Tarian Y Gweithiwr
cofnodydd helyntion gweithfaol, llenyddol, a gwleidyddol, yn nghyda newyddion Cymreig, cyffredinol, a thramor
Papur newydd Cymraeg radicalaidd a gyhoeddwyd yn wythnosol. Bwriad y papur oedd bod yn gyfrwng i dynnu sylw at iawnderau'r gweithwyr, ac oherwydd hynny mawr oedd ei apêl i lowyr a gweithwyr haearn ac alcan De Cymru. Cynhwysodd hefyd erthyglau diwylliannol am eisteddfodau, hanes lleol, barddoniaeth a newyddion tramor. Cafwyd ynddo ymosodiadau yn erbyn landlordiaeth, Torïaeth a'r Eglwys Sefydledig. Edward Davies, Rhymni a John Morgan Jones oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r erthyglau golygyddol i ddechrau, cyn i D. Silyn Evans a J. Tywi Jones gymryd yr olygyddiaeth. Ymhlith y cyfranwyr cyson oedd llenorion megis J. Dyfnallt Owen, John Morris-Jones a Saunders Lewis. Yn ei anterth, llwyddai'r papur i werthu tua phymtheg mil o gopïau bob wythnos. Teitlau cysylltiol: Y Darian (1914-1934).
Hawlfraint:
Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.
Amlder:
Wythnosol
Cyhoeddwr:
Cyhoeddwyd yn Aberdâr gan Mills, Lynch, & Davies, 1875-ca. 1896; G. M. Evans, ca. 1897-ca. 1909.
Dyddiadau Rhifyn:
1875 - 1910 (1,804 rhifyn ar gael)
1875
Allwedd
Dyddiad â rhifyn unigol
Dyddiad â nifer o rifynnau