Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y DDAEARGRYN YN PERU AC ECUADOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DDAEARGRYN YN PERU AC ECUADOR. UGAIN MIL 0 BERSONAU WEDI EU COLLI. Yr unig beth amheus yn nghylch y ddaeargryn ofnadwy sydd wedi cymeryd He yn yr America Ddeheuol, ydyw cywir- deb yr adroddiadau o barthed i nifer y rhai a gollasant eu bywydau a gwerth y meddianau a ddinystriwyd. Nid ydym yn dysgwyl, erbyn cael y manylion yn berffaith, y bydd y bywydau a gollwyd dros 20,000; ond, ac edrych ami yn y lliw goreu, y mae yr alanus yn arswydlawn. Nid ydyw daeargrynfaau yn y parthau hyny yn bethau dyeithr iawn. Iquique ydyw un o'r trefydd a nodir fel wedi ei dinystrio; Arequipa sydd ddinas arall y dywedir sydd wedi ei gwneud yn garnedd, yr hon a orwedd yn nghanolbarth Peru, wrth droed llosg-fynydd Andeaidd o'r un enw, ac a dafla allan fwg a than o'i ben yn barhaus. Deallwn fod Lima a Callao wedi dianc y tro hwn, er fod y ddwy dref wedi dyoddef yn fawr droion o'r blaen, ac yn awr hefyd yn nghymydogaeth y di- nystr. Yn 1746, gorlifiwyd Callao gan un o'r tonau arswydus a ganlyna ymgodiad daearol tanforawl, a bemir i 5,000 o bjr- sonau gael eu colli ar yr adeg. Ar yr adeg presenol daeth y don dros y rhanau isaf o'r dref, a ffodd lluaws o'r trigolion i'r uchel- diroedd. Y mae yn debyg mai yn nghy- mydogaeth Ecuador y teimlwyd y ddaear- gryn drymaf, yr hwn ydyw un o'r lleoedd prydferthaf ar wyneb y ddaear. Y mae y dref Ibarra, yr hon y dywedir sydd wedi ei dinystrio, yn gorwedd wrth droed y llosg- fynydd Imbambura, ac yn cynwys rhyw 15,000 o drigolion. Nid yw yn mhell o Tacunga, yr hon a ddinystriwyd gymaint a phedair o weithiau yn ystod a ganrif di- weddaf gan ddaeargrynfaau. Y mae y wlad hon yn gwneud masnach eang a'r trefydd sydd wedi eu dinystrio, ac y mae yn debyg fod llawer o deuluoedd o'r wlad hon wedi dyoddef ar yr adeg bresenol.

MALTA-DAMWAIN ALARUS.

Y RHYFEL YN BRAZILS.I

AMERICA.

FFRAINC.I

ETHOLIAD SIR ABERTEIFI.

CYFARFODYDD MR. HENRY RICHARD.

EISTEDDFOD LLANELLI.!

Advertising