Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AN INTERESTING ADVERTISEMENT.

TESTIMONIAL FROM THE GREAT…

BARDDONIAETH. I-I

AT EGLWYSI CYMREIG BARRI A'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT EGLWYSI CYMREIG BARRI A'R CYLCH. MR. GOL.Caniatewch ofod fechan o'ch papyr rhagorol i mi ddweyd gair mewn perthynas i gynyg "W.P." ac S.J. sef cael cyfarfodydd gweddio undebol rhwng pobl ieuainc y lie. Y mae yn bosibl fod W.P." wedi meddwl ac wedi cynyg llawer cynllun yn ystod ei fywyd, ond nid yw yn debyg ei fod wedi esgor ar un cynllun a fyddai yn fwy o fendith i'r byd na hwn, a chredaf pe dygid ei gynllun i weithrediad gydag ymdrech a phen- derfyniad, na fyddai yn rhaid dy?gwyl yn hir cyn y gwelid agwedd mwy llewyrchus ar achos Mab Duw drwy'r wlad. Dywed y Salmydd fod pob duwiol yn gweddio ar Dduw yn yr amser y'th geffir," ac fe welir yn amlwg fod hyn yn nodweddu pobl Dduw drwy bob oes o'r byd ïe, dyna'r nod wedd gwahaniaethol rhwng plant Duw a phlant dynion, rhwng etrlwye Dduw a'r byd ac enbyd yw fod y nodweddiad arbenig yma yn myn'd yn gyflym i blith y pethau a fu" yn Nghymru y dyddiau presenol. Cwyna llawer fod yr hen >^men" a'r "Dioleh Iddo" wedi myn'd allan o'r wlad. Na, y maent mor fyw ag erioed yn y wlad eto, ond yn unig eu bod wedi newid ycbydig ar eu hiaith a'u lleoedd. Yn lie bod yn Amen a Diolch Iddo mewn cyfarfod- ydd pregethu, cyfarfodydd gweddio, a chyfeilachau crefyddol, y maent yn "encore ac hear, hear," mewn eisteddfodau, cyngherddau, theatres, &c., a chyn sicred ag fod yr hen Amen wedi ei llyncu ymaith gan y pethau yma y llyncir holl gyfarfod- ydd Seion ganddynt hefyd 08 na wna yr eglwyei ddeffroi a chodi liaw yn eu herbyn, yn lie eu cefnogi. Os myn yr eglwysi glirio dyled eu haddoldai (yn hytrach na ch/nal eisteddfodau a chyngherddan), cymerer at gynllun W.P. fel y byddo iddynt blanu gras a chariad tuag at Fab Daw yn nghalonau pechaduriaid, a pha le bynag y byddo cariad tuag at Ieeu Grist, pa beth wnant er ei fwyn Ef ni fydd hyd yn oed dyled eu haddoldai yn faich iddynt a mwy na hyny, deuant a llu aneirif o bechaduriaid i afael y oadw tragwyddol. Golygfa druenus yw gweled pobl ieuainc Cymru-y wlad uchaf ei breintiau dan haul-wedi myned, bron yn ddieithriad, yn ddigon difraw a chalongaled. drwy arferien llygredig yr oes, fel nas medrant blygu i ddiolch i Dad y rrugareddau am Ei ddoniau tuag atynt, nac ychwaith ofyn Iddo am faddenant o'u pechodau iie, gwynebant angen, gwynebant farn, gwynebant y llu lie nad oes ond wylofain a rhync- ian danedd, mor ddifraw ag y rhuthra march i'r frwydr. Seion Duw, pa hyd cysgu ? Pa bryd y deui mewn teimlad ag ysbryd i ofyn am i'r Arglwydd dy ddeffro, ac estyn allan ei fraich yn y dyddiau marwaidd yma ?—X.Y.Z.

Y PWYLLGOR LLENYDDOL CYMREIG.

STEAMER ON FIRE AT BARRY DOCK.

Advertising

IFANCY DRESS FOOTBALL :MATCH…

BARRY PUBLIC LIBRARIES' COMMITTEE.…

rHE NOTORIOUS GUERET-STREET…

"IT TOUCHES TTIE SPOT."