Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y DOSBARTH GWEITHIOL A'R ETHOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DOSBARTH GWEITHIOL A'R ETHOLIAD. Mr. Gol.—Y mae yn ymddangos oddiwrth arwyddion yr amserau fod helynt yr etholiad yn ein plith yn tynu i derfynfa bwysig, a phob plaid fel yn cael eu gorfodi i deimlo mwy nag erioed o ddyddordeb ynllwyddiant eu hachos. Y mae pleidwyr Mr. Bruce yn parhau i ddyfod allan yn gryf, a braidd nad ydynt yn rhoddi digon o waith i ddarllen y llythyrau cymer- adwyaethol ag y maent yn eu cael i'w gwron oddiwrth hwn a'r llall. Y mae bod dyn prof- edig am 16 mlynedd yn gorfod cael cymerad- wyaethau ysgrifenedig, fel ambell i Quack Doctor, oddiwrth y naill gyfaill a'r llall, a hyny ar draul darostwng a drwgliwio ereill, yn ym- ddangos i ni yn hynod, ac yn brawf hefyd nad oes ganddo ond ychydig ymddiried yn ngliy- meradwyaeth y gwasanaeth ag y mae wedi ei wneud yn y tymhor a aeth heibio. Y mae tael rhyw bwff o'r fath yn burion peth i ym- geisydd newydd, ond fod hen aelod yn ymost- wng i wneud gwaith o'r fath yn dangos rhyw wendid mawr. Y mae yn hawdd gweled oddi- wrth ei anerchiadau mai nyni, y dosbarth gweithiol, y mae efe yn eu hofni fwyaf yn yr etholiad dyfodol, ac feallai fod ei gydwybod yn dweyd rhywbeth wrtho yn y cyfeiriad hwn. Ond beth bynag ydyw ein barn am dano am a aeth heibio, pe byddai iddo addaw ein cyn- rychioli yn deg am y dyfodol, meddyliwyf y byddem yn dawel ond ni ddylem mewn un modd wyro yr un fodfedd oddiwrth y Ballot. Y rhagorfraint o gael pleidleisio ac amddiffyn- iad y Ballot ydyw y ddau beth ag yr ydym fel dosbarth gweithiol wedi bod yn gofyn am danynt er's blynyddau. Yr ydym wedi cael y naill, ac na ato i ni yn y mwynhad o un laesu yn ein hymegnion am gael yr ail. Y mae yn wir y gallwn fel dosbarth yn y cy- mydogaethau hyn ddweyd nad oes arnom ei angen, a thrwy hyny esgeuluso gwneud ein dyledswyddau ond rhaid i ni gofio fod can- oedd o'n cenedl, ein cyfeillion, ie, a'n perthyn- asau, mor agos ag ydyw siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, yn gorfod aberthu eu hegwyddorion o eisieu amddiffyniad y Ballot. A chaniatau y byddai i Mr. Bruce ein cynrychioli cystal a Mr. Fothergill yn mhob peth ond y Tugel, y mae y pwnc hwn yn ddigon i bob dyn sydd yn byw wrth ei ddiwrnod gwaith i ymwrthod ag ef, ac yr ydwyf yn gobeithio y bydd i ni ymwrthod ag ef hefyd, gan ei fod ef yn ymwrth- od a chynrychioli ein syniadau yn hyn. Mae yn dda genyf weled fod Ilu o'r.,newydcl- iaduron a'r seneddwyr mwyaf rhyddfrydig yn gefnogwyr y Ballot, a'i fod yn dyfod yn fwy poblogaidd bob wythnos. Yr ydym yn clywed bob dydd am fygythion yn cael eu gwneud, a hyny i rai yr ydym yn eu hadwaen, os na fydd iddynt bleidleisio j n ol barn y meistr tir; ac nid oes etholiad yn cymeryd lie nad oes llwgrwobrwyaeth anghyfiawn yn cael ei gyf- lawni, a'r unig beth a rydd derfyn ar y budr- waith Toriawl hwn ydyw y Ballot. Rhoddwn law ynte i'w roddi i lawr. Yr ydwyf yn dweyd ei bod yn ddyledswydd ar bob Rhydd- frydwr trwyadl i ddyfod allan o blaid y Ballot. Nid ydyw o bwys a fu y Tugel yn cael ei arfer gan y Groegiaid ai peidio, neu ynte a ydyw yn 0 gydweddol a chyfansoddiad ein gwlad, "ni adawn hyny i Doriaid a haner Toriaid a i'w ddadleu a'i benderfynu; ond yr hyn sydd arnom ni fel dosbarth eisieu ei gael, a'r hyn y rhaid i ni hefyd ei gael, ydyw meddyg- iniaeth i'r drygau uchod, a'r Ballot ydyw yr unig feddyginiaeth sydd yn ein gafaeL Buasai yn well o lawer i ni beidio cael diwygtad o gwbl na chael diwygiad i'n gwneud yn gaeth- ion politicaidd. Y mae y pwnc yn awr yn nwylaw dosbarth gweithiol y wlad, ac y mae ar eu dwylaw i benderfynu pa un a ydym i gael y Tugel yn y tymhor seneddol nesaf ai peidio. Os nad ydyw y gweithwyr sydd yn bwriadu pleidleisio dros Mr. Bruce yn yr eth- oliad dyfodol yn mynu addemd oddiwrtho ei fod yn cefnogi y Ballot, yr ydym yn dweyd nad ydynt yn gwneud yr hyn a ddylent, tra y mae genym gystal dynion ag ynteu yn addaw gwneud hyny. Y mae yn amlwg nad ydyw y llythyr a an- fonwyd gan Mr. Clark, Dowlais, at Mr. James, Merthyr, a'r hwn a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ond un o gynllwynion y blaid, neu lythyr cymeradwyol i gynorthwyo yr etholwyr ag y mae ganddo ef ddylanwadarnynt i lyncu eg- wyddorion (neu pills) Mr. Bruce. Y mae mil- oedd o hono wedi ei ledaenu, gan hyderu, o gwrs, y bydd i ffrwyth toreithiog ddyfod o hono, ond nid ydym heb ddeall eu dichellion kwynt. Rhag eich blino ag helyntion yr etholiad, terfynaf yn y fan hon hyd eich nesaf. ETHOLWR.

L'ERPWL.

GLOWYR CYMRU.

Y TUGEL (BALLOT.)

TRIOEDD YR OES BRESENOL.

HELYNIION YR ETHOLIAD

AT ETHOLWYR ANNIBYNOL BWRDEISDREF…