Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

DYCHWELIAD DR. LIVINGSTONE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYCHWELIAD DR. LIVINGSTONE. Y mae Syr Roderick I. Murchison yn ys- grifenu fel y canlyn Y mae yn dda genyf ei wneud yn hysbys i'r cyhoedd fod y llythyron ag yr wyf wedi eu derbyn oddi- wrth Dr. Kirk, o Zanzibar, dyddiedig A wst y 18fed a'r 30ain, yn fy hysbysu ei fod wedi derbyn, trwy genadydd Arabaidd, lythyron byrion oddiwrth Dr. Livingstone, y rhai a ysgrifenwyd yn Marungo a Ca- zembe, lleoedd a orweddant i'r deau a'r deau-orllewin o Lyn Tanganyika. Yn gymaint a bod y llythyron byrion hyn wedi eu hysgrifenu yn mis Hydref a Rhagfyr, 1867, yr ydym yn awr wedi cael hysbysiaeth sydd yn rhoddi boddlonrwydd am yr oediadau sydd wedi cymeryd lie er pan yr ysgrifenodd ataf fi ac ereill o ledred mwy deheuol yn mis Chwefror, 1867. Y mae yn ymddangos fod Livingstone wedi bod yn byw am ystod tri mis gydag Arabiaid cyfeillgar, ac yn aros am derfyn- iad rhyfol oedd yn myned yn mlaen, cyn cychwyn ar ei ffordd i Ujiji, ac efe a ddy- wedodd wrth yr Arab ei fod yn bwriadu dychwelyd i Zanzibar wedi explorio Llyn Tanganyika. Hwn ydyw yr hysbysiaeth cyntaf o'i eiddo ef ei fod yn bwriadu dyfod o Affrica yn y cyfeiriad hyny, ac y mae yn cadarnhau yr awgrymiad a wnes amser yn 01 wrth y Gymdeithas Ddaearyddol. Y mae y llythyron oddiwrth Dr. Kirk yn dra chysurlawn, yn gymaint a'u bod yn ein hysbysu fod angenrheidiau, moddion, llythyron, yn nghyd ag hysbysiadau wedi eu hanfon i gyfarfod Dr. Livingstone i Ujiji, a bod ein teithiwr mawr yn hysbys eu bod wedi eu hanfon. Y mae Dr. Kirk yn fy adgoffa, pan yr aeth Livingstone ar ei ex- pedition (ac nid yw wedi derbyn unrhyw hysbysiad Ewropaidd er hyny), ei fod yn anhysbys o ddarganfyddiad Baker a phen deheuol Llyn Albert Nyanza na'r Tang- anyika ond yn gymaint a bod darlunlen o Baker wedi ei drosglwyddo hefyd i Ujiji, gwel Livingstone ar unwaith ei fod yn fwy o ddyledswydd arno yn awr nag erioed i geisio cael allan ddirgelwch mawr y dwfr- redfa Affricanaidd-y Nilas, trwy bender- fynu a ydyw y llynoedd mawrion hyn yn nglyn neu ar wahan gan ucheldiroedd, ac os ar wahao, trwy gael allan i ba afon y. mae Tanganyika yn ymarllwys ei dyfroedd gorlifol. Gyda y dyddiad sicr yn awr o'n blaen, gallwn yn hawdd gredu fod y newydd a ddaeth gyda y pellebyr o Bombay, dydd- iedig Hydref 3ydd, yn hollol gywir canys wedi i Livingstone ymadael a phen deheuol Tanganyika, byddai wedi cael rhyw ddeg mis i ymchwilio i holl amgylchoedd y llyn, ac wedi hyny cael allan ei ffordd i'r mor- draeth. Fe gofia ein darllenwyr fod y llythyr- god o Zanzibar, pa un bynag ai gyda y Seychelles neu y Cape, yn arferol o gy- meryd chwech wythnos neu ychwaneg i gyrhaedd Lloegr; o ganlyniad, os bydd i fy nghyfaill gyrhaedd y lie hwnw mewn wythnos wedi ymadawiad yr agerlong, yr I hon a gariodd y newydd i Tincomalee, a rhai wythnosau heibio, feallai, cyn i ni gael hysbysrwydd ei fod wedi cyrhaedd Zanzi- bar. Gall, yn wir, ddyfod a'r newydd ei hun, a rhoddi cyfleusdra i'w gydwladwyr i longyfarch cyn y Nadolig.

Y DDAEARGRYN YN PERU AC ECUADOR.

SPAIN.

[No title]

Advertising