Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB GWEITHWYR ALCAN MOR-…
UNDEB GWEITHWYR ALCAN MOR- GANWG A MYNWY. Dydd Sadwrn, Awst y 30ain, cynaliwyd cyfarfod gan gynrychiolwyr deg o weithiau alean Morganwg yn y Vale of Neath Arms, Castellnedd. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ofyn i bob un o'r cynrychiolwyr am brisoedd pob gwaith, as chafwyd ar ddeall fod y pris- oedd yn amrywio yn fawr. Yr oedd hwn yn gyfarfod hwylus iawn, ond yr oedd y siarad- wyr fel yn teimlo yn dra anfcddlawn o her- wydd na byddai y meistri wedi eu cydnabod mewn codiad yn eu prisoedd. Y mae pris yr alcan yn fwy na chymaint arall nag yr oedd er ys blwyddyn yn ol. Pris yr alcan o'r def- nydd gwaethaf flwyddyn yn ol oedd £1 y blwcii, end yn awr y mae yn zC2 y blwch. Dyna flwch o 16 yn R2; ix., £ 2 7s.; ixx, £ 218s., eto nid yw y gweithwyr yn derbyn dim yn ychwaneg am eu gwaith. Pa bryd y daw perchenogiongweithfeydd i werthfawrogi llafur? Y mae pob alcanwr profiadol yn gwVbod yn dda nad ydyw y cyflogau yr hyn ddylent fod wrth ystyried masnach a phris y tin ar hyn o bryd. Y mae angenrheidiau bywyd wedi codi mor uchel fel nad all y gweithiwr eu cael heb gael cyflog teilwng am ei lafur. Diau genym fod eisiau dwyn iawn- derau y gweithiwr i fwy o sylw mewn tref a gwlad, ac y mae yr adeg bresenol ar fasnach yn galw am hyny, ond eto dylai y gweithwyr a'r meistri ddyfocl i ddeallclwriaeth a/u gilydd yn well :ua thrwy strikes. GELLIWYSON.
UNDEB ~YR ALCANWYR YN ABERTAWE.
UNDEB ~YR ALCANWYR YN ABERTAWE. Prydnawn dydd Sadwrn, Medi y 7fed, cynaliwyd cyiarfod o gynrychiolwyr yn y Bird-in-Hand, Abertawe, pryd yr oedd cen- adoii o bymtheg o weithiau alcan y sir yn feresenoi. Llywyddwyd yn ddeheuig gan E. G. Richards, Glandwr. Y peth cyntaf a ddaeth dan sylw oedd i bob un o'r cenhadon roddi gwybodaeth beth oedd atebiad y meistri iddynt yn nghylch codiad yn y pris- oedd Siaradwyd gan amryw yn frwd iawn yn nghylch y codiad pris, ac yr oedd rhai o iionyntamaros ychydig yn hwy cyn gofyn dim Y mae y meistri wedi cynyg codiad o swllt y bunt, ac yn dweyd y cawn ragor mewn mis neu ddau. ::> Y penderfyniad cyntaf a basiwyd oedd ein bod i of yn eodiad o ddau swllt y bunt, ac os bydd i'r farchnad barhau yr un fath ag yw yn bresenol, ein bod i geisio rhagor eto mewn ychydig amser. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynal yn yr un lie, Medi yr 21ain, am 5 o'r gloch yn y prydnawn. Carem yn fawr weled pob alcanwr yn ymuno a'r Undeb ja ddioed. Wrth ediych ar gyflwr ein masnach yn bre- senol, ni a welwn yn amlwg mai yn awr yw yr adeg i ni ymroddi ati, a dadleu ein hachos o flaen ein meistri. Fe ddylai yr holl weith- iau ymuno a'u gilydd yn un undeb eyffredin- ol, a'r canlyniad fyddai nerth, cysur, gwrol- deb. a llwyddiant. Paham nad allwn ni gael undeb ayffredinol I Yr ydym un ac oil o'r farn y dylem gael codiad yn ein cyflogau, ac wedi i ni ymuno a/n gilydd, yna gallwn geisio rhagor, ond gofalu gofyn yr un faint, ac hefyd ar yr un adeg, ac nfd oes dadl na fydd i ni lwyddo. Edrychwn ar y fath undeb a chydweithrediad sydd gan ein meistri, ac y mae pob un sydd wedi bod yn siarad a hwy yn gorfod cyfaddef fod undeb yn eu plith. Terfynaf yu awr, gan obeithio y bydtl i bob un ag sydd wedi ymuno lynu yn gadarn wrth yr Undeb, canys "mewn undeb mae nerth." GELLIWYSON.
CODIAD CYFLOGAU I WEITHWYR…
CODIAD CYFLOGAU I WEITHWYR ALCAN. Er ys wytlmosau bellach yr ydys yn dys- gwyl codiad pris i'r rhai aydd yn gweithio yn y gweithiau alcan yn Neheudir Cymru, a thybiwyf mai peth hawdd fyddai ei gael; ond o fewn y pymthegnos diweddaf y mae eyfcewidiad mawr wedi cymeryd lie yn y farchnad, fel y penderfynodd y meistr-i yn Abertawe, ddydd Llun diweddaf, beidio can- iatait mwy na phedwar diwrnod o waith bob wythnos hyd nea ceir gweled på le try y farchnad. Y mae y teiuslad goreu wedi arfer ffynu rhwng y meistri hyn a'u gweithwyr er ys blynyddau iawer, a thrueni fyddai i ni -wmnid?dim yn fyrbwyll i gythryblu y teimlad da hwnw. Gadwer y cwbl yn llonydd am ychydig, ac efallai y daw eglurder mwy amlwg ar y mater yn fuan. Os try y farchnad o'n plaid, ac os daw yr orders i mewn un o'r wythnosau nesaf, fel yr oeddynt ddau a thri mis yn ol, ynafe ellir dysgwyl yngyfiawn am godiad pris, ondyn awr wele agos bob gwaith yn fyr o orders. Gobeithio y daw yn well yn fuan, a gadewch i ni weithio yn mlaen fel yr ydym am fyr amser. RHYDDERCH.
DERBYNIADAU ARIANOL.
DERBYNIADAU ARIANOL. Dymunwyf gydnabpd yr wythnos hon y derbyniadau tuag at y glowyr fu yn sefyll allan yn Nghwm Rhondda:—Oddiwrth J. Williams. Gwaith Tyla Coch, R0 10s.; E. Whitelock, Gwaith Bodringallt (yr ail gasgl- iad), £ 1 3s. E. Davies, Pwll y Pentre, R6 Os. 4c;; J. Rees, Gwaith Gylenog, JES lOa.; J. Williams, Pwll Pare, C17 9a. 6c.; H. Bath, Pwll New Tredegar, m0; B. Heycock, Gwaith y Morfa, JE4 10s.; D. Davies, Dare Colliery, Cwm Rhondda, £4 17s. 6c.; J. Jones, Pantdu, Cwmafon, C4 10s.; D. Tho- mas, Bryntroedgam, ger Cwmafon, R3; T. Griffiths, Coedcae Derris, zEl; J. H. Jones, Gwaith Dunraven, Adare, Glyn Nedd, £1 19s. 2c.; B. Thomas, Pwll. St. George, Llanelli, 12s.; S. Jones, Gwaith Cwmneol, Aberdar, £3108. 6c.; D. Thomas, Cwmbach, Aberdar, £ 16c.; J. Williams, No. 1, Gethin Pit, £ 1 5s.; W. John, Drift Newydd, Pen- tyrch, jEl 13s. 2c.; Marshall Treharne, Clay Level. Maesteg, 5s.; D. llewelyn, Tymawr Clay Level, 3s.; John Bateman, Fforcham- an Colliery, £ 13 5a. 6c.; Evan Jones. Middle Dyffryn, £ 5 Is.; F. Farr, Cwmbach Colliery, R6 6s. 9c. GEO. COLES.
PUDDLERS Y GWTERFAWR.
PUDDLERS Y GWTERFAWR. Y mae puddlers y Gwterfawr wedi pender- fynu ymladd brwydr y short weight. Cynal- iwyd cyfarfod i'r perwyl hwn yn y Tregeeb Arms, nos Sadwrn diweddaf, pryd y pender- fynwyd rhoddi mis o rybudd os na chawsent y slwrt weight, a thafol gyfiawn i bwyso yr haiarn. Yr ydym wedi gofyn llawer cais gan ein meistri cyn hyn, ac wedi llwyddo i'w cael, ac os cawn y maes yn glir, byddwn yn sier o lwyddo y tro hwn eto. DICK MART.
RHYBUDD! RHYBUDD!!
RHYBUDD! RHYBUDD!! "O WRIEDIR cynal cyfarfod cyffredinol (mass meeting) ar Fynydd Gellionen, ger Pontardawe, dydd Gwener, yr 20fed o Fedi, pryd y bydd Mr. T. Hallidayac amryw ereill yn anerch y dorf. Bydd y eyfarfod yn dechreu am 11 o'r gloch y boreu. 229
MR. H. M. STANLEY.
MR. H. M. STANLEY. Y mae y gorchestion a gyflawnwyd gan yr hwn a adnabyddir wrth yr enw uchod yn cyfiawnhau yr ymholiadau a welir yn wyth- nosol yn y papyrau newydd, Cymraeg a Saesneg, o berthynas i'w genedlaetholdeb. Dywedir gan y Cymry mai enw gwyryfol ei fam ydoedd Elizabeth Parry, nxerch Mr. Parry, cigydd, o Ddinbych; a dywedir mai Y ei dad ydoedd John, mab Mr. Rowlands, o'r Llys, gerllaw yr un dref. Am y mab, dy- wedir iddo gael ei eni mewn ty gerllaw Castell Dinbych, yn y flwyddyn 1840, a chael ei enwi ar enw ei dad-John Rowlands. Ni bu i'r rhai a roddasant i ni y cyfrif yna, yngan gair am briodas Miss Parry a Mr. Rowlands, nag ychwaith am farwolaeth mab y Llys fel ei gelwid. Pa fodd bynag, dywedir i'r hwn a elwir yn awr Mr. Stanley, pan yn deir-blwydd oed gael ei roddi yn Nhylotty Llanelwy, ac iddo gael ei adael yno hyd y flwyddyn 1853, pryd yr ydoedd yn 13 oed. Ni ddywedir dim am ei ymddygiad tra yn y tylotty yn mhellach nag iddo dderbyn addysg dda yno. Ar ei fynediad o'r tylotty, aeth yn is-athraw at gefnder iddo, o'r enw Moses Owen, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ysgol- feistr yn y Wyddgrug. Wedi iddo fod yno am beth amser, dywedir fod ei gyrhaeddiad- au addysgawl yn rhagori ar eiddo ei gefnder, a bod hyny yn achosi ychydig eiddigedd rhyngddynt, ond er rhagflaenu unrhyw ang- hydfod o bwya, ymadawodd John a'i gefnder tua'r flwyddyn 1855 neu '56, ac aeth drosodd i L'erpwl; ac oddiyno gweithiodd ei ffordfl. ar long, fel bachgen gaban, i New Orleans. Wrth edrych dros rai o brif babyrau newydd America, yr ydym yn gweled y dywedir yno i Mr. H. M. Stanley gael ei eni tua'r flwyddyn 1843, o rieni mewn amgylch- iadau isel, a'i ddwyn i fyny yn nghwm un o ddiffeithdiroedd Missouri. Yn ol y cyfrif hwn, ni chafodd ond ychydig fanteision. addysg, collodd ei rieni pan yn ieuanc, ond gadawyd iddo yr ychydig etifeddiaeth oedd ganddynt. Bob yn ychydig, daeth ei enw yn gyhoeddus fel ysgrifenydd ychydig fardd- oniaeth a phethau eraill, y rhai a gyhoeddid mewn papyrau Taleithiol. Dywedir ei fod hyd yn nod y pryd hwnw yn nodedig am sylwi ar, a chasglu ffeithiau. Y mae yr hanes a rydd y papyrau Americanaidd am dano yn ysbaid y cyfnod yna yn rhy anghyf- lawn i roddi ond ychydig iawn o bwys arno. Mewn papyrau eraill, y rhai a ddilynir gan y rhan fwyaf o bapyrau y Saeson, yr ydym yn cael iddo gael ei eni tua'r un fiwyddyn-1843, yn New York; ond ni ddy- wedir pwy oedd ei rieni, na pha fath ydoedd eu hamgylchiadau. Yr oil a ddywedir ydyw, i'r mab gael ychydig addysg, iddo ddianc o'r ysgol pan yn ieuanc, iddo gael lie ar fwrdd llong, iddo gael ei siomi yn ei gwmpeini, iddo anturio i'r mor, iddo noflo i'r lan pan ar ororau Spaen, iddo gardota ei gynaliaeth tra yn teithio trwy Spaen a rfian o Ffrainc, nes y cyrhaeddodd i Marseilles. Tra yno, derbyniodd gynorthwy ocldiwrth gyfeillion; ac yn ddilynol, efe a ymwelodd a'r rhan fwyaf o borthladdoedd Ewrop, gan sylwi ar bob peth a ddeuai yn ei ffordd, ac efrydu eu hanes, hyd nes iddo ddychwelyd yn ol i America. Wrth i ni gymharu y ddau hanes diweddaf a'r un cyntaf, gwelwn fod yna wahaniaeth o dair blynedd rhwng yr hyn a ddywed y Cymry am dano a'r hyn a gy- hoeddir yn y papyrau eraill. Nid oes gan y Cymry un cyfrif o'r wibdaith a nodwyd ddi- weddaf, ond y mae ganddynt gyfrif i John Rowlands, ar ei fynediad i America, gael lie fel ysgrifenydd gydag un Mr. Stanley yn New Orleans, ac iddynt ddyfod i hoffi y naill y llall i'r fath raddau, nes i Mr. Stanley fabwysiadu John Rowlands, ac ymddwyn ato fel ei fab, ac i John Rowlands, mewn canlyniad, fabwysiadu yr enw Henry M. StanJtey. Yn ystod y tymor yna, anfonodd John Rowlands ddarlun o hono ei hun i Mr. Moses Parry, cefnder iddo, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw, ac sydd yn byw yn awr yn Ninbych. Cedwir y darlun hwnw yn awr yn ofalus gan fam John Rowlands, yr hon sydd yn briod er's blynyddoedd ag un Mr. R. Jones, Slater, Cross Foxes, yn y Glasgoed, gerllaw Llanelwy. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd y flwyddyn 1859, pan oedd Mr. H. ,M. Stanley, yn 61 y cyfrif Cymraeg am dano, yn 19 niiwydd oed; ond yn ol y cyfrif a rydd y Saeson a'r American- iaid, nid oedd ond 16 oed. Dyma ddechreu y cyfnod y cyfeiriwyd ato yn y llythyr a ym- ddangosodd yn y Manchester Examiner, a phapyrau eraill, yn yr hwn y cyhoeddwyd fod Mr. Stanley yn Missouri pan yn 16; yn Arkansas pan yn 17; yn New Orleans pan yn 18; yn trafaelu yn Ewrop pan yn 19; ac yn y rhyfel Americanaidd pan yn 20. Y mae rhyw bethau yn yr hanes blaenorol a rydd yr Americaniaid a'r Saeson, am helynt- ion Mr. Stanley, y rhai y mae yn anhawdd iawn eu cysoni a'r hyn a ddywedir yn y llythyr y cyfeiriwyd ato uchod. Yn y ffwyddyn 1863, sef tua dechreu rhyfel America, ymunodd Mr. Stanley a byddin yDehau, ymladdoddamrywfrwydrau. Cymerwyd ef yn garcharor gan y Gogledd, llwyddodd i ddianc o'r carchar; ac yn ol rhai hanesion, dywedir iddo ymuno a llynges yr Unol Daleithiau ar derfyn y rhyfel. Pa fodd bynag, tua'r pryd hwn anfonodd ail ddarlun o hono ei hun i'w berthynasau yn Nyffryn Clwyd, yr hwn a gymerwyd pan ydoedd ef yn swyddog-llumanwr o dan Lywodraeth yr Unol Daleithiau. Y mae yr hanes a gyhoeddwyd am Mr. Stanley o'r amser y diangodd ef o'r carchar, hyd ei ddyfodiad ar ymweliad a Chymru, yn lied gymysglyd ac anhawdd ei gysoni. Yn yr adroddiad Cymraeg, dywedir iddo yn mhen amser, (heb benodi pa faint o amser,) ymuno a llynges yr Unol Daleithiau, ac mai oddiar fwrdd un o longau America, yr hon eedd y pryd hwnw yn Constantinople, y daeth ef pan ar ei ymweliad a Chymru yn niwedd y flwyddyn 1866. Yn ol yr hanes a gyhoeddir gan yr Americaniaid a'r Saeson, dywedir iddo fod yn dilyn y byddinoedd am beth amser ar ddiwedd y rhyfel fel gohebydd y New York Herald. Iddo wed'yn fyned ar daith trwy y Gorllewin, weithiau yn cloddio i chwilio am aur, a phrydiau eraill yn ysgrif- enu i'r papyrau newydd. Yna, yr ydym yn cael iddo ddychwelyd i New York; dyfod trosodd i'r dwyreinfyd; ymuno a'r fyddin Gretaidd; dilyn hono am ychydig; yna, ym- uno a thri eraill; un o honynt yn Ilys frawd iddo; teithio trwy ranau o Asia Leiaf, Rwssia, China, &c., nes iddynt gael eu goddiweddyd gan haid o ladron, y rhai a'u hysbeiliasant, fel y gorfu iddynt ddychwelyd yn y modd goreu y gallent i Constantinople. Pa un ai y pryd hwnw ai ynte cyn y pryd hwnw, y bu John Rowlands ar ymweliad mewn amryw fanau yn Nyffryn Clwyd, y mae yn anhawdd penderfynu. Ond y mae genym sicrwydd iddo yn niwedd y flwydd- yn 1866 ymweled a Chastell Dinbych, ac ysgrifenu cofnodiad o'i ymweliad yn "Llyfr yr Ymwelwyr," a gedwir yno. Ymwelodd hefyd ag ysgol y tylotty yn Llanelwy, a rhoddodd wledd i blant yr ysgol, a chydna- byddodd yn ei anerchiad iddynt, iddo ef gychwyn ei yrfa trwy'r byd o'r un lie ag yr oeddynt hwy ynddo y pryd hwnw. Wedi iddo ymweled a Rhyl a manau eraill yn ngwaelod y Dyffryn, a chael ei dramgwyddo i raddau gan rhai o'i hen gydnabyddion, efe a ddychwelodd, nid i Constantinople, ond i New York. Ar ei ddychweliad ef yn ol i America y tro hwnw, anfonwyd ef fel goheb- ydd dros y Missouri Democrat a'r New York Tribune, gyda'r Cadfridog Hancock, pan ar ymgyrch yn erbyn yr Indiaid. Y mae gan ei fani lyfr o amrywion, yn cynwys amryw o'i lythyrau, y rhai a gyhoedd- wyd yn y papyrau a enwyd, ac yn cynwys hanes yr ymgyrch grybwylledig. Ar ei ddychweliad o'r Dwyrain i New York y pryd hwnw, ym- rwymodd i fyned yn ohebydd dros y New York Herald gyda'r fyddin Brydeinig i Abyssinia, a mawr oedd yr yni a ddangosodd fel gohebydd galluog- ar yr adeg hono. Pan yn Twrci, ar ei ddychweliad o Abyssinia, anfonodd y trydydd darlun o hono ei hun i'w berthynasau yn Nghymru. Y mae ar gefn y darlun hwn ysgrif a ysgrifenwyd gan Mr. Stanley mewn llythyrenau Arabaidd. Dywedir na ddaeth Mr. Stanley yn mhellach yn ol na Llundain ar ei ddychweliad o Affrica y tro hwn. Y mae yn debyg mai tua'r pryd hwnw y bu iddo dalu ymweliad a Greta eilwaith, er mwyn anfon i'w feistriaid y manylion o berthynas i'r gwrthryfel. Pa fodd bynag, yr ydym yn cael iddo, cyn dychwelyd i'r America y tro hwnw, ymweled eilwaith a'i berthynasau yn Nyffryn Clwyd, pryd y gwelwyd ef, ac yr adnabyddwyd ef gan amryw o'i hen gydnabyddion. Y man nesaf y cawn hanes am dano ydoedd yn Spaen, yn ymholi ac yn cyhoeddi hysbys- rwydd o berthynas i'r chwildroad oedd yno ar y pryd. Yn mhen ychydig wedi hyny, ceir hanes am dano yn yr Aifft, mewn dysgwyliad y buasai Dr. Livingstone yn dychwelyd yno y pryd hwnw. Gwedi cael ei siomi yn hyny, efe a aeth yn ol i Spaen, er sicrhau pa fodd y daethai y chwildroad gwerinol yn mlaen. Ni bu yn hir yno y tro hwnw cyn derbyn y telegram hynod hwnw oddiwrth ei feistr ieuanc, yr hwn oedd ar y pryd yn Paris. Gwedi iddo fyned at ei feistr, a chael gorchymyn i ddyfod o hyd i Dr. Livingstone, prysurodd Mr. Stanley i gyf- lawni ei fwriadau trwy ymweled ag amryw fanau yn y Dwyrain, ac yna croesodd i ororau Affrica. Yn fuan wedi ei fynediad yno, cyfar- fyddodd, yn hollol ddygwyddiadol, a phedwar o Brydeiniaid, un o honynt o'r enw Mr. Evans, wedi ei eni a'i fagu yn yr un Dyffryn a Mr. Stanley. Cawsant ymgom ddifyrus yno cyn ymwahann. Bellach, cawn y trafaeliwr anturiaethus yn dechreu cynllunio ei ffordd o tua fil o filldir- oedd, er cyflawni y gwaith anhawdd a osodwyd iddo, set dyfod o hyd i Dr. Livingstone. Yna cawn hanes am dano yn cychwyn—o'i flaen y mae anialdiroedd diffaeth, corsydd sigledig, coedwigoedd dyryslyd, a llethr greigiau disathr, ac y mae rhanau helaeth o'r eangdir yn cael ei gyfaneddu gan anwariaid hollol ddidosturi. Mawr y rhaid fod y gwroldeb a ddangoswyd ganddo. Ond tua chanol Hydref yn 1871, hys- bysir ni i Mr. Stanley ddyfod o hyd i Brydein- iwr, i'r hwn y gofynodd, Dr. Livingstone, yr wyf yn tybiecl ?" Fr hyn yr atebwyd, Ile, dyna yw fy enw." Pwy a all ddychymygu y llawenydd a feddianai y ddau deithydd antur- iaethus y pryd hwnw. Dylid hysbysu yn y fan hon fod gan ei fam ddarlun arall o hono, sef y pedwarydd, yr hwn a Jynwyd tra yr oedd ef yn Affrica y tro diweddaf; canys y mae darlun o'i was bach ef—Kululu—ar yr un cerdyn, ac ysgrif o eiddo Mr. Stanley mewn llythyrenau Arabaidd ar gefn y cerdyn. Dy* wedir fod yr holl ddarluniau y cyfeiriwyd atynt yn yr ysgrif hon yn cyfateb mor agos ag 1 gellid dysgwyl i'r rhai a ymddangosasant yn ddiweddar yn Harper's Weekly, y Graphic; a'r Illustrated London News. Y mae yr hanes oddiyna yn mlaen hyd ddychweliad Mr. Stanley i Dover yn dddgon adnabyddus. Yno eyfarfyddwyd ag ef gau ddau o'i berthynasau, sef Mr. Robert Jones, Castle Inn, Dinbych, yr hwh. sydd yn haner brawd iddo, a Mr. Moses Parry, Yale-street* Dinbych, yr hwn sydd yn gefnder iddo. Ad- nabyddwyd hwynt ganddo ar ei gyfarfyddiad a hwynt. Cyd-deithiodd gyda hwynt i Lundain, ac amlygodd iddynt ei fod yn bwriadu ysgrifenu Uyfr, yr hwn a gynwys ei hanes er pan ydoedd yn deirblwydd oed hyd yn awr. Dywedir am Mr. Stanley ei fod yn ddyn 0 gyfansoddiad cadarn, golygus, tua 5 troedfedd a 7 modfedd o daldra, o ymddangosiad bywiog a phenderfynol, yn wrol-gampwr medrus, yB farchogwr eyfarwydd, yn saethwr cywir, ac yn nofiwr penigamp. Dywedir fod ei wroldeb gy- maint fel nad oes braidd unpeth a'i llwfrha, a bod ei drafael-deithiau, o'u dodi yn nghyd, ytt gymaint a phe trafaelasai bum' waith oddi amgylch y ddaear. Dyna i chwi gymaint ag a ellais i ei gasglu o hanes Mr. H. M. Stanley, ac os nad ydyw 1 crybwyllion yna yn gywir, rhaid priodoli yr anghysondebau i anwybodaeth TAU.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Y Ffrwgwd Eisteddfoclol. -Os ydym i faniti wrth lais y wlad, gallem feddwl ei bod yø llawn bryd i chwi, Mr. Gol., osod cauad at hopran ilawd Horace, oblegyd nid yw 1 pethau a ddywedir o an lies neillduol i gyf- answm darllenwyr y GWLADGARWR. Dened y coch allan fel dyn i draethu ei farn, ac yna fe wrandewir arno yn dweyd ei ystori, dichon y tyn hyny y ddadl i ben. Pwy ond Horace fu yn dangos ei ddanedd ar ol colli yn Merthyr ar awdl A. Lincoln, a thyma efe eto yn codi llwch am fod Dewi Wyn yn beiddio dadgymalu cerdd Didaskalos. Syndod na fuasai Dewi yn gofyn i'r brawd coch! Pob pareh i feirniaid Treforis fel dynion, ond aid fel beirniaid, cofier; o ganlyniad, tawed y brawd Horace, onite rhaid arllwys y cwd. Nid oes rhaid wrth y brawddegau Lladin er gwneud i ni ddeall ei feddwl. Cofied fod yø rhaid cael genau glan i oganu. Gadawaf Y mater y tro hwn eto, gan ofyn i chwi osod ft englyn canlynol ar gareg jfedd crachfeirniad- aeth:— Ba hirnych fel pla beirniad—penwag Fo'n poeni yr hollwlad, Gwobrwyo mwg heb roi mM Ogonedd i wech ganiad? Os na fydd Horace wedi dystewi yn fuan, oewch y bregeth. angladdol rhyw dro yn y dyfodol. Petli netvydd eto.-¥ mae y byd yn myned rhagddo—celfyddyd yn myned ar gynydd. Gellir yn awr anfon brysgenad o New York i L'erpwl am bum' swllt. Caffaeliad mawr i deithwyr a fyddo yn awyddus am i'w cyfeill- ion wybod am eu tiriad dyogel yn y wlad draw. Nis gallaf wneud yn well na gosod list y tariff i lawr er mwyn y darllenydd:— Fa-I' a Message Homewa/rd to any part of the United Kingdom. & s. £ *• From New York o 5 From Shanghai 1 1 „ Boston 0 10 Penang 1 Baltimoer 0 12 Adelaide.. 1 1 „ New Orleans 0 14 Sydney 1 „ Bombay 1 1 Melbourne 1 „ Calcutta 1 1 Brisbane. i I" Point de Galle 1 1 Cam pwysig arall at lwyddiant, rhinwedd, moesoldeb, a gwareiddiad, a phwy a wyr na welir y dydd pan ellir anfon cenad am swllt. MANION.-Mae y rhyfel yn parhau rhwngE cyfoeth a llafur,—mae'r meistri yn bended a'r gweithwyr yn ystyfnig. Mae pawb yn mhob adran weithfaol yn sefyll ar eu pedion, gan waeddu am iawnderau. Y crydd a'r teil- iwr, y pobydd a'r pedolwr, y saer a'r cyfrif- ydd yn y swyddfa,—yr holl gyfangorff IDAwt yn gwisgo gwedd anfoddog, a masnach yu. dyoddef o'r herwydd. Mae rhwysg a maWI' edd pethau yn bresenol yn darogan cwyfflp dychrynllyd, a byddai yn burion i'r gweith- wyr barotoi erbyn dyddiau blin a thywydd gerwin. Ymgroeswch mewn pryd, a chofiweb am y dyddiau gynt; daw eu cyffelyb eto y11 fuan, pan gymyla awyrgyleh y byd masnachoL Awgryma rhui newyddiaduron fod bwriad gan amryw o berchenogion agerlongau am gael glo drosodd o Belgium, lie y gellir ei gael yn rhataeh nag yn Nghymru a Lloeg*- Cawn weled beth a ddaw o'r siarad ond aff yr un pryd, fe ddylai ein glowyr fod llygaid yn agored, am fod y gerwyn ar ferWl, ac ystorm ofnadwy yn darllaw. CYMHO GWYLLY.
EISTEDDFOD ALBAN ELFED ABERDAR.
EISTEDDFOD ALBAN ELFED ABERDAR. AT EISTEDDFODWYlt CYMRU. Anwyl gyfeillion,-Dyma yr wyl hon fp- ymyl eto, sef y Llun nesaf. Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae y Great WestØQJI, at Taff Vale Railways yn rhedeg trains yn hyno"- rad. Y mae rhagolygon yr Eisteddfod Yu addawus iawn. Wyth o gorau yn dod t ymgyrch a chymanfa fawr o feirdd llenorion a dadganwyr. Cewch yr Aberdamid fe arfer yn llawn croesaw. Dewch yn llu, mawr- JOHN EVANS, Ysgrifenydd.
Advertising
EISTEDDFOD ALBAN ELFEÐ: A BERDAR, Llun, Medi 16,1872. Trains Rhad! Trains Bhad!! O INGLE FARE for the DouMe JOUMOY k7, ar y Great Western, yn gauuogir dat- iedydd i ddychwelyd tranoeth. Single fare for the doable journey hefyd Taff Vale Railway i bawb fyddo yn dyfod Treaman a Mountainash. Dyma gyfle arddercO" og i eisteddfodwyr ymweled a thref herorol dar. 221