Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

TERFYNIAD Y STIKE YN AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TERFYNIAD Y STIKE YN AMERICA. St. Clair, Pa., America. Mr. Gol.)-Dymunaf am i amynedd gael ei pherffaith waith ^enych y tro hwn yn unig. Dichon fod eich gofod yn brin y dyddiau hyn yn herwydd y rhyfel waedlyd sydd yn bodoli y dyddiau presenol rhwng Ffrainc a Prwsia. Hyn hefyd ydyw prif destyn y dydd yn holl bapyrau y wlad hon. Ond yn gymaint ag i mi ysgrifenu hanes y strike i un o'ch rhifynau diweddaf, beroais mai teg fyddai i mi eto gy- hoeddi ei gorpheniad. Gall yr hyn a ganlyn fod yn falm i glwyf canoedd o ddarllenwyr y GwLADGARWR; ac yn gysur i lawer un yn ei drallod. Yr ydym gyda llawenydd yn eich hysbysu fod y cwmwl dudew fu yn gordoi Scuylkill County, a'r swyddi cylchynol, wedi clirio i ffwrdd, a gwawr oleu yn gwenu arnom un- waith yn rhagor. Yr ydym wedi colli tua 7 mis, "heb fawr o waith wedi ei wneud gan neb, oddieithr ychydig yma ac acw gan hwn a'r llall, ar y repairs; ond erbyn heddyw y mae y rhwystrau wedi eu symud, yr holl genfigen a'r anghydwelediad oedd yn ffynu rhwng y meistr a'r gweithiwr wedi diflanu fel mwg, pob olwyn a berthyn i bob gwaith yn troi mor hwylus ag erioed, y gweithwyr (y rhai fu gynt yn elynion i'w gilydd) yn awr fel Jonathan a Dafydd, yn gymaint cyfeillion ag y buont er- ioed, a'r naill blaid fel y llall wedi claddu eu beiau y tu ol iddynt, gan weithio yn un ac yn gytun, heb neb yn tynu'n groes. Cychwynodd y gweithiau y laf o Awst, ar y telerau a ganlyn :—Fod y gweithwyr i gael eu tri doler basis, hyny yw, pe byddai y glo yn gwerthu am 3 doler y dynell yn y farchnad, fod iddynt hwy-y mwnwyr—gael 14 doler yr wythnos pan fyddent yn gweithio ar hur, yr hyn hefyd oeddynt yn ofyn; a phe dygwyddai i'r glo fyned i fyny i 4 doler, fod y gweithwyr i gael 35 cent o godiad ar bob doler a enillant. Tebyg i hynyna yr oedd pethau yn sefyll cyn y strike. Y mae y drefn wedi newid ychydig yn awr, a diameu genym y bydd yn sicr o ateb y dyben yn well i'r meistr yn gystal a'r gweith- wyr, na'r hen -drefn. Y mae y drefn newydd yma, sef y sliding scale, yn myned i fyny ac i lawr. Os bydd y glo yn ddau ddoler a haner y dynell yn y farchnad, y mae y gweithwyr i ostwng i 12 yn lie 14 doler yr wythnos; a phe dygwyddai-ddyfod i lawr i 2 ddoler y dynell, fod y gweithwyr i gael eu talu yn ol 10 yn lie 12 doler yr wythnos, a dim yn Is. Pasiwyd penderfyniad gan y Grand Council, os byddai i'r glo fyned islaw 2 ddoler y dynell, fod i'r mwnwyr gael suspension hyd nes y byddai i'r prynwyr diras weled mwy o angen tynell o lo, a gweled hefyd fod yr hwn sydd yn ei dori yn deilwng o ryw gydnabyddiaeth am ei lafur- waitha'i anturiaethau peryglus. O'r braidd y credwn fod tynell o lo, allan o'r miloedd tyaelli sydd yn caeleu hanfon bob dydd i wahanol fanau o'r wlad yma, nad yw gwaed y mwnwr tlawd wedi ei dywallt arni, a hyny o herwydd llymder y glo sydd yn y rhanau hyn o'r wlad-y mae ei swn yn union fel camedd o hen boteli gwydr wedi eu tori pan deflir hwy ar eu gilydd. Gwn fod rhai o ddarllenwyr y GWLADGARWR, y rhai a adwaenwyf yn dda, a wyddant trwy brofiad fod yr hyn a ddywedals yn wirionedd. Nid ydym mewn un modd yn pleidio strike, os bydd yn bosibl bod hebddi; ond yn ddiddadl, gwna strike yma. ddaioni i'r naill blaid fel y llall. Cafwyd gweled faint oedd ei gallu bob ochr, a maint ei chyfoeth. Llorlwyd llawer gwr cyfoethog with geisio ymladd i enill y dydd, ac yn y diwedd yn troi yn fethiant. Dichon y gwna y cynllun new- ydd, sef y sliding scale, ateb y dyben yn well i'r meistr a'r gweithwyr na'r hen drefn. O'r blaen, ni wnai dim y too ond y tri doler basis, pe bai byd yn bebyfi. Lawer pryd, byddai y meistr yn ymdrechu cadw ei waith yn mlaen, gan feddwl y byddai i'r glo godi; ond pan adeuai y mis i ben, byddai y glo wedi dyfod 1 lawr 10 neu 15 cent y dynell, ac er hyny yn gorfodtalugofyniony mwnwyr, neu wneud ei hun yn fethdalwr, a thrueni o'r mwyaf yw hyny. Nid oes daioni fyth o weled perchenog gwaith yn gwaethygu yn ei sefyllfa. Gellir dysgwyl y canlyna y gweithiwr ef ar fyr. Yr ydym yn caru diareb y Sais bob amser, sef "Live and let live." Y gweithwyr yw y buddugwyr y tro hwn mewn rhyw ystyr. Cawsant yr hyn oeddynt yn ymofyn, ond eu bod i fyned i fyny ac i lawr, yn ol fel y byddo y marchnadoedd. Ceir gweithio yn fwy cyson o hyn allan, a chaiff y meistr yn gystal a'r gweithiwr ran o'r fasnach fydd yn pasio trwy y wlad, a gall y perchenog yn awr werthu ei lo i gystadlu ag ereill. Yr oeddwn yn meddwl dyweyd gair pa fodd y gallwyd sefyll yr holl amser, heb fod llawer o ddynion yn newynu. Diameu genym fod llawer yn synu pa fodd yr oadd dynion yn gallu byw cyhyd heb enill dim i'w cynal. Y mae llawer hen weddw wedi holi yn fynych sut yr oedd ei hanwyl fachgen. Nid ydym yn credu fod neb wedi gweled eisiau pryd o fwyd yn ystod y saith mis y buwyd yn sefyll allan. Dim ond dau ddarfu i mi weled yn cardota, ie, a Dau hen Wyddel du, anaddap, -oeddynt Yn eiddil a drewgas; Dau anwvr iawn dinas, A'n H.iw brwnt-wedd hyll heb ras. Nid oes raid i ti, ddarllenydd, wrth hanes y Gwyddel-yr ydwyt yn gwybod fel finau pa fath genedl ydynt; ond teg fyddai dywedyd nad yw pawb o honynt yn afiach. Y mae yn rhaid iddynt wrth eu whisci cyn y credant y gall eu peirianau coed weithio. Gwleddant, ae yna ymgladdu Yn hyll eu dawn mewn llaid du. Rhaid i mi derfynu yn nghanol fy nghyf- eillach felus a thi, ddarllenydd. D. GRIFFITHS, Gynt o Gwmafon.

AMRYWION 0 YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.

GAIR AT YMGEISYDD.

LLOFFION 0 LLANELLI.

[No title]