Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

AT Y BEIRDD.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Meillionog.-Hoffem yn fawr weled mwy o awydd yn ein beirdd ieuainc i arfer arddull yr ys- grythyr lan o ran iaith. Y mae genjch chwi nythau yn lie nythod. Ac nid ydych yn cofio yr hyn a ddywedodd y Gwaredwr a chan adar yr awyr nythod ?" Onid ydyw y gair yn Ilawer prydferthach na nythau ?" Ni ddylasech ddyweyd ymwybiau," am ym- wibiai y mae y gair yn tarddu o gwib nid "gwyb." Yr ydym yn canfod ynoch ymgais am beidio camarfer yr h; ond dylasech ddy- weyd ddystawrwydd nid dystawrwydd yn y cysylltiad yr ydych chwi yn arfer y gair; ac ni ddylasech ddyweyd •' pan daw," ond pan ddaw. Dylech ofalu am ysgrifenu yn eglurach. JJianydd.—Ni ddylech ddyweyd ddynolrhyw;" nid oeB eisiau yr A. Yr ydych yn dodi gor- mod o hyd yn y llinellau yn fynych. Yr ydym wedi newid rhai geiriau a gadael dau benill allan. Y mae cael" yn anmhriodol i ateb i ail:" ac nid ydyw didrau yn gy- wir am didrai. Ni thai y llinellaa dan yr enw Englyn ddim. Nid oes cymaint ag un linell yn gywir. Gwallter Glan Taf.—Yr ydym yn rhoddi lie i'r Englynion yn fwy er anogaeth i chwi i fyned yn mlaen nag er mwyn dim arall. Y maent agos a bod yn rhydd oddiwrth wallau cyngan- eddol yn bresenol; ond ni ddylech arfer geir- iau fel y canlyn :—" gwnaf haeriad;" nid ydyw hyny yn profi dim; ac nid ydyw hwylusol" ond rhywbeth fel gair llanw. Gwydderig.—Go dda, ond fod y llinellau- Ac ar ei ben gwar y bo Y goron yn blaguro, yn cael eu dwyn i gof wrth ddarllen- Nefol goron flagura," yn niwedd eich Englyn. Ni ddylasech ddy- weyd yn eich penillion ar yr un testyn, am gariad gwrandewch ei llef." Nid ydyw hun yn ateb i ddyrym." Y mae yma Drwm ac Ysgafn. Yn ei gol ddylasid ddy- weyd am wladgarwch, nid yn ei chol." Nid oes angen dwy m mewn ymad." Dichon y bydd rhyw grachfardd yn rhywle yn synu ein bod mor fanwl, heb adael i wall mewn iaith, mewn cynganedd, nac mewn syniad basio ein sylw un amser. Y cwbl sy genym i'w ddyweyd yw mai rhai manwl iawn oedd ein hathrawon yn Gymraeg a Saeson- aeg; a manwl iawn oedd, ac yw pob awdwr Seisnig o sylw. Ac ni fydd neb o fawr o werth heb fod yn fanwl. Casnodyn.—Y mae y penillion yn fwy cy- mwys i gyhoeddiad crefyddol nag i new- yddiadur. Y mae y linell ddiweddaf yn feius; sef • Seinian mwyn i'r uchel sant." Nid oes dim ynddi i ateb i seiniau." Gwilym Glan Nedd.—Gwell genym Uu as- gellog na llu cangenog." Y mae gerddu, odiaith, eu sedd (am y gwynt,) a'i hanedd, rosyn, ar lili," oil yn wallus. Y mae y gan yn dlws; yr ydym wedi tynu y brychau uchod oddiar ei hwyneb gael iddi ymddangos yn dlysach. loan Cynffig.-Buasai yn well genym ryw air arall esmwythach yn ei gysylltiad a baban na "ffiwch," er ei fod yn cynwys bywiogrwydd. Dywed Dafydd ab Gwi- 1ym- "Duryn fflam y daran fflwch Dug warwyfa'n digrifwch." A dywed Goronwy- Pan fo Mon a'i thirionwch 0 wres fflam yn eirias fflwch." Y mae y beirdd yn parhau yn eu cymeradwy- aethau, megys- S-tTehByr—Welectoychydigo gynyrch fy ymenydd i r'n-wi *an hyderuy gwnewch a hwynt fel arfer, sef gwneud a hwy yn ol eu teilyngdod, abyddaf fl yn fodd- fon. bydded y fam yr hyn a fyddo Yr wyf yn gwybod lawer svdd yn anfon eu cynyrchion l chwi, ac o her- ^/eu hannheilyngdod, yncael eutaflu I'r fasged arhy- Teddfely ffroma eu hawdwyr- y bodau hunanol hyny wdd yn byw ar y gwynt; ond nid eich disgybkon, y ihai sydd wedi dysgu rhyw d;pyn ? hunan-ymwadiad, yn gadael teilyngdod eu cyfansoddiad l ofal a barn eu hathraw barddonol enwog. Ydwyf, yr eiddoch, syr. Baretus Syr,—Wrth ddarllen eich nodiadau at y beirdd TO Y G WLADGARWB, o wythnos L wythnos, meddyliaif an- ion'ychydig benillion atoch yn awr ac yn y man, lei y ■eallwyf gael ychydig addysg oddiwrthych trwy eich nod- iadau t.eilwng, os nad ant dan bwjsau y wasg. Yr eiddoch. Barch Syr,- Gwnaethum fy 11goreu i ddiwygio y lliuellau beius a nodasoch yn fy englynion. Lied obeithiaf eu bod yn awr yn deilwug i gael ymddangos. Gan mai hwn oedd. y tro cyntaf i mi anturio i'r wasg, a chan nad wyf ond iewanc, nis gallwn lai na theimlo braidd yn falch am fod fy intrlynion yn debyg o gael ymddangos. Ydwyf yn ddiolchgar, eich ufydd ddysgybl. Yr ydym yn anfon i'r Swyddfa yr eiddo Cas- nodyn, Gwyddericr, Meillionog, Elianydd, Gwallter Glan Taf, Gwilym Glan Nedd, a loan Cynffig. 0 gg^Dysgwylir i bob un anfon ei enw priodol gyda'i gyfansoddiadau, a plieidio dodi ei fFugenw rhwng cromfachau os na fydd am i'r enw priodol ymddangos o'i flaen.

DEUDDEG ENGLYN

BRONWEN.

Advertising