Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. HOMO DDU.—Mae eich liythyr yn rhy faith, person- ol, ac anfonedtligaidd i ymddangos yn ein cnlofnau. Os gallwch ysgrifenu liythyr byr, at Y. pwrpas, ac mewn iaith deilwng, caiff ym- ddangcs, ond nid heb hyny, H. REES.-Nid ydym yn bysbys o address presenol Cuhelyn. TALIADAU. J.W., Castell Nedd; H. D., Whitland H. W., Pontvberem D. M., Cwmtwrcb; R. B. Tongwyu- las M. E., Merthyr; J. J., Swansea; W. W., Bryndu E. E., Cym. er; D. R., Maesteg.
[No title]
Cyteirier y GOHEBIAETHAU, a'r ADOLYGIADAU—"To the Editor of the Gwladgarwr, Canon-street, Aberdare." Pot. Archebion a Thaliadau i'w gwneyd i Walter Lioyd, Gwladearwr Office, Aberdare. '0-
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN LLANDUDNO. Y mae adeg cynhaliad yr Eisteddfod yn Llan- dudno wedi cael ei rifo at y pethau a fu. Bu llawer o ddyfalu a darogan am ei thynged; ond bellach, y mae ei helynt yn hysbys i'r cyhoedd, ac yn agored i feirniadaeth y Wasg a'r werin Gymreig. Y mae yn flin genym orfod dyweyd mai Eisteddfod Llandudno oedd y gwaelaf o'r pedair a ymgyfenwent yn Genedlaethol; ond eto ni chawsem ein siomi, gan ein bod wedi amlygu ein barn yn flaenorol mai felly y buasai. Pa fodd y gallesid dysgwyl cynulliad lluosog, a chystad- leuaeth dda," tra yr oedd y pwyllgor yn ymatal ,rhag cyhoeddi y testynau yn newyddiaduron y Dywysogaeth. Ni chyboeddwyd amseriad yr Eisteddfod yn nghymaint ag un o bapyrau y Deheubarth; ac ni ddygwyddodd i ni hefyd weled hysbysleni o honi ar barwydydd ein trefydd a'n pentrefydd, y tu ymR i diroedd ~yJGugledd. Pa eisteddfod leol a welwyd heb fod rhyw fath o gor yn cystadlu ynddi ar y prif destynau cerdd- orol ? Oud wele ein Heisteddfod Genedlaethol am 1864, heb gymaint ag un cor o Gaerdydd i Gaergybi, nag unrhyw wlad pa bynag yn cystad- lu ar ei thestynau. Onid oedd yn rhaid fod rhyw ddiffyg mawr yn nghynlluniau Y Cynghor,' cyn y gallasai y fath fethiant cywilyddus fod yn y gystadleuaeth gerddorol. Y mae y fath fethiant digyffelyb yn warth i enw y pwyllgor a gynllun- iodd yr Eisteddfod. Bu y cynllunwyr yn dra doeth debygent, wrth roddi y fath nifer o'i thes- tynau yn rhydd i gyfansoddi arnynt yn Gymraeg neu Seisneg; ond yn hyn y cawsant eu siomi, canys nid yw y wlad (y tu hwn na'r tu draw i'r Hatren) yn hoff o Ddic Shon Dafyddiaeth. Cred- wn fod eisiau diwygiad trwyadl yn y Cynghor,' ac ysgatfydd fod yn rhaid ei draws-ffurfio i'r elfen Gymreig a gwladgarol, cyn y gellir dysgwyl llwyddiant ei gynllunion. Rhaid i'r Cynghor hwn, fel eiddo y blaenaf yn y Wladwriaeth Bry- deinig, ymostwng i lais y wlad,' ac nid dilyn ei fympwyon ei hun. Ni theimlai y beirdd na'r traethodwyr lawer o ddyddordeb yn yr Eisteddfod eleni, gan mai pur ychydig o honynt oedd yn y gystadleuaeth; a chlywsom nad oedd neb o benaethiaid beirdd y Deheubarth yn cystadlu ar y testynau barddol. Carem gael diwygiad, ac i'r Eisteddfod fawr bar- hau, a dyfod yn wir. Genedlaethol. N a feithriner ysbryd plaid yn hwy, ond deued y Gogledd a'r Deheu" yn un mewn gwi,rionedd. Os ydyw y Gogledd yn rbagori mewn un peth, mae'r Deheu rhagori mewn peth arall; ac erbyn mesur a maintioli y ddwy ochr mewn cyfiawnder, credwn fod eu rhagoriaethau yn gyfartal. Beth am Eisteddfod Aberystwyth y flwyddyn nesaf? A. ydyw yr Aberystwythiaid wedi cy- meryd rhybudd oddiwrth ddiffygion Eisteddfod Llandudno, gan benderfynu gwneud ymdrech egniol i gael Eisteddfod anrhydeddus a phoblog- aidd, ac a fyddo yn ateb i'r enw CenecUaethol. Bydded iddynt gyhoeddi y testynau yn union- gyrchiol fel y caffo y llenorion a'r cerddorion amser digonol i gyfansoddi arnynt.
NODIADAU YR WYTHNOS.
NODIADAU YR WYTHNOS. Y mae adroddiad Bwrdd Masnach am fis Gor- phenaf diweddaf yn awr wedi ei gyhoeddi, ac y mae eto yn hynod o ffafriol mewn perthynas i werth yr allforion. Yn mis Gorphenaf diweddaf yr oedd gwerth yr allforion yn £ 14,394,364,- yn erbyn.613,648,840 yn yrun mis yn 1864; ac am y saith mis cyntaf o'r flwyddyn yr oeddynt yn £ 92,441,950, yn erbyn £87,663,007 yn yr adeg gyferbyniel yn 1863. Y mae y gwlawogydd hyfryd sydd wedi disgyn wedi cydyrchu effaith ddaionus, er yr achwynir eto yn gyffredin yn herwydd pringder porthiant ar y meusydd. Dywedir fod y drydedd ran o bedair, o leiaf, o gynyrch y cynauaf wedi ei gael i mewn mewn cyflwr rhagorol, a thybir y ceir y gweddill yn fuan iawn. Deallwn oddiwrth wa- hanol adroddiadau fod y cnwi gwenith ar diroedd trwm yn fwy nag arferol, ond ychydig yn llai ar diroedd yngafn. Addefa y melinyddion hefyd yn gyffredia fod y gwenith newydd yn cynyrchu mwy o flawd na'r gwenith a dyfwyd y flwyddyn ddiweddaf, fel nad oes un lie i ddysgwyl codiad yn y prisiau. Dywedir fod cryn lawer o hen yd eto ar law, llawer mwy nag mewn blynydd- oedd cyffredin, ac hefyd lawer o gynyrchion tra- mor. Dengys fod y cnwd haidd yn troi allan yn dda, yn llawer gwell nag yr oeddid yn dysgwyl. Yr ydys yn parhau i dderbyn adroddiadau ffafriol am y cnwd cloron, ac nad oes un arwydd o af- iechyd arnynt. Marwaidd oedd y fasnach mewn gwenith yn Llundain ddydd Llun diweddaf, am brisiau y dydd Llun blaenorol. Ni werthwyd ond ychydig o wenith yn mhrif farchnadoedd y Cyfandir. Modd bynag^cadwyd y prisiau i fyny yn dda. Heddyw (dydd Sadwrn) cyflawnir y'ddefod o ddadenhuddo cofadail y diweddar Syr George Cornwall Lewis, aelod seneddol dros sir Faesyfed, pryd y dysgwylir i Arglwydd Palmerstone fod yn bresenol. Cyrhaedda i Henffordd bore Gwener- dydd cyntaf Gwyl Gerddorol Henffordd, a dys- gwylir y bydd yb bresenol yn yr eglwys gadeiriol pan genir y Messiah. Y mae heddwch eto wedi ei adferu i Belfast. Parhaodd y terfysg rhwng y ddwy blaid am yn agos i wythnos. Y mae yn anhawdd dyweyd pa un ai yr Oreinwyr ai ynte y Pabyddion oedd yn y bai. Dywedir i amryw gael eu lladd yn ystod y terfysg, heblaw Uuoedd wedi eu clwyfo.
Y CLWYFEDIGION YN EKEDERICKSBURG
Y CLWYFEDIGION YN EKEDERICKSBURG Pymtheng mil wedi eu clwyfo yn heolydd Fredericksburg! Pymtheng mil o'n cydwlad- wyr yn cael eu mathru, eu rhwygo, yn gwaedu, ac wedi eu bwrw ar draws eu gilydd yn heolydd agored Fredericksburg, heb gynorthwy, heb loch- es, yn marw o eisiau ymgeledd briodol. Wedi eu dodi mor agos i'w gilydd ar y palmentydd, fel nad all y gwleidyddion fyned drwy y ddinas, rhag, bydded. iddynt droedio mor ysgafn ag y gallont, iddynt fathru ar y trueiniaid drylliedig! Fel yna y mae y bryslythyrau ym. dyweyd. Y fath gyfrolau o ddychrynfaoedd sydd yn yr hanes- yn byr hwn! Pymtheng mil! A ydyw y dar- llenydd yn gallu dirnad pa nifer ydyw hyny ? Anfynych yr ydym yn gweled cynifer a hyn wedi ymgynull yn ein cyfarfodydd mawr mwyaf. Byddwn yn eu gweled y pryd hwnw yn fyw, heb eu harcholli, yn llawn ysbryd, ac yn llawn o iechyd a grym. Eto, y mae gweled cynifer o bersonau yn nghyd hyd yn nod y pryd hwnw yn rhoddi ystyriaeth ddifrifol. Meddylier am y fath ymgynulliad wedi eu dodi i orwedd ar y ddaear drwy ryw offeryn erchyll o ddystryw. Edrycher arnynt wedi ymestyn ar y llawr caled, yn ym- nyddu mewn ing, yn cael eu poeni gan syched, y gwaed tew yn tarddu allan o'u clwyfau na chawsant eu trwsio, a phob mynyd y rhwnc marwol yn cael ei glywed, a chorff yn mhlith y rhai byw. Ac 0 gynifer o galonau eynes sydd yn gofidio yn achos y pymtheng mil mewn petrusder! Gynifer o gartrefleoedd a wneir yn anghyfanedd, fel y byddo i'r naill ar ol y llall drengu! Pa sawl mam, gwraig, a chwaer, a ddeuent yn frysiog i heolydd gwaedlyd Freder- icksburg, i weinyddu i ryw fab, gwr, neu frawd clwyfedig, neu i gau ei lygaid yn angau! Eto, y maent yn gorwedd yno yn bendramwn- wgl, fel y byddwn ni yn pentyru pysgod o'r rhwyd, yr haul poeth yn llewyrchu arnynt, neu awel ocheneidiol y nos yn canu cnul i'r rhai a fuont feirw, ac yn dwyh ar gof i'r rhai sydd yn marw, leisiau hyfryd eu cartrefleoedd. A dyna rhyfel. A thrwy y dychrynfaoedd byn y mae dynion yn eu cynddaredd yn gobeithio i asio rhwymyn toredig cyiad.
[No title]
ABERDAn.-Bu.,rd(i lechyd.-Da genym ddeall mai y boneddigipn a etholwyd trwy fwyafrif y pleidleis- iau, i wasanaethu yn y Bwrdd uchod yn ein plith eleni, ydyw y personau canlynol :-Mr. William Powel!, Hirwaun Mr. David Richards, Aberdar, Mr. Rees Williams, Cefnpenar; a Mr. Morgan Edwards, Aberaman. ABERDAR.— Cyngerdd Miss Watts.-Nos Iau di- weddaf, Medi laf, yn y Neuadd Ddirwestol, cynal.. iwyd cyngerdd ardderchog, elw yr hon oedd i fyned at drysorfa addysgol Miss Watts. Cymerwyd rhaa ynddi gan Miss Watts ei hun, Miss Edith Wynn, Llundain; Mr. Lewis Thomas, Llundain; Dr. Den- ning, Mr. G. A. Davies, Mr. G. F. Davies, a Mr. W. H. Lewis. Y mae nodi yr enwau uchod yn well ar- ddangosiad o'r hyn ydoedd y gyngerdd nac unrhyw sylwadau a allein ni eu gwneud. Yr oedd y cynull- iad yn lluosog a boneddigaidd, a phawb yn ymddang- os wrtb eu bodd yn ystod yr holl gyngerdd. Arwein- ydd,—Mr. D. Rosser. MERTHYR.—Iforiaeth.—Dydd LInn, Awst y 29airt cynaliodd cyfrinfaoedd dosbarth Merthyr en cylch- wyl pum mlwyddol. Dechreuwyd yr orymdaith am haner awr wedi deg o'r gloch, gan gyfrinfa Gwen- ynen Penydarren,' yn cael ei harwain gan seindorf pres Corfflu Merthyr. Galwyd heibio i holl gyfrin- faoedd Merthyr, ac wedi casglu y cwbl at eu gilydd, sef pedair ar ddeg o gyfrinfaoedd, a'r brodyr oil wedi gwisgo eu gwisgoedd priodol, gorymdeithiwyd o Ferthyr i lawr i Abercanaid, i ymofyn cyfrinfa Hhys ab Tewdwr.' Dyna yr orymdaith yn^gyfiawH, a thyna olygfa ysblenydd. Ni welwyd yn Merthyr er ys blynyddau y fath orymdaith-dros naw cant o frodyr, yn gwneud i fvny bymtheg cyfrinfa, a'r rhai hyn yn chwifio eu banerau, ac yn dwyn ugeiniau o bob math o deyrnolion yn eu dwylaw, nes oedd pawb yn synu wrth yr olygfa ardderchog. Wedi gorym- deithio drwy brif heolydd y dref, cychwynwyd i dalu ymweliad a'r boneddigion canlynol-Dd. Davies, T. Williams, Palas Penydarren Parch J. Griffiths, Rector a J. D. Thomas, Gwaelod y Garth, i'r dyben o gyflwyno iddynt yr anerchiadau penigamp oedd wedi eu parotoi gan John Garnon a Dd. Llewelyn, cyalywyddion yr Adran, y rhai a dderbyniwyd gan- ddynt gyda llawenydd a diolchgarwch. Gan nad oedd Mr J. D. Thomas gartref, anrhegodd ei fonedd- iges haelfrydig, Mrs Thomas, y Gymdeithas Iforaidd a'r swm o ddau benadur, y rhai a dderbyniwyd gyda banllefau o ddiolchgarwcb. Dychwelwyd oddiyno, a gosodwyd pob cyfrinfa yn eu lleoedd priodol, i'r dy- ben iddynt fwynhau o'r gwahanol ddisgleidiau oedd wedi eu parotoi gan y gwahanol westywyr. Yna wedi i bawb gael eu digoni o'r dantaithion oedd wedi eu parotoi ar eu cyfer, cynaliwyd cyfarfodydd i'r dyben o areithio, canu, &c. Ymadawodd pawb yn brydlon, wedi eu llwyr boddloni, gan ddymuno cael y fath gyfarfodydd eto.-J. B. [Caiff yr anerchiad i Mri D. Davies a T. Williams, ymddangos yn ein nesaf.]
[No title]
DIENYDDIO.—Cymerodd dienyddiad le boreu dydd Sadwrn diweddaf yn Gloucester. Yr hwn a grogwyd ydoedd un Lewis Gough, yr hwn a gafwyd yn euog o lofruddio hen wraig o'r enw Mary Carthorys, yn Rudgway, ger Bristol. Yr oedd oddeutu deug mil o bersonau yn bresenol.
ESGORODD,—
ESGORODD,— Awst 31, 1864, priod Mr. D. Evans, o'r Swyddfa hon, ar Ferch. Y mae y fvdwraig a'i derbyniodd i'r byd, wedi derbyn 877 o blant o'i blaen hi. Hir oes a fo i'r eneth dlos, Oes lawn o bob daioni; A bydded iddi fod, os byw, Yn un i ganlyn lesu.'
PRIODWYD,—
PRIODWYD,— Awst 30, yn Nghaerdydd, Captain Wostor, a Miss Hano- vell, o'r un lie. Byd o hedd a bywyd addas-iddynt. Ac heddwch mewn urddas Ac hyd fedd baed rhyfedd ras, I adwaen ei hoft briodas. Caerdydd. TIPOKTIIB.
BU FARW,— .
BU FARW,— Awst 19, mewn cantyniad i niwaid a dderbyniodd trwy danchwa yn mbwli glo No. 9, Abernant, Aberdar, Mr. Thomas Adams, yr hwn oedd yn Gristion, dysglaer, ac yn ddiacon parchus yn Eglwys Siloa, Aberdar. Dyn gwrol buddiol tra bu-eyma, Oedd Thomas anwylgu Yn Sion wr cyfion cu, Yn rasol filwr Iesu. O Thomas fe aetb ymaitli,—ei enaid Anwvl yn llawn gobaith,; Ef, ar ol daearol daith, A fola mewn Nef eilwaith. Ar ei ol yn hir wyla,—hen frodyr Unfrydol, Siloa; Wrth weled y golled ga, Gwir achos Y Gorucha'^ Gabw Ctk«»X.