Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWXEIDYDDOL…

MADOG LLWYD.

YR YSGOL FARDDOL.

LLOFFION 0 LANELLI.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION 0 LANELLI. Fe ddywed yr Apostol y deuai amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf — y byddai dynion a'u serch arnynt eu hunain-yn waed- wyllt-yn fradwyr-yn annuwiol—yn bob peth yn mron, ond yr hyn sy dda. Mewn ystyr a chyfnod politicaidd, y mae y dyddiau wedi dyfod. Y mae dynion ffolion, Rhydd- frydig a Thoryaidd, yn ymffyrnigo, yn gyn- ddeiriogwyllt-yn cael eu cario yn mbell gan y llanw presenol. Gobeithio na fydd ewin yn ol pan ddaw y llanw yn ei ol! Bydd hyny tua'r mis nesaf. Y mae y llanw etholiadol yn tynu at ei bwynt yn gyflym. Gwneir pob ymdrech gan y gwahanol bleidiau i gario'r dydd-i gael y maen i'r wal ac i waeddu buddugoliaeth oddiar ben y twr Eithaf da, mawr les i galon pob un o'r ddwy blaid, ond gwneuthur hyny yn onest, diduedd, a theg. 'Does neb i'w feio am ymroi ati hyd eithaf ei allu, ac i gario'r dydd; ond fel y mae'n resyn meddwl, fod yr orfodaeth yn adfywio. O yr hen alanas a'r sgriw, yr un egwyddor a'r stanc a'r ffagodau-yr un amseroedd ag amseroedd Mari, oni bai am Ymneillduaeth hen Walia Wen Boed a fo, nid oes raid ofni y cyfryw ddyddiau yn Nghymru mwy, onide darfyddai am Gladstone y fory nesaf! Y mae y boneddwr hwnw wedi tynu y giwed am ei ben, ac oni bai am gyfryngiad rhagluniaethol, darfyddai am dano yn ddiseremoni Taenir y celwyddau mwyaf dilun am dano gan ei wrthwynebwyr yn mhob dull a modd, er mwyn llesteirio ei ddylanwad, ond, os bydd a fyno rhagluniaeth a llywyddu, neu gyfiyngu yn ei ameanion, fe saif er gwaethaf y rhv- ferthwv! J Er mwyn miloedd darllenwyr y GWLAD- GARWR, ni a roddwn ychydig fleithiau mewn cysylltiad a'r EGLWYS WYDDELIG, am ddy- noethi pa un, y tynodd Gladstone y fintai yn ei ben. Wele ychydig:— I. Pan gymerwyd cyfrif y boblogaeth yn yr Iwerddon yn 1861, nid oedd ond 693,357 yn unig o bobl yn perthyn i'r Eglwyø Sefydledig, tra yr oedd 595,345 yn perthyn i Ymneillduwyr ProteB- tanaidd, a thros bedair miliwn a haner (4,505,265) yn Babyddion. Gan hyny, o bob wyth person nid