Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y NEWYN YN INDIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NEWYN YN INDIA. Da genym ddeall fod y newyddion di- weddaraf o India o natur dra chalonogol- y mae yn ymddangos y gellir bellach ddy- wedyd-fod adeg y perygl drosodd, a bod pob lie i gredu fod y newyn wedi cael ei orchfygu. Teimlid er y dechreu mai Mai fyddai yr adeg fwyaf neillduol, ac os elid dros y mis hwnw heb unrhyw drychineb neillduol, y gellid edrych ar y dyfodol yn hyderus. Y mae mis Mai bellach wedi ei flreulio, ac y mae y newyddion yn fwy calonogol nag y maent wedi bod er clechreu adeg y cyfyngder. Y mae y aaesurau mabwysiedig gan ein Senedd a XJywodraeth India wedi arbed y colliad bywydau mwyaf dinystriol a wybuwyd erioed. Nid oes achos gofidio am wario yr arian; canys y mae India anffodus ac ami ei thrigolion wedi ei hachub tb Pg dinystr rhanol trwyddynt. Buasai effeithiau y newyn i'w teimlo am flynyddoedd i ddod pe buasid wedi caniatau iddo ddisgyn yn @i erwindra ar y trueiniaid tlodion fel ar adegau blaenoral.

Y GORLIFIAD DINYSTRIOL YN…

Y GWEITHIAU ALCAN.

GWEITHIAU COPR YR HAFOD.

Advertising