Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

JSJSllSr LEWIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JSJSllSr LEWIS. SYL FA EN EDI G AR FFEITHAU. CAN TOM WEDROS EVANS, A WDWR "GOMER JONES." CYBHAF.DDASOM y gloddfa erbyn nos. Ffurfiwyd math o anedd glyd, yr hon yn iaith y dalaeth a elwir yn Mia-Mia, cyfan- soddedig o frigau coed. Ar ol sicrhau dau bawl yn y ddaear o gwmpas deuddeg troed fedd oddiwrth eu gilydd, a rhoddi un arall i ymestyn o ben un i'r un arall, rhoddir frigau coed i bwyso arnynt o bob tu, ac yna bydd an-edd hyfryd wedi ei ffurfio. Ar ol gorphwvso yn y Mia- Mia dros y nos cawsom ein hunain dranoeth mewn hwyl cloddio. Ar ol sicrhau claim (deugain troedfedd ysgwar) a chael offerynau cloddio cyfaddas mewn store gerllaw, dechreuwyd ar y gwaith o ddyfod, yn ol geiriau Tom, yn foneddigion. Dechreuwyd cloddio y twll; ac ar ol cael cyfarwyddiadau priodol gan y cloddwyr ereill, i lawr yr aethom with a ■vengeance i fynwes yr hen fam-ddaear. "'Nawr Ben," ebe Tom, "'e weithiwn bob yn ail nes cyrhaedd y strata, ar yr hon y mae'r aur yn ymguddio, sef yn y gravel ar ei wyneb, ac yna, Ben, 'e fyddaf fi yn ngwaelod y pwll (nid y Pwll hwnw, cof- iwoh) yn rhoddi y cyfan yn y bwced, 'e gewch chwithau ei windio i'r lan; ac yna boneddigion cyn pen chwe' mis. Faint ydym i gloddio cyn cael gafael ynddo, Tom ? "NiB gallaf eich hysbysu. Y mae rhai cwmniau yn gorfod myn'd i lawr gant neu ychwaneg o droedfeddi, ond gobeithio na fydd raid i ni fyn'd haner na chwarter hyny; ond 'rwy'n fact o hyn, Ben, 'e af i lawr yn ddigon pell, taswn i yn cloddio twll crwn yn y belen ddaearol oddiyma i'r ochr arall; ac os felly, efallai mai yn sir Aberteifi y cat lan. Beth ydych am i mi ddweyd wrth eich mam ? Cloddiwyd twll crwn yn y ddaear, ac ar ol myned i waered am oddeutu ugain troed- fedd, deuwyd i gyffyrddiad,a'r graig, ac yn fuan dyna Tom yn gwaeddi, 'Lawr a'r bwced, Ben, ar garlam garlamllyd at eich anwyl frawd sydd yn gorphwys I dros enyd yn y g-avel; ofid gobeithio y daw i fynv cyn I (latod trefn y rhod: 'lawr a'r bwced, a fyny a'r gravel a'r aur!" (Yr oeddym wedi ffurfio windlass o ganghenau y coed). Gwnaethum yn ol ei archiad; i lawr yr aeth y bwced, ond Ow ni chafwyd yr aur! Wet dyma hi yn lan," ebai Tom, ar ol anfon y gravel drwy y cradle (math o fox cynwysedig o screens, &c., er cael y llwch *ur yn berffaith lan; (gwnawn ei ddesgrifio yn helaethach eto), nid oes yma yr un llwchyn o aur-dim at all" Buom yma yn gweithio am ddeufis crwn, nes ffarweliodd y geiniog olaf â'n llogellau, a daethom i'r penderfytiad mai doeth fyddai i ni symud oddiyma. Yr oedd lluaws o'n cyd-gloddwyr yn llwyddo yn zhagorol, ac 0 mor brudd yr edrychai Tom a finau arnynt. Darfu i ni fethu a chael dim o'r llwch melyn o gwbl. Wei, Ben," ebai Tom un boreu, "chawn ni ddim aur yn y gloddfa felldi- gedig hon; rhaid symud oddiyma, Ben, and never say die." Gadewch i ni werthu y taclau yma er cael ychydig o bres i'n cludo ni gyrff a dillad i Melbourne." Ni fuwyd yn hir cyn gwerthu y taclau oloddio, &c. Ar ol canu yn iach i'r fangre, jdechreuasom &In cynlluniau am y dyfodol. Wel, Ben," ebai Tom, i b'le yr ydym i fyn'd i wersyllu nesaf ar ein pererindod. Y mae yn rhaid i ni fyn'd i rywle. B'le, fachgen, dywedwch ar fyr eiriau." "'E awn yn ol at Mr. White eto, Tom," oedd yr atebiad, ac wrth ddweyd hyn gwridais, a churai fy nghalon yn gyflymach! 0 Angelina! Dyna," ebai Tom, 'does dim eisieu i chwi gyflymu circulation y gwaed; yr yd- wyf yn gweled yn glir yr achos o hyn. Angelina White, y hi sydd wedi lladrata oich serch; dyna'r achos eich bod am fyned yno, ac hefyd fod eich calon yn curo at the rate of twenty miles per hour. Ond all right, Ben, 'e awn yno." Y mae chwech wythnos wedi pasio. Sicrhawyd gwaith gan Mr. White, a chaf- wyd derbyniad cynhes gan y teulu. Treul- iwyd yr amser yn ddoniol ryfeddol, yn debyg i'r modd y treuliwyd ef yno yn flaenorol. Ond 0 Angelina, fy anwylyd Y prydnawn hwnw y daethom i Under- grove gwelem ferch ieuane yn casglu tan- wy?d yn y winllan fechan tu cefn i'r ty. Safodd Tom a minau i edrych ami, ac ni fuom yn hir cyn deall mai Angelina White ydoedd! Curai fy nghalon yn aflywodr- aethus erbyn hyn. Llygadrythwn ami, ac 0, y wedd angylaidd, y cerddediad bonedd- igaidd Ond waeth heb fanylu, nid yw o fewn gallu yr ysgrifbin i gyfleu syniad priodol i'r darllenydd o'r modd y teimlwn ydwthwn hwnw. Ar ol cyrhaedd ei chartrefle, derbyniodd ni yn roesawgar iawn, ac yr oedd yn Jwwdd gweled pan y siardai a Ben fod yna •» ryw yswildod yn ei gorchfygu. Un pryd- nawn hyfryd, pan oedd yr haul yn porphori y gorllewin, cyfarfyddais ag Angelina yn y coedydd a ymgodent tu cefu i'r ty. Yr oedd yn dychwelyd o dalu ymweliad a theulu cyfagos. Yn mlaen y deuai, ac 0 curai fy nghalon yn aflywodraethus, a theimlwn fod fy nedwyddwch, dyfodol i raddati helaeth yn dibynu ar y cyfarfydd- iad hwn. Yr adeg a ddaeth i mi egluro fy nheimlad ac i dderbyn fy nghynged, a hyny oddiar wefusau Angelina. 0, mor bryderus y teimlwn! 0, y cymysg deimladau a orlenwai fy mynwes Ah! meddyliwn pe cawswn ond un gair bach o hedd i lithro dros ei gwefus-un sibrydiad nefolaidd o "JJear Ben," y byddwn mor ddedwydd ag angel! 0, gobeithio na fydd iddi ddiystyru erfyniadau calon bur—calon yn gorlifo o'r cariad puraf a'r serch gwresocaf. 0 Angelina gobeithio y bydd i ti sibrwd rywbeth a orlifa fy mynwes a ffrwd o lawen- ydd, ac a wnaiff i'm holl ofnau ffoi fel y nos o flaen y wawr. Yn mlaen y daeth; ond rhaid aros hyd y benod nesaf cyn cael gwybod yr helynt. PEN. V. Yn mlaen y daeth Angelina Ar ol siarad yehydig am bethau amgylchiadol, deuwyd at y pwnc bendigedig oedd wedi gwefru fy holl enaid ae 0, mor rhyfedd y teimlwn Er fy mod yn siarad mewn tafodiaith estronol (nid oedd Angelina, wrth gwrs, yn deall Cymraeg); yr oeddwn yn hyawdl an- arferol. Er fod yr iaith fain yn estrones i mi i raddau helaeth, etc dylifai geiriau mawreddog cyhyd a breichiau dros fy ngwefusau-geiriau na fuont erioed (luaws o honynt) mewn bodolaeth cyn yr adeg hono, a'r tebygdlrwydd yw na chlywir byth mo honynt yn cael eu parablu eto cyn diwedd amser—geiriau newydd spon perth- ynol i hen vocabulary fendigedig cariad! Ni fum erioed mor hyawdl; yr oeddwn yn rhyw ail Demosthenes yn chwyrn-daflu fy mreichiau, a'm llygaid yn boddi mewn serch, a'm calon yn curo yn ddilywodraeth. Ar ol i mi fyned drwy fy nghyffes ffydd daeth yr adeg iddi hithau siarad. Gomedd- odd roddi unrhyw atebiad i mi, ond dywed- odd y eawn wybodaeth yn fuan-Ilperhaps to-morrow" ebai, gan wenu yn nwyfus a myned ymaith mor ysgafndroed a'r 'deryn. Er na roddodd unrhyw atebiad, eto yr oedd rhywbeth yn y wên. a throad ei llygad yn profl i raddau helaeth nad ydoedd Ben yn annghymeradwy iawn. Cyn pen wythnos yr oedd wedi rhoddi atebiad cadarnhaol, ac nis gall iaith ddar- lunio fy llawenydd yr adeg hono y diang- odd yr yes" fendigedig dros ei gwefus; yr." ges" a chwalodd fy holl amheuon, ac a Orlifodd fy mynwes a ffrwd o hedd. Hwyrach, anwyl ddarllenydd, dy fod yn barod i fy hwtio am fy ngharwriaeth blent- ynaidd i mi erioed fod mor ffol a dotio i'r fath raddau ar ferch ddyeithr; ond boed i ti gofio pa mor ieuanc oeddwn, ac mor an- mhrofiadol yn y sphere garwriaethol, fel pob sphere of usefulness arall, ac yna gwn y byddi yn barod i faddeu i mi am fod mor wresog fy nheimladau. Daeth y chwech wythnos i ben, ac yr oedd Angelina a minau yn caru yn ngwir ystyr y gair. TreuKem ami i orig allan yn y coedydd cyfagoa i felus gymdeithasu ac i adrodd cyfrinion calonau wrth ein gilydd. 0 nosweithiau bendigedig! 0 olygfa hyfryd I—dau yn oydrodio yn nghanol hedd ac unigedd y nos, yn yfed serch o gusanaueu gilydd, heb neb yn dystion o'u cymdeithas and" brenines y nos," yn nghyd a'r gymanfa ser a wincient yn nwyfus ar yr orielau fry! 0, nosweith- iau bendigedig! neu, fel y galwai Angelina bwynt, "Happy moonlight nights Wrth ffarwelio gwnaethum gyfamod afy anwylyd y byddai i mi eilwaitb dalu ym- weliad a hi cyn cychwyn tua'r cloddfeydd. Yr oedd Tom a minau yn benderfynol o fwynhau ein hunain ryw ddau neu dri diwrnod o fewn cynteddau Melbourne. Felly tfarweliwyd, ac yn mhen ychydig oriau cyrhaeddwyd Melbourne. Ar ol treulio diwrnod i fwynhau ein hunain yn y dref, penderfynwyd myned tua glanau y Yarra-Yarra i chwilio am y Light- ship. Yr oedd chwech rleu saith o'r Masters yn angori ar yr afon, ac yno y buom yn llygadrythu ar sterns pob un o honynt mewn dysgwyliad y byddai i'r enw Light- ship ddangos ei hun. Ni fuom yn hir cyn llwyddo i gael gafael ar wrthddrych ein hymchwiliad. Ar ol ymsymud dros y darn ystyllen oedd yn ei chysylltu a'r lan cawsom ein hunain ar ei bwrdd. Yn fuan gwnaeth ryw ddynsawd main, esgyrnog, a'i goesau tra yn symud yn cadw respectable distance oddiwrth eu gilydd, ei ymddangosiad. Gofynodd Tom luaws o gwestiynau iddo mewn cysylltiad a'u cydforwyr, ac hysbys- wyd ni fod Billy Davies a Walter Lloyd wedi ffarwelio a'r Hong, a'u bod yr adeg hono yn Melbourne. Darfu iddo hefyd ein hysbysu eu bod yn bwriadu cychwyn tua'r cloddfeydd yn mhen dau ddiwrnod. Diolch- odd Tom i'r brawd am y wybodaeth hon, ac yna ftafweliodd a'r llong, a chawsom ein hunain yn mhen ychydig fynudau yn ymsymud yn St. Catherine's Street. Yn fuan yr oedd yr haul ar y terfyn- gylch,. £ Q yn suddo yn daw^J. & chwim dros gaer y gorllewin. Tra yr Oeddym yn troi i mewa i'n llety yn High-Slireet gwelem ddynsawd bychan, boliog, yh hobio yn mlaen yn wisgi a do-niol. Wel, myn brain," ebai Tom, gan sefyll ac edrych arnaf fi, Dyma Walter Lloyd, y ddala i gini; gadewch i ni fyned yn mlaen i anerch y bod," v (I barhau).

Eistedufod Gadeiriol y Sciwen.

a x.1 Btich-frechiad.

Masnach yr Haiarn a'r Glo—Rhybudd…

Advertising

Llofruddiaeth dybiedig yn…

Methiant Masnachwyr mewn GrawiL

Ymgais at Hunanladdiad yn…

Yr Anhawsder i gael Dynion…

Tori Amod Priodas.

[No title]