwyd te rhagorol, yr hwn oedd yn cael ei roddi yn garedig gan y Parch E. J. Parry, a Mrs Parry, a diolch- wyd yn gynes iddynt, ac hefyd i'r chwior- ydd caredig oedd yn gweini. YSG. I
PENRHYNDEUDRAETH.I
PENRHYNDEUDRAETH. I PRIODAs.-Dydd Mercher. Rhagfyr laf, yng nghapel Horeb, Llanrwst, gan y Parch Owen Evans, priodwyd Miss Annie Wil- liams, Bank Place, merch i David Williams (blaenor), a Mr J. J. Thomas, Oriadurwr, Porthmadog. Y gwas a'r forwyn ydoedd Mr a Mrs Berry, Llanrwst, brawd achwaer y bnodasferch. Yn y prydnawn ymadaw- sant mewn Motor i Landudno i dreulio eu gwyliau priodasol. Dymunwn iddynt hir oes a phob Uwyddiant a hapusrwydd. Cartrefant ar hyn o bryd yn Bank Place, Penrhyn. I'R DEHEüDIR.- Y mae teulu Hugh Jones (Sardis gynt,) wedi ymfudo oddiyma i fyw i Caerau, De Cymru. Drwg iawn gennym eu collqa dymunwn pob llwydd iddynt. SWYDDOGION.BLYNYDDOL.—Ail-etholwyd y tri canlynol i'r cyfarfod blaenoriaid am y flwyddyn bresennol Tom Lloyd, Llwyd Eryri, Evan Williams, Penrhynisaf a Mrs Evans, Bronwen House. Dewisiwyd y swyddogion am eleni—W. Williams, yn y capel, Tom Rees, Hyfrydle, ar ysgol y plant (ail flwyddyn), a D. H. Richards, yn Ysgrifennydd (am yr ail flwyddyn). T.R.
HERMON, PEMBRE.I
HERMON, PEMBRE. I CYFARFOD DIWYLLIASOL.-Nos Fawrth, Ionawr lleg, cawsom fel dosbarth wledd nad aagholwn yn fuaa. Gwyddoia am Mr Arter fel pregethwr neilltuol a phob- logaidd bob aaaser: does dim oad swa canmol i'w glywed am dano oad dyma y tro cyntaf inai ei glywed yn y cymeriad o ddarlithydd. Ei destun oedd Gwlad- garwch," neu Nodweddioa y gwir wlad- garwr." Testua aeaserol iawn y dyddiau hyn, fel y gwyr pawb, pan y mae gwledydd y Cyfandir mewn rhyfel a'i gilydd. Cym- erodd Mr Arter olwg eaag ar ei destun, a dangosodd ya eglur iawn fod yna ddan fath o wladgarwch yn bodoli, sef ffug- wladgarwch, a gwladgarwch wirioneddol. Teimlo yr oeddym ei fod wedi cael gafael ar ei destun, ac yn cynnyddu yn ei nertfe fel yr oedd yn myned ymlaen, i ddangos fod gwir wladgarwch yn ein dysgu i fyw dros ein gwlad, yn hytrach nac ymladd a marw drosti. Cafodd amser neilltuol pan yn ein annog i ofalu pwy fuasem yn osod i'n cynrychioli yn y Senedd, er mwyn gwella a chodi'r hen wlad yn ei hoi. Danghosodd hefyd fod gwladgarwch a Christionogaeth yn gyson. a'u gilydd, ac fod dysgeidiaeth lesu Grist yn glir ar y mater. Ei ddelfrydau ef am wladgarwch oedd fel y mae'r Testament Newydd yn ein dysgu. Cawsom annerchiad a'n cododd i fyny i dir uwch mewn gwlad- garwch, a chafodd y darlithydd hwyl anghyffredin a brwdfrydig, a gwyn fyd na I fuasai gennym lawer un tebyg iddo i'n cynrychioli yn y Senedd. Y mae Mx Arier o'r reit stamp, gall siarad yn hyawdl, a myn wrandawiad. Y mae bob arnser yn commandio gWI anda \viad, a phe bai ni yn gallu cael Cymru annwyl i fyw y ddar- lith yma fe ddeuai yr hen wlad yn ei hoi, i gael Cymru W ladgar yn Gymru lan. Siaradodd amrai frodyr ar ei ol, i ddiolch iddo mwy na dim arall, ond yr oedd yn well gan y mwyafrif fod yn dawel, oblegid fod digon wedi ei ddyweyd eisoes. Cafodd Mr Arter cheers am ei ddarlith penigamp. AP W ESX.E,
I BANGOR. I
BANGOR. I Yn Nghyfarfcd Gweinidogion Bangor a'r cylch, dydd Mawrth diweddaf, darllen wyd papur gan y Parch John Hughes, B.A., B.D., Prince's Road, ar Yr elfen apocalyptaidd yn yr Efengylau." Ystyrir hwn yn fater diddorol a llosgawl. Caed ymdriniaeth bur dda ar gwestiwn dyrys. Yn Saesneg y siaredid, ac ymysg eraill, cymerwyd rhan yn yr ymddiddan gan y Parchn. T. Hughes, O. Madoc Roberts, A. W. Davies, a'r Prifathro Rees. m LIongyfarchwn Sergeant Herbert Jones, mab Mr Whitefield Jones, ar ei ddyrchakad yn. Lieutenant. Mae hyn yn glod mawr iddo. Wedi gwella o'r clwyf dderbyniodd yn y Dardanelles bu yn Instructer yn y fyddin. Mae Mr Jorwerth Roberts, y Llyfrfa, y pedwerydd o'r un teulu i ymuno a'r fyddin, y dydd o'r blaen wedi derbyn comisiwn yn y 12th R W. F., ac y"t- ydym yn Ilawen iawn o glywed. Yn Kinmel Park y mae ya debyg o fod, ar ol mis yn Rhydyckain. i
Advertising
)A))A)'Aj)A)A1îAt1)A)jj;M)A)A.1)A;)A)Aj)A51f.1(t.)t l'k.x B? ?.' ???@ M n m it !p ■ Y LLYFRFA. H ?? ? 5? '? Y ??y ja Li?Y?? r?—?*< r?B?? r?a-?? A.?? ? ?? ?    'Y. VN AWR VN BAROD. 1 w I  "vv 1 Aar& 0 m noft EL n Y BYDOEDD UWCHBEN GAN CARADOC MILLS (Sigma), Awdur "Radium." Yr unig Lawlyfr ar Seryddiaeth yng Nghymraeg. Mewn llian hardd, yn cynnwys nifer o Plates prydferth a llu o Ddarluniau. PRIS, 2/6 NET. POST FREE, 2/9.. Dylai pob Cymro ddarllen y llyfr hwn.O. M. EDWARDS, M.A. Dyma lyfr a champ arno, yn sicr ddigon. Y syndod yw y gellir ei brynu am hanner-coron."—THOMAS HUGHES, Gol. Yr Eurgrawn." Y mae y llyfr wedi ei ysgrifenu yn dra swynol, ac wedi dechreu ei ddarllen nis gellir ei roddi heibio yn rhwydd iawn. Addurnir ef a nifer o luniau rhagorol, ac o ran argraffwaith y mae yn gampus."—" Y Faner." Y mae'r llyfr yma gan Mr Mills, ar un o'r pyngciau mwyaf anodd a dyrus, yn berffaith glir. Yr oedd mawr angen cyfrol o'r fath."—" Y Goleuad." Maes Llafur 1915=16. YN AWR YN BAEOD. RHUFEINIAID.—Cyfrol AIL gan y Parch W. O. Evans. Pris 1/6 post free. Dwsin am 15 swllt i Ysgolion Sul. Y DAMHEGION.-Rhan AIL gan y Parch R. W. Jones. Pris 4c. Dwsin am 3/3 i Ysgolion Sul. GOFYNIADAU MAES LLAFUR.—Ceiniog yr un. 5 swllt y cant. DETHOLIAD 0 EMYNAU. YN AWR YN BAROD. Cywwysa dros 200 o Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfor y Oyabiauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn Ilian ys- twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsineam 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwym'' Hanes Wesleyaeth Gymreig am swllt, post free. Cases llian destlus atcwymo Yr Eurgrawn am 10 ceiniog Y Winllan" am 8 ceiniog.J Rheoiau y Trefn- ddion Wesleyaidd [ Argraffiad Newydd, yn llyfryn estlus, o'r Rheolaa ddylai fod yn Haw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y cogti; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferil. Aiff i beced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/G. Gwna y rhai hyn anrheg ddvmunol i'r Milwyr Cymreig. "Hanes Wesleyaeth Gymreig" GAN Y Parch. Hugh Jones, D.D. Pedair Cyfrol Hardd, 6s. 6c. yr un Rhoddwch eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. õ<1,:0<. I ""1Š) ,(,J.¡:æ<J" ) ;r¡, :0('l¡<J);r¡(<I"'V.  Ceir y cyfan drwy ein Dosbarthwyr Lleol. !S YR OLL YN POST FREE. ? P Anfonwch am ein CATALOGUE NEWYDD. || r-i Pob Archebion a Thaliadau i'w. hanfon iS I P. JONES ROBERTS, p Bookroom, Bangor, p !1.lf!.2tJ:.3:?.s-?t!!1.;(; S Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r Gwyliedydd New- ydd," Blaenau Ffestiniog.