Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD Y BEIRDD YN MLAEN-LLECHAU.
CYFARFOD Y BEIRDD YN MLAEN- LLECHAU. Mr. Gol.—Lie hynod o ramantus a bardd- onol ydyw Blaenllechau. Y mae natur wedi goaod ei addurniadau yn lluosog yno, ac felly nid rhyfedd fod blaenoriaid y lie wedi pender- fynn cael Eisteddfod yno. Clywais mai Mr. Jones, Glynrhedynog Inn, fu yn gychwynydd iddi, a bu hefyd yn ddiwyd iawn yn dwyn yr oil oddiamgyleh yn drefnus ac i bwrpas. Yr oedd Mr. Davis, perchenog y lofa, a Mr. Bed- dlington, yn y cyfarfod cyntaf. Dewisiwyd Mr. Davis i'r gadair, a dangosodd y ddau fon. eddwr eu cymeradaeth i'r Eisteddfod trwy eu rhoddion haelfrydig i'r cystadleuwyr buddu- gol. Nis gallwn lai na nodi yma am deim- lad politicaidd Mr. Davis, trwy iddo roddi Dydd yr Etholiad yn destyn araeth ddify- fyr. Dangosodd yn ei nodiadau ei fod a'i holl galon gyda'r etholiad, a'i fod am roddi cyfle i bawb oeddynt wedi dyfod yno o Ferthyr ac Aberdar i bleidleisio dios Mr. Richard, ac hefyd awgrymodd ar seiliau da fod dychweliad Mr. Richard yn dra sicr. Yr oedd Mr. D. Rees hefyd yn llywyddu yn fedrus yn yr hwyr, a gwelid Dr. Roberts, (Rhiwenydd), ar yr esgynlawr mor ddiwyd a neb, a'i wyneb siriol a ddangosai ei fod yn gyflawn wrth ei fodd. Gwnaeth Nathan Dyfed a Charadoc hefyd eu rhan yn ganmoladwy fel beirniaid, ac yr oedd yn lion genyf fi ac ereill weled Nathan Dyfed yno, o herwydd y mae yn dreat ei weled ef mewn Eisteddfod. Terfynodd yr Eisteddfod yn heddychol a chysurus, ac i'w chanlyn cawsom gyfarfod y beirdd. Cynygiwyd gan Creidiol fod Mr. Jenkin Evans, ysgrifenydd yr Eisteddfod, i gymeryd y gadair, a Mabonwyson i fod yn gofnodydd. Gan fod hanes cyfarfod o'r un natur a gynaliwyd yn Tonypandy wedi ym- ddangos, afreidiol ydyw egluro ei amcan. Siaradwyd yno yn bwrpasol ar ddiwygiad Eisteddfodol, a phethau ereill, gan Creidiol, Mabonwyson, Meudwy Glan Elai, Nathan Dyfed, ac ereill, a chafodd y brodyr canlynol lenenwau :—James James, (Llech Alaw); Henry Hughes, (Llech Ofydd); Ebenezer Moses, (Alaw Ddifyr): John Howells, (Gwawr Alaw); David James, (Hydnwy) Gwilym Thomas, (Llwynog Coch); Dr. Roberts, (Rhiw- enydd) John Thomas, (Alaw Aman.) Pen- derfynwyd hefyd i ofyn yn enw y cyfarfod, i'r hwn a arddelwa ei hun yn Cyfelach, am roddi ei enw priodol a lie ei breswylfod yn hysbys trwy y GWLADGARWR, gan yr ystyrir y bydd hyny yn foneddigaidd, am ei fod yn maentumio iddo arddel yr enw cyn yma, a'i fod yn penderfynu gwneud eto, a neb yn y cyfarfod yn gwybod fod yr enw wedi ei ddef- nyddio o'r blaen. Yn ystod y cyfarfod daeth William Morgan (gynt o Mountain Ash), yn mlaen, ac adroddodd y llinellau canlynol gyda y fath deimlad, nes peri i bawb yn unfrydol ddymuno eu gweled yn argraffedig :— teimlo fy hun mewn dyled i bob bardd, O'i enau ef y iaith Gymraeg a dardd; A thrwyddo ef ymgeledd hefyd ga, Tra byddo hwn nid marw byth a wna." Yr eiddoch, &c., M.
LLYTHYR AT MR E. DAVIES, HIRWAUN,…
LLYTHYR AT MR E. DAVIES, HIR- WAUN, ABERDAR, 0 AMERICA. Arena, Wisconsin, MedilIO. Anwyl hen gyfaill,—Adda wais ysgrifenu atoch yn fynych, ond ar ol rhyw ddwy| fivn- edd o ddystawrwydd, wele fi yn anfon gair. Yr wyf yn clywed oddi cartref ryn fynych. Claddwyd fy nhri brawd o fewn y deuddeg mis diweddaf-David yn sir Feir- ionydd, John gartref yn Taliesin, a Richard yn Llundain ychydig wythnosau yn ol felly chwi welwch fod newyddion trymion wedi fy nghyraedd o Gymru. Ni chefais ond ychydig gymdeithas a brod- t,Y yr Cymreig o Fedyddwyr er pan yn y wlad. Nid oes yn y aalaeth hon ond 7 o eglwysi bychain, ac nid yw yr holl aelodau yn rhifo ond 213, er fod canoedd o Gymry yn gymysg- edig a'r Eglwysi Saesonig. Bum ar ymwel- iadau trwy y rhan fwyaf o sefydliadau Cy- mreig y Dalaeth hon. Areithiais lawer, ac nis gallaf ddesgrifio y croesaw a gefais gan bob enwad, yn mhob cymydogaeth, a theulu. Gallaf eich hysbysu gyfaill fy mod yn cael iechyd rhagorol—yn teimlo yn ddedwydd, a'm bod yn fachgen da a diwyd iawn. Dichon y dysgwyliwch wybod pa beth yw iy helyntion masnachol. Yr wyf yn pastio'r nodyn hwn a dorais o'r Dodgville Chronicle, yn fy llythyr, yr hwn a eglura i chwi an- sawdd fy anturiaethau newyddion We would call the attenton of our readers to the card of E. Morddal Evans, Photographic Ar- tist of Arena Wis., Mr Evans is a cultivated gentleman and a scholar, and from specimen of his work on exhibition, we should say that Arena is highly favored by having such an accomplished artist make it his permanent abode." Bum yn gweithio yn ddiwyd ar fy adeilad y misoedd diweddaf. Prynais ddarn o dir yn y dref hon wythnos yn ol, ac yr wyf yn de- chreu adeiladu furniture store shop. Y mae genyf lond fy meddwl a'm dwylaw o waith. Bydd i mi ateb eich llythyrau o hyn allan. Esgusodwch frys a byrdra fy llythyr, a chof- iwch fi at fy holl gyfeillion. Cewch lawer o helyntion y wlad yn fuan fuan. Yr eiddoch byth, MORDDAL.
LLYTHYR O'R AMERICA.
LLYTHYR O'R AMERICA. Niles, Trnmbull County, Ohio, North America. Medi 5ed, 1868. Fy Anwyl Gyfaill,—Gwn fod dy amynedd wedi cael ei pherffaith waith yn ei harosiad cyhyd am lythyr oddiwrthyf yn ol fy addewid wrthyt cyn ymadael oddiyna; ond pe gwy- buaist yr oil, y mae yn debyg y maddeuet i mi am fy hwyrfrydigrwydd, a dywed mai "gwell hwyr na hwyrach." Nid annerbyniol feallai fydd genyt gael ychydig o'm hanes yn y wlad fawr, ffrwythlawn, a chyfoethog y Gorllewin. Bydd hyny yn fwy dyddorol i ti na phe bawn yn ysgrifenu hanes fy nhaith, fel yr addewais eto, bydd i mi wneud rhai crybwyllion am fy nhaith, er addysg a chyfar- wyddyd i ti pan fyddot (?) yn ymgymeryd a'r daith hiriaith hon." Pan ymadawais o Ferthyr, Mai 25, y pryd hwnw yr ymadawais am y waith gyntaf erioed a fy mhriod a'm plant, fy rhieni a'm chwior- ydd, heblaw llu o gyfeillion hoff a mynwesol. Pan cychwynais, nid oedd genyf yr un cyfaill yn gwmpeini i mi, a phan glaniais, rid oedd genvf yr un car yn fy nysgwyl i'm croesawu. Y diweddaf o bobl Merthyr a welais oedd Mrs Jones, y Gweydd, Pontmorlais, yn Sta- tion Troedyrhiw dywed wrthi pan weli di hi, fy mod i yn ddiolchgar iawn iddi am ei chyngor caredig a duwiol, ac fy mod yn pen- derfynu gwneud fel y dy wedai. Gelli ddweyd wrtni hefyd, os bydd hyny o ryw gysur neu foddhad iddi, y bydd i mi gofio am dani hi a'i chynghor tra fyddwyf byw. Fy nymun- iad ar ei rhan yw, na chwythed yr un awel groes ar ei phenwynu-na fyddo iddi ddiffygio nes cyrhaedd glan yr afon, a chael ymwybodol- rwydd fod yno un yn ei chyfarfod, a chaffael o honi fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd. Cyrhaeddais Liverpool tua 5 o'r gloch yn y prydnawn. Yr oedd Mr Elias Jones ar y landing stage yn aros pwy bynag oedd yn bwriadu rhoddi eu gofal iddo a chan mai i'w dy ef yr oeddwn wedi penderfynu myned, ac mai efe a'r Cymro Gwyllt gawsai fod fy nghyfarwyddwyr tra yr aroswn yn er -w yr oeddwn yn falch iawn i'w weled. Nis gall- aswn beidio chwerthin er cymaint o ofid oedd amaf ar y landing stage, wrth weled bachgen o Gymro yn rhedeg ar ol y dyn sydd gyda Mr Jones yn gofalu am y boxes. Y mae yn debyg ei fod yn credu mai un o sharpers L'erpwl yd- oedd, a'i fod yn cymeryd benthyg ei fox pan welodd ef, yr oedd ar y ffordd i'r lan o'r stage: ond nid hir y bu cyn ei ddal, ac ni chawsai fyned o'i afael er eymaint o ddawn oedd gan- ddo i resymu ei onestrwydd, oni bai i Elias Jones fyned i gyfryngu rhyngddynt. Ni fuaswn yn gweled hyn yn werth i'w gofnodi, oni bai fod a fynwyf a'r person hwn eto cyn diwedd fy llythyr. Yn nhy Mri Jones y noson hono, y cyfar- fyddais a daethum i adnabyddiaeth a thri o Gymry, pa rai fel fy hunan, oedd ar y ffordd i America. Agerbeirianwr oedd un o honynt, o'r enw Evan Jones, o Tondu. Colier o Mountainash oedd y llall, a'i enw Edmund Williams, a bachgen o Abercarn, sir Fynwy, oedd yr un arall. Dan Hughes oedd ei enw, genedigol o sir Aberteifi, gerllaw (os da 'rwyf yn cofio) Aberaeron. Bu yn Ngholeg Caer- fyrddin yr un amser a D. Edwards. Yr oedd yn ysgolhaig da, yn gyfaill cywir a dirodres- siaradwr difyrus a didaw, ac yn bur hoff o feirdd a barddoniaeth Gymreig, ac yn bardd- oni ei hunan rai prydiau, fel bu gweitha'r modd iddo cyn hyn. Yr oeddem ni ein pedwar gyda'n gilydd o hyn i ddiwedd y daith,-yr hyn oedd yn eiddo i un, yr oedd yn eiddo y lleill; a pha le bynag y buasai un o honom, yno mae yn debyg y buasem oil. Yr oeddem yn bwyta ac yn cysgu gyda'n gilydd o'r pryd hwn hyd nes yr ymadawsom a'n gilydd yn y wlad eang hon. Nid oedd yr un o honom wedi danfon dim arian o'n blaenau; yr oeddem ni wedi bod yn siarad a'r Cymro Gwyllt yn Aberdar, ac yr oedd yn dweyd mai saith gini oedd y pris gyda'r City of Boston, (Inman Line); ond os buaswn ni yn anfon arian yn mlaen, ac i'r pris ostwng, y cawswn ni y fantais. Chwareu teg i'r Cymro, deliodd yn onest a a mi, ac yr oedd wedi dyfod i lawr y pryd hwnw erbyn Eisteddfod fawr Aberdar. Clyw- ais yn L'erpwl fod ganddo rai cyfansoddiadau i mewn. Beth fu eu tynged, nis gwn. Y newydd gyntaf a glywais wedi cyrhaedd L'er- pwl, ydoedd fod y pris wedi gostwng gini ych- ydig fynydau cyn hyny; felly chwe' gini gaw- som ni dalu, ond codasant y pris eilwaith i saith y bore canlynol. (I'w barhau,)
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD IFOR-AIDD…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD IFOR- AIDD RUMNI. Foneddigion,-Y mae y byd llenyddol yn teimlo awydd neillduol i gael golwg ar y pryddestau gorchestol ar Danchwa Blaen- llechau," trwy ryw ffordd neu gilydd, yn ar- graffedig, yn neillduol y rhai oeddynt yn y tri dosbarth canlynol, sef y cyntaf, yr ail, a'r tryd- ydd, pa rai a dderbyniasant ganmoliaeth ar- dderchog gan y beirniaid. Ac mewn trefn i gael hyn l weithrediad, onid buddiol fyddai cyhoeddi y pryddestau sydd yn y dosbarthiad- au a nodwyd yn un llyfryn hardd ? Diau y byddai yn gaffaeliad mawr yn marddoniaethy Cymry ac nid oes y pryder lleiaf yn fy meddwl na thalai ei ffordd yn dda i'r pwyllgor. Bum yn siarad, yn ddiweddar, ag awdwr un o'r pryddestau dan sylw, yr hwn a garai yn fawr weled hyn yn dyfod i weithrediad, a dy- wedodd hefyd y buasai ef yn dychwelyd ei bryddest i'r pwyllgor gyda y parodrwydd mwyaf, ond iddynt benderfynu dwyn hyn oddiamgylch. Yn awr, foneddigion, na fyddwch yn llwfr na diog yn ngwyneb hyn, ond hai ati ar un- waith. Anfonwch gais allan yn y GWLAD- GARWR am danysgrifwyr i'r llyfr; byddant yn anfon eu henwau wrth y miloedd. Mynwch air ar y perwyl hwn oddiwrth y Bardd Gwyn, a mynwch wybodaeth gywir ganddo pa rai oedd yn y dosbeirth a nodwyd, fel y gellwch eu casglu yn nghyd.—Yr eiddoch yn serchus, IFOR. O. Y.-Gwelsom sylw gyda Brythonfryn ar y GWLADGARWR mewn perthynas i argraffu ei eiddo ef a Teilo ond gan y dywedai y beirn- iad fod y trydydd dosbarth a'r ail yn teilyngu eu rhestru o ran hyny gyda y dosbarth blaenaf. Byddai yn fwy buddiol ac adeiladol, feddyliwn i, gael y tri dosbarth a nodwyd gyda eu gilydd, gan eu bod mor agos mewn teilyngdod..
AT Y PARCH. M. PHILLIPS, ABERAMAN.
AT Y PARCH. M. PHILLIPS, ABER- AMAN. BARCH SYR.—Byddaf yn ddiolchgar i chwi am brofi, trwy gyfrwng y GwLADGARWR, yr hyn a ddywedasoch am Mr. Bruce yn y cyfar- fod cyhoeddus a gynaliwyd ynnghapel Gwawr ar yr 28ain o Medi diweddaf. Hyny oedd, fod yr aelod anrhydeddus, fel aelod seneddol, wedi gwneud pob peth a allasai yr Ymneill- duwyr ddysgwyl iddo wneud ar eu rhan yn y senedd. Felly gan hyny, y mae wedi pleid- leisio dros bob mesur sydd wedi bod o flaen y Ty yn yr 16 diweddaf ag sydd a thuedd yn- ddo i ddyrchafu yr Ymneillduwyr i'r un safle fel deiliaid o'r llywodraeth wladol a'r Eglwya- wyr ? Os gellwch chwi, syr, brofi hyn, gwn- ewch wasanaeth i'r boneddwr anrhydeddus, ac hefyd symudech y cyhuddiad ag yr oedd ugeiniau yn y cyfarfod yn ei ddwyn yn eich erbyn, sef eich bod yn haeru peth nad oeddech yn gwybod dim am dano. "Y mesurau a ddygaf yn bresenol i'ch sylw, i brofi fod Mr. Bruce wedi pleidleisio dros- tynt, yw y rhai canlynol:— 1. Cynygiad Mr. Heywood ar Brif Ysgol Rhydychain yn 1854, yr hyn a roddai hawl- fraint i'r Ymneillduwyr fatriculatio a graddio yn y Brif Ysgol. 2. Eto, y cynygiad ar Brif Ysgol Caergrawnt i roddi hawl i'r Ymneillduwyr oedd wedi eu graddioyno i eistedd a phleidleisio yn Senedd y Brif Ysgol. 3. Cynygiad Mr. Miall ar yr Eglwys Wydd- elig yn 1856. 4. Cynygiad Mr. Hadfield ar ddileu llwon y swyddi mewn achosion gwladol yn 1861, a'r blynyddau canlynol. Credwyf fod hyna yn ddigon o orchwyl i chwi am un wythnos, a chewch ychwaneg ar ol i chwi ateb y rhai hyn. Yr eiddoch, T. GWILIM.
Y MEISTRI BRUCE A FOTHERGILL-EU…
Y MEISTRI BRUCE A FOTHERGILL- EU HAWLIAU. (Parhad.) Syr.,—Y mae Mr. Bruce yn gomedd cefnogi y Tugel.—Y mae gwaith Mr. Bruce yn gomedd cefnogi y Tugel yn ei wneud yn Rhyddfrydwr hanerog, ac y mae y rhesymau a ddwg dros ei ymddygiad yn ei wneud yn fwy hanerog fyth. Y mae rhoddi pleidlais i'r etliolwr diamddiffyn heb roddi iddo ddyogelwch y Tugel, yr un a'r cybydd yn estyn cardod-ag unllaw yn estyn, ac a'r Haw arall yn tynu yn ol. Y mae hanes etholiadau yn y Deyrnas Gyfunol, pe byddai yn bosibl casglu yr oil, y fath fel nad ellid eu credu. Nid wyfyn meddwl fod etholiad mewn na sir na bwrdeisdref nad oes llwgrwobrwy- aeth ac erledigaethau yn cymeryd lie. Y mae haner yr etholiadau yn Nghymru yn 11awn o'r cyfryw bethau, a gellir dweyd heb fyned i ormodiaith fod miloedd wedi dyoddef erledig- aethau a cholledion o herwydd pleidleisio yn ol eu cydwybodau. Gyrwyd canoedd o honynt o dir eu gwlad i chwilio am gartrefleoedd yn nhir y gorllewin a manau ereill, a rhifedi mawr i gylchoedd y gweithfeydd, i dreio am eu cynal- iaeth yn y lleoedd ansicr ac anghydnaws hyny. Er hyny i gyd, ac er y rhaid y gwyr Mr. Bruce y pethau hyn, nid yw ef yn gefnogwr i'r tugel. Cydnabydda yn hanerog y byddai cael dyogel- wch y tugel yn dda mewn rhai amgylchiadau; ond dywed y byddai y niwed o bleidleisio yn ddirgel yn gorbwyso y fantais o gael hyny. Pa beth ynte yw y drwg o bleidleisio yn ddir- gel ? Os oes drwg yn hyn, yr wyf yn methu a'i weled. Ai mwy yw y drwg hyny, tybed, na gwthio ffermwyr gonest a chydwybodol a'u teuluoedd yn ddigartref ar draws y byd ? Ai mwy hyny ynte na thaflu y gweithiwr diam- ddiffyn allan o waith ? Ffiloreg ydyw son am wroldeb y gweithiwr yn ami mewn am- gylchiadau o'r fath pan fyddo tylodi ac angen yn ei fygwth ef a'i deulu. Y mae masnach- wyr, a dynion cymedrol eu hamgylchiadau, yn methu yn fynych yn hyn, a pha fodd y gellir dysgwyl i weithwyr tylodion ymddwyn yn wahanol ? Os oes rhywbeth allan o le mewn pleidleisio yn ddirgel, angenrheidrwydd sydd yn ei beri. Y mae angenrheidrwydd yn esgor ar luaws o bethau annymunol, pe y gellid ystyried y tugel yn beth annymunol o gwbl. Nid oes dim yn ddymunol yn y tylot-dy, y car- char, &c., ond y mae yn rhaid wrthynt. Ofer- edd fyddai esgusodi dros beidio cyfodi adeil- adau o'r fath, trwy ddweyd fod y bobl yn myned rhag blaen mewn annibynolrwydd, gonestrwydd, moesoldeb, &c., ac na fydd angen mwy am bethau o'r fath — fod cyfiawn- der a gonestrwydd yn egwyddorion cynyddol. Dyna y fath ydyw ymresymiad Mr. Bruce yn ei gysylltiad a'r tugel. Dywed am ryw amser i ddyfod-yn mhellach, fe ddichon, na thymhor y miltlwyddiant-y bydd i etholwyr drechu eu meistri gorthrymus, ac y gallant bleidleisio yn ddiofn ac yn agored "yn ngwyneb haul a llygad goleuni." Y mae yn wir y byddai hyny yn beth dymunol; ond yr wyf yn lied sicr na wel yr oes bresenol yr agwedd hyny ar bethau; ac os byth y daw, caiff yr etholwyr ddyoddef cryn lawer cyn hyny, a chaiff gweithwyr ac ereill deimlo llawer oddiwrth drethi annghyf- iawn a gorthrymus. Pan y bydd i Mr. Bruce ddwyn allan ei resymau yn erbyn y tugel y tro nesaf, os aa argyhoeddir ef cyn hyny, yr hyn nid yw yn debygol, byddai yn dda iddo nodi y niweidiau hyny ag sydd yn nglyn a phleidleisio yn ddirgel. Os gall brofi fod y drwg hwnw, os yn ddrwg o gwbl, yn gorbwyso drwg yr erledigaethau ag y cyfeiriwyd atynt, dylai gael y goreu. Ond yn wrthgyferbyniol i hyn, y mae Mr. Fothergill yn bleidiwr i'r tugel, a thrwy hyny yn cynddrychioli rhyw bedair mil ar ddeg o leiaf o gynddrychiolwyr bwrdeisdref Merthyr ac Aberdar. Y mae yn naturiol gofyn yn y fan hon pa fath ddyn a ddylai aelod seneddol fod 1 Ai un i gynddrychioli barn a theimlad ei etholwyr ai nage ? Neu ynte un i gyn- ddrychioli ei farn a'i syniadau ei hun ? Os yr olaf, nid yw wahaniaeth pwy a etholir. Neu dewiser yn hytrach y Tori mwyaf cul a phen- boeth dyweder John Hardy, brawd yr ys- grifenynd cartrefol presenol, a'r un hwnw wrth anerch ei etholwyr ychydig amser yn ol fu yn ceisio dirmygu Mr. John Bright. Nid ydyw o fawr bwys pa un mor bell ag y gweith- redont felly. Yr ydym ni, weithwyr, yn arfer meddwl bob amser pan yn anfon cyn- ddrychiolwyr drosom i bwyllgorau, &c., fod y cynddrychiolwyr hyny i gynddrychioli yr hyn ag a farnom ni yn oreu, ac nid yr eiddynt hwy eu hunain. Dyna ydyw yr hyn ag a farnwn yn egwyddor cynddrychiolaeth, ac os nad hyny ydyw, dylem ar unwaith gyfnewid y gair am un mwy cyfaddas. Anbegweh ilr eithaf yw fod y lleiafrif yn llywodraethu y mwyafrif, neu yr un yn llywodraethu y miloedd, fel ag y mae wedi bod yn rhy hir o lawer yn y wlad hon ond arnom ni ein hunain y bydd y bai os mai hyny a fydd yn y fwrdeisdref hon. Y mae mwyafrif mawr o etholwyr bwrdeisdref Mer- thyr ac Aberdar yn gefnogwyr i'r tugel, ac o ran hyny, y mae mwyfrif mawr y deyrnas oil drosto. Y mae dau o'r tri o'r ymgeiswyr pre- senol yn gefnogwyr iddo ef, sef y Mri. Richard a Fothergill. Na ddiystyrwn ein cydwybodau drwy ethol un ag a fyddo yn bleidiol i'r tugel, a'r llall yn ei erbyn—mai byd o ddirgelwch yn ein llwyddiant yn hyn gan hyny, gweith- redwn yn unol a'n barn a'n teimladau ein hunain yn yr etholiad. GWEITHIWR. (I'w barhm.)
LLOFFION 0 LANELLI.
oedd ond un yn unig yn perthyn i'r Eglwys "GenedlaethoL" II. Cyfartaledd aelodau yr Eglwys Sefydledig ag eiddo yr Anghydffurfwyr Protestanaidd, yn mhedair talaeth yr Iwerddon, sydd fel y can- lyn :— Leinster, Episcopaliaid Protestanaidd o gylch II y cant. 11 Anghydffarfwyr o gylch 88 „ Munster, Episcopaliaid Protestanaidd o gylch 5 11 Anghydffurfwyr o gylch 94 „ CcKM<M<yA<, Episcopatiaid Protestanaidd o gylch 4 „ „ Anghydffarfwyr o gylch 95 „ mater, Episcopaliaid Protestanaidd o gylch 20 „ Anghydffurfwyr o gylch 79 „ Hyd yn nod yn Ulster Brotestanaidd nid ydyw y Protestaniaid perthynol i Eglwys Loegr yn gwneud i fyny ond yn unig o gylch 20 y cant o'r boblogaeth, tra y mae rhifedi y Pabyddion o gylch 50 y cant. III. O'r 2428 o blwyfi gwladol (civil) yn yr Iwerddon yn 1861, yr oedd 199 o honynt, neu un o bob deuddeg o'r cyfan, heb gymaint ag un pres- wylydd perthynol i'r Eglwys Brotestanaidd Sefydl- edig er eu bod yn cynwys 98,017 o Babydd- ion, yr oedd 575 o blwyfi heb fwy nac 20 416 o blwyfi a mwy nac 20 a llai na 50 349 o blwyfi a mwy na 100 a llai na 200 c breswylwyr yn perthyn i'r Eglwys Brotestanaidd Sefydledig. Y mae yn agos dwy ran o dair o'r holl blwyfi yn cynwys llai na 100 o aelodau yr Eglwys uchod. D.S.—Oherwydd fod nifer yr Episcopaliaid Protestanaidd mor fechan, y mae amryw blwyfi, (y rhai a elwir yn blwyfi gwladol), wedi eu cysylltu fel ag i ffurfio dim ond un fywioliaeth eglwysig. Allan o'r rhai hyn, y mae 18 o'r bywioliaethau yma heb neb yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig, tra y mae y Personiaid sydd yn eu dal yn derbyn o £100 i £500 y flwyddyn yr un. IV. Ystyrir fod eyfanwerth blynyddol y cyllid- au (revenues) sydd yn meddiant yr Eglwys Wydd- elig o gylch £610,000 O'r swm yma y mae yr Archesgob a'r Esgobion (12) yn derbyn £55,110, a'r Personiaid ereill yn derbyn £ 390,659. V. O'r 1510 o fywioliaethau eglwysig (neu blwyfi unedig) y mae 615 o honynt, y rhai sydd yn cynwys dros 1000 o blwyfau, a'u poblogaeth eglwysig yn 200, neu lai; y cyfartaledd (average) yw 77 ar gyfer pob bywioliaeth. Y mae y Per- soniaid sydd yn dal y bywioliaethau yma yn derbyn £ 257,000 y ifwyddyn. Y mae 229 o fywioliaethau a'u cyllid (income) blynyddol yn £83,071, neu gyf- artaledd o zCl39 12 Oe. ar gyfer pob teulu o bres- wylwyr Protestanaidd. Y mae 114 o fywioliaeth- au nad ydyw eu poblogaeth Eglwysyddol fwyaf dros 25. Y mae traul y rhai hyn i'r cyhoedd yn £36,365 y flwyddyn am 1019 o bersonau, neu 204 o deuluoedd;' hyny yw, yn agos X200 am bob teulu; neu, a gadael allan deuluoedd y clochyddion, j6400 am bob teulu. VI. Yr oedd meddiant personol dim ond ugain yn unig o'r Esgobion Gwyddelig, y rhai a fuont feirw er y flwyddyn 1822, yn £861,868, neu gyfar- taledd o £43,093 ar gyfer pob Esgob. Arglwydd John Beresford, Archesgob Armagh, a dderbyn- iodd, yn ystod ei fywyd, allan o gyllidau yr Eg- lwyø, y swm 0 £887,000. ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN Dyma rai o'r ffeithiau sydd wedi gorfodi y meddylwyr gwleidyddol galluocaf, yn nghyd a'r gwleidiadwyr mwyaf ymarferol, i ddadgan yr Eg- lwys Wyddelig yn ORMES ANNYODDEFOL. Yn yr ymdrech presenol i'w dadgysylltu oddi wrth y wladwriaeth, nid oes NEB yn meddwl am ei DINYSTRIO FEL EGLWYS, ond yn unig ei GOLLWNG YN BHYDD O'R RHWYMAU sydd hyd yma wedi ei hatal i weithredu unrhyw ddaioni effeithiol-ei gosod ar dir i allu cydymdrech a'r Cyfenwadau Protestanaidd ereill yn yr Iwerddon o blaid gwir- ionedd Efergyl Iesu Grist, ac yn erbyn athraw- iaethau y Dyn Pechod. Ac y mae yr adeg wedi dyfod sydd yn ei gwneuthur yn ddyledswydd rwymedig ar bob Etholwr Rhyddfrydig bleidleisio dros ymgeiswyr Seneddol sydd yn coleddu ac yn penderfynu amddifiyn mesurau rhyddgarol MR. GLADSTONE. YMNEILLDUWYR SIR GAERFYRDDIN Ymddygwch yn yr etholiad nesaf fel dynion egwyddorol-fel dynion yn gwerthfawrogi eich egwyddorion yn fwy na phob lies neu fantais fyd- ol; ie, ymddygwch fel y cyfryw rai drwy bleidleis- io, fel un gwr, dros MB. SARTORIS. LLOFFWR.