Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CYRDDAU MAWRION MAI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYRDDAU MAWRION MAI. Y mae mis Mai yn hynod yn mysg mis- oedd y flwyddyn ar gyfrif y cyfarfodydd mawrion a gynelir ynddo yn y brifddinas mewn cysylltiad a gwahanol Gymdeithasau dyngarol a chrefyddol. Dim ond dweyd "The May Meetingsbydd yr holl fyd gwareiddiedig yn deall pa beth a feddylir. Mai eleni, fel arferol, addurnid esgynloriau y cyrddau:hyn a'r enwau penaf ac a'r doniau goclidocaf y sydd i'w cael o fewn holl der- fynau cred. Yn mysg y Cymdeithasau lluosog yr ymdrinir a hwynt yn y Cyfar- fodydd hyn, byddwn ni bob blwyddyn yn edrych ar y Beibl Gymdeithas fel y buraf, yr oraf, a'r nefoleiddiaf o honynt oil. Gair Duw-dim ond Gair Duw-heb esboniad-heb sylwad--heb ragymadrodd -dim ond y Dwyfol Air yn cael ei ddanfon allan wrth y miloedd o filoedd at bob llwyth, a iaith, a phobl. Feallai fod swyn deublyg i nifelCymry yn y Gymdeithas hon, oherwydd mai angenrhaid Cymru fach, pan nad oedd y ganrif hon ond dwy flwydd oed, a fu yn achos o'i chychwyniad cyntaf. Yn Rhag- fyr 1802 aeth Charles o'r Bala i Lundain i ymgynghori a dynion mawr a da yno, ai nid oedd yn bosibl cael Cymdeithas Beiblau i Gymru? Yn yr ymddyddan a'r cydgyng- horiad, fe lewyrchodd goleuni Duw ar y drychfeddwl nes ymeangu o hono gyfled ag angenrheidiau y Byd Cyfan. "Iffor Wales" meddai Hughes, "If for Wales, why not for the World, "Os i Gymru, paham nad i'r Byd!" Yr oedd Cwrdd Mai y Gymdeithas eleni yn un hynod o frwdfrydig, ac yn llawn o ddefnyddiau calondid a gobaith. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf bu ymdrechion y Gymdeithas i ledaenu Gair Duw ar y Cyf- andir yn nodedig o lwyddianus. Y mae yn ei gwasanaeth hi yn Ffrainc 54 o Beibl- gludwyr, ac er gwaethaf yr offeiriaid Pab- aidd, fe ledaenwyd yn y wlad hono 98,000 copiau! Bendithiwyd Germani a 415,000 copiau. Derbyniwyd archebion mawrion am Beiblau oddiwrth Roman Catholics Bohemia, ac yr oedd y Testament Newydd mewn arferiad cyffredinol yn yr holl ysgolion. Y mae y gwaith da yn llwyddo yn fawr yn Denmark, a hyd y nod yn Rwsia bell, ie a Thwrci dywell hefyd. Gwasgarwyd o gopiau yn Spaen Babyddol y nifer fawr o 77,000. Y mae y Gym- deithas ogoneddus wedi myned i mewn i Rufain ei hun, a'r ernes goreu o lwyddiant dyfodol Victor Emanuel yw—i'r Beibl fyned gydag ef i Rufain. O'i dechreuad hyd yn bresenol, y mae hi wedi gwasgaru y nifer anhygoel bron o 71,131,11) o gopi- au o Air Duw. Agos i 80,000,000! A thybio fod deg darllenydd at bob copi, fe wnai hyn y cyfanrif yn 800,000,000—sef rhifedi tybiedig yr hil ddynol.

[No title]

ESGORODD,-

PRIODWYD,-

BU FARW,—