
Y Drych
Papur newydd Cymraeg wythnosol a gylchredwyd ymhlith Cymru'r Taleithiau Unedig. Sefydlwyd yn 1851 yn yr Efrog Newydd fel 'Y Drych Americanaidd' cyn ei uno â'r 'Gwyliedydd Americanaidd' yn 1855 i greu 'Y Drych a'r Gwyliedydd'. Yn 1860 fe brynwyd y papur gan ei olygydd John Williams Jones, ac fe'i enwyd 'Y Drych'. Yn 1861 fe'i symudwyd i Utica, un o ganolfannau cyhoeddi Cymraeg pwysicaf America, lle datblygodd i fod yn brif newyddiadur Cymry'r Taleithiau Unedig. Cofnodai'r papur newyddion am Gymru ac am y Cymry yn America. Ymhlith ei olygyddion bu Thomas B. Morris (Gwyneddfardd). Yn 1865 prynwyd y papur gan John Mather Jones (1826-1874), ac yna fe'i unwyd â 'Baner America' i ffurfio 'Y Drych a Baner America'. Teitlau cysylltiol: Drych a'r Gwyliedydd (1855-1857); Drych a Baner America (1877-1890).
(1,431 rhyfin ar gael)
Allwedd:
Dyddiad â rhifyn unigol Dyddiad â nifer o rifynnau