Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

BOLTON, GOGLEDD LLOEGR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BOLTON, GOGLEDD LLOEGR. Yr wyf wedi bwriadu er ys cryn amserbell- ach ysgrifenu tipyn o hanes y lie hwn i'ch newyddiadur clodwiw, ond yr wyf yn awr yn ymgymeryd a'r gorchwyl. Y mae yma yn wasgaredig yn mhlith 80,000 o drigolion tua 150 neu 200 o'r hen genedl; ond drwg genyf ddyweyd eu bod yn gyfan- soddedig o dri dosbarth gwahanol, sef Cymry crefyddol, rhai uwchlaw eu cydgenedl, hefyd, y meddwon. Da genyf ddywedyd fod yma ddau achos genym ni, y Cymry, sef y Wesleyaid a'r Meth- odistiaid. Mae yma lawer o Annibynwyr, ond y maent yn un a'r Wesleyaid. Da genyf hysbysu fod yr hen dad Joseph Alcock, gynt o'r Maesteg, a'i deulu yn ein plith. Pregeth- odd ddwywaith y Sabboth diweddaf. Bydded i rai o gyfeillion Maesteg a ddygwydd weled y llinellau hyn, ei gofio ef a'i deulu at y Parch" W. Watkins, gweinidog yr Annibynwyr. Y mae yn ddrwg genyf ddyweyd nad yw'r ddwy gynulleidfa ond ychydig. Rhif yr aelodau gyda'r Wesleyaid yw 30, a thua haner hyny o wrandawyr, y Methodistiaid tuag 16, y gwran- _1_1' dawyr ond ychydig iawn. Ychydig ar y dosbarth nesaf. Cymry ydyw y rhai hyn nad ydynt yn arddel yr enw o Gymro a Chymraes, a braidd y gallant siarad dwsin o eiriau yn iaith y Sais, heb fenthyca'r iaith. Rhyfedd mor ffol mae rhai o'r Cymry ar ol gadael yr hen wlad. Maent yn colli eu hiaith yn fuan. Y dosbarth nesaf ydyw y rhai hyny nad ydynt yn meddwl dim am eu lies eu hunain yn y byd hwn na'r nesaf ond waeth eu gadael yn llonydd. Yr wythnos ddiweddaf cefais y fraint o fod yn y Bell Vue Zoological Gardens, Manchester Yr oedd yno gystadleuaeth yn y Concert Pavilion, yr hwn adeilad sydd yn ddigon eang i ddal tua deg mil ar hugain o bersonau. Yr oedd y gystadleuaeth yn hollol ddyeithr i mi, sef cystadleuaeth clychau. Yn nghanol y pavilion yr oedd esgynlawr eang, ac yn nghanol yr esgynlawr yr oedd bwrdd, ac ar y bwrdd yr oedd wyth set o Glychau, tua phed- air troedfedd rhwng pob set, a phob set yn cynws wyth cloch o wahanol faintioli. Yr oedd yno wyth o ddynion yn perthyn i bob cor. Ond nis gallaf ddyweyd faint oedd nifer y corau, ond yr oedd yma lafur y tuhwnt i'r llafur goraf a ddangosodd Cor Undebol Aber- dar, neu seindorf Cyfarthfa. Mewn ystafell ar yr esgynlaw, yr oedd tri boneddwr a fedrai eu deall i'r tone wanaf, sef y beirniaid, y rhai oeddyn o'r golwg fel na welent pwy a ganent neu pa beth bynag a elai yn mlaen. Cymered y Cymry yr awgrym a mabwysiader y drefn. SAER MAEN.

EISTEDDFOD MUSIC HALL, ABERTAWE.

"CAPEL Y TRINITY, ABERDAR.

[No title]

[No title]

[No title]