Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
"BWRDD IECHYD ABERDAR.
BWRDD IECHYD ABERDAR. Cynaliwyd cyfarfod pymthegnosol y Bwrdd hwn ddydd lau diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol Mri. RhfS, (v Cadeirydd.) W. Davies, D. David, T. Burn, T. Pugh, a'r Parch M. Phillips, Wedi darllen adroddiadau y gwahanol swyddcgion, gwnawd sylw o'r NUISANCES. Obarthed yr achwyniad yn erbyn Margaret Llewellyn, gofynodd y Cadeirydd paham yr oedd ei hachos hi wedi cael ei nodi allan; y dylai y Bwrdd fol yn haelfrydig, yn gymaint a bod Iluaws o achosion cyffelyb yn y gymyd- ogaeth. Dywedai Mr. Burn fod canoedd o achosion. Sylwodd y Surveyor fod y tail nosol yn achos Mrs. Llewellyn yn cael ei adael yn yr ardd, a bod dwfr yn ei gario oddiyno i'r heol, a'i fod felly yn dyfod yn nuisance i ereill. Credai y Cadeirydd ei fod yn achos eithriadol, a rhoddwyd gorchymy n am y rhybydd arferol. Sylwai Mr. Pugh mewn perthynas i'r slaughter house, ei fod ef yn ei ystyried yn ddoethineb ar ran y Bwrdd i ganiatau trwydd- ed; fod lladd dai ereill yn eisiau, yn gymaint a bod yn lladd-dy cyhoedd yn rhy fychan. 0 barthed i'r Afon Dar, nad oedd holl dwlcod moch y gymydogaeth yn gymaint o nuisance ag oedd yr afon. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ann Jones, Cwmbach, yn aeh wyn fod Daniel Jones yn taflu budreddi o'i ladd-dy i'r nant, yr hyn, meddid, oedd yn nuisance mawr. Dywedai y Cadeirydd y gellid yn hawdd wella hyny. Fod yn rhaid iddo symud y cyfryw mewn llestri i le priodol, yn unol a'r cyfreithiuu neillduol, copi o'r rhai a orchymynwyd ei roddi i Mr. Jones. GOLEUO HIRWAUN. Darllenwyd llythvr oddiwrth Mr. John Aubrey, Ysgrifenydd Cwmni Gas Hirwaun, yn hysbyau, o barthed yr achwyniadau nad oedd y- lamps wedi cael eu goleuo ar yr adeg neillduol, mai yr achos oedd newid y retorts. Modd bynag, yr oedd y nosweithiau hyny yn deu, acnid oedd dim achwyniadau wedi cael eu gwneud gan fobl Hirwaun. 0 barthed y pris, yr oedd y cwmni wedi ymgymeryd a'u goleuo am yr un bris a'r Hen Gwmni, sef 93 3s. y lamp yn flynyddol; ond oherwydd com- petition, eu bod yn cael eu goleuo yn awr am bris annheg. Fod 93 3s. y lamp yn llai na lleoedd o'r un faintioli, ac nas gallai Cwmni Hirwaun fforddio eu go:euo am lai. Gobeith- ient y byddai yr eglurhad hwn yn foddhaol gan y Bwrdd. Derbyniwyd archiad o'r Swyddfa Rhyfel am .£500, sef rhan o'r swm dyledus am surveyad diweddar y plwyf. Gorchymynwyd ei fod i'w ohirio. LAMPAU YCHWANEGOL. Mr. Phillips, yn unol a rhybydd a roddodd yn y Bwrdd blaenorol, a gododd i gynyg fod lampa ychwanegol i gael eu gosod i lawr yn Davies Street, Aberaman. Sylwodd fod pwyllgor wedi ei benodi flynyddau yn ol i ystyried goleuo Aberaman, ac yr oeddynt wedi eynyg fod lamp i'w gosod yn Davies Street, ond oherwydd nad oedd prif bibau y gas wedi cael eu gosod i lawr yr aaeg hono, i'r cynygiad hwnw syrthio i'r llawr. Yn awr fod pibau wedi eu gosod i lawr, ac nis gallai neb wadu nad oedd eisiau lamp yn fawr yn y lie. Yn ystyried fod rhyw 35 neu 40 o dai-feddianwyr wedi gwario rhyw 200p. neu 3' 0p. mewn gosod yr heol yn briodol, yr oedd yn credu fod gan- ddynt hawl ar y Bwrdd, ac yr oedd efe yn eynyg fod lamp i gael ei rhoddi .yno. Trwy fod Mr. Phillips yn un o'r Cwmni Gas New- ydd, hysbyswyd ef gan y Clerk ei fod yn hollol allan o le with gynyg hyny. Dywedai Mr. W. Davies fod y pwnc o oleuo yr holl dref yn gofyn ystyriaeth. MORGAN STREET A'R GADLYS STREET. Dywedai Mr. Pugh et fod yn y cyfarfod dlweddaf wedi rhoddi rhybydd y buasai yn galw eylw y Bwrdd at y ddwy heol hyn. Fod ty ar ffordd mynedfa i'r ddwy heol, ac felly Bad oedd y mynedfeydd iddynt ond llwybr cul rhwng dau dy. Mr. W. Davies Y mae dwy fynedfa, a'r rhai hyny yn ddeg ar-hugain neu ddeugain troedfedd o led. Dywedai Mr. Pugh ei fod ef yn siarad am y brif heol sydd yn arwain o Aberdar i Hirwaun. Nad oedd y fynedfa ond deg neu ddeuddeg troedfedd, yr hyn oedd yn rhy gul. Yr oeddid wedi ei hysbysu ef fod perchenogion y tai yn Gadlys- street wedi gofyn am gael y ty yn y fynedfa wedi ei dynu i lawr, er gwneud mynedfa bri- odol. Ei bod yn. annheg i ofyn i'r perchenog- ion tai am fyned i'r draul, ei bod yn ddigon iddynt hwy i ffurfio yr heol Nid oedd efe yn gwybod a oedd gan y Bwrdd hawl i ofyn i'r perchenogion tir i brynu y cyfryw dai. Dywedai y Cadeirydd nad oedd gan y Bwrdd allu i wneud hyny, ond fod ganddynt hawl i'w brynu eu hunain i'r dyben o ledu yr heol. Mr. Pugh: Cyn i'r heolydd hyn gael eu ffurfio, dylasai y Bwrdd fynu gweled fod mynedfeydd priodol yn cael eu gwneud gan berchenogion y tir. Yr oedd wedi clywed fod Mr. Wayne wedi addaw prynu y ty yn Gadlys-strset wedi ft perchenog tarw. Fod y perchenog wedi marw yn awr, ond fod Mr. Wayne wedi marw ol flaen. Credai pe buasai Mr. Wayne wedi cael byw y buasai yn cyflawni ei addewid; ond yn awr, os nad oédd gan y Bwrdd hawl i orfodi y Cwmni i wneud hyny, gobeithiai y buasent yn ceisio dylanwadu amynt i'w brynu a'i dynu i lawr. Yr oedd efe yn cynyg fod i'r Bwrdd ofyn i Gwmni y Gadlys am wneuthur I mytietlfa btiodol i'r heol hono. Credai y Cadeirydd y dylai Mr. Pugh eirip «i gynygfed yn eglurach, beth yr oedd efe am i'r Bwrdd ei wneud. y Protebtfai Mr. Davies yn etbyn ylath gy- nygiad. Tr eedd lleoedd ereill llawn eyn- I ddrtrg a Gadlys- etreet., 0 barthed i hono yr aadd dau fynedfa iddi dbides, sef o Dowlais-st. gcOxford-street Yx oedd Cwmni y Gadlys yn foddlon aHerthu leaks y ty, rhyw ddwy neu dair punt yn y flwyddyn, os buasai i'r bobl brynu y ty. Dywedai y Oadeirydd fod v Bwrdd weai clywed fod y ty wedi el brynu i'r dyben o'i dynu i lawr. Nid oedd efe yn ei ystyried yn galedi fod i'r perchenogion ei brynu a'i dynu i lawr. Mr. Davies a ddywedai y byddai yn 40p. neu 50p. o golled i'r cwmni wrth roddi i fyny y lease Fod y gwrthwynebiadau hyn yn cael eu codi gan Rhys Etna. Jones, a bod Mr. Pugh yn eu dwyn yn mlaen er mwyngwneudei hun yn boblogaidd. Mr. Pugh a ddywedai nad oedd yn iawn i Mr. Davies ddyfod a'r fath bethau i'w wyneb. Ei fod ef wedi dwyn y mater yn mlaen o ddy- ledswydd. Fod deisyfiad wedi cael ei wneud ato i'w ddwyn yn mlaen cyn i Mr. Jones ddy- fod yno i fyw. Fo i Mr. Davies yn gwybod fod deisyfiad wedi cael ei wneud fwy na,- un- waith i brynu y ty i fyny. Mr. Davies: Y mae hyny yn anwiredd. Mr. Pugh A. wad- wch chwi na fu neb personau yn gofyn i chwi, fel cynrychiolydd Cwmni y Gadlys, i dynu y ty hwnw i lawr? Dywedodd y Cadeirydd el fod yn rhwym o ofyn iddynt i roddi i fyny y ddadl nes yr elent allan. Nad oedd yr un cynygiad o flaen y Bwrdd; ac os oedd y trigolion yn teimlo y ty dan sylw yn anghyfleusdra, mai eu lie oedd dyfod o flaen y Bwrdd. Wedi i Mr. Pugh gvfeirio drachefn at addewld y diweddar Mr. Wayne o barthed tynu i lawr y ty, dywedod d y Cadeirydd ei fod ef yn ei ystyried yn beth beius iawn i ddwyn yn mlaen addewidion dynion wedi iddynt farw, yn enwedig gan nad oedd dim yn ysgrifenedig. Mr. Pugh: Nid wyf yn gwnetid hyny o un anmharch i'r diweddar foneddwr. Mr. Davies: Yr ydych yn ddadleuydd neillduol i Rhys Etna Jones. Mr. Pugh: Yr ydych yn dy- weyd anwiredd, ni siaredais erioed a'r dyn. Ar hyn cododd y Bwrdd.
[No title]
PBLJUU HonowAT.—Rheol Bywyd.—Y presenol yw y oyfle mwyaf cvmhwys i sylwi ar y pegynau ao mae ieohyd pawb yn gorplrwys amynt. Mae yn rhaid. cau. allan o't oyfansoddiad yr holl anmhuredd ar eu ymddangosiad cyntaf. Mae gwisgoedd. a bwydydd yr hwn a drenlir yn dda yn y cyfansodcfiad dynol, yn rhwym o gyfoethogl y grwaed a'i elftuau meithrinol. Mae rhinweddaa y oy t newidiad graddol a weithir gan Beleni Puredig Hoi io way yn ateb yn gywir i'r amgenrheidiau hyn, ao y maent yn oryfhan y giau ao yn adfer cylehrediad y gwaed ilv le yr drefnus a rheolaidd. Mae y Peleni rhagorol hyn yn cadv rhanau naturiol y oorff yn y fath gyfar taledd, fely maan; yn atal poen yn y pen o bob math, y beil, twymynari, y clefyd rhydd, (diarhoBa,) a phob anhwylderau oyifelyb,
CYFARFOD CYFFREDINOL GLOWYR…
CYFARFOD CYFFREDINOL GLOWYR CWMRHONDDA. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn agos i Don- ypandy, yr 21ain cyfisol. Etholwyd Mr. J. Rogers, Pontypridd, yn gadeirydd, ac wedi cael araeth ddoniol ar natur y cyfarfod, sef sefydlu Undeb rhwng glowyr Deheudir Cymru a glowyr Lloegr, galwyd ar Mr. R. Lewis, Wigan, i anerch y cyfarfod. Cafwyd araeth dda dros ben ganddo ar yr angenrheidrwydd o undeb, a'r buddioldeb deilliedig o undeb cyffredinol. Galwyd yn nesaf ar Mr. William Brown, o Stafford, y person hynod hwnw a gymerwyd i fyny yn yr Heatherstone Riots, yn 1864. Ymresymodd o blaid undeb yn gryf iawn, a chafwyd esbonial helaeth ganddo ar gyfreith- iau Lloegr yn eu perthynas a hawliau y gweithwyr. Bu amryw ereill yn anerch y cyfarfod, y rhai a gawsant gymeradwyaeth wresog y dorf. Diweddwyd trwy i Mr. Brown ganu The old easy chair," y dorf yn uno yn y c ydgan. Da. ganym hysbysu fod thai o'r gweithfeydd wedi penderfynu ffurfio cyfrinfaoedd o'r new- ydd. Y mae yr hon a sefydlwyd er ys 4 mis yn ol yn Tonypandy yn cynwys dros ddau cant o aelodau yn bresenol. Dylem fod yn ddiolchgar i'n brodyr y Saeson am deimlo cymaint o aiddgarwch a sel dros yr egwyddor undebol, trwy ddadon y ddau gyf- aill uchod atom yn rhad. Gobeithio y gwnawn ninau tin goreu drosti, oherwydd bydd rheolau yr undeb hwn yn sicr o fod er lies i'r glowyr yn gyffredinol ond eu cario i weithrediad. PENTYRCH. [Hanesyn arall am y cyfarfod hwn wedi ei dderbyn.-GoL ]
YSTRADGYNLAIS.-
YSTRADGYNLAIS. Llenyddiaeth.- Y mae agwedd lenyddol y lie uchod yn bur dawel er ys dipyn, heb un Eisteddfod na chyfarfod llenyddol o bwys i dori ar heddwch awyrgylch llenyddiaeth y lie ond, ar gychwyniad gwaith Ynyscedwyn, tor odd gWbwr gobaith, ex yn wanaidd, eto'n addawol, ar amgylchiadau llenyddol y lie. Creodd hyn yni, a deffrodd weithgarwch rhai o edmygwyr llenyddiaeth yn Sardis, i fynu cyfarfod llenyddol yn y capsl, a rhoddi ych- ydig o waith i lenorion yr ardal a'r ardaloedd cylchynoL Clywsom fod rhai o brif gynulleid- faoedd y cymydogaethau eylchynol yn parotoi erbyn yr ymgyrch hon. Bydded iddynt ym- roi ati. Credwn y cdnt eu pwyso yn gywir yn nghlorian cyfiawnder gan y galluog ar penderfynol Ehedydd Cynlais. Dygwyddodd yn anffodus fod adeg benodedig cynaliad y cyfarfod ar yr un dydd a Sadwm pay gwaith Yetalyfera; a rhag y buasai hyny yn un rhwystr ar ffordd y corau i bresenoli eu hun- ain yn y cyfarfod, penderfynodd y pwyllgor ei ohicio wythnos yn mheUach, sef Hydref yr 22ain. Deallwn fod y cyfarfod hwn i rag- flaenu Eisteddfod fawreddog a fwriedir gynal yn yr un Ue.—UN O'B LLE.
[No title]
UNDEB CBBDIJOIIOL CTNUFIIIIIDFAOL ABER- DAR.—Cynaliwyd Cyfsrfbd Chwarterol yr U*d^b;4»TOod jfo Bfryn, Sieion,qapel-y tl¥efn- yddiw Ca^aldji, 1>pcy»on. Dpshreu^yd y cyfarfod ^y dd^rll^n «j ^weddi^> ga?i J&rayd o ar nitur y cyfalf6d, galwodd ar Jjlr. Thomas Jiees, Nazareth, at el wfc'th, sef arwain y can* torion. Canwyd y tonau canlynol:—Llan- goedmor, Brain t, Mendelssohn, Glan Rhondda, Gravenburg, Dolgellau, ac Alexander, y cwbl o'r Ychw imgiad i Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt. Hefyd, cafwyd anerchiadau rhwng datganiad y tonau gan Mr. John Jones, ysgol-feistr, Cwmaman, a'r Parch. Morris Morgan, Nazar- eth. Cafwyd cyfarfod da iawn, y canu a'r areithiau yn effeithiol ac i bwrpas. Yr oedd yn dda lawn genyf weled cymaint o wraudaw- wyr wedi dyfod ya nghyd i'r cyfarfod,—go- beithio y deuant yn gryfach o hyn allan—y mae yr achos yn wir deilwng o'n cefnogaeth. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. Morris Morgan, ac ymadawodd pawb tuag adref wedi eu boddloni.—Gludydd. DINAS.-Dydd Mawrth, yr 20fed cyfisol, rhoddwyd gwledd o de a bara brith i blant yr Ysgol Frytanaidd. Cafwyd darlith gan Mr. D. Williams ar "Y Plentyn a'i Athraw,"—Mr Hughes yn y gadair. Gwnaeth y darlithydd sylwadau parchus ar Mr. Phillips, fel athraw ffyddlon a medrus, ac y mae golwg lewyrchus yr ysgol yn profi hyny. Yn ychwanegol at ddyddordeb y cyfarfod, yr oedd Cor y Dlnas yn gwasanaethu, dan lywyddiaeth Mr. R. Evans, (Alawfryn.) Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu boddloni.- Un oedd yno. TREHERBERT. Wonders will never cease" medd y bobl enwog sy'n deall pob path, ac yn medru siarad Saesonaeg. Yn mhlith rhyfedd- odau y dyddiau presenol, cawn, yn ol yr hys- bysiad sydd allan, fod yr "Hen wr a'r Batch Drain," sy'n y Lloer, yn myned i daflll ei faich i lawr nos Fawrth nesaf, sef y 4ydd o Hydref, gan addaw rhoddi cyngherdd wych yn Ysgoldy Brytanaidd ein hardal. Deuwch yno, gantor- orion, a phawb sy'n hoff o'r gerdd, i weled a chlywed y gwr hynod hwn. Bydd y Lloer y nosonhono, feddichon, yn berffaith ddysglaer, heb gysgod yr hen bechadur arni. Modd bynag, masn fwy na thebyg y ceir canu tra rhagorol; oblegyd dywedir, medda nhw, fod gwyr mynyddoedd y Ileuad oil yn ddirwest- wyr. Pwy fel hwy am ganu'n dda ? Y mae bechgyn gwych mynyddoedd Gwalia yn uchel eu clod, a dywedir fod Mynyddog yn Dywysog yn mhlith llu cerddorol ein gwlad.-D. HOREB, PENTYRCH.—Nos Lun, Medi 19eg, cynaliwyd cyngherdd fawreddog yn y capel uchod. Agorwyd y cyfarfod trwv araeth fer a phwrpasol gan v llywydd-y Parch T. C. Phillips. Ystalyfera. Dywedai fod yr enaid wedi ei lunio i ganu, a'i fod yn cael ei entran- cio gau gerddoriaeth. Fod gan jiwrig afael giaf ar y byd. Rhaid fod dyn yn stoic, yn ddyn carag, os na wnal cerddoriaeth bur effeithio arno. Oredai nad oadd dyn yn fawr o beth, os na fvddai yn hoff o fiwsig. Dywedai Shakespare, Tho man that hath no music in his tone, let no such man be trusted." Auog- ai Mr Phillips hefyd y cyfeillion ieuainc i astudio cerddoriaeth fel gwyddoreg, celfyddyd, a chaniadaeth. Cpmerwyd rhan yn y concert gan Mr Thos. Williams, (Eos Glan Taf,) Misses Williams a Griffiths. Caerdydd. Mri. D. P Lewis, Treherbert, a Thos. Thomas, Ffynon Taf. Hefyd, y Misses James, Pentyrch. Canwyd amryw ddarnau gan gor y lie, dan arweiniad Mr D. John. Hefyd, cor Tabor, dan arwein- iad Thos, Thomas. Gwasauaethwyd ar y piano gan Mr Thatcher, Organist Penarth. Cafwyd 11 on aid y ty o ddyn ion cyfrifol Yr oedd y canu yn hynod foddhaol. Y budd yn myned 1 gynorthwyo gwr ieuanc o'r ardal ag sydd wedi bod yn dyoddef hir gystudd. Yr oedd y concert yn llwyddiant yn mhob jfstyr o'r gair.
CREULONDEB ANWARAIDD MENYWOD…
CREULONDEB ANWARAIDD MENYW- OD YN LLOEGR! Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, yn y Central Criminal Court, dechreuwyd prawf y ddwy fenyw, Walters ac Ellis, dan ainryw gyhucELiadau o lofiuddiaeth wirfoddol, y rhai a god^nt oddiwith yr arferiad creulon a ddygid yn mlaen ganddynt, sef cymaryd babanod am swm neillduol o arian gan y rhai hyny a chwenychent eu cael oddiar eu dwylaw.' Y man y dygid yr anfadwaith hwn yn mlaen oedd Brixton, a phrofid mai masnach y menyw- od hyn oedd cymeryd babanod, a'u cael oddiar y ffordd mor fuan ag y gallent. Dygwyd y prawf i derfyniad ddydd Gwener. Cafwyd fod y wraig Walters yn euog o lo&uddiaeth, a dedfrydwyd hi i'w dienyddio. Cafwyd Ellis yn euog o gyhudaiad llai, a dedfrydwyd hi i 18 mis o lafur caled. Y mae yn foddhad mawr i gael ar ddeall fod iechyd Mr Bright yn parhan i wella. Yn Llandudno y mae o hyd. Y mae Mr George Odger wedi darbyn ateb- iad oddiwrth M. Jules Favre i'r anerchiad oddiwrth ddosbarth gweithiol Idundain. Y mae Mr Favre yn dymuno i weithwyr Llun- dain i ddeall fod yn gas gan Ffrainc ryfel bob amser-eu bod yn caru Germany, ac os byddai hi yn gyfiawn tuag atynt, heb arddodi amodau dinystriol, y byddai iddi eu cael yn barod i faddeu y osineb sydd wedi ei gyneu gyda'r fath ganlyniadau colledus. Dygwyddodd damwain angeuol ddydd Sad- wrn diweddaf i'r Parch H. 0. Maurice, Curad Hampnetwith Stowell, ger Northleach Yr oedd y boneddwr yn ymdrochu, pryd, fel y tybir, y cymeroddy cramp ef, fel y snddodd ac y boddodd. Tra yr oedd 14 o geffylau cerbydau yr Amerawdwr Napoleon yn cael eu gwertibu yn Tatt^RaH's^djr^ Llun, jr wytbnqs |idjwed4- af, yr oedd cerbyd a ohweoh o geffylau dnon yn cael eu hanfon b Berlin i Wilnelmshoke, at wasinaeth ei Fiscwrhydl. Y mae llythyron wedi derbvn oddiwrth} )fr Childers, yn y rhai y siarada efe amy gweliiant mawr sydd wedi cymeryd He yn ei fcchyd, Y FRENHINES AG AMERODRES FFRAINC.— Dywed y Pall Mall Gazitts fod ein Brenhiaes, yn ystoi y dyddiau diweddaf, wedi anfou llythyr o gydymdeimlad at yr Amerodres. LLOEGR A GWERINIAETH FFRA.INC.—Dydd Mawrth diwe idaf, bu cynrychiolaeth o weith- wyr gyda Mr Gladstone yn ymddyddan o barthed cydnabod Gweriniaeth Ffrainc. Addawodd Mr Gladstone, mor gynted ag y byddai i Fffaine ethol ei Llywodraeth, na byddai ein Llywodraeth yn ol o'i chydnaboi. Yn meliuau Papur Trawsweir, Exeter, ffrwydrodd berwedydd dydd Mawrth diwedd- af, ac a achosodd dan dinystrioi. Gwnawd cryn ddinystr drwy y ddamwain. LLANELLI.-Ða,y¡¡,waiil. Angeuol —Cymerodd damwain angeuol Ie ddydd Mawrth diweddaf yn nghapd Moriah, yr hwn sydd yn awr yn cael ei adeiladu, trwy yr hwn y cafodd un Mr John Powell ei ladd, a dyn arall o'r enw David Jenkins ei anafu yn tawr. Yr ydym. yn cael fod y scaffold wedi syrthio o'r uchder o ddeugain troedfedd, ac i Mr Powell dderbyn y fath niweidiau fal y bu farw mewn ychydig fynydau. Mr Powell oedd wedi ymgymeryd ag adeiladu y capal.
RHAGORIAETH DIRWEST A DIR-WESTWYR.
RHAGORIAETH DIRWEST A DIR- WESTWYR. Y mae Mr George Cruikshank wedi dweyd fod yn awr rhwng tair a phedair miliwn o ddirwestwyr yn y wlad hon, ac yr heria efe unrhyw un i brofi fod na llofruddiaeth, ym- osodiad creulon, nac yspeiliad wedi cael ei gyf- lawnu gan ddirwestwr! Y mae y dywediad yn creu cryn syiw, ond nid oea neb hyd yma wedi ei droi yn ol.
Y DDAEARGRYN DDINYSTRIOL YN…
Y DDAEARGRYN DDINYSTRIOL YN THEBET. Gyda'r llythyrgod o India, yr ydym wedi derbyn ychydig fanylion o barthed y galanas- dra a achoswyd drwy y daaeargryn a gymer- odd le ar yr 11 eg o E brill yn Thebet. Telml- wyd yr ysgydwad cyntaf am oddeutu pump o'r gloch yn y boreu. Ar fachludiad haul yegydwyd tref Bathang o un pen i'r llall, a. syrthiodd bron yr holl dai, mawrion a bychain, i'r llawr, gan gladdu dros haner y boblogaeth yn y dadfeilion. Wedi hyny cododd gwynt cryf, a thorodd tau dinystriol allan yn Bath- ang, yr hwn a ddechreuodd ar yr 11 eg, ac a barhaodd hyd y 23ain, gan losgi i fyny y byw a'r marw, a phob peth arail ag yr oedd y ddae- argryn wedi ei adael. Collwyd dros dair mil o fywydau. -J
PETHA.U HYNOD. 1
PETHA.U HYNOD. 1 1. Cyfiawnder gan gribddeilwyr, trugaredd gan lofrudd, ac elusen oddiwrth gybydd 2. Cwpwrdd llawn gan feddwyn, gonest- rwydd art unions Americanaidd, a thelyn i ddifyru ffyliaid. 3. Cartrefle y diogyn, gorweddfa moch y melinydd, a dynes syber yn defnyddio trew- lwch. 4. Lie i ddyn gerdded drwy awyrffyrdd, pyllau glo, yr arolygwr yn cerdded yn nhraed ei hosanau i geisio dal ysmocwyr, a chael pria rhesymol am y gloden fawr. 5. Stop lamp am bump, ► aros nes cddi y ceffylau, a cha-el pymtheg cant yn lie tynell. 6. Ansicrwydd llywodraeth dymhorol yn y Pab, herfeiddiwch grwgnachwyr eisteddfodol, a dyled Eisteddfod y Cymry. 7. Rheilffordd fawr y mor tawelog, llosgi y mynydd creiglyd, a chyfansoddia:lau buddugol Eisteddfod y Ceffyl Gwyn. 8. Mordwyo Camlas y Suez, corach wedi trol yn gritic, a Sdfydliad teyrnas Wyddelig yn yr Iwerddon. 9. Llvsnafedd y Western Mail, muszrellni y. werin bobl, a'r anhebygolrwydd i'r Aberdare Times ddyfod byth yn gyfaill y gweithiwr. 10. Diflanisd y Truck System, packmen dydd Llun ar ol y pay, a gogoaiant y Cwrt Bach. 11. Paganiaeth yn Nghwmaman, cenedl yn gorfod dwyn gwarth ynfydion, a thebygol- rwydd ambell ddyn i anifail. 12. Canibal Cymreig, llewpard mewn croent .dyn, a gorrilla synwyrol. 13. Bechgyn ymhongar glanau y Tawelfor yn amheu douiau Llew LI wyfo, athrylith. Cranogwen wedi taro rhai o hoaynt dros fryn bodolaeth i ddyffryndinodedd,a Shoni Sgubor- fawr, gynt o Bontypridd, wedi troi yn Gabin- twr y Lieu ad yn y Drych Americanaidd. 14 Pregeta ar rhyfel, llythyrau o Lundaiu i'r Drych Americanaidd yn cael eu hysgrifenu yn Merthyr, a llenyddiaeth yr Aberdare Times. 15. Seren Pottisville wedi machlud, Aneuria Fardd yn olygydd yn Safon, a loan Fedydd- iwr New York yn drysorydd. 16. DarlithiauThalamlis ar Forwerydd, ei daith ddychmygol o Utica i Lundain, 80'[ bryddest ddiodl ar Anlladrwydd a Meddwdod. 17. Tri dyn mwyaf yr oes bresenol, Brigham Young, Thalamus, a Philos o'r Cwm. 18. Byw tu ol i'r Ileal, llythyrau Bol Haul, a thraethawd arobryn Philos o'r Cwm, ac Onestrwydd. 19. Croesi'r werydd i dalu dyledion, llad- rata gwraig ei gymydog, a byw yn fras ar eidda pobl ereill. Yr eiddoch, Bryn-y-WyntylL SOLOMON.
Advertising
DR. HUNTER'S Special Lectures to Yoang Men, on HEALTH, ITS RESTOR- ATION AND HAPPY MARRIAGES.—When to marry, with advice to those ipho oOntetn plate marriage, pointmgc qat oeitain impedtaMnUi' -whioh 1 render married Ufa unhap:>V, and directions fot their speedy remoTaU ffliould be read by all, who value, health, strength, andmao^ Mood and wish to attain a happy old age,—Post free on rpmlpfc ,$f jWrtf Bt8»a}aj"-A(Cldre?8, SeorcfMry^lnBtitaM of AnatomT, Birminxhanu Jj Bonflddigesau hyiiv nad ydynt w^i defnyddio StaroU Glenfleld, dymunir att- iddynt wneud an prawf o bono, » nad yn ofalus am ganlyn y eyf^wyddiadaSi argraffedlk kr l(ob pacyn.' Y mae yn yohyaig anhaw^daoh ei wnea4 n» 4wwee ereiH, otad pan r demr dros yr anha-<rsdra, 8y- Wedir fel Golohwrageda y Frenines, m*i yStareh iWWtf ddefayddivyd ydyw,