Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Bydded i'n cyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfeirio eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— REV. W. CALEDFETN WILLIAMS, Groes Wen, GWLADGABWB] Near Pontypridd.
[No title]
Meillionog.-Hoffem yn fawr weled mwy o awydd yn ein beirdd ieuainc i arfer arddull yr ys- grythyr lan o ran iaith. Y mae genjch chwi nythau yn lie nythod. Ac nid ydych yn cofio yr hyn a ddywedodd y Gwaredwr a chan adar yr awyr nythod ?" Onid ydyw y gair yn Ilawer prydferthach na nythau ?" Ni ddylasech ddyweyd ymwybiau," am ym- wibiai y mae y gair yn tarddu o gwib nid "gwyb." Yr ydym yn canfod ynoch ymgais am beidio camarfer yr h; ond dylasech ddy- weyd ddystawrwydd nid dystawrwydd yn y cysylltiad yr ydych chwi yn arfer y gair; ac ni ddylasech ddyweyd •' pan daw," ond pan ddaw. Dylech ofalu am ysgrifenu yn eglurach. JJianydd.—Ni ddylech ddyweyd ddynolrhyw;" nid oeB eisiau yr A. Yr ydych yn dodi gor- mod o hyd yn y llinellau yn fynych. Yr ydym wedi newid rhai geiriau a gadael dau benill allan. Y mae cael" yn anmhriodol i ateb i ail:" ac nid ydyw didrau yn gy- wir am didrai. Ni thai y llinellaa dan yr enw Englyn ddim. Nid oes cymaint ag un linell yn gywir. Gwallter Glan Taf.—Yr ydym yn rhoddi lie i'r Englynion yn fwy er anogaeth i chwi i fyned yn mlaen nag er mwyn dim arall. Y maent agos a bod yn rhydd oddiwrth wallau cyngan- eddol yn bresenol; ond ni ddylech arfer geir- iau fel y canlyn :—" gwnaf haeriad;" nid ydyw hyny yn profi dim; ac nid ydyw hwylusol" ond rhywbeth fel gair llanw. Gwydderig.—Go dda, ond fod y llinellau- Ac ar ei ben gwar y bo Y goron yn blaguro, yn cael eu dwyn i gof wrth ddarllen- Nefol goron flagura," yn niwedd eich Englyn. Ni ddylasech ddy- weyd yn eich penillion ar yr un testyn, am gariad gwrandewch ei llef." Nid ydyw hun yn ateb i ddyrym." Y mae yma Drwm ac Ysgafn. Yn ei gol ddylasid ddy- weyd am wladgarwch, nid yn ei chol." Nid oes angen dwy m mewn ymad." Dichon y bydd rhyw grachfardd yn rhywle yn synu ein bod mor fanwl, heb adael i wall mewn iaith, mewn cynganedd, nac mewn syniad basio ein sylw un amser. Y cwbl sy genym i'w ddyweyd yw mai rhai manwl iawn oedd ein hathrawon yn Gymraeg a Saeson- aeg; a manwl iawn oedd, ac yw pob awdwr Seisnig o sylw. Ac ni fydd neb o fawr o werth heb fod yn fanwl. Casnodyn.—Y mae y penillion yn fwy cy- mwys i gyhoeddiad crefyddol nag i new- yddiadur. Y mae y linell ddiweddaf yn feius; sef • Seinian mwyn i'r uchel sant." Nid oes dim ynddi i ateb i seiniau." Gwilym Glan Nedd.—Gwell genym Uu as- gellog na llu cangenog." Y mae gerddu, odiaith, eu sedd (am y gwynt,) a'i hanedd, rosyn, ar lili," oil yn wallus. Y mae y gan yn dlws; yr ydym wedi tynu y brychau uchod oddiar ei hwyneb gael iddi ymddangos yn dlysach. loan Cynffig.-Buasai yn well genym ryw air arall esmwythach yn ei gysylltiad a baban na "ffiwch," er ei fod yn cynwys bywiogrwydd. Dywed Dafydd ab Gwi- 1ym- "Duryn fflam y daran fflwch Dug warwyfa'n digrifwch." A dywed Goronwy- Pan fo Mon a'i thirionwch 0 wres fflam yn eirias fflwch." Y mae y beirdd yn parhau yn eu cymeradwy- aethau, megys- S-tTehByr—Welectoychydigo gynyrch fy ymenydd i r'n-wi *an hyderuy gwnewch a hwynt fel arfer, sef gwneud a hwy yn ol eu teilyngdod, abyddaf fl yn fodd- fon. bydded y fam yr hyn a fyddo Yr wyf yn gwybod lawer svdd yn anfon eu cynyrchion l chwi, ac o her- ^/eu hannheilyngdod, yncael eutaflu I'r fasged arhy- Teddfely ffroma eu hawdwyr- y bodau hunanol hyny wdd yn byw ar y gwynt; ond nid eich disgybkon, y ihai sydd wedi dysgu rhyw d;pyn ? hunan-ymwadiad, yn gadael teilyngdod eu cyfansoddiad l ofal a barn eu hathraw barddonol enwog. Ydwyf, yr eiddoch, syr. Baretus Syr,—Wrth ddarllen eich nodiadau at y beirdd TO Y G WLADGARWB, o wythnos L wythnos, meddyliaif an- ion'ychydig benillion atoch yn awr ac yn y man, lei y ■eallwyf gael ychydig addysg oddiwrthych trwy eich nod- iadau t.eilwng, os nad ant dan bwjsau y wasg. Yr eiddoch. Barch Syr,- Gwnaethum fy 11goreu i ddiwygio y lliuellau beius a nodasoch yn fy englynion. Lied obeithiaf eu bod yn awr yn deilwug i gael ymddangos. Gan mai hwn oedd. y tro cyntaf i mi anturio i'r wasg, a chan nad wyf ond iewanc, nis gallwn lai na theimlo braidd yn falch am fod fy intrlynion yn debyg o gael ymddangos. Ydwyf yn ddiolchgar, eich ufydd ddysgybl. Yr ydym yn anfon i'r Swyddfa yr eiddo Cas- nodyn, Gwyddericr, Meillionog, Elianydd, Gwallter Glan Taf, Gwilym Glan Nedd, a loan Cynffig. 0 gg^Dysgwylir i bob un anfon ei enw priodol gyda'i gyfansoddiadau, a plieidio dodi ei fFugenw rhwng cromfachau os na fydd am i'r enw priodol ymddangos o'i flaen.
DEUDDEG ENGLYN
DEUDDEG ENGLYN Ar sefydliad y Parch 1. W. Morris, Llanelli, yn Sardis, Pontypridd, Mehefin 30, 1868. Morris ddaeth mewn bri a mauredd-iln mysg, Er ein mawr orfoledd, Un yw hwn o ddewrion hedd, A rhodiwr ffyrdd anrhydedd. Iddo fe ro'ed gwahoddiad,-a gwresog Ivoesaw gyda'r alwad; 0 fodd doi r holl Eglwys fad, Am hwn or un dymuniad. Yn was anwyl mewn cydsyniad,-deuodd Ef, y duwiol genad Er codi enw'r Ceidwad, Aeth i'r ing yn abertfa rhad. Un cryf yw yn mhynciau crefydd,-a dwg Eaeth da i'w lu beunydd; Cnewyllyn yw'r hyn a rydd Yn geinwych er iawn gynydd. Dyn yw ef sy'n meddu douiau,—a dyn Doeth ei ddywediadau; Daw y gwir (ac nid y gau) Yn onest iawn o'i enau. E' eilw ar annuwiolion-i ddyfod At Ddofydd yn brydlon Gyra fry o gywir fron Weddi dros anufuddion. Hwn pan fydd yn taranu-o Sinai, Ei swn wna'n dychrynu Daw a deddf am bechod du, A'i Och i'n syn frawychu. Wed'yn yn lion symuda-at ei Grist, A'i groes wiw anwyla', Ac ar goedd fe gyhoedda Hedd, a dim ond newydd da." 0 angau a darostyngiad-Iesu Grasol, rydd ddarluniad; Dengys haeledd rhinwedd rhad, Rhagorol ffrwyth gwir gariad. Rhwymyn a sel yr amod,—a ddalio 'N ddilys am hir gyfnod Cariad dilyth byth fo'n bod Rag erchyll rwyg i warchod. Yn Sardis, Morris fo mwy,—i'w symud Na daoed siom na gofwy Ond boed eu mad uniad hwy, 0 hyd yn wir glodadwy. Anfoner gweddiau'n fynych—i'r nef Am ei gwir nawdd haelwych, Ar lafur maith a gwaith gwych, Enwog genad Ion ceinwych. Troedyrhiw. TBODYNFAB.
BRONWEN.
BRONWEN. (Testyn Rhiangerdd yn Eisteddfod Treherbert, Mehefin 22, 1868.) Nid yw tan a'i wyllt waneg Fwy na dim wrth fenyw deg.—BLACKWELL. Ar lan y Nedd droellog, Yn nyddiau'r Cymru fn, Y safai palas enwog Oedd uchel iawn ei fri; Yr oedd ei breswylyddion Yn wyr urddasol mad, Yn deilliaw o'r cad-ddewrion, Ymladdent dros eu gwlad. Gwir barchu hen ddefodau Y brython wnaent o hyd, Ac enwog iaith eu tadau, A noddent hwy yn glyd; Yr ydoedd Castell Arthur, Yn gyrchle diwahardd Y cerddor efo'i delyn, A'r awenyddol fardd. Fe dreuliwyd llawer noson 0 fewn y castell hwn, Yn Ilawen gan anghofio Helbulon byd a'i bwn; Nid oedd un math o dristwch Yn aflonyddu'r fron; Ond perffaith wir ddedwyddwch Deyrnasai yma'n lion. Yr oedd o fewn y llys, Enethig fechan dlos, Mor deg a phrydferth oedd Ei graddiau heirddliw'r rhos; Gwir ddelw ei rhieni lion, Oedd Bronwen fach, yr eneth hon. Rhyfeddol ydoedd serch Y tyner fam a'r tad, Tuag at eu hunig ferch, A'u hunig blentyn mad Mor wyliadwrus byddai'r fam, Rhag ofn i Bronwen fach gael cam. Cynyddu 'roedd y fun 0 hyd mewn harddweh mad; Ei chlodydd oedd ar led Yn awr mewn tref a gwlad Yr oedd yn wir holl swynion serch, Yn mherson hardd yr anwyl ferch. Aeth son am dani hi Cyn hir trwy'r byd ar g'oedd Ei gwallt modrwyog duo Yn destyn siarad oedd Diail brydferthwch Bronwen lan, A hoffai r beirdd yn destyn can. Fe ddysgwyd Bronwen gan ei thad, I chwareu'r delyn deir res, Ac hen alawon per ein gwlad, Chwareuid ganddi'n gynes; Yr oedd rhyw ddigyffelyb swyn, Yn cyfhwrdd a'r teimladau, Pan ydoedd hi yn tynu'n fwyn Ei bysedd dros y tanau. Daeth yn gerddores enwog iawn, A llaoedd wnai ddylifo I gasteli Arthur fore a nawn, I'w gweled ac i'w gwrando; Gwnai peraidd sain ei thanau man, Ddyrchafu hwyl yr awen A thra bo cerdd yn ngwlad y gan, Bydd cof am delyn Bronwen. Rhyw foreu yn y gwanwyn, Pan oedd o'r nen yr haul Yn taflu ei belydrau cain, Trwy frigau'r coed a'r dail, Yn araf rhodiai Bronwen, Yr enwog rian fad, 0 dan y derw tewfrig oedd Wrth gefn ty 'i hanwyl dad. Am enyd hi eisteddodd 0 dan y deiliog lwyn, I wrando cerdd yr adar man O'i hamgylch oedd mor fwyn; A phan mewn hwyl yn gwrando Ar feirdd y goedwig werdd, Hi glywai lane yn dod gerllaw, Gan byncio swynawl gerdd. Fe ganai yn bereiddol Y don Serch Hudol gu, Nes tynu deigryn byw o serch, O'i llygad siriol hi; Pwy, 0 pwy yw'r cerddor, Sy'n gwneud i'r rian Ion, Gan faint y awyn sydd yn ei gan, Anghofio pobpeth bron. Cyn hir fe ymddangoaodd Y medrus gerddor glan, Set, bugail bach y mynydd ban, Yn chwilio'r defaid man Dych'mygaf 'nawr ei weled Yn aefyll ger ei bron, A gostyngedig gyfarch wna Y foneddiges Ion. Gwnaeth hithau foesgyfarchiad 0 foneddigaidd fri; Ond 0 'roedd rhywbeth hynod iawn 0 fewn ei mynwes hi Yn awr nis gallai piarad Gan bwys y baich o serch; 'Roedd Cupid wedi gyru'i saeth I galon fach y ferch. Gan drafod aur fodrwyau, Ei gwallt llywethog hir, Edrychai ar y bugail mwyn, A gwen o gariad pur Hi synai at brydferthwch Ei ruddiau cochion glan, Yn siriol o'i dau lygad lion, Hi dybiai weled tan. Yn mlaen y teithiodd Meirig, Yn lion ar ysgafn droed Ond 0 meddyliai am y ferch A welodd yn y coed; Ei phrydferth ymddangosiad A'i gwen gariadus fwyn, Wnaeth iddo ef anghofio'n llwyr Y defaid bach a'r wyn. A Bronwen gan fyfyrio, Yn ol i'r castell aeth; Ond safai delw Meirig Wyn, O'i blaen am amser maith; Hi welai yn ei berson Mynyddig-for o swyn Anhawdd desgrifio'r serch tuag at Y pengrych fugail mwyn. Yn mhen ychydig ddyddiau, Ai damwain oedd nis gwn, Cyfarfod eto wnaethant ar Y llanerch prydferth hwn; Yn lion hwy eisteddasant Ar foncyff derw hen, Gan sisial geiriau cariad pur, A gwneud angylaidd wen. Tra'r oeddent yn ymgomio, 'Roedd serch ar waith o hyd, Yn gwneud y gadwyn euraidd hardd, I rwymo'r ddau yn nghyd; Er cymaint y gwyleidd-dra, A r holl betrusder mawr, Daeth allan holl gyfrinion cudd Y galon fach yn awr. Ar foreu dydd Gwyl Dewi, Hen ddiwrnod mawr ei glod, 'Roedd clychau'r llan yn canu 'N fwy peraidd nag erioed; 'Roedd Robin bach yn chwiban Ar ben y clochdy fry, Ar un o frigau'r ywen, Telorai'r aderyn du. Trwy'r porth yn ysgafn gerdded, Mi welaf fab a mun; Ac mewn gwyleidd-dra'n plyga, 0 flaen yr allor gun Erioed fu deuddyn glanach, Wrth allor llan y plwy'; Fe chwarddai merch Ceridwen Wrth wel'd eu tegwch hwy. A seinio'r addewidlon Bob gair a wnaent yn glir; 'Roedd caerau teml Hymen, Yn dyst o'i cariad pur; Wrth wisgo'r aurgylch bychan, Y llygad aeth yn llyn Ac asiwyd calon Bronwen Wrth galon Meirig Wyn. Glyn-nedd. G. G. NEDD.
Advertising
Y EEDDYGINIAETH HYNOTAF. LLYSIEUAETHAGALFANAETH PRIF ADFERYDDION NATUR. Gellir ymgynghori a MR. ALFRED ALLEN, M.B., (Goruchwyliwr y byd-enwog Dr. COFFIN, am 14 o flynyddau), yn ddyddiol, o 9 hyd 8 o'r gloch, ac ar ddyddiau Sul o 9 hyd 11, yn y Sefydliad Llysieuol a Galfan- iaethol, 2, Market Street, Aberdare. Mae Mr. Allen yn gwella pob anhwylderau trwy ddarpariaethau JLlySleilOl cartrefol a thra- mor, a gallu Galfaillaetli pan y bydd yr achos yn galw. Dymunir ar y cleifion na fedrant ddyfod yn bersonol am anfon potelaid bychan o'n dwfr, yr hwn a daflwyd ganddynt wedi codi y boren, fel y gellir ei ddosranu a'i roddi dan adchwillad chwyddwydrol. Anhwylderau y croen, a'r rhai hyny y deuwyd i'w gafael ar fynydau an wyliadwrus, &c., yn cael eU gwella gyda'r cyflymdra mwyaf, Mae digon o dystiolaethau i'w cael—497 wedi eu gwella, a 347 wedi derbyn Ueshad rhanol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf a'r rhyfeddod yw fod cymaint o hon- ynt wedi eu gwella wedi i bod moddion ereill fethu. Cyfeirier,- Botanic & Galvanic Institute, 2, Market Street, Aberdare. HI I& LEWIS New York Hotel, new y Welsh Harp, 28, UNION-STREET, LIVERPOOL. ADDYMUNA hysbysu ei gydwladwyr ei fod wea dodrefnu T? helaeth uohod yn y modd mwyaf cyfleai tuag at lettya ymwelwyr, ar y telerau mwpof rheBymol Tua thri munyd gerdded o'r man y glania y gwahaao agerlestri Cymreig. Gofaled y Cymro dihoced i vmofyn am dy Mr. Lewie Welsh Harp ae hefyd, ei fod yn anfon allan ymfadwyi i'r British Columbia, Awstralia, neu unrhru barth arall, gyda hwyl neu agerlongau, a y priaiati mwyaf rhesymoL Tmrwyma J. L. hefyd na chaiff neb a ymddiriedo en hunain i'w ofal achos i edifarhau, gan ei fod yn broflado yn y swyd Attebir pob ymofyniad ac aniooir po-b hyirorddiar t ond anfon postage stamp. CERDDORIAETH ALAW DDU. Ceinciau'r Gerdd." Rhan laf, pris Is. 6c. yn cynwys 14 o ddarnau. Yn awr yu barod yr AIL RHAN O G^eindau'r Gerdd," yn cjrnwys 14 o ddarnau, pris Is. 6c. AN A CHYDGAN,—" 0 rhowch i mi Fiat h," (0 give me a Got) Ail argraffiad, pris 6ch. Y geiriau Cymraeg gan Ieuan ap Iago, a'r geiriau Saesonaeg gan Titus Lewis, Esq. CARIADGAN,—"Nans o'r Glyn," (Fair Aim of Glyn), pris 6ch. Y geiriau Cymraeg gan G. ap Dafydd, a'r geiriau Saesonaeg gan De- heufardd. Yr oil gyda chyfeiliant i'r piano, neu'r delyn. D.S.—Lie na byddo Llyfrwerthwr yn gyfleuB, anfoner at yr awdwr gyda blaendaL Rhoddit commission da. Cyfeirir,—W. T. REES, (Alaw Ddu,) Aber- cam, Newport, Mon. JSWYDB1U NLIKAM I A MANTAIS FAWR I BAWB. DYMUNA E. H. EVANS, Cloth Hall, Aberdar, hysbysu i'r cyhoedd fod ganddo ar werth yn bresenol luaws mawr o Shawh Gwlenyn, a hyny am brisoedd hynod o rad. Cell Shawls a arferid eu gwerthu am jEl 10s., yn awr am 19s.; rhai a werthid am dEl, am 14s. 6d.; rhai a werthid am 12s., am 8s. 6.; rhai a werthid MB 10s., am 6s. 9d., ac ereill yn gyffelyb. Hefyd y mae ganddo y Stock oreu o wlaneid o wneuthuriad cartrefol a fedd Cymru, am brisoodd rhad iawn. CLOTH HALL, 8, Commercial St., Abtrdar*. iMEBICl. TIWTDDFA YMFIJDOL GTMRKIO. "TZ 8IM 01t' .A.ME8 IIM on J AHEi MSmmSarBSr "Union Street, Liverpool, A DDYMUNAddatgan eideimladdiolehgar am y gufnof aeth y mae wedi ei gael, hefyd a ddymuna wneithui yn hysbys ei fod yn parhau i Fookio gyda'r Agar aft Hwyl-loagau i America, Awetralia, .0., am y priaoadi iselaf yn Liverpool. Gellir cael pob hysbysrwydd am y Clud-dal, amser hwylio, ymborth, See., trwy ddanfon llythyr yn cynwys un stamp i'r cyfeiriad uehod. Bydd i'r sawl a ewyllysio le cyfleus i drin ymborth en hunaiB, yn nghyd a Uetyaeth cysurus, am y prisotxid iselaf yn Liverpool, ynghyd a lIe i gadw eu Luggage yu rhad. Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, yn dymono cymeradwyo Mr. James yn galonog i sylw ymfudwyr. gan gwbl gredu, y bydd iddo roddi pob boddlonrwydd ft cyhoedd: Parohedigion, W. THOMAS, Liverpool; REES EVAH8. Liverpool; T. E. JAMES, Glyn-nedd; W. ROBERTS. Blaenau; W. HARRIS, Heolyfelin, Aberdar; J. G OWEN, Rhyl; J. EMLYN JONES, M.A., LL.D., Mer. thyr; W. MORGAN, D.D., Caergybi; E. EVANS, Dow- lais; D. PRICE, Blaenffoa; J. LLOYD, Merthyr; B. JAMEs, Pyle; E. THOMAS, Casnewydd; J. JONES. (Mathetes,) Rhymni; W. ROBERTS, Penypare; R. A. JONES, Abertawe.—Gweinidogion y Bedyddwyr. Oddiar fy adnabyddiaeth o'r gweinidogion uehod, yn gystal a Uythyrau cymeradwyaeth i dy tawel a gweddua S. JAMES, y mae genyf yr hyfrydwch o'i gymeradwyo sylw ymfudwyr o Gymru. THOMAS PRICE, M.A., PH.D., Aberdar. Ymofyner yn Aberdar a'i chylchoedd a Mr Morris Morris, 11, Ynyscynon Street, Cwmbach, Aberdar, a Hr. Henry Davies, 5, Upper Regent-street, Aberdar. LECHYD I BAWB A HYNY YN RHAB Teml Iechyd neu TurMisla Baths, Merthyr. Dan Lywyddiaeth Mr. T. ATKINS. PRISOEDD. 1st. Class, o 8 a.m. hyd 2 p.m., .2s. 2nd. o 2 p.m. hyd 6 p.m., Is. 3rd. o 6 p.m. hyd 8 p.m., 9c. Gwrywod—Dyddiau Llun, Mercher, lau, a Sadwrn. Menywod—Dyddiau Mawrth a Gwener. Plunge and Shower Baths, comfortable fitted, 6d. each. Hot Water Baths—1st. Class, la. j 2nd. Class, 6d. Children to all the Baths at half price. Wlst. Class Baths may be had also from 8t p.m. until 9 p.m., for the convenience of Tradesmen, Travellers and others, every night excepting Tuesday. Cyn fy nyfod i'r Bath, blinid fi gan y Gymhalwst (Rheumatism) er's amser maith, ac yr oeddwn weithiau mor ddrwg hyd onid oeddwn bron yn methu a symud ond wedi bod amryw weithiau yn y Bath, da genyf ddwyn fy nhystiolaeih fy mod wedi fy llwyr wellhaa trwy effeith- iolrwydd y baddau, dan driniaeth fedrus Mr Atkins, i ba un nis gallaf ad-dalu digon am ei gymwynasgarwch. Hefyd, yr oedd rhywbeth wedi effeithio ar fy ngolygon; ond er yr amser ag y daethum i'r Bath, yr wyf yn gweled yn llawer gwell.—THOMAS THOMAS, Twyn-yr-odyn, Mer- thyr Tj dfil. CYMDEITHAS YMFUDOL CYFFRED- INOL CYMRU, Wedi ei sefydlu er cynorthwyo Gweithwyr II bob dosbarth i Ymfudo i America. Ymddiriedolwyr,—Parch. P. Howell, Gweinidog yr Annibynwyr, Merthyr; Parch. D. Jones Gweinidog y Methodistiaid, Merthyr. Prif Swyddfa—26, Castle Street, Merthyr. Sefydlir Canghenau yn fuan trwy Gymru. DYMUNA y pwyllgor alw yn ddifrifol ar eu cydweith- ■U -wyr i beidio colli dim amser cyn ymuno a'r deithas uchod, a thrwy hyny gydweithredu yn nghyd eeisio effeithio ar farchnad llafur y wlad hon, a ehodi cyfiog v gweithiwr. ggg-' Y rhai a ymresstrant yn aelodau yn awr, bydd gan ddynt siawnB yn y tyniad cyntaf o'r lots. Cyfeillion yn chwenych gwella sefyllfa y gweithwyr, taer ddymunir amynt i gynorthwyo yn y gwaith trwy I ddyfod yn Aelod Anrhydeddus. Gellir cael amodau aelodaeth trwy ymofyn a'r ysgrifen- ydd. J. MORGAN, 26, Castle Street, Merthyr. y CIIOLEKA. MEWN canlyniad i ail ymddangosiad y Diarihsea a'r English Cholera, aylai pob person gadw yn ei feddiant botelaid o foddisn eymysgedig y Dr. Price at wella y Cholera, yr hwn a brofwyd mor efEeithiol yn ystod yr ymwel- iadau yn 1846 a 1866. T. EVANS, Druggist, Sfc., 22. Commercial Place, ger y Boot Hotel, Aberdar. Anogir pawb i gadw y feddyginiaeth hwn wrth law, er cymeryd dogn o hono os dygwydd yr afiechyd ymosod, trwy yr hyn y gellir ei rwystro i ddyfod yn mlaen. Pris y moddion ydyw Is. 6c. y botelaid. TYSTIOLAETH.—AT MR. T. EVANS.—41 Anwyl Syr,— Wedi- i mi wneud prawf ar Dr. trice's Cholera Mixture fel meddyginiaeth rhag y g-waew a rhyddni, dymunwyfitr cyboedd gael gwybod am danyat, a derbyn yr un daioa oddiwrthynt a minau, yn ngwyneb yr unrhyw amgylch- iadau. Hefyd, y maent yn rhad ao yn hawdd i'w def- nyddio. i '■ Yr eiddoch, THOMAS ROWLANDS, '■rv■ rft. »O^elnKto^ y Methodistiaid tSilffifaMi? "• Gorph. 19> 1866. »» Pembroke Strtet, Aberdar.'