Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
,AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.
AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN. FONEDDIGION,-Y mae y Mesur Diwyg- iadol mawreddog a ddygwyd i mewn mor hynod ae mor anghyson gan y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfodyn Gyfraith, ac fe'i dygir cyn hir i weithrediad. Bydded i ni fod yn ddiolchgar am y rhagorfreintiau ychwanegol a sicrhawyd drwyddo i bobl y wlad hon, gan adael y blaid Doriaidd i gysoni eu hymddyg- iadau oreu y gallont, gyda chywirdeb a chyd- wybodolrwydd gwleidyddol. Etholwyr Sir Gaerfyrddin! o dan yr hen gyfundrefn y mae y Toriaid Hyd yn hyn wedi cadw iddynt eu hunain, mewn gorphwysdra tawel a digyffro, yr anrhydedd o'ch cynrych- ioli chwi yn y Senedd. Yr wyf fi yn awr yn dyfod yn mlaen yn y gobaith y bydd i chwi, o dan y gyfundrefn newydd, dori trwy yr ar- feriad hynafol hon, ac ethol o leiaf un aelod Rhyddfrydol dros y Sir. Os bydd i mi lwyddo i gyrhaedd yr anrhydedd o'cb cyn- rycbioli chwi, ymdrecbaf brofi fy hun yn deilwng o'ch ymddiried, drwy fy ymlyniad diwyro wrth egwyddorion mawrion rhyddid gwladol a chrefyddol, pa rai ydynt wedi bod yn fywyd ac enaid derchafiad y deyrnas hon i'w mawredd presenol; a barn wyf fod ymar- feriad pellach o'r egwyddorion hyn, hyd nes byddo pob llyffethair ar grefydd wedi ei sy- mud, yn hanfodol i'n llwyddiant dyfodol. Braidd y mae yn angenrheidiol i mi eich adgofio y bydd i un pwne o bwysigrwydd neillduol lyncu i fyny sylw y Senedd ddyfod- ol, hyny yw-yr Eglwys Wyddelig. AT y pwnc hwnw, Foneddigion, gan nad beth fyddo anhawsderau ymarferol y mater-a pha fesur pwysig sydd heb ei wrthwynebiadau i'w gorch- fygu ?—er ei bod yn ofidus genym orfod dolur- io teimladau rhai o'n brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon—y mae yn ymddangos i mi nas gall dyn cyfiawn goleddu ond un syniad, sef, nad oes gan eglwys y lleiafrif un hawl i gynal- iaeth oddiwrth fwyafrif y bobl. Yr wyf gan hyny yn barod, er pob aberth, pa mor boeuns bynag, i bleidleisio dros osod Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yn yr Iwerddon ar dir hollol 11 gydradd. Y mae yr Y sgrif Ddiwygiadol newydd wedi gosod ar bwne mawr Addysgiaeth bwysig- rwydd anferthol ac arbenig. Y mae dosbarth- iadau newyddion o etholwyr wedi eu galw i fodolaeth. Pa fwyaf addysgedig y byddont, goreu oil y medrant gyflawni ei dyledswydd bwysig, ac a deuant i ddeall y cyfrifoldeb mawr perthynol iddi. Ond yn ein holl ym- drechion i gefnogi Addysg y Werin, fy nghred gadarn I ydyw, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn i osgoi pob rhith o ymyraeth. a cliredoau cre- fyddol y gwabanol enwadau Cristionogol i ba rai y mae y wlad hon yn rhanedig. Ni gallaf fi ddeall egwyddorion "rhyddid crefyddol" mewn unrhyw ffordd arall. Wrth derfynu, goddefwch i mi ychwanegu, os caf fy ethol, y bydd i mi ymgyflwyno yn ddifrifol i ystyried llesianty Sir hon, adnodd- au naturiol pa un nid ydynt yn gofyn ond dadblygiad llawn, er ei gwneud mewn amser dyfodol yn un o'r rhanau mwyaf llwyddianus yn y Deyrnas Gyfunol. Ydwyf, Foneddigion, Eich ffyddlonaf was, EDWARD JOHN SARTORIS. 9, Park Place, St. James's, Llundain, Gorph. 15fed, 1868.
Advertising
LEWIS THOMAS, Cabinet Maker, tiphats- terer, ac. 4, Canon Street, Aberdar. A ddymuna hysbysu i'r cyhoedd TO gvfltedinol ei fod A. -wedi atror. Ystorfa o Gelfi neu Ddodrefn Tai o bofc math yn y Ue uchod, He y gobeithia y bydd iddo dderbyn ovfran o gefnogaeth y cyheedd. Bydd stock helaetho Gelfi, o wneuthutiad oartrefo bob amser ar law, a'r rhai hyny o'r defnyddiau a'r gwneu- r¥AXPETSeUAND FLOOR CLOTHS OF THE BEST QUALITIES. Iíir Cyfiawnir pob archeb gyda'r gofal mwyaf. Cyfefiiad,-Levis Thomas. 4, Canon Street, Aberdar. "W". "W.A.TKIIsTS, General Insurance Agent, Collector of Rents, &c. REPRESENTS the Royal Insurance Com- -ti pany, Fire & Life Capital £ 2,000,000, Sterling. Insurances taken up to any amount on most advantageous terms. Farm Stock at 5s. per cent. He also effects Insurances in the following de- partments :—Annuities & Endowments for Accid- ental Deaths; and all kinds of Accident, includ- ing Railway Accidents; Weekly Compensation in cage of Personal Injury; or Weekly Allowance in ease of Sickness and Death- Alan a Funeral Fund for Children and Old Age. Plate Glass Insurance. AddressW. WATKINS, 16, Commercial-street, Mountain Ash. Allan o'r Watg, pris 6c., CAN A CHYDGAN,—" HEN GYMRU FYNYDDIG." CERDDORIAETH yn nghyd a Chwm- peiniant i'r Delyn a'r Perdoneg, gan Mr. W, F. Frost; y Farddoniaeth Gymraeg a Saeson- eg gan Mr. W. H. Dyer. Anfoner archebion at yr awdwr, Mr. W. H. Dyer, (Mabonwyson,) Quakers Yard, near Ponty- pridd. GLOWYR YN EISIEU. YN eisieu o 40 i 50 o Lowyr da; rhaid iddynt fod yn ddynion sobr. Rhoddir iddynt waith cyson, lie y gallant enill o dri ugain i gant dolar y mis. Nid oes yma un math o strike, nac un math o anghytundeb rhwng y meistri a'r gweithwyr. Yr unig eisieu sydd yw helaethiad y gwaith. I arbed amser, os y bydd rhai yn barod i ymfudo, anfonent ataf gyda pha long y byddont yn dyfod, bydded iddynt ddyfod yma yn direct. An- foner yn union at MB. JAMES BEYNON, Aetna Iron & Coal Co., Cleveland, Ohio, North America. SWTDDi.II KHAD. StfAJFZS, DRESSES, WINCEYS, Sfc. R. ED-W- ARTIS, (Opposite the Vale of Neath Station, Merthyr,) BEGS to announce that he has received a LARGE STOCK of Goods suitable for the Winter season, comprising FRENCH MERINOES, Serges, Reps, Twilled Alpocas, Winceys and Fancy Dress Materials, Straw Bonnets, Hats, Feathers, Flowers, &c., Quilts, Counterpanes, BLANKETS SHEETINGS, &c., Woollen Cloth Pilots, Beavers, Witneys, Naps, Waterproof Tweeds for Mantles, &c., &c. MiUincry and Mantle Making under Competent Management. Funerals completely furnished, and all or- ders executed with punctuality and despatch.
TALI AD A U.
TALI AD A U. E. W., Tonyrefail; E. T., Briton Ferry; W. M., Ferry Hill; D. J., Festiniog W. W., Tonypandy; D. A., Peny- groes; J G., Onllwyn Inn J. D. S., Llantrissant; E. E., Pontlanfraith; W. E., Brynaman; M. W., Hafod; Tl H., Glyncorwg; D. H., Craig Anna; T. D., Pentre; D. D., Mountpleasant; S. M., Brithdir Terrace; J. D., Pentre Estyll; J. T. T., Glyn Neath; D. E. E., Cheltenham; W. W., Morgan's Town; D. G., Cwmafon; R. R., Mor- nstown D. M., Cwmtwrch; W. J., Cardiff.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. RHYDDERCH, PONTYPRIDD.—Diau fod pri- odoldeb yn eich gofyniad ond byddai yn well i chwi gyfeirio i gyhoeddiad misol crefyddol. JOHN THOMAS.—Ni bydd un lies na buddiol- deb i ni gyhoeddi y sylwadau. Gwell fyddai i ni geisio byw hyd y mae ynom mewn heddwch a phob dyn. LLEW O'R LLWYN.—Y mae y Llew yma yn rhuo yn enbyd am fod rhywun wedi dwyn ei ffugenw. Gwylied yr euog rhag iddo ddod o hyd i balfau y gwir Llew o'r Llwyn, yn Mr Jenkin Thomas, Aber- dulais. X. Y. Z.-Afreidiol i ni fyddai treulio llawer o'n gofod gyda Brigamiaeth, &c. Y mae pethau ereill yn nes atom yn fwy teilwng o'n sylw. Ond dymunem bob llwydd i'r darlithydd. Caiff Beirniadaeth Eos Rhondda yn Eistedd- fod Capel y Pentre, ymddangos yn ein nesaf. ggTHanes amgylchiadau y Scriw yn ein nesaf.
Advertising
Cyfeirier y GOHEBIAETHAU4 a'r ADOLYGIADAU —"To the Editor of the Gwladgarwr, Canon-street, Aberdare." Pob Archebion a Thaliadau i'w gwneud i Walter Lloyd, GWLADGARWB Office, Aberdar."
CAM DYB Y TORIAID. J
CAM DYB Y TORIAID. J Y mae yr hen dyb wriogaethol (feudal,) sef } mai dibynwyr ar eu meistri tiroedd yw yr ( amaethwyr, ac nid cwsmeriaid iddynt, yn aros yn nghopa llawer o'r Toriaid hyd y dydd hwn; pryd mewn gwirionedd mai ffaelu a dyfod i ben a thrin eu tiroedd eu hunain sydd yn peri iddynt eu gosod, neu eu benthyca i ereill am daliad penodol. Yr un peth, yn ein barn ni, fyddai i berchenogion y tren, ar un o ffyrdd Llundain, ddyweyd, Ni chewch chwi ddim trafaelu ar ein ffordd ni, os na roddweh eich pleidlais i'r Tori sydd yn eich cymydog- aeth f pa beth a wnelai perchenogiony ffyrdd haiarn a'r cerbydau, oni bai iddynt gael dyn- on i drafaelu ynddynt ? a pha beth a wnelai y meistri tiroedd a'u tiroedd heb gael rhywrai i'w trin ? Ie, pa beth a wnelai perchenogion gweithfaoedd, a'r glo a'r haiarn yn y ddaiar, heb gael rhywrai i'w codi oddiyno ? Y mae y naill yn ymddibynu ar y llall yn hollol; ac nid all y naill symud cam heb y llall. Y maent fel y gefeilliaid Siamiawl a ddangosid yn Llundain yn 1830; nid oes dim modd eu gwahanu oddiwrth eu gilydd heb berygl. Pe cymerid pethau yn amser etholiad yn y goleu yma, ni fyddai unrhyw Ie i ofni y gwesgid neb i roddi ei bleidlais yn groes i'w ewyllys.. Pa beth a wnelai Arglwydd Penrhyn a'i gloddfa fawr heb gael dynion profedig i dynu y creigiau oddiwrth eu gilydd 1 Wel, os rhaid i'w Arglwyddiaeth wrthynt, onid ydyw efe dan gynifer o rwymau i'r gweithwyr ag y mae y gweithwyr iddo yntau 1 Onid gwerth am werth yw y fargain sy rhyngddynt; ac nid Arglwydd Penrhyn yn talu cyflogau i'r gweithwyr am wneuthur dim ? Pa fodd yr hoffai y meistri tiroedd, a pherchenogion y gweithfaoedd, glywed eu gweithwyr yn gotyn am eupleidleisiau hwy, yn groes i'w hewyllys, i'w rhoddi i'r neb fyddo da yn eu golwg? Synent dipyn at haerllugrwydd a digywilydd- dra y gweithwyr ac nid heb achos. Onid yw y syndod yn llawn cymaint yr ochr arall ? Pa beth sydd a wnelo y meistr a'r gweithiwr wedi y gorpheno efe ei waith a pha beth sydd a wnelo y gweithiwr a'r meistr wedi ei dalu? Peth tu allan yn hollol i'r fargain bach ay rhwng meistr a gweithiwr, a rhwng gweith- iwr a meistr, yw pleidlais. Braint ydyw hon sydd wedi ei chyfleu iddo gan Lywodraeth ei wlad i wneuthur arferiad cydwybodol o honi er ei les ei hun fel deiliad, ac er lies y wlad- wriaeth yn gyffredinol. Dichon fod rhai yn barod i ofyn pa beth a ddeuai o'r gweithwyr heb eu meistri ? Gofynwn ninau, pa beth a ddeuai o'r meistri heb y gweithwyr ? Ar adeg fel hon, pan y mae cymaint o ym- gais am gael myned yn Aelodau Seneddol yn mhlith dynion, ni fyddai yn ofyniad anmhri- odol i'r ymgeiswyr a ydynt hwy am wneud eu goreu i leihau costau anferthol y fyddin a'r llynges, y rhai sydd yn difa mer esgyrn y deyrnas hon 1 Y mae y pwnc pwysig hwn yn cael ei gadw yn ormod o'r neilldu, tra y mae pethau ereill, llawer llai eu pwys, yn cael eu cadw yn y golwg yn barhaus. Peth digrif iawn yn nghlustiau Anghydffurfiwr yw clywed ymgeisydd yn son am ei Eglwysyddiaeth. Gwell genym ni gael ei farn ef ar bwnc fel hyn. Beiir yr Ymneillduwyr gan Eglwyswyr, yn enwedig eu pregethwyr, os soniant ddim am lywod-ddysg meddyliem ni ei fod yn llawn bryd iddynt droi at eu pregethwyr eu hunain; sef yr Esgobion. Y maent hwy, nid yn unig yn son am lywod-ddysg, ond y maent hwy yn ngweithdy llywod-ddysg (politics,) yn lie bed yn edrych ar ol y praidd i'r hyn y cawsant eu hordeinio. Ni chlywsom am neb o weinidog- ion yr Ymneillduwyr yn esgeuluso eu swydd weinidogaethol wrth ymhel a llywod-ddysg ond y maent mor gyson ag y buont erioed yn y cyflawniad o'u gorchwylion ysbrydol. Y mae yn dda genym weled yr hyn ydym yn ei wel- ed, a chlywed yr hyn ydym yn glywed yn nghylch yr ymdrech a wneir yn y dyddiau hyn dros egwyddorion rhyddid. Y mae gobaith y dihuna Cymru o'i chwsg yn bre- senol; ac na chaiff y Saeson ddim llawer o destyn chwerthin am ei phen eto. Y mae mwy o arwydd y gwelir dynion rhyddfrydig yn cael eu hanfon o'r Dywysogaeth nag a fu ond nid oes dim digon eto. Dywedir yn gryf fod dychweliad Mr H. Richard uwchlaw amheuaeth.
ANERCHIAD SYR JOHN HANMER.…
ANERCHIAD SYR JOHN HANMER. O'r holl anerchiadau a draddodwyd gan Aelodau Seneddol, ac ymgeiswyr am aelod- iaeth, nid ydym ni wedi cael neb, ag eithradu Mr H. Richard, yn dyfod i'r byw gyda golwg ar ddyledswyddau Aelodau Seneddol, fel Syr John Hanmer. Y mae yn ddigon naturiol i'r rhan fwyaf o'r rhai a broffesant egwyddorion rhyddfrydig son am y daioni a gafwyd o ddyddiau y Reform Bill cyntaf hyd yn bre- senol; ond ychydig iawn sydd wedi meddu y gwrolder i son am garthu y llygredigaeth sydd yn gorwedd wrth wraidd ein llywodi- raethau, ac sy fel rhwd yn ysu rhanau by wyd- ol ein teyrnas. Y mae Syr John Hanmer, yr aelod dros Fflint, yn cyfhwrdd a gwraidd y drwgar un waith. 'Ar ol son am anfuddiol- deb Eglwys yr Iwerddon, yr hon na feddai ddim mwy i'w wneud a'r bobl, mewn llawer o fanau, nag oedd gan Samaria i wneud a Jeru- salem, y mae efe yn mynegu ei farn ar gostau anferthol y deyrnas gyda'r fyddin a'r llynges. Y mae yn dyweyd, Mewn llyfrglas bychan, pris 8 ceiniog, yr hwn a all y neb a fyno o honoch ei gael, drwy anfon at y Queen's Prin- ter, fe'i gelwir Statistical Abstract for the United Kingdom, o'r flwyddyn 1853 i 1867, cewch yn hwnw rai ffugurau fel arwyddluniau (hieroglyphics) yr Aifft sydd yn cynwys llawer iawn. Er engraff, swm arferol y draul at y fyddin a'r llynges, am y flwyddyn, heb son am swllt tuag at Abyssinia, yw ugain a chwech o filiynau, pum cant a saith a phedwar ugain o filoedd o bunau, a throsodd. Yr holl gost ar yfunded a'r unfunded debt yw un mil ar bym- theg o dan y swm hwn. Hyny ydyw, yr oedd ein noil ryfeloedd, a'n hymdrechion cyhoedd- us, gwastraffiadau, camsyniadau, anifodion, ac unrhyw beth oedd yn peri traul a dyled mewn Hog, yn costio llai mewn llog blyneddol a threuliau ereill, na'r gost arferol gyda'r fyddin a'r llynges mewn un flwyddyn o heddwch, gydag Arglwydd Stanley, yr Ysgrifenydd Tramor, Gweinidog sydd, yn ddiameu, mor heddychol a Syr Robert Walpole. Pa beth a fuasai cost rhyfel gydag Amerig, a'r wasgfa ar eiddo a llafur, nid allai efe ddim mynegu. Yr unig sicrwydd rhag cael rhyfel gyda'r Werin-lywodraeth wrthnysig hono, yw tawel- wch Canada, a thawelwch Iwerddon." Dyma ddangos y peth fel y mae yn bod, ac nid ceisio troi y mater draw, a cheisio llechu yn nghysgod rhyw orchestion mawrion a wnaethwyd. nad oedd llogell neb yn llawnach ar ol eu cyflawni. Aelodau annibynol fel Syr John Hanmer sydd ar y wlad eisiau, ac nid dynion am gripio i sylw drwy farchogaeth ar ysgwyddau y wlad. Nid rhyw lawer o flas sy genym ni ar swyddogion milwrol na llyngesolar gyfreithwyr na dadleuwyr, fel ymgeiswyr, gan nad beth fyddo eu rhagor- iaethau, os bydd rhywrai ereill rhyddfrydig i'w cael. Y maent yn ymddangos i ni fel Esgobion yn Nhy yr Arglwyddi, yn gofalu mwy am eu lies a'u dyrchafiad eu hunain, nag am y wlad a'u hamgylchiadau. Dalier y naw a dimai o bob swllt, yr un swllt ar bymtheg o bob punt, neu y can gini a werir bob mynyd, ddydd a nos, at gynal y filwriaeth o flaen pob ymgeisiwr, a gofyner iddo a ydyw efe am fyned i'r Senedd i leihau y costau hyny sydd yn mron a llethu y deymas i ddinystr a cholledigaeth. Y mae gwledydd ereill yn son am leihau eu byddinoedd, ai nid ydyw yn llawn bryd i Brydain Fawr ddilyn eu hesiampl ?
[No title]
DANYGRAIG, ABERTAWE.-Nos Fercher, Hyd. 7, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn y capel uchod. Llywydd, y Parch. D. Jones, gweinidog y lie. Beirniad, Mr. D. Brython- fryn Griffiths. Cafwyd cystadleuaeth ddydd- orol iawn mewn darllen, adrodd, ac areitbio, yn neillduol yr areithio difyfyr ar "Pa un gwell priodi ai peidio ?" Cyflawnodd Mr. T. Thomas, yr ysgrifenydd, ei ran yn ddeheuig iawn, a phenderfynwyd yn unfrydol i gael cyfarfod cyffelyb bob mis yn ystod y gauaf.— GOHEBYDD. Pytaten Ffrwythlawn.—Cafwyd pytaten ry- fedd yn Nelson, ger Pontypridd, gan Daniel Edwards, neillduolion yr hon oeddynt fel y canlyn :-Cafwyd oddiwrthi y swm o 82 o bytatws, maintioli pa rai oedd yn amrywio o dair modfedd a haner i fodfedd o dryfesur, a phwysant 19;}lt, y rhai oeddynt gynyrch un bytaten. CASTELLNEDD.—Cynaliwyd cyngherdd ar- dderchog yn neuadd v dref uchod nos Iau, yr 8fed cyfisol, dan nawdd neillduol. Yr oedd y neuadd yn orlawn o fobl. Y performers oedd- ynt Mri. G. Jones, (Caradoc), Wm. Phillips, J. L. Jenkins, W. Rees, Mrs. Edwards, (Dur- tur y Graig), Miss Lewis, yn cael eu cynorth- wyo gan y Neath Abbey Glee Party, arwein- ydd, Mr. P. Jenkins. Y pianist ydoedd Mr. W. Rhys, (Ap Rhys), yr hwn a ganodd ac a chwareuodd gyda chwaeth mawr. Derbyn- iwyd violin solos Mr. Jones gyda chymerad- wyaeth uchel, a chanodd Mr. Phillips yn dda iawn. Rhoddodd y Glee Party gynorthwy nid bycban, a chanasant eu darnau er boddhad i'r holl dorf. Yr oedd yr oil o'r canu yn dda. Yr oedd yr elw yn cael ei drosglwyddo i John Poley, o'r Fynachlog, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain, ac yn analluog i weithio. Caffed gyngherdd etc.—CRYMLUNFAB. BETHLEHEM A TY'XYCOED.—Cynaliodd yr eglwysi uchod eu cyfarfod blynyddol eleni Hydref yr 11 eg a'r 12fed. Pregethwyd gan y Parchedigion T. Davies, Llanelli L. Davies, Sketty D. Thomas, Ystradfellte; J. Roberts, Castellnedd T. Evans, Talgarth W. Evans, Trecastell; a J. Jones, Llanguwc. ABERDULAIS.—Cynaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu cyfarfod pregethu blynyddol yn y lie uchod, y Sabboth a dydd Llun diweddaf. Gweinyddwyd gan y Parchedigion Capt. T. Davies, Abertawy; T. Rees, Crughywel; D. Howells, Abertawe W. James, M.A., Castellnedd a Dr J. Harris Jones, Trefecca. Yr oedd y pregethau yn dda, ac yn cael eu traddodi yn rymus ac yn effeithiol iawn, ac yr oedd pawb yn gwrando yn astud a difrifol. Gwnaed casgliadau tuag at leihau dyled y capel yn yr holl gyfarfodydd, yr hyn, gyda'r addewidion a dderbyniwyd, a wna i fyny y swm anrhydeddus o 958 12 11 £
ESGORODD,—
GANWYD, PFIIODWYD, A Bu FARW.-O herwydd y niftr mawr a anfonant benillion, englynion, &c. mewn cy- sylltiad a'r hysbysiadau hyn, a llawer o honynt yn hynod wael, yr ydym wedi penderfynu na ollyngir o hyn allan un linell ond yr hysbysiad ei hun, heb dalu 3c. am bob llinell ychwanegol.] ESGORODD,— Medi 21, priod Mr. D. Griffiths, Great Western Rail- way, Cwmbach, ar fab. Medi 27. priod Mr. Griffith Williams, Pantygroes, Tre- wyddol, Penfro, ar ferch. Hydref 2, priod Mr. John Griffiths, Aberclydach, Dyff- ryn Tawe, ar fab ac etifedd. Hydref 7, priod Mr. William Jones, 74, Ynysllwyd St., Aberdar, ar fab. Hydref 9, priod Mr. Jonkin Thomas, Uyfrwerthwr, Rhymney, ar ferch. PRIODWYD,- Hydref 3, yn Penuel, Cwmafon, gan y Parch. J. Row- lands, yweinidog ylle, yn ngwydd y Cofrestrydd, Mr. Zecharia Richards, a Miss Elizabeth Osborne, y ddau o Gwmafon. Hydref 10, yn yr un lie, gan y Parch. J. Rowlands, yn ngwydd y Cofrestrydd, Mr. George Davies, Cwmafon, a Miss Mary Ann Griffiths, gynt o Treforis. Hydref 13, trwy drwydded, yn Soar, Merthyr, gan y Parch. W. Jones, Tredegar, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. D. Jones, B A., a D. Thomas, Ystradfellte, brawd yn nghyfraith i'r briodasferch, y Parch. J. Evans, Beth- ania, Dowlais, a Miss E. Jones, Plough Cottage, Brecon. BU FARW,— Hydref 10, yn 27 mlwydd oed, William, mab Mr D. Davies, Heol Uchaf, Aberdar. Derbyn- iodd niwaid yn y gwaith y dydd blaenorol, yr hwn a fu yn angau iddo. Gadawodd weddw, plentyn, a pherthynasau i alaru ar ei ol. Ymgaaglodd tyrfa luosog o'i gyfeillion a'i berthynasau i dalu y gy- mwynas olaf iddo, yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth diweddaf, Hydref 13, yn mynwent Eglwys Sant Ffagan, Trecynon.-C. D. Hydref 10, yn 21 mlwydd oed, Thomas, mab Thomas James, o'r lie hwn. Claddwyd ef yn mynwent y Brych- goed y dydd Llun canlynol. Hydref 11, yn Sarnau, Llanboidy, y Parch. Dd. Jones, Star, yn llawn o ddyddiau. Yr oedd yn cadw Cwrdd Pai- otoad y dydd o'r blaen, ac yn Uetya yn Sarnau nos Sad- wrn; ac wedi dechreu ei ffordd i'r oedfa boreu dydd Sul, pan y teimlodd rywbeth neillduol arno, fel y dywedodd na fedrai fyned yn mhellach, ac aeth yn ol i'r ty. Eistedd- odd ar y gadair a'i law dan ei ben, a bu farw heb fawr cyffro Danfonwyd cenad i'r capel am yr amgylchiad, ac O! y fath dristwch a galar dwys oedd i'w ganfod ar yr holl gynulleidfa. Yr oedd yn golled annhraethol i'r tair eglwys oedd dan ei ofal, sef Cwmfelyn, Hermon, a Star. Yr oedd yn un o'r gweinidogion goreu a feddai y Bedydd- wyr yn y sir Yr oedd yn hynod weithgar, ac yn cam llwyddiant pob enwad fel eu gilydd. Claddwyd ef yn Cwmfelyn dydd Iau. Yr Arglwydd a ofalo am yr eglwysi, a'i briod drallodus, a'r lluaws plant amddifaid sydd wedi eu gadael ar ei ol. Heddweh i'w lwch.
[No title]
A SUCCESSFUL ExpMUMKfT.—The Civil Semite Oasettee has the following :—" There are very few simple articles of food which can boast so many valuable and mportant dietary properties as cocoa. While acting on the nerves as a gentle stimulant, it provides the body with some of the purest elements of nutrition, and at the same time corrects and invigorates the action of the digestive organs. These beneficial effects depend in a great measure upon the manner of its preparation, but of late years such close attention has been given to the growth and treatment of cocoa, that there is no difficulty in securing it with every useful quality fully developed. The singular success which Mr. Epps attained by his homoeopathic preparation of cocoa has never been surpassed by any experimentalist. Far and wide the reputation of Epps's Cocoa has spread by the simple force of its own extraordinary merits. Medical men of all shades of opinion have agreed in re- commending it as the safest and most beneficial article of diet for persons of weak constitutions. This superiority of a particular mode of preparation over all others is a re- markable proof of the great results to be obtained from little causes. By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of digestion and nutri- tion, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a delicately flavoured beverage which may save us many heavy doctors bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be gradually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hundreds of subtle maladies are floating around us ready to attack wherever there is a weak point. We may escape many a fatal shaft by keep- ng ourselves well fortified with pure blood and a properly flourished frame."